Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 16 Hydref 2018.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl anabl i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau a'u breuddwydion. Nid yw hon yn dasg hawdd, oherwydd mae gofyn inni weithio'n galed i chwalu'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag cyflawni uchelgeisiau o'r fath. Mae hyn yn cynnwys rhwystrau corfforol, boed mewn adeiladau, trefi neu yng nghefn gwlad, ond hefyd yn cynnwys y muriau a'r rhwystrau a grëir gan sefydliadau a chan agweddau pobl. Mae pobl anabl yn dweud wrthym, dro ar ôl tro, mai'r rhain yw'r rhwystrau sy'n peri'r rhwystredigaeth fwyaf iddyn nhw ac sydd yn eu hatal rhag byw y bywyd a ddymunant, yn fwy nag unrhyw gyfyngiadau o ran eu cyrff eu hunain.
Mae Arolwg Cenedlaethol 2017-18 ar gyfer data Cymru yn dangos bod llai o fodlonrwydd bywyd yn gyffredinol ymysg pobl ag anabledd neu salwch cyfyngus a hirsefydlog nag ymysg pobl eraill. Y sgôr cymedrig ar gyfer y rhai nad oes ganddyn nhw anabledd yw wyth allan o 10, ond dim ond 7.2 yw'r sgôr ar gyfer pobl anabl. Mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn gofyn am weithio mewn partneriaeth wirioneddol. Yn benodol, rydym yn gwybod y byddwn yn gwneud mwy o gynnydd ac yn cael canlyniadau gwell drwy weithio gyda phobl anabl, er mwyn inni allu deall y materion yn iawn a dod o hyd i atebion sy'n gweithio.
Yr wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein fframwaith a'n cynllun gweithredu dan y teitl 'Gweithredu ar Anabledd: yr Hawl i Fyw'n Annibynnol'. Mae'r ddogfen hon yn disodli ein fframwaith blaenorol ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2013. Datblygwyd y fframwaith newydd o ganlyniad i lawer iawn o ymgysylltu dros ddwy flynedd bron â phobl anabl a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli. Mae gwaith wedi ei wneud mewn gweithdai ar hyd a lled Cymru gan grwpiau bach o bobl sydd ag arbenigedd a phrofiad o amrywiaeth eang o anableddau, a hynny drwy gannoedd o negeseuon e-bost, llythyrau a galwadau ffôn a thrwy sgyrsiau mewn cartrefi, gweithleoedd, ysgolion a chymunedau.
Mae ein fframwaith newydd yn nodi sut yr ydym yn cyflawni ein hymrwymiadau dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Mae'n tynnu sylw at swyddogaeth deddfwriaeth allweddol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb'. Wrth wraidd yr holl fframwaith mae'r model cymdeithasol o anabledd, y dull sy'n cydnabod yr angen am drawsnewid cymdeithas, a chael gwared ar y rhwystrau fel y gall pobl anabl gyfranogi'n llawn.
Mae'r fframwaith newydd yn canolbwyntio ar faterion allweddol a nodwyd gan bobl anabl, a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ei hun. Yn aml mae'r rhain yn gyfystyr â'i gilydd, er enghraifft, yr angen i helpu pobl anabl sy'n ddi-waith ac sy'n awyddus i weithio i ddod o hyd i swyddi. Mae 75 mil o bobl anabl yng Nghymru wrthi'n chwilio am waith neu'n awyddus i weithio. Yn rhy aml, maen nhw'n cael eu dal yn ôl gan rwystrau y tu hwnt i'w rheolaeth, fel systemau sefydliadol ac agweddau pobl eraill, yn ogystal â rhwystrau ffisegol ac amgylcheddol. Dim ond 45 y cant o bobl anabl o oedran gweithio yng Nghymru sy'n gweithio ar hyn o bryd, o'i gymharu ag 80 y cant o'r bobl nad ydyn nhw'n anabl. Mae hwn yn fwlch cyflogaeth anabledd syfrdanol o 35 pwynt canran. I fynd i'r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, pobl anabl a'u cyrff cynrychioliadol, er mwyn deall y rhwystrau presennol i gyflogaeth yn well ac, yn hollbwysig, y camau sydd eu hangen i gyflawni newid gwirioneddol. Mae llawer o'r ymrwymiadau a nodir yn ein cynllun cyflogadwyedd yn ceisio mynd i'r afael â'r bwlch cyflogaeth anabledd hwn. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r problemau, gan gynnwys agweddau cyflogwyr, dyluniad gwaith ac arferion gweithio. Byddwn yn cyhoeddi targed ar gyfer cyflogaeth ac anabledd erbyn diwedd y flwyddyn i danlinellu ein hymrwymiad i'r agenda hon.
Wedi canolbwyntio am ychydig funudau ar gyflogaeth, gadewch i mi gydnabod hefyd nad hwn yw'r unig fater neu hyd yn oed y mater pwysicaf i bob unigolyn anabl. Gwyddom fod angen gweithredu'n eang, a bydd y cynllun gweithredu newydd yn adlewyrchu hyn. Beth bynnag fo'r materion sy'n cael eu trafod, mae pobl anabl wedi dweud wrthym fod gweithredu lleol yn hanfodol. Felly lluniwyd ein fframwaith newydd i roi anogaeth gref i wasanaethau cyhoeddus, cyflogwyr a sefydliadau ar bob lefel yng Nghymru i gymryd sylw o'r ymrwymiadau a nodir yn y fframwaith, a'u hefelychu cymaint â phosibl.
Pan gaiff ei gyhoeddi yr wythnos nesaf, byddwch yn gweld bod strwythur y fframwaith yn newydd, gyda'r brif ddogfen yn nodi'r egwyddorion, y cyd-destun cyfreithiol a'r ymrwymiadau sy'n sail i'n holl waith gyda phobl anabl ac ar eu cyfer. Ategir hynny gan gynllun gweithredu, sy'n tynnu sylw at y prif gamau gweithredu sy'n cael eu cyflawni gan neu dan arweiniad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Bydd y fframwaith ar gael mewn amryw o fersiynau hwylus.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu gyda'r broses hon, ac yn enwedig y grŵp llywio sydd wedi ei goruchwylio, dan arweiniad Anabledd Cymru. Hoffwn hefyd ddiolch, yn benodol, i'r plant a'r bobl ifanc sydd wedi cyfrannu at y broses o lunio'r fframwaith. Maen nhw wedi helpu i sicrhau mai ein dull ni yw'r un cymwys ar gyfer pob oedran, a'i fod yn addas i'r dyfodol. Cefnogi pobl i fyw eu bywydau yn y ffordd y maen nhw'n ei dewis yw'r peth iawn i'w wneud. Rwy'n cymeradwyo'r fframwaith hwn ar gyfer annog camau gweithredu gydag ac ar gyfer pobl anabl ledled Cymru gyfan. Diolch.