5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Y wybodaeth ddiweddaraf am Fuddsoddi Rhanbarthol ar ôl Brexit

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 16 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:04, 16 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad ar fuddsoddi rhanbarthol ar ôl Brexit a diolch i chi am gydnabod gwaith y Pwyllgor Cyllid yn ei adroddiad, 'Y paratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido’r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru'—argymhellion allweddol, na fyddant, wrth gwrs, yn peri unrhyw syndod, gan arwain o ran blaenoriaethau negodiadau gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r fargen gyllido orau bosib i wneud yn siŵr nad yw Cymru geiniog yn waeth ei byd ar ôl Brexit, fel y nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', sydd wedi sefyll prawf amser dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Hoffwn hefyd holi ynghylch y posibiliadau o gael cyllid ar ôl Brexit, yn enwedig o ran cronfa ffyniant gyffredin y DU, gan ganolbwyntio'n arbennig ar y rhwystredigaeth yr ydym ni wedi ei theimlo, yn y Pwyllgor Cyllid ac, yn wir, yn y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, am y diffyg ymgysylltu wrth lunio, fel y dywedwch chi, y cyfle i helpu i lunio—Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol—y gronfa hon. Cafodd y Pwyllgor Cyllid lythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yr wythnos diwethaf sy'n sôn am adroddiad ein hymchwiliad. Yn ei lythyr, mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn cyfeirio at gronfa ffyniant gyffredin y DU, ac mae'n dweud 'ein bod yn bwriadu ymgynghori' ar hyn 'yn gyhoeddus... cyn diwedd 2018'.

Wel, pan wahoddwyd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gynharach eleni i ddod i'r pwyllgor ynglŷn â'r ymchwiliad hwn, gwrthododd y gwahoddiad hwnnw, gan ddweud nad oedd yn credu bod angen iddo fod yn bresennol yn bersonol, ond yn dweud wrthym ni fod hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth ac 'y byddant yn ymgysylltu â chi ar y cyfle cyntaf'. Wel, roedd hynny ym mis Mai; rydym ni bellach ym mis Hydref gyda'r llythyr hwn yn tynnu ein sylw, yn wir, at ddatganiad ysgrifenedig ar 24 Gorffennaf a wnaed gan neb llai nag ein cyn-Aelod Cynulliad Arglwydd Nick Bourne, a wnaeth ddatganiad ar 24 Gorffennaf. Ac fe wnaeth, yn ei ddatganiad, gyfeirio at gronfa ffyniant gyffredin y DU yn y gwledydd datganoledig, gan ddweud y bydd Llywodraeth y DU yn parchu'r setliadau datganoli ac yn ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod y gronfa'n gweithio ar gyfer lleoedd ar draws y DU.

Terminoleg anarferol o ran y berthynas sydd gennym ni—o ran parch a negodiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Ysgrifennydd Cyllid wneud sylw ar hyn, gwneud sylw ar yr hyn a ddigwyddodd ers y gwnaethpwyd y datganiad ysgrifenedig hwnnw, a sut, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o hyn.

Nawr, rwyf wedi dwyn ynghyd sefydliadau menywod i ffurfio'r rhwydwaith Menywod yng Nghymru dros Ewrop, ac un o'r prif bryderon y mae amrywiaeth eang o sefydliadau wedi ei grybwyll yw effaith penderfyniadau cyllidol yn y dyfodol ar ôl Brexit, yn enwedig o ran cronfa ffyniant gyffredin y DU. Mae llawer o sefydliadau yn y trydydd sector, y sector cyhoeddus a'r sector preifat sydd eisiau bod yn rhan o'r drafodaeth hon am y gronfa newydd hon.

A ydych chi'n derbyn barn ac argymhellion y Pwyllgor Cyllid trawsbleidiol bod cronfeydd strwythurol yr UE wedi bod â phwyslais clir ar hyrwyddo cydraddoldeb, mynd i'r afael â thlodi, cefnogi hawliau dynol, gyda nifer sylweddol o brosiectau wedi eu cefnogi gan yr UE yn canolbwyntio ar gefnogi menywod?