– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 16 Hydref 2018.
Sy'n dod â ni at eitem 5, sef y datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid ar y wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi rhanbarthol ar ôl Brexit. Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ers y refferendwm yn 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaeth gyhoeddus am yr hyn a fydd yn dod yn lle buddsoddiad rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd ar ôl i'r Deyrnas Unedig ymadael. Rwy'n ddiolchgar i Gadeiryddion y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cyllid am eu gwaith ar y drafodaeth hon.
Y mis diwethaf, fe gyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid ganlyniadau ei ymchwiliad i baratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido'r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, ac fe fyddwn yn ymateb yn ffurfiol i hynny cyn hir. Rwy'n croesawu cefnogaeth y pwyllgor i'r egwyddor 'gwnaed yng Nghymru'. Mae hynny'n ategu ein neges glir nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig unrhyw fandad i ymestyn y gronfa ffyniant gyffredin annelwig sy'n cael ei chynnal i Gymru.
Llywydd, ym mis Gorffennaf eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad annibynnol yn dadansoddi'r ymatebion i'n papur polisi 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'. Roedd y papur hwnnw yn nodi egwyddorion ac amcanion, ac yn rhoi canllaw o ran sut i gyfnewid y cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd sydd ar waith yng Nghymru, ac fe gafodd gefnogaeth frwd. Rwy'n credu bod pobl yn dechrau cydsynio yma yng Nghymru ynglŷn â sut yr ydym ni eisiau gweld arian cyfnewid yn gweithio, ac awydd i fwrw ymlaen â hynny. Ymhlith nodweddion allweddol y dyfodol hwnnw yw bod angen fframwaith polisi Cymreig sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, un sy'n ymdrin ag anghydraddoldebau rhanbarthol ac sydd wedi ei seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r rhanbartholi a nodir yn ein cynllun gweithredu economaidd.
Mae angen system arnom ni sy'n canolbwyntio ar ranbarthau synhwyrol i Gymru, gan roi awdurdod i'r rhanbarthau hynny, ac i ardaloedd lleol, wneud mwy o benderfyniadau; system sy'n llai biwrocrataidd, ond sy'n dal yn seiliedig ar y model partneriaeth sydd wedi gweithio'n dda i ni; system sy'n seiliedig ar reolau clir, ond gyda llai o anhyblygrwydd o ran daearyddiaeth a diben; system sy'n gweld buddsoddi cyhoeddus yn dwyn ffrwyth llawn, ond ei fod yn gymesur o ran trefniadau ar gyfer mynediad, monitro ac archwilio.
Rwyf wedi cael trafodaethau manwl gyda fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i ddatblygu ein syniadau, fel y gallwn ni fod yn hyderus, er enghraifft, na chollir cyfleoedd yng nghefn gwlad Cymru, ac y gellir sicrhau bod y buddsoddiad hanfodol hwn yng Nghymru yn ganolog i'r dull a geir yn y cynllun gweithredu economaidd, lle mae buddsoddiad cyhoeddus yn seiliedig ar ddarparu nwyddau cyhoeddus.
Felly, Llywydd, rydym ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU y caiff y £370 miliwn y flwyddyn a gaem ni ar gyfer ein cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd ei roi inni yn llawn fel na fydd Cymru geiniog yn waeth ei byd, fel yr addawyd yn aml yn ystod ymgyrch y refferendwm. Rydym ni hefyd yn disgwyl penderfyniadau ynglŷn â sut a lle y caiff cyllid cyfnewidiol yng Nghymru ei drosglwyddo i aros yma yng Nghymru—fel sydd wedi digwydd dros y 18 mlynedd diwethaf ac sydd yn amlwg wedi'i nodi yn y setliad datganoli. Nid oes unrhyw gefnogaeth yng Nghymru ar gyfer cronfa gyfnewidiol ganolog neu un wedi ei gweinyddu gan y DU. Mae'n anghywir mewn egwyddor, nid oes modd i hynny weithio yn ymarferol ac mae'n hen bryd i Weinidogion y DU ddeall hynny yn union.
Llywydd, nid fy mhrif ddiben yw canolbwyntio'n bennaf ar yr hyn a gyflawnwyd yn yr ardaloedd hynny sydd wedi elwa o gronfeydd yr UE, ond nid yw hi chwaith er lles Cymru i danseilio neu dan-gynrychioli yr hyn a gyflawnwyd gyda chymorth y buddsoddiad hwnnw chwaith: y cwymp mawr mewn anweithgarwch economaidd a'r cynnydd mewn cyfraddau cyflogaeth; gwelliant dramatig yn sgiliau ein pobl, gyda gostyngiad mawr yng nghyfran y boblogaeth o oedran gweithio heb gymwysterau; a chau'r bwlch rhwng gwahanol rannau o Gymru, a lleihau'r bwlch rhwng economi Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
Mae'r £370 miliwn a gawn ni bob blwyddyn gan yr Undeb Ewropeaidd yn bwysig i Gymru oherwydd mae bywoliaethau ein pobl, ein cymunedau a'n busnesau yn y fantol. Yn ystod cyfnod y rhaglen hon yn unig, mae prosiectau'r UE eisoes wedi helpu i greu 8,400 o swyddi, helpu 11,000 o bobl i gael gwaith, a chefnogi pobl i ennill dros 68,000 o gymwysterau. Mae bywydau pobl yn cael eu newid er gwell, mae teuluoedd yn cael eu magu mewn cartrefi gyda gwaith, ac mae pobl yn cael cefnogaeth i fanteisio ar addysg a hyfforddiant.
Ac mae hyn yn digwydd, yn rhannol, drwy'r 970 o fentrau newydd a grëwyd a'r 5,400 o fusnesau a gefnogir gan brosiectau a ariennir gan yr UE. Bydd y rhai hynny yn cynhyrchu refeniw treth a swyddi ar gyfer y dyfodol, gan ein helpu ni i sicrhau Cymru fwy llewyrchus.
Nawr, Llywydd, wrth inni edrych at y dyfodol, mae ein partneriaid yng Nghymru wedi tynnu sylw at ddau bryder allweddol ynghylch trefniadau yn y dyfodol: y gellid defnyddio'r cyllid newydd mewn meysydd heblaw am ddatblygu rhanbarthol, ac y bydd peidio â chynllunio ar sail sawl blwyddyn yn atal cynllunio tymor hir effeithiol. I ymateb i'r pryderon hynny, hoffwn ailddatgan ymrwymiadau yr wyf i wedi eu gwneud yn y dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid ac yn y Siambr hon.
Yn gyntaf, caiff unrhyw gyllid cyfnewidiol ei fuddsoddi i gefnogi datblygu rhanbarthol ac i leihau anghydraddoldeb. Ni chaiff ei sugno i mewn i gyllidebau creiddiol eraill Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn rhoi pwyslais ar y dull hwn, ac rwy'n dal i weithio gydag Ysgrifennydd yr economi ar hyn.
Yn ail, gallaf roi sicrwydd y byddwn yn parhau i gynllunio ar sail sawl blwyddyn wrth fuddsoddi cyllid cyfnewidiol fel bod pwyslais hirdymor yn dal i fod ar yr heriau strwythurol yn ein heconomi a'r farchnad lafur.
Yn hyn i gyd, byddwn yn defnyddio arbenigedd sylweddol ein partneriaid ledled Cymru i lunio a darparu ffordd newydd o weithio yma yng Nghymru. Hyd yma buom yn gydweithredgar ac yn flaengar, a heddiw gallaf gyhoeddi dau ddatblygiad i gryfhau hyn ymhellach.
Yn gyntaf, byddwn yn sefydlu grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol, a fydd yn manteisio ar y cyfoeth o wybodaeth a phrofiad sydd gan ein busnesau, awdurdodau lleol, ein sefydliadau academaidd, y trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus ehangach ledled Cymru. Bydd y grŵp yn gweithio'n agos gyda phartneriaethau rhanbarthol sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys elwa ar arweiniad y prif swyddogion rhanbarthol a sefydlwyd o dan y cynllun gweithredu economaidd. Bydd hyn yn sicrhau bod ein dull newydd o weithio yn gyson â chynllunio datblygu economaidd ehangach.
Yn ail, Llywydd, gallaf gyhoeddi gwerth £350,000 o gyllid y prynhawn yma o'r Gronfa Bontio Ewropeaidd i sefydlu partneriaeth newydd gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i fod yn sail i sut yr ydym ni'n buddsoddi'n rhanbarthol yn y dyfodol ac i sut yr ydym ni'n rhoi'r cynllun gweithredu economaidd ar waith. Efallai ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond mae hynny'n gwneud y rhwymedigaeth i barhau i fod yn wlad agored a chysylltiedig yn fwy hanfodol fyth. Bydd gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn atgyfnerthu ein gallu i gynnal cysylltiadau hanfodol â rhanbarthau a gwledydd Ewropeaidd eraill ac yn sicrhau y caiff yr arferion gorau rhyngwladol eu hymgorffori yn ein trefniadau ar gyfer y dyfodol. Bydd Ysgrifennydd yr Economi a minnau yn cyhoeddi manylion pellach am y buddsoddiad newydd hwn cyn bo hir.
Yn y cyfamser, Llywydd, ni allwn ni aros i drafodaethau ystyrlon gychwyn gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â threfniadau cyllido olynol. Hwyrach na fydd trafodaethau o'r fath, dysgwn bellach, tan adolygiad gwariant 2019. Rhaid inni weithredu'n awr i ddatblygu, mewn gwir bartneriaeth, ffordd newydd o fynd ati sy'n sicrhau bod buddsoddi yn cyd-fynd â'r hyn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud yn ehangach i ddatblygu'r economi. Llywodraeth Cymru sydd yn y sefyllfa strategol orau i weinyddu'r cronfeydd hyn, ac i gyflawni'r canlyniad hwn.
Llywydd, bydd y flwyddyn nesaf yn diffinio ein perthynas yn y dyfodol â'r Undeb Ewropeaidd. Bydd hefyd yn gyfle i ni osod trefniadau i sicrhau twf economaidd, a herio anghydraddoldebau rhanbarthol. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau, ac yn edrych ymlaen at gael rhannu rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau yn y dyfodol.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Er, mae'n rhaid imi ddweud, mae'n rhyfedd ei fod yn gwneud y datganiad hwn pan fo Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo i ymgynghori ar ffurf cronfa ffyniant gyffredin newydd y DU yn y dyfodol, ac wedi ymrwymo hefyd i wneud yn siŵr ei fod yn parchu'r setliad datganoli o ran y ffordd y caiff y gronfa honno ei gweinyddu. Fe'i caf yn rhyfedd iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn dod yma heddiw, yn dweud wrthym ni y bydd yn gwario mwy eto o arian gwerthfawr y trethdalwyr ar sefydlu bydysawd cyfochrog, o ran dosbarthu cronfeydd rhanbarthol, drwy sefydlu'r grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol—cwango arall unwaith eto, a dweud y gwir, gyda mwy o swyddi ar gyfer gwŷr a gwragedd dethol y mae'r Llywodraeth hon sydd gennym ni, sy'n rhoi ffafrau i'w chyfeillion, eisiau gallu eu dosbarthu.
Gadewch imi ddweud ar goedd yn awr nad oes gennyf i ddim ffydd o gwbl yng ngallu'r Llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru i ddosbarthu unrhyw arian ledled Cymru mewn ffordd deg a chyfiawn i'r rhannau hynny o'r wlad sydd eu hangen. Does ond angen edrych ar y setliad llywodraeth leol—does ond angen edrych ar y setliad llywodraeth leol a gawsom ni'r wythnos diwethaf: mae'n glir iawn eich bod yn hoffi dosbarthu arian i leoedd penodol yng Nghymru, er anfantais i eraill, gan gynnwys y gogledd, y canolbarth, a'r gorllewin. Yn wir, yr hyn yr hoffwch chi ei wneud fel Llywodraeth yw dosbarthu arian i'ch cyfeillion yn y Blaid Lafur, mewn rhannau eraill o'r wlad, o ran awdurdodau lleol sy'n cael eu rhedeg felly. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi roi mwy o eglurder inni ynglŷn â beth fydd union gostau y corff hwn—y grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol hwn—a pham ydych chi'n gweithredu'n gynamserol drwy wneud y datganiadau hyn yn awr, pan rydych chi eto i gael unrhyw fath o ddogfen ymgynghori gan Lywodraeth y DU.
Rydym ni i gyd yn gwybod bod ar Lywodraeth Cymru eisiau ceisio clochdar am lwyddiant y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd hyd yn hyn. Ond y gwir amdani yw y buon nhw ymhell o fod yn llwyddiant. Yn wir, rydym ni wedi mynd tuag yn ôl o ran ein gwerth ychwanegol crynswth cymharol yn y DU, fel cyfran o werth ychwanegol crynswth y DU. Mae hynny'n destun cywilydd. Yr unig reswm bod y cyfansymiau di-waith wedi gostwng yn y meysydd hyn yw oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Dorïaidd dros y ffin, yn Llundain, sydd wedi peri i'r cyfanswm di-waith ostwng, gan greu miloedd o swyddi bob wythnos ers inni ddod i rym yn ôl yn 2010. Felly, rwy'n siomedig iawn eich bod chi'n gweithredu'n gynamserol, eich bod yn gwneud y datganiad hwn heddiw, y byddwch chi'n gwario mwy eto o arian a lafuriwyd i'w ennill ac sy'n perthyn i drethdalwyr, a hynny mewn ffordd wastraffus, gan sefydlu'r system gyfochrog hon, pan fo hi'n hollol debygol o fod yn gwbl ddiangen.
A wnewch chi dderbyn y bu methiant dros y ddau ddegawd diwethaf o ran y ffordd yr ydych chi wedi buddsoddi—fel Llywodraeth, wedi cymryd yr awenau wrth fuddsoddi'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd hyn? Rydym ni'n gwybod y bu methiant i roi terfyn ar dlodi yng Nghymru. Ni yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig o hyd, cyn belled ag y bo'r ffigurau yn dangos, o ran y rhanbarthau Ewropeaidd o fewn y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n warthus. Mae'n destun cywilydd. Mae'n drueni bod Cymru yn y sefyllfa hon, ond dyna lle'r ydym ni o ganlyniad i benderfyniadau eich Llywodraeth o ran rheoli cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd hyd yma.
A gaf i ofyn hefyd sut y gwnewch chi sicrhau y caiff gwahanol ranbarthau Cymru wneud penderfyniadau mor lleol ag sy'n bosib yn y dyfodol? Rydych chi eisoes wedi clywed gan Lywodraeth y DU y byddant yn parchu'r setliad datganoli o ran y trefniadau hyn. Ond sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod unrhyw arian a roddir ichi i'w ddosbarthu, o dan unrhyw gronfa ffyniant y DU yn y dyfodol, mewn gwirionedd yn mynd i gyrraedd pob rhan o Gymru gan fynd i'r afael â'r tlodi sy'n bodoli ar draws y wlad? Rydym ni yn gwybod, wrth gwrs, bod gennym ni gyfle newydd gyda chronfa ffyniant gyffredin y DU i estyn allan i gymunedau tlotach nad ydyn nhw yn y gorllewin na'r Cymoedd. Ar hyn o bryd, mae gennym ni'r hualau daearyddol hyn, sydd amdanom ni yn sgil penderfyniadau'r Undeb Ewropeaidd, sy'n ein gorfodi i wario arian mewn lleoedd penodol ar draul y lleoedd hynny yn y dwyrain.
Felly, tybed a allwch chi ddweud wrthym ni: a yw diosg yr hualau hynny yn rhywbeth y teimlwch chi y gall Cymru elwa ohono? Sut ydych chi'n bwriadu gwneud yn siŵr bod y cymunedau tlotach hynny mewn rhannau eraill o Gymru yn mynd i gael yr arian sydd ei angen arnyn nhw er mwyn cynyddu ffyniant? Ac a ydych chi'n derbyn na fydd cael mwy o'r un peth, sef yr hyn a gredaf eich bod yn ei gynnig, yn gweithio ac y bydd yn methu unwaith eto yn y dyfodol?
Wel, Llywydd, fe wnaf fy ngorau i ateb rhai o'r cwestiynau hynny. Mae arnaf ofn nad dyna oedd awr anterth yr Aelod—y cyfraniad hwnnw. Mae'n hollol anghywir o ran y gronfa ffyniant gyffredin. Byddai'n amhosib inni aros amdani: nid oes gennym ni amserlen ar ei chyfer, nid oes gennym ni unrhyw fanylion amdani. Nid wyf am eiliad yn credu ein bod wedi cael digon o sicrwydd a fydd yn parchu'r setliad datganoli. Fy ofn o hyd yw mai syniad ei Lywodraeth ef o gronfa ffyniant gyffredin yw cymryd arian a ddaw i Gymru heddiw a'i ddyrannu i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Arhosaf i weld beth sy'n digwydd, ac edrychaf ymlaen at drafod hyn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yfory.
Mae'n hollol anghywir, wrth gwrs, o ran effaith cronfeydd Ewropeaidd yma yng Nghymru: maen nhw wedi caniatáu i ni wneud cymaint o bethau sydd wedi bod er budd cymunedau Cymru. A stiwardiaeth ei Lywodraeth o economi y DU, ymhell o fod y rheswm pam fo swyddi ac anweithgarwch economaidd yn symud i'r cyfeiriad cywir yng Nghymru, os edrychwch chi ar hyn y maen nhw wedi ei wneud mewn mannau eraill, pe byddem ni wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, byddai tri rhanbarth newydd o Loegr bellach yn gymwys am gymorth Ewropeaidd o ganlyniad i stiwardiaeth ei Lywodraeth ef o economi'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.
O ran y grŵp buddsoddi rhanbarthol, bydd yn manteisio ar gyngor yr unigolion hynny mewn busnesau, awdurdodau lleol, yn y rhannau hynny o economi Cymru, y mae aelodau o'i blaid yn rheolaidd yn ein hannog i wneud yn siŵr ein bod yn clywed eu lleisiau ac yn dilyn eu cyngor. Mae hyn ymhell o fod yn fydysawd cyfochrog: bydd hyn yn gyfle i bobl y tu allan i'r Cynulliad, sydd â phrofiad ac arbenigedd perthnasol, i wneud yn siŵr bod y pethau a wnawn ni yn Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar eu profiad uniongyrchol, bob dydd, o wneud economi Cymru yn llwyddiant, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed eu cyngor.
Fe anwybyddaf, am y tro, Llywydd, y sylwadau gwarthus a wnaeth yr Aelod am y setliad llywodraeth leol. Mae'n gwybod yn iawn—
Ffrindgarwch.
Mae'n gwybod yn iawn fod y fformiwla ar gyfer dosbarthu arian—. Rwy'n clywed yr Aelod yn gweiddi 'ffrindgarwch' arnaf, Llywydd, ac rwy'n awyddus i gynnwys hynny yn y Cofnod, oherwydd mae'n gyhuddiad cywilyddus y mae'n ei wneud ac mae angen iddo gadarnhau y math o gyhuddiadau y mae e'n eu gwneud. Nid yw'n dderbyniol o gwbl iddo eistedd yn y fan yna yn taflu baw ar draws llawr y Cynulliad pan gŵyr yn iawn—ac rydym ni'n gwybod y gŵyr ef yn iawn—nad yw'r fformiwla ariannu a ddefnyddir i ddosbarthu arian i awdurdodau lleol wedi ei dyfeisio gan Lywodraeth Cymru; dyna'r fformiwla a gytunwyd—
Nid yw ailadrodd cyhuddiad, Darren Millar, yn ei wneud yn wir. Rwy'n credu eich bod wedi gwneud eich pwynt, ac mae'r Gweinidog yn ymateb.
Llywydd, nid oes air o wirionedd yn yr honiad ar yr achlysur hwn, oherwydd nid yw'r fformiwla ariannu honno yn fformiwla o eiddo Llywodraeth Cymru: mae'n fformiwla sy'n cael ei chymeradwyo bob blwyddyn gan grŵp arbenigol ac wedyn gan awdurdodau lleol Cymru eu hunain, gan gynnwys arweinwyr awdurdodau yn y gogledd, a oedd yno yn y cyfarfod lle cytunwyd ar y fformiwla honno.
Gadewch imi geisio ateb nifer fach o bwyntiau o'r hyn oedd gan yr Aelod i'w ddweud. Yn wir, pe buasai'n gwrando byddai wedi gweld y cawsant eu hateb eisoes, oherwydd un o'r pethau y byddwn yn gallu ei wneud gyda'r arian ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd yw ei ddefnyddio yn well ac yn fwy hyblyg. Ni fydd y cyfyngiadau daearyddol sy'n elfen anochel o gyllid Ewropeaidd yn bodoli i'r graddau hynny yn y dyfodol, ac mae yn un o'r manteision y gallwn ni elwa arno.
Cytunaf gyda'r hyn a ddywedodd ynghylch rhoi cymaint â phosib o bwyslais ar wneud penderfyniadau yn lleol wrth ddefnyddio cronfeydd Ewropeaidd yn y dyfodol. Credaf y bydd rhai blaenoriaethau cenedlaethol y byddwn yn dymuno eu gosod, ond yn bwysig iawn bydd gweithio rhanbarthol wrth wraidd y ffordd a ddefnyddiwn y cronfeydd hyn, a bydd hi'n fwy posib gwneud penderfyniadau ar lefel leol iawn, gan fanteisio yn aml ar brofiad y rhaglen LEADER, er enghraifft, y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi ein helpu i'w datblygu yma yng Nghymru. Ymhell o fod yn fwy o'r un peth, Llywydd, diben hyn i gyd yw dysgu'r gwersi cadarnhaol o'r rhaglen hyd yma ac yna i fanteisio ar y posibiliadau newydd a fydd gennym ni ar gyfer buddsoddi rhanbarthol, os daw'r arian i Gymru ac y caiff y penderfyniadau eu gwneud yma yng Nghymru.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Gallaf ddweud fy mod i'n ei chael hi'n eithaf doniol—mae'n debyg nad dyna'r gair cywir—pan fo'r Ceidwadwyr yn grwgnach a rhygnu am fformiwlâu cyllido, pan fo Cymru wedi ei hesgeuluso gan fformwla Barnett ers blynyddoedd meithion gydag ychydig iawn o wrthwynebiad o'r meinciau gyferbyn?
Yn amlwg, ceir cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar yr egwyddor sylfaenol o ran polisi rhanbarthol, na ddylai gadael yr Undeb Ewropeaidd olygu y bydd Cymru ar ei cholled, yn ariannol neu o ran cyfrifoldebau. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cymru yn cael swm blynyddol o £370 miliwn drwy gronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd ac ni ddylem ni golli ceiniog o'r arian hwnnw. Dyna'r addewid a wnaeth yr ymwahanwyr yn ystod y refferendwm ac fe ddylen nhw gadw at eu haddewidion.
Mae hi fodd bynnag yn werth cofio bod Cymru'n gymwys am gymaint o gymorth rhanbarthol o'r UE oherwydd yr esgeulustod economaidd hanesyddol y mae hi wedi ei ddioddef dan law Llywodraethau o bob lliw yn San Steffan, nad ydyn nhw erioed wedi rhoi sylw llawn i'n hanghenion economaidd. Mae ganddyn nhw dipyn o wyneb yn San Steffan yn awr os ydyn nhw'n dangos diddordeb mewn dwyn pwerau dros bolisi rhanbarthol, pan nad ydyn nhw dro ar ôl tro wedi dangos unrhyw ddiddordeb mewn polisi rhanbarthol, nid yn unig yng Nghymru ond mewn rhannau difreintiedig o Loegr a'r Alban, dros ddegawdau, yn arbennig ers iddyn nhw ddad-ddiwydiannu ein cymunedau yn fwriadol.
Llywydd, ni allai llawer mwy bod yn y fantol o ran cymorth rhanbarthol ac economi Cymru. Digalon yn ddiweddar oedd darllen adroddiad y Ganolfan Cynhwysiant Ariannol. Ynddo, maen nhw'n rhestru Cymru fel un o ranbarthau a chenedloedd mwyaf bregus yn y DU sy'n gadael yr Undeb Ewropeaidd o ran polisi rhanbarthol a pholisi economaidd ehangach. Roedd yr adroddiad yn dweud:
'Yn y sefyllfa waethaf, gallai rhai o'r rhanbarthau mwyaf bregus'— gan gynnwys Cymru—
'wynebu "ergyd driphlyg" …colled sylweddol iawn o allbwn economaidd posib...colli cyllid yr UE. Yn drydydd, oni bai y gellir parhau i drosglwyddo cyllid o rannau cryfach o economi'r DU i'r un graddau er mwyn lliniaru'r effeithiau hyn, gallai'r ysgytwad economaidd, rhwng popeth, fod yn ddifrifol.'
Dyna eiriau adroddiad y Ganolfan Cynhwysiant Ariannol.
O ran datganiad heddiw, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad y bydd camau'n cael eu cymryd i greu'r seilwaith ar gyfer polisi rhanbarthol newydd i Gymru wedi inni ymadael. Fodd bynnag, ni allaf beidio â phryderu y gwneir yr holl waith paratoi hwn dim ond i gael ein bwrw oddi ar ein hechel pan gyhoeddodd Lywodraeth San Steffan y caiff polisi rhanbarthol ei ganoli yn Llundain. Bydd yn ddiddorol gwybod beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet am y sylwadau a wnaeth Prif Weinidog y DU yn ystod cynhadledd y Blaid Dorïaidd i'r cyfryngau. O'r hyn a ddeallais o'r hyn a ddywedodd, roedd hi'n awgrymu yn hytrach na darparu'r arian a addawyd i Gymru, y byddai polisi rhanbarthol newydd drwy'r gronfa ffyniant gyffredin honedig yn cynnwys rheolau ar gyfer y DU, wedi eu penderfynu yn San Steffan, yn cael eu gorfodi gan San Steffan, ac y penderfynir ar wario yn Whitehall hefyd. Roedd hynny yn ddychrynllyd iawn. Ymhell o fod—. Os ydym ni eisiau sôn am fydoedd cyfochrog, mae sôn am warantu pob un geiniog a phŵer sydd gennym ni ar hyn o bryd yn gwbl groes i'r hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU mewn datganiadau i'r cyfryngau, cyn belled ag y gwelaf i, beth bynnag.
Yn ei ddatganiad, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud nad yw'n disgwyl trafodaethau ystyrlon ar drefniadau cyllido olynol tan adolygiad gwariant 2019. A all egluro, a yw'n credu na fydd unrhyw drafodaethau ynghylch y polisi ei hun, neu a yw'n golygu sut caiff y polisi hwnnw ei gyllido? Hynny yw, a yw'n disgwyl cael trafodaeth ystyrlon ar y polisi, hynny yw, ei fod wedi'i ddatganoli ac y bydd yn aros wedi ei ddatganoli, ac yna bydd gennym ni well syniad o union natur y cyllid oddeutu adeg adolygiad gwariant 2019? Oherwydd mae angen inni wybod yn eithaf buan beth yn union yw bwriadau polisi Llywodraeth y DU. Nid yw'n dderbyniol llusgo traed ar hyn, gan roi pwysau ar lywodraethau datganoledig, fel y maen nhw, i wneud paratoadau yn seiliedig ar y sefyllfa orau, pan rwyf yn anffodus yn ofni y gallai'r sefyllfa waethaf ein hwynebu. Felly, a yw trafodaethau ffurfiol ar y gweill? Oes mwy wedi eu trefnu? A oes amserlen glir ar gyfer penderfynu ar ffurf polisi rhanbarthol y dyfodol cyn gynted â phosib?
Hefyd, o ran y ddadl wleidyddol ehangach a fydd yn digwydd bellach yn y DU wrth i hyn ddod yn fater o bwysigrwydd cynyddol, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet: beth yw polisi Plaid Lafur y DU? A fyddan nhw yn cydweithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru yn hyn o beth o ran polisi rhanbarthol ar feinciau blaen Llafur yn San Steffan? A fyddan nhw'n pleidleisio yn erbyn unrhyw ymdrechion yn Nhŷ'r Cyffredin i gymryd pwerau polisi rhanbarthol o Gymru? Pa drafodaethau y mae wedi'u cael â'i gymheiriaid yn ei blaid ar lefel y DU yn hynny o beth?
Yn hanfodol i hyn i gyd, os oes trafodaethau ar y gweill, neu os caiff trafodaethau eu cynnal yn fuan, a all Ysgrifennydd y Cabinet wneud addewid pendant i Aelodau yma heddiw, mewn unrhyw drafodaethau ar negodi gyda Llywodraeth y DU, na fydd yn ildio ein harian yn y ffordd yr ildiodd rai o'n pwerau y tro diwethaf iddo daro bargen â San Steffan?
Llywydd, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i Steffan Lewis am y ffordd y croesawodd yr egwyddorion sylfaenol yr wyf wedi eu hamlinellu y prynhawn yma? Cytunaf yn llwyr gyda'r hyn a ddywedodd am y ffordd y gallai Cymru gael ergyd dyblyg o ganlyniad i effaith Brexit arbennig o ddigyfaddawd ar ein heconomi, ac yna'r posibilrwydd o golli arian.
Clywais sylwadau Prif Weinidog y DU am y gronfa ffyniant gyffredin. I fod yn onest, roeddwn yn credu ei bod hi'n swnio fel petai hi gymaint yn y niwl ynghylch beth fyddai natur y gronfa honno â'r gweddill ohonom ni. Roedd ei hatebion yn ymddangos i mi wedi'u cynllunio'n fwy i gelu'r ffaith nad oedd hi ddim yn siŵr iawn beth oedd yn digwydd nag i roi inni unrhyw eglurder gwirioneddol ar y mater.
Mae Steffan Lewis yn gywir yn dweud fy mod i'n gwahaniaethu rhwng materion polisi, y cawn ni o bosib glywed rhywbeth yn eu cylch yn ystod gweddill y flwyddyn galendr hon, a threfniadau ariannu, y credaf y bydd yn rhaid inni aros tan yr adolygiad gwariant cynhwysfawr cyn cael unrhyw eglurder.
Gofynnodd yr Aelod a oes unrhyw drafodaethau ffurfiol ar y gweill. Gallaf ddweud wrtho fy mod wedi mynegi ein pryderon o'r blaen i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys a gyda Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn, ac y soniwyd am hyn yr wythnos diwethaf eto yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion ar Ewrop gan fy nghyd-Aelod o'r Alban Ben Macpherson, lle gellais, unwaith eto, fynegi anesmwythyd Llywodraeth Cymru am y cynigion ar gyfer cronfa ffyniant gyffredin. Ac mae hyn ar yr agenda eto bore yfory, pan fyddaf yn cael trafodaethau gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, ynglŷn â materion yn ymwneud â Chymru yn unig, ac yng nghyfarfod pedairochrog y Gweinidog cyllid. Rwy'n mynd o'r cyfarfod hwnnw i gyfarfod ag aelodau o dîm Keir Starmer, ac i drafod materion Brexit yn Nhŷ'r Cyffredin. Gall yr Aelod fod yn sicr y byddaf yn crybwyll y gronfa ffyniant yn y fan honno hefyd.
Llywydd, nid oes unrhyw bwerau wedi gadael Cymru—gadewch inni fod yn gwbl glir ynghylch hynny. Mae'r holl bwerau sydd gennym ni yng Nghymru o ganlyniad i setliad datganoli 1999 yn parhau i fod gennym ni heddiw. Ni allai'r Aelod enwi yr un pŵer a gafodd ei ildio, fel y dywedodd ef, oherwydd ni chafodd yr un ei ildio. Maen nhw i gyd yn parhau i fod yma yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, ac ni all unrhyw un eu cymryd oddi yma heb inni gytuno ymlaen llaw. Fodd bynnag, rhof iddo'r sicrwydd y mae'n edrych amdano, wrth gwrs, na fydd y Llywodraeth Lafur hon sydd gan Gymru yn cytuno i unrhyw gynigion a fyddai'n arwain at lai o arian yn dod i Gymru o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Deyrnas Unedig nag yr ydym ni wedi elwa arno o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd.
A gaf i ddweud fy mod i'n cefnogi'r Ysgrifennydd cyllid yn llawer o'r hyn a ddywed yn ei ddatganiad? Nid wyf yn credu ei bod hi'n gwbl afresymol iddo ddweud y byddai'n annerbyniol i Gymru fod geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i'r setliad Brexit, beth bynnag y gallai hynny fod, er fy mod yn anghytuno ag ef yn dweud 'fel yr addawyd yn ystod ymgyrch y refferendwm'. Yr unig bobl a allai addo hynny yn ystod ymgyrch y refferendwm oedd y Prif Weinidog a Changhellor y Trysorlys, ac roedd y ddau ohonyn nhw, wrth gwrs, eisiau aros. Ond ni chredaf ei bod hi'n afresymol, o ganlyniad i Brexit, y dylai Cymru fod geiniog yn waeth ei byd; mewn gwirionedd, fe ddylem ni fod yn well ein byd, oherwydd am bob £1 o arian trethdalwyr Prydain a gawn ni'n ôl o Frwsel, mae'n rhaid inni anfon £2 yno yn y lle cyntaf. Felly, nid arian yr UE mohono, arian trethdalwyr Prydain ydyw, ond wedi ei roi yn ôl inni drwy nawdd sefydliadau'r UE.
Hoffwn ofyn cwestiwn am effaith y ffordd y mae llawer o'r arian hwn wedi'i wario dros y blynyddoedd. Fel y nododd Darren Millar, yn wir yng Nghymru rydym ni wedi mynd tuag yn ôl yn yr 20 mlynedd diwethaf o ran ffyniant cymharol. Yn 1998, cyfartaledd gwerth ychwanegol crynswth yng Nghymru oedd 74.8 y cant o gyfartaledd y DU, ac yn 2016 roedd yn 72.7 y cant, felly rydym ni mewn gwirionedd, â siarad yn gymharol, wedi mynd am yn ôl. Ac, wrth gwrs, mae gennym ni ddau o rannau tlotaf Ewrop yn ein gwlad. Mae Cymoedd Gwent yn ail o'r gwaelod gydag incwm cyfartalog o oddeutu £14,700, 56 y cant o gyfartaledd y DU; mae Ynys Môn yn waeth na hynny hyd yn oed, gydag incwm cyfartalog o oddeutu £13,600, dim ond 52 y cant o gyfartaledd y DU. Rydym ni wedi gweld symiau sylweddol o arian yn cael ei wario ar bolisi rhanbarthol dros y blynyddoedd, ond ymddengys nad yw hynny wedi gwneud llawer iawn i effeithio ar y ffigyrau cymharol.
Felly, nid wyf yn siwr ai'r ffordd gywir o fynd ati yw neilltuo'r arian hwn y bydd gennym ni'r hawl i'w weinyddu ar ôl Brexit, ac nid wyf yn edmygwyr, yn gyffredinol, o neilltuo cyllid refeniw, gan fod blaenoriaethau yn newid o flwyddyn i flwyddyn ac anghenion newydd yn ymddangos, ac mae'r berthynas rhwng gwahanol anghenion hefyd yn newid. Felly, credaf pe byddai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo am gyfnod sylweddol i gynnal pwysigrwydd y gyllideb cymorth rhanbarthol yng Nghymru, yna gallai fethu â gweld cyfleoedd eraill ynghylch sut y gellid gwario'r arian mewn ffordd fwy cynhyrchiol i gyflawni amcanion cymdeithasol ac amcanion economaidd y Llywodraeth.
Aiff y datganiad ymlaen i ddweud tua'r diwedd y
'Bydd hi hefyd yn ein gweld yn datblygu trefniadau i sicrhau twf economaidd ac i leihau anghydraddoldebau rhanbarthol.'
Gallwn i gyd gefnogi'r amcan hwnnw, ond mae yna ffyrdd eraill, efallai, y gellir cyflawni hynny, a hoffwn i'r Llywodraeth fod yn fwy dychmygus nag y mae hi wedi bod yn y gorffennol.
Rwy'n cydymdeimlo'n llwyr ag Ysgrifennydd y Cabinet yn ei awydd i fwrw ymlaen â'r gwaith, ac nid aros i Lywodraeth y DU yn ei doethineb drosglwyddo'r sicrwydd hwnnw pryd bynnag y mae hi'n teimlo sy'n hwylus iddi wneud hynny. Mae Theresa May wedi rhoi ystyr hollol newydd i'r gair 'syrthni', rwy'n credu, ers iddi fod yn Brif Weinidog, ac mae'r ffordd y cynhaliwyd y negodiadau Brexit, os gallaf eu hanrhydeddu â'r disgrifiad hwnnw, yn brawf pendant o hynny, fel y mae hi yn parhau yn ei gorchwyl difeddwl, didrugaredd, fel Sisyphus gynt, yn gwthio clogfeini i gopaon bryniau, dim ond iddyn nhw gael eu gwthio i lawr yn ôl ar ei phen ac, yn y pen draw, credaf, i'w gwastrodi. Ond rwy'n credu ei bod hi'n briodol y dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau a rhoi mwy o bwysau drwy weithredu'n gadarnhaol i orfodi, os gall hi, Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen â gwneud penderfyniadau rhesymegol o ran sut orau y gellid gweinyddu dyfodol Cymru. Mae'n ddirgelwch i mi na all Llywodraeth y DU ddweud, 'Ie, fe gewch chi eich £370 miliwn y flwyddyn', oherwydd mae'r arian ar gael—byddwn yn ei gael yn ôl o Frwsel, ac nid oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, rwy'n credu, unrhyw hawl foesol i ddweud bod peth amheuaeth ynghylch hyn. Mae'n creu ansicrwydd nid yn unig i Gymru, ond hefyd ansicrwydd diangen, rwy'n credu, ym meddyliau Aelodau Ceidwadol hyd yn oed mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Ni all y Llywodraeth gael gwared ar y graddau o ansicrwydd y gellid eu dileu heb unrhyw niwed o gwbl i amcan cyffredinol y Llywodraeth, beth bynnag y gallai hynny fod, yn ystod y negodiadau Brexit.
Un o'r ffyrdd y gallem ni efallai wario rhywfaint o'r arian a ddyrennir ar hyn o bryd i bolisi rhanbarthol yn well yw ar brisiau ynni, gan leihau effaith prisiau ynni ar rai diwydiannau penodol. Gwyddom, er enghraifft, fod gan y diwydiant dur, mewn gwirionedd, 85 y cant o faich y costau ychwanegol a orfodwyd arno o ganlyniad i'r polisïau newid yn yr hinsawdd, a heb yr ad-daliad hwnnw, yna byddai'r diwydiant dur yn y Deyrnas Unedig gyfan ar wastad ei gefn. Felly, byddai modd mynd i'r afael â chanlyniadau anfwriadol rhai polisïau drwy ystyried ffyrdd eraill o wario'r arian hwn. Ni allaf ei drafod mewn mwy o fanylder ar hyn o bryd, ond tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio bod gennym ni i gyd yr un amcanion yn y pen draw yn hyn o beth—ein bod yn rhannu'r awydd i Gymru fod yn llawer mwy llewyrchus nag y bu yn y gorffennol a, hyd yn oed o fewn Cymru, i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau—. Ond er mwyn cyflawni hynny rwy'n credu bod angen inni fod mor hyblyg â phosib gyda threfniadau ariannu ar ôl Brexit, pan fydd gennym ni'r awenau yn ein dwylo ein hunain.
Diolch i'r Aelod am y sylwadau yna. Ar y cyfan, credaf ei fod yn cymeradwyo rhai agweddau allweddol ar y polisi a amlinellais y prynhawn yma. Rwy'n deall y pwynt a wnaeth am y gair 'addewid', ond pan ddywed Arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru wrth bobl Cymru ei bod yn gwbl sicr na fyddai Cymru ar ei cholled o'r un geiniog, tybed beth mwy sydd angen ei ddweud i droi hynny yn addewid. Roedd yn swnio'n debyg i addewid i lawer o bobl yng Nghymru ac fe bleidleisiodd llawer o bobl Cymru ar sail yr hyn yr oeddent yn ei ystyried yn addewid.
Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd am gynnig synhwyrol y dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr awenau wrth benderfynu sut y dylai arian o'r fath ddod i Gymru yn y dyfodol, ac rwy'n cytuno ag ef yn yr hyn a ddywedodd—mae'n ddirgelwch i minnau hefyd pam na all Llywodraeth sydd â digon o gwerylon i ymdrin â nhw, does bosib, yn ogystal â digon o faterion anodd eu datrys, wneud penderfyniad syml a fyddai'n hawdd ei wneud ac yn syml i'w weithredu, a dweud yn syml, fel yr addawyd i bobl Cymru, bod yr arian a ddaeth i Gymru o dan yr Undeb Ewropeaidd yn dod i ni ar ôl gadael.
Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd yr Aelod am neilltuo arian, oherwydd, fel Gweinidog Cyllid, tueddaf innau i fod yn anesmwyth ynglŷn â neilltuo arian hefyd. Fe wnaethom ni benderfyniad ymwybodol iawn yn Llywodraeth Cymru i ddweud ymlaen llaw y byddai arian a ddaeth i Gymru heddiw ar gyfer dibenion datblygu economaidd rhanbarthol yn cael ei neilltuo ar gyfer y diben hwnnw ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaethom ni hynny oherwydd bod diffyg hyder gwirioneddol yn y sector, ymhlith pobl sy'n rhedeg prosiectau, sy'n datblygu cynlluniau, na fydd y pethau y maen nhw wedi gallu dibynnu arnyn nhw yn y gorffennol o bosib ar gael iddyn nhw yn y dyfodol. Bwriad yr ymrwymiad a wneuthum yn natganiad heddiw, drwy ddweud y byddai arian yn cael ei gadw at ddibenion datblygu economaidd rhanbarthol, ac y byddem ni'n gwarantu hynny dros gyfnod o sawl blwyddyn, yw cynnal hyder y sector y caiff y cynlluniau tymor hir y maen nhw wedi eu rhoi ar waith eu hanrhydeddu drwy'r Llywodraeth hon.
Rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud sylw pwysig wrth ddweud y bydd gennym ni beth hyblygrwydd ychwanegol yn y ffordd y gellir defnyddio arian yn y dyfodol. Mae'n amheus gen i a ellir bod mor hyblyg â defnyddio'r arian hwnnw i gynnal neu i bennu prisiau ynni is, ond rwyf yn credu y bydd cyfleoedd i ddefnyddio'r arian hwnnw mewn ffordd sy'n osgoi rhywfaint o ddiffyg hyblygrwydd y gyfres flaenorol o drefniadau. Yn hynny o beth, efallai y cawn ni fanteision neilltuo o ran meithrin hyder, ond y gellir defnyddio'r arian hwnnw hefyd mewn ffordd fwy hyblyg, fel y dywedodd Neil Hamilton yn ei sylwadau wrth gloi.
Rwy'n croesawu'r datganiad pwysig iawn hwn ac yn croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gosod yr egwyddorion y mae o'r farn a gaiff eu defnyddio yn y dyfodol wrth fuddsoddi'n rhanbarthol yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn sefydlu'r egwyddorion hyn yn awr oherwydd ein bod ni wedi bod yn aros yn rhy hir i glywed manylion am y gronfa ffyniant gyffredin hon. Ac, unwaith eto, credaf y byddai hynny yn rhywbeth eithaf syml y gallai'r Llywodraeth yn San Steffan ei wneud, i wneud ymdrech wirioneddol i ymgynghori ac i ganfod beth yn union sy'n digwydd a rhoi terfyn ar yr ansicrwydd hwn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet, y rhoddir hyder i'r bobl hynny sy'n rhedeg prosiectau ac yn gwneud cynlluniau tymor hir, eu bod yn gwybod bod sicrwydd o ran beth mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu ei wneud. Rwy'n falch iawn, hefyd, bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi pwysleisio'r manteision enfawr a gawsom ni o'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Wrth gwrs, rydym ni wedi cael budd o gronfeydd Ewropeaidd eraill, megis cynlluniau cyfnewid Erasmus+, Horizon 2020, ac wrth gwrs gan Fanc Buddsoddi Ewrop, sydd wedi dod â manteision enfawr i Gymru. Felly, rwy'n siŵr y gallai Ysgrifennydd y Cabinet sôn am fanteision rhai o'r buddiannau Ewropeaidd eraill hynny.
Cyn sôn am fanylion eraill o'r datganiad, a yw'n cytuno ei bod hi'n hollbwysig ein bod yn manteisio i'r eithaf ar gronfeydd presennol yr UE cyn ein bod ni mewn gwirionedd yn gadael yr UE? Oherwydd mae'r cronfeydd hynny yn dal i gael eu dosbarthu hyd at yr adeg y byddwn ni mewn gwirionedd yn gadael yr UE, a byddant yn parhau y tu hwnt i'r dyddiad, ymhell y tu hwnt i'r dyddiad y byddwn yn gadael yr UE—mae'n debyg hyd at 2023.
Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod gennym ni'r hanes a'r arbenigedd yma yng Nghymru. Mae gennym ni'r arbenigedd o fod wedi ymwneud â'r cronfeydd strwythurol ers blynyddoedd lawer, ac wrth gwrs mae ein gwybodaeth a'r ffordd y buom ni'n gweithredu'r cronfeydd strwythurol wedi newid dros y blynyddoedd hynny, gan newid o nifer fawr o brosiectau bychain, i fod yn ymwneud â llai o brosiectau mwy o faint. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn y gwneir yn fawr o'r profiad hwn sydd gennym ni i sicrhau y cawn ni'r budd mwyaf posib ar ôl gadael yr UE. Felly, rwyf yn croesawu'r grŵp llywio, ac mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r holl arbenigedd sydd yma yng Nghymru. Croesawaf hefyd y £350,000 o'r Gronfa Bontio Ewropeaidd. Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn meddwl yn greadigol am y dyfodol, yn ceisio gweld beth y gallwn ni ei wneud i leihau'r difrod a wneir drwy adael Ewrop.
Yn olaf, rwy'n croesawu yn arbennig ei ymrwymiad i ariannu amlflwyddyn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi cael profiad o broblemau ariannu tymor byr, y mae cynifer o bobl wedi dioddef o'i herwydd—cynifer o brosiectau gwahanol. A bu hynny yn un o fanteision mawr arian Ewropeaidd, y bu'n amlflwyddyn. Felly, croesawaf yr ymrwymiad hwnnw yn enwedig gan Ysgrifennydd y Cabinet.
Wel, Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn i Julie Morgan am y sylwadau yna. Maen nhw'n adlewyrchu'r profiad sydd ganddi yn cadeirio'r pwyllgor monitro rhaglenni o dan y rownd bresennol o gyllid Ewropeaidd, ble mae manteision cydweithio a'r gallu i elwa ar gyngor arbenigwyr yn y maes yn rhan fawr o'r ffordd y buom ni'n gwneud pethau yma yng Nghymru. Ac yn hynny o beth, mae Julie Morgan yn llygad ei lle bod angen inni fanteisio i'r eithaf ar y gwersi y gallwn ni eu dysgu o'n profiad hyd yma i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud pethau mewn ffyrdd sydd wedi bod yn llwyddiannus, gan achub ar gyfleoedd i wneud pethau'n well fyth. Hoffwn ddiolch iddi hi a phawb sydd ar y pwyllgor monitro rhaglenni am yr hyn y maen nhw yn ei wneud i fanteisio i'r eithaf ar y cyllid presennol.
Caniatewch imi ddweud yn y fan yma, fel y ceisiaf ei wneud bob tro, ein bod ni bob amser wedi croesawu penderfyniad Canghellor y Trysorlys i warantu'r cronfeydd hynny a'r cyhoeddiad mwy diweddar a wnaeth ynglŷn ag ymestyn y warant honno i ddiwedd y cylch presennol. O ran yr hyn a ddywedais yn gynharach am hyder yn y sector, bu hwnnw yn gyhoeddiad defnyddiol, ac rwy'n fodlon cydnabod hynny y prynhawn yma. Byddwn yn defnyddio arian Ewropeaidd hyd at 2023 o dan y rownd bresennol, a byddwn yn cadw cyfrifon ar ei gyfer hyd at 2025, felly mae gwneud defnydd da o hynny yn bwysig iawn.
Ac mae Julie Morgan yn llygad ei lle: ni allwn ni aros i Lywodraeth y DU weithredu ar hyn i gyd. Rydym ni wedi pwyso arnyn nhw dro ar ôl tro i wneud yn siŵr y bydd gennym ni berthynas o hyd â Banc Buddsoddi Ewrop ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd; rydym ni wedi cyfrannu rhywfaint o gyngor arbenigol a gawsom ni gan swyddogion yma sydd â gwir ddealltwriaeth o sut y gellid cyflawni hynny, ac rydym ni'n dal i aros i glywed unrhyw beth am y ffordd y gellir ffurfio'r berthynas honno ar gyfer y dyfodol.
Rhan o'r rheswm yr wyf yn falch o allu cyhoeddi heddiw bod cyllid ar gael i weithredu ar gyngor y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yw y bydd hynny'n rhoi inni yma yng Nghymru gyfleoedd newydd i fanteisio ar y rhwydweithiau hynny yn yr Undeb Ewropeaidd y soniodd Julie Morgan amdanyn nhw, fel ein bod yn gallu mwynhau'r manteision a gawsom ni o weithio'n rhanbarthol, gan ddysgu oddi wrth rannau eraill o Ewrop, ac i wneud yn siŵr bod y ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau yma yng Nghymru yn ystyried yr arferion gorau oll o fannau eraill.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad ar fuddsoddi rhanbarthol ar ôl Brexit a diolch i chi am gydnabod gwaith y Pwyllgor Cyllid yn ei adroddiad, 'Y paratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru'—argymhellion allweddol, na fyddant, wrth gwrs, yn peri unrhyw syndod, gan arwain o ran blaenoriaethau negodiadau gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen gyllido orau bosib i wneud yn siŵr nad yw Cymru geiniog yn waeth ei byd ar ôl Brexit, fel y nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', sydd wedi sefyll prawf amser dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Hoffwn hefyd holi ynghylch y posibiliadau o gael cyllid ar ôl Brexit, yn enwedig o ran cronfa ffyniant gyffredin y DU, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y rhwystredigaeth yr ydym ni wedi ei theimlo, yn y Pwyllgor Cyllid ac, yn wir, yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, am y diffyg ymgysylltu wrth lunio, fel y dywedwch chi, y cyfle i helpu i lunio—Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol—y gronfa hon. Cafodd y Pwyllgor Cyllid lythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wythnos diwethaf sy'n sôn am adroddiad ein hymchwiliad. Yn ei lythyr, mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn cyfeirio at gronfa ffyniant gyffredin y DU, ac mae'n dweud 'ein bod yn bwriadu ymgynghori' ar hyn 'yn gyhoeddus... cyn diwedd 2018'.
Wel, pan wahoddwyd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gynharach eleni i ddod i'r pwyllgor ynglŷn â'r ymchwiliad hwn, gwrthododd y gwahoddiad hwnnw, gan ddweud nad oedd yn credu bod angen iddo fod yn bresennol yn bersonol, ond yn dweud wrthym ni fod hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth ac 'y byddant yn ymgysylltu â chi ar y cyfle cyntaf'. Wel, roedd hynny ym mis Mai; rydym ni bellach ym mis Hydref gyda'r llythyr hwn yn tynnu ein sylw, yn wir, at ddatganiad ysgrifenedig ar 24 Gorffennaf a wnaed gan neb llai nag ein cyn-Aelod Cynulliad Arglwydd Nick Bourne, a wnaeth ddatganiad ar 24 Gorffennaf. Ac fe wnaeth, yn ei ddatganiad, gyfeirio at gronfa ffyniant gyffredin y DU yn y gwledydd datganoledig, gan ddweud y bydd Llywodraeth y DU yn parchu'r setliadau datganoli ac yn ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod y gronfa'n gweithio ar gyfer lleoedd ar draws y DU.
Terminoleg anarferol o ran y berthynas sydd gennym ni—o ran parch a negodiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Ysgrifennydd Cyllid wneud sylw ar hyn, gwneud sylw ar yr hyn a ddigwyddodd ers y gwnaethpwyd y datganiad ysgrifenedig hwnnw, a sut, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o hyn.
Nawr, rwyf wedi dwyn ynghyd sefydliadau menywod i ffurfio'r rhwydwaith Menywod yng Nghymru dros Ewrop, ac un o'r prif bryderon y mae amrywiaeth eang o sefydliadau wedi ei grybwyll yw effaith penderfyniadau cyllidol yn y dyfodol ar ôl Brexit, yn enwedig o ran cronfa ffyniant gyffredin y DU. Mae llawer o sefydliadau yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus a'r sector preifat sydd eisiau bod yn rhan o'r drafodaeth hon am y gronfa newydd hon.
A ydych chi'n derbyn barn ac argymhellion y Pwyllgor Cyllid trawsbleidiol bod cronfeydd strwythurol yr UE wedi bod â phwyslais clir ar hyrwyddo cydraddoldeb, mynd i'r afael â thlodi, cefnogi hawliau dynol, gyda nifer sylweddol o brosiectau wedi eu cefnogi gan yr UE yn canolbwyntio ar gefnogi menywod?
A ydych chi'n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda, gyda chwestiwn?
Felly, mae gennym ni gyfleoedd a heriau, a gobeithiaf y byddwch yn gallu dadlau'r achos dros i ni i gyd fod yn rhan o hyn, oherwydd, fel y dywedasoch chi, mae consensws yn ymffurfio, a gall y Cynulliad hwn fod yn gefn ichi yn y trafodaethau hyn.
Diolch i Jane Hutt am yr hyn a ddywedodd, yn enwedig y sylw olaf yna; mae hi'n ddefnyddiol iawn, bob amser, pan eich bod chi'n trafod pethau gyda Gweinidogion y DU, i allu cyfeirio nid yn unig at safbwyntiau Llywodraeth Cymru, ond, er enghraifft, at adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ac rwyf i wedi ei ddarllen. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn nodweddiadol o wybodus ac yn adeiladol yn ei gasgliadau. Ac mae gallu cyfeirio at yr adroddiad hwnnw ac at y consensws trawsbleidiol y mae wedi ei sefydlu mewn perthynas â'r materion hyn bob amser yn ddefnyddiol pan fyddwch chi'n trafod y materion hyn gyda Gweinidogion y DU.
Mae'n drueni bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru, unwaith eto, yn gwrthod gwahoddiadau i ddod ac amddiffyn polisïau ei Lywodraeth o flaen y Cynulliad hwn. Clywaf, Dirprwy Lywydd, bod Llywodraeth y DU wedi cynnal digwyddiad ymgynghori yn yr Alban ar y gronfa ffyniant gyffredin, a'i bod hi wedi cynnal digwyddiad ymgynghori yng Ngogledd Iwerddon ar y gronfa ffyniant gyffredin. Clywaf na hysbysodd hi naill ai Gogledd Iwerddon—wel, y trefniadau datganoledig yno—tan y diwrnod cyn y cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwnnw, ac na roddwyd gwybod i Lywodraeth yr Alban am yr ymgynghoriad tan y diwrnod cyn y digwyddodd hynny ychwaith. Pa fath o Lywodraeth y DU yw hon, Dirprwy Lywydd, sy'n symud o gwmpas y Deyrnas Unedig fel rhyw fath o leidr yn y nos, yn gwrthod dweud wrth y gweinyddiaethau datganoledig am ei phresenoldeb yn eu hardaloedd? Efallai y byddwn yn eu gweld nhw yma yng Nghymru, ac, os gwnawn ni, edrychaf ymlaen at glywed eu bod yn cyrraedd gan yr un Ysgrifennydd Gwladol.
Yn olaf, dim ond i gytuno â'r hyn a ddywedodd Jane Hutt am gydraddoldeb, mae materion cydraddoldeb wedi bod yn elfen allweddol o gyllid Ewropeaidd yma yng Nghymru ac yng ngwaith y pwyllgor monitro rhaglenni. Mae llawer o sefydliadau o'r math y cyfeiriodd Jane Hutt atyn nhw wedi elwa ar hynny. Pa sicrwydd sy'n bosib inni ei gael y byddai'r pwyslais yr un fath mewn unrhyw gronfa ffyniant gyffredin y penderfynir yn ei chylch yn rhywle arall, y pennir y rheolau yn rhywle eraill, y gwneir y penderfyniadau ariannu yn rhywle arall, ac sy'n ein gadael ni yma yng Nghymru i ymdrin â'r canlyniadau?
Yn olaf, Mick Antoniw.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf bob amser yn siomedig pan glywaf y Torïaid yn lladd ar y ffordd y mae peth o'r arian Ewropeaidd wedi'i ddefnyddio mewn gwirionedd i adfywio rhannau o Gymru. Os ydyn nhw eisiau dod i Bontypridd, gallan nhw weld yr hyn yr wyf i'n credu sy'n esiampl enghreifftiol o'r ffordd y mae tref sydd wedi dioddef mor ofnadwy yn dilyn y diwydiant glo a diwydiannaeth—yr adfywio sydd ar waith mewn gwirionedd, lle mae arian Ewropeaidd wedi bod yn gatalydd mor hanfodol bwysig. Gallwch chi ei weld—boed yng nghanolfan siopa Taf, y troedffyrdd, y lido, ffordd osgoi Pentre'r Eglwys, yr orsaf. Mae Pontypridd a rhannau o Taf Elái—ac wrth gwrs y metro sy'n ymestyn yr holl ffordd i Ffynnon Taf—yn ganolbwynt ar gyfer adfywio ar hyn o bryd. Mae bwrlwm yn y dref, a heb yr arian Ewropeaidd hwnnw, ni fyddai wedi digwydd. Felly, mae'n siomedig iawn i glywed yr enghreifftiau hynny yn cael eu gwrthod yn llwyr gan y Ceidwadwyr.
Bu sylwadau manwl am y gronfa ffyniant gyffredin eisoes. Cafwyd addewidion, yn union fel y cafwyd addewidion na fyddem yn colli unrhyw arian—addewidion o ymgysylltu. Cyfeiriodd Steffan Lewis yn glir iawn at rai o'r addewidion, datganiadau a wneir ynghylch canoli, ac mae'n glir iawn nad oes unrhyw ymgysylltu priodol; nid oes unrhyw un yn gwybod beth yw'r gronfa ffyniant gyffredin mewn gwirionedd. A phan ddarllenwch chi'r Western Mail heddiw fe welwch chi erthygl yno—a byddwch yn clywed Darren Millar, a oedd yn gweiddi mor uchel yn gynharach—yn dweud bod Darren Millar yn edrych ymlaen at ddatblygu system ariannu newydd unwaith y mae'r DU wedi gadael yr UE, a bod Brexit yn rhoi cyfle i Gymru lunio dull ffres o fuddsoddi rhanbarthol a datblygu economaidd drwy gronfa ffyniant gyffredin newydd yn y DU, ond nid yw'n gallu ei disgrifio na'i nodi ychwaith. Dim ond un casgliad, Dirprwy Lywydd, y gallwch chi ddod iddo. Ac efallai bod yr enw 'Tori' yn briodol iawn yn yr enghreifftiau hyn, oherwydd mae ei wreiddiau yn yr iaith Wyddeleg ac yn golygu 'lleidr'. Yr unig gasgliad y gallaf i ddod iddo yw bod yna gynllwyn Torïaidd i ddwyn gwerth £370 miliwn y flwyddyn o Gymru—dwyn £370 miliwn y flwyddyn o Gymru. Oherwydd nid unwaith yr ydych chi wedi clywed y Torïaid yn sefyll i fyny a dweud, 'Ie, byddwn ni'n mynnu bod Cymru yn cael pob ceiniog a oedd ganddi yn flaenorol.' Nid unwaith y maen nhw wedi meiddio sefyll i fyny a gwneud hynny, ac mae hynny oherwydd eu bod yn y bôn yn grŵp gelyniaethus yng Nghymru o blaid Dorïaidd Llundain. Dyna'r swyddogaeth sydd ganddynt.
Ac a ydych chi'n cytuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, mai dim ond un peth y mae'r blaid Dorïaidd yng Nghymru yn ei gynrychioli erbyn hyn sef brad economaidd—brad ynghylch yr addewidion dros drydaneiddio, brad ynghylch morlyn llanw Abertawe a nawr brad llwyr ynghylch arian yr UE?
Wel, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am hynny a diolch iddo am ein hatgoffa ni o'r rheswm pam mae Cymru wedi bod yn gymwys am arian Ewropeaidd dros y blynyddoedd hyn, sef oherwydd ein bod wedi gorfod ymdopi â chanlyniadau dull y Blaid Geidwadol o ymdrin ag economi Cymru yn ystod yr 1980au—eu hanes cywilyddus o ddad-ddiwydianeiddio, eu hanes cywilyddus o ymosod ar y diwydiant gweithgynhyrchu. Nid ydynt yn gwybod am y manteision yn sgil cyllid Ewropeaidd, wrth gwrs, oherwydd dydyn nhw byth yn mynd yno—dydyn nhw byth yn mynd i'r rhannau hynny o Gymru lle gwnaeth eu polisïau achosi cymaint o ddinistr a lle mae economïau a chymunedau yn dal yn adfer o'r ffordd y gwnaethon nhw gyflawni eu cyfrifoldebau, ac, yn wir, y polisïau y maen nhw'n parhau i fynd ar eu trywydd yma heddiw, polisïau cyni ar y naill law a gwrthod cadw at y sicrwydd a gynigiwyd i bobl Cymru na fyddem yn colli ceiniog o gyllid Ewropeaidd.
Mae'r gronfa ffyniant gyffredin, Dirprwy Lywydd, yn gronfa uncorn, onid yw? Mae pawb wedi clywed amdani, a neb wedi ei gweld erioed, ac yn sicr dydyn ni ddim eisiau ei gweld hi yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.