– Senedd Cymru am 4:14 pm ar 16 Hydref 2018.
Felly, eitem 7, datganiad gan arweinydd y tŷ, 'Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol', a galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl anabl i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau a'u breuddwydion. Nid yw hon yn dasg hawdd, oherwydd mae gofyn inni weithio'n galed i chwalu'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag cyflawni uchelgeisiau o'r fath. Mae hyn yn cynnwys rhwystrau corfforol, boed mewn adeiladau, trefi neu yng nghefn gwlad, ond hefyd yn cynnwys y muriau a'r rhwystrau a grëir gan sefydliadau a chan agweddau pobl. Mae pobl anabl yn dweud wrthym, dro ar ôl tro, mai'r rhain yw'r rhwystrau sy'n peri'r rhwystredigaeth fwyaf iddyn nhw ac sydd yn eu hatal rhag byw y bywyd a ddymunant, yn fwy nag unrhyw gyfyngiadau o ran eu cyrff eu hunain.
Mae Arolwg Cenedlaethol 2017-18 ar gyfer data Cymru yn dangos bod llai o fodlonrwydd bywyd yn gyffredinol ymysg pobl ag anabledd neu salwch cyfyngus a hirsefydlog nag ymysg pobl eraill. Y sgôr cymedrig ar gyfer y rhai nad oes ganddyn nhw anabledd yw wyth allan o 10, ond dim ond 7.2 yw'r sgôr ar gyfer pobl anabl. Mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn gofyn am weithio mewn partneriaeth wirioneddol. Yn benodol, rydym yn gwybod y byddwn yn gwneud mwy o gynnydd ac yn cael canlyniadau gwell drwy weithio gyda phobl anabl, er mwyn inni allu deall y materion yn iawn a dod o hyd i atebion sy'n gweithio.
Yr wythnos nesaf, byddwn yn cyhoeddi ein fframwaith a'n cynllun gweithredu dan y teitl 'Gweithredu ar Anabledd: yr Hawl i Fyw'n Annibynnol'. Mae'r ddogfen hon yn disodli ein fframwaith blaenorol ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2013. Datblygwyd y fframwaith newydd o ganlyniad i lawer iawn o ymgysylltu dros ddwy flynedd bron â phobl anabl a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli. Mae gwaith wedi ei wneud mewn gweithdai ar hyd a lled Cymru gan grwpiau bach o bobl sydd ag arbenigedd a phrofiad o amrywiaeth eang o anableddau, a hynny drwy gannoedd o negeseuon e-bost, llythyrau a galwadau ffôn a thrwy sgyrsiau mewn cartrefi, gweithleoedd, ysgolion a chymunedau.
Mae ein fframwaith newydd yn nodi sut yr ydym yn cyflawni ein hymrwymiadau dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Mae'n tynnu sylw at swyddogaeth deddfwriaeth allweddol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, 'Ffyniant i Bawb'. Wrth wraidd yr holl fframwaith mae'r model cymdeithasol o anabledd, y dull sy'n cydnabod yr angen am drawsnewid cymdeithas, a chael gwared ar y rhwystrau fel y gall pobl anabl gyfranogi'n llawn.
Mae'r fframwaith newydd yn canolbwyntio ar faterion allweddol a nodwyd gan bobl anabl, a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ei hun. Yn aml mae'r rhain yn gyfystyr â'i gilydd, er enghraifft, yr angen i helpu pobl anabl sy'n ddi-waith ac sy'n awyddus i weithio i ddod o hyd i swyddi. Mae 75 mil o bobl anabl yng Nghymru wrthi'n chwilio am waith neu'n awyddus i weithio. Yn rhy aml, maen nhw'n cael eu dal yn ôl gan rwystrau y tu hwnt i'w rheolaeth, fel systemau sefydliadol ac agweddau pobl eraill, yn ogystal â rhwystrau ffisegol ac amgylcheddol. Dim ond 45 y cant o bobl anabl o oedran gweithio yng Nghymru sy'n gweithio ar hyn o bryd, o'i gymharu ag 80 y cant o'r bobl nad ydyn nhw'n anabl. Mae hwn yn fwlch cyflogaeth anabledd syfrdanol o 35 pwynt canran. I fynd i'r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, pobl anabl a'u cyrff cynrychioliadol, er mwyn deall y rhwystrau presennol i gyflogaeth yn well ac, yn hollbwysig, y camau sydd eu hangen i gyflawni newid gwirioneddol. Mae llawer o'r ymrwymiadau a nodir yn ein cynllun cyflogadwyedd yn ceisio mynd i'r afael â'r bwlch cyflogaeth anabledd hwn. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r problemau, gan gynnwys agweddau cyflogwyr, dyluniad gwaith ac arferion gweithio. Byddwn yn cyhoeddi targed ar gyfer cyflogaeth ac anabledd erbyn diwedd y flwyddyn i danlinellu ein hymrwymiad i'r agenda hon.
Wedi canolbwyntio am ychydig funudau ar gyflogaeth, gadewch i mi gydnabod hefyd nad hwn yw'r unig fater neu hyd yn oed y mater pwysicaf i bob unigolyn anabl. Gwyddom fod angen gweithredu'n eang, a bydd y cynllun gweithredu newydd yn adlewyrchu hyn. Beth bynnag fo'r materion sy'n cael eu trafod, mae pobl anabl wedi dweud wrthym fod gweithredu lleol yn hanfodol. Felly lluniwyd ein fframwaith newydd i roi anogaeth gref i wasanaethau cyhoeddus, cyflogwyr a sefydliadau ar bob lefel yng Nghymru i gymryd sylw o'r ymrwymiadau a nodir yn y fframwaith, a'u hefelychu cymaint â phosibl.
Pan gaiff ei gyhoeddi yr wythnos nesaf, byddwch yn gweld bod strwythur y fframwaith yn newydd, gyda'r brif ddogfen yn nodi'r egwyddorion, y cyd-destun cyfreithiol a'r ymrwymiadau sy'n sail i'n holl waith gyda phobl anabl ac ar eu cyfer. Ategir hynny gan gynllun gweithredu, sy'n tynnu sylw at y prif gamau gweithredu sy'n cael eu cyflawni gan neu dan arweiniad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Bydd y fframwaith ar gael mewn amryw o fersiynau hwylus.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu gyda'r broses hon, ac yn enwedig y grŵp llywio sydd wedi ei goruchwylio, dan arweiniad Anabledd Cymru. Hoffwn hefyd ddiolch, yn benodol, i'r plant a'r bobl ifanc sydd wedi cyfrannu at y broses o lunio'r fframwaith. Maen nhw wedi helpu i sicrhau mai ein dull ni yw'r un cymwys ar gyfer pob oedran, a'i fod yn addas i'r dyfodol. Cefnogi pobl i fyw eu bywydau yn y ffordd y maen nhw'n ei dewis yw'r peth iawn i'w wneud. Rwy'n cymeradwyo'r fframwaith hwn ar gyfer annog camau gweithredu gydag ac ar gyfer pobl anabl ledled Cymru gyfan. Diolch.
Diolch i chi am eich datganiad. Rydych yn nodi bod y fframwaith newydd a'r cynllun, 'Gweithredu ar Anabledd: yr Hawl i Fyw'n Annibynnol' yn disodli'r fframwaith gweithredu ar fyw'n annibynnol. Wrth gwrs, caiff y fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol ei enwi'n benodol yn rhan 2 y cod ymarfer ar gyfer y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. A wnewch chi gadarnhau y byddwch, felly, yn diweddaru eich codau a'ch rheoliadau i adlewyrchu'r newid?
O ran ei gyflwyno, sut fyddwch yn sicrhau y deellir hyn yn well gan gyrff y sector cyhoeddus a'r comisiynwyr? Rwy'n rhoi un enghraifft. Y llynedd, roedd un o'm hetholwyr i, a oedd yn hemoffilig, yn ddyn ifanc a gafodd gynnig swydd gan Gyngor Sir y Fflint. Tynnwyd y cynnig o swydd yn ôl wedyn ar gyngor meddyg galwedigaethol y cyngor, fel yr oedden nhw'n galw'r unigolyn, er bod yr etholwr a'i deulu yn dweud nad oedd gan y clinigwr hwnnw ond ychydig o wybodaeth am hemoffilia, ac roedd gan yr etholwr a'i deulu ddogfennaeth gan ei glinigwyr arbenigol ei hun yn dangos ei fod yn gwbl alluog i wneud y gwaith. Er hynny, ystyfnigodd y cyngor a gwrthod perthnasedd y fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol yn y cyd-destun hwn, er gwaethaf y ffaith imi gyfeirio at hynny mewn gohebiaeth â nhw.
Rydych yn cyfeirio at 75,000 o bobl anabl sydd wrthi'n chwilio am waith, ac, yn amlwg, rwy'n llwyr dderbyn hynny. Mae bron pob unigolyn anabl yr wyf yn ei gyfarfod, neu yn gweithio gydag ef, neu sydd yn gyfaill i mi, os nad ydynt mewn gwaith eisoes—rhy ychydig sydd mewn gwaith, yn anffodus,—maen nhw'n dymuno bod. Mae eisiau swydd arnyn nhw, maen nhw'n awyddus i gael eu drws ffrynt eu hunain, maen nhw'n dyheu am eu hannibyniaeth. Wrth gyflwyno hyn a mynd i'r afael â'r rhwystrau y tu hwnt i'w rheolaeth, yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, sut fyddwch yn sicrhau na chaiff y gwaith cyfochrog sy'n digwydd eisoes ei ailadrodd neu ei ddyblygu, er enghraifft, gyda thimau partneriaeth gymunedol yr Adran Gwaith a Phensiynau a gaiff eu recriwtio o blith pobl y tu allan i'r llywodraeth, y tu allan i'r gwasanaeth sifil, sydd â phrofiad personol o fyw gydag anabledd, ond dim ond ar gontract 12 mis i ddechrau. Rwy'n gobeithio y gallech ystyried ymuno â mi a'r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, yn dilyn tystiolaeth ddiweddar ganddyn nhw, i annog Llywodraeth y DU i ymestyn hynny y tu hwnt i 12 mis fel y gall yr anogwyr gwaith ac eraill gael gwell dealltwriaeth o'r rhwystrau a wynebir gan bobl anabl.
Sut fyddwch chi'n ymgysylltu, neu sut rydych chi'n ymgysylltu â Remploy, sy'n cyflawni rhaglen waith ac iechyd Llywodraeth y DU? Er nad yw'n orfodol ond i rai sy'n ddi-waith am fwy na dwy flynedd, canfuwyd bod dros 80 y cant o'r bobl ar y rhaglen yn bobl anabl â chyflyrau iechyd hirdymor sydd wedi ymuno'n wirfoddol â'r rhaglen honno oherwydd eu bod yn dymuno cael gwaith? Yn yr un modd, sut fyddwch yn cefnogi mentrau fel canolfan mentrau Wrecsam, sydd wedi trefnu digwyddiad cyflogaeth awtistiaeth y dyfodol ar 25 Ionawr y flwyddyn nesaf? Rwy'n siŵr y byddai gennych ddiddordeb yn hynny, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau sut yr hoffech efallai ymgymryd â gweithio gyda Hafal, sydd â rhan hefyd, a Phrifysgol Glyndŵr.
Sut ydych yn ymateb i'r pryder a fynegwyd yn adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree 'Tlodi yng Nghymru 2018' sy'n dweud, wrth sôn am gyflogaeth, mai dim ond 5 y cant o weithlu Llywodraeth Cymru ei hun sy'n bobl anabl, er eu bod yn cynnwys 22 y cant o'r boblogaeth? Ac o ystyried y ffigurau ehangach a roddwyd gennych, yn yr un modd sut ydych yn rhoi sylw i'r pryder a godir ganddyn nhw fod
39% o'r bobl anabl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, o'i gymharu â 22% o'r bobl nad ydyn nhw'n anabl, unwaith eto, bron bob amser oherwydd y rhwystrau model cymdeithasol hynny yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw yn eich datganiad?
A wnewch chi ailystyried dull Llywodraeth Cymru o gael gwared ar grant byw'n annibynnol Cymru? Ceir pryder eang o hyd ymhlith y rhai sydd yn derbyn neu wedi bod yn derbyn y grant hwnnw y bydd y diffyg clustnodi, y gofyniad i gytuno ag awdurdodau lleol ar yr hyn sy'n llesol ar eu cyfer nhw, neu'r hyn y gallai eu hanghenion fod, yn cael gwared ar eu hannibyniaeth. Edrychwch ar yr hyn a ddigwyddodd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle gwnaeth y Llywodraethau yno, sydd â syniadau gwleidyddol gwahanol iawn i'm rhai i, y peth iawn a sefydlu corff annibynnol yn cael ei redeg gan sefydliad cyfatebol i Anabledd Cymru yno. Nawr, nid wyf am eu henwi nhw, oherwydd fe'm clywsoch yr wythnos diwethaf a'r mis diwethaf dro ar ôl tro yn dweud bod cynlluniau trydydd sector newydd yn canfod eu bod wedi colli eu cyllid, neu y byddan nhw'n colli eu cyllid, pan maen nhw'n darparu bywydau annibynnol, a rhaglenni atal cynnar sy'n galluogi pobl i gael rheolaeth ar eu bywydau eu hunain, gan gymryd y pwysau oddi ar y gwasanaethau statudol sydd wedi colli eu cyllid, oherwydd, yn anochel, mae'r comisiynwyr statudol wedi penderfynu na ddylen nhw fod yn flaenoriaeth. Ac felly, oherwydd comisiynu ffôl, cyllidebu ffôl, maen nhw'n pentyrru miliynau o gostau ychwanegol diangen ar wasanaethau statudol. Fe wnaethoch chi, yr wythnos diwethaf, sylwadau ar hynny neu ymateb i hynny, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud ychydig o eiriau, fel y gall y bobl hynny yr effeithir arnyn nhw gan hyn glywed rhywfaint, gobeithio, o sicrwydd pellach.
Nawr, mae pum mlynedd a hanner—
A ydych chi ar fin dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Iawn. Roeddwn i ar fin dirwyn i ben, felly, drwy ofyn ichi weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad i gydnabod a mynd i'r afael â'r rhwystrau i fyw'n annibynnol i bobl anabl a nodwyd gan, er enghraifft, y bobl anabl sy'n ceisio cael mynediad i gyfarfod ar y cyd yfory o'r Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol—anabledd, pobl hŷn a thai ac fel arall, sydd yn ei chael hi'n—. Wel, mae fy staff yn cael anhawster mawr i gael y Comisiwn i ddarparu mannau parcio penodol i'r anabl a chael gwared ar y rhwystrau i gael mynediad i'r adeilad hwn, a phryderon tebyg parhaus ynghylch y rampiau y tu allan.
Ac yn olaf, a wnewch chi helpu—a rhoddaf un enghraifft i chi—Sir y Fflint, oherwydd mae gennyf rai achosion nad wyf wedi sôn amdanyn nhw o'r blaen gyda chi—sut i'w helpu i ddeall yn well beth mae hyn i gyd yn ei olygu. Rhoddaf ddwy enghraifft yn gyflym iawn i chi a byddaf yn dirwyn i ben. Un: cefais gyfarfod gyda phrif swyddog canolfan fforwm anabledd Sir y Fflint ar gyfer byw'n annibynnol a swyddogion yn y cyngor ynghylch anallu defnyddwyr cadeiriau olwyn i ddefnyddio'r llwybr arfordirol. Dywedwyd wrthym y bydden nhw'n dweud wrthym ni beth ddylai maint y cadeiriau olwyn fod. Rwy'n amau y gallwch gydnabod bod hyn nid yn unig yn fater o dorri amodau'r model cymdeithasol mewn modd difrifol, ond hefyd Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth Cymru.
Ac yn olaf, yn y cyd-destun hwn, mae grŵp o oedolion a phlant awtistig yr wyf i wedi bod yn gweithio gyda nhw ers blynyddoedd wedi bod yn ceisio cael cyfarfod bord gron gyda Sir y Fflint ar lefel uwch, amlddisgyblaethol, ers dros saith mis erbyn hyn, dros 150 o ddiwrnodau, i drafod y rhwystrau cymdeithasol, seicolegol ac iechyd y maen nhw'n eu hwynebu. Oherwydd gohirio, oedi a chanslo, ni ddigwyddodd y cyfarfod hwnnw. Ond fe wnaethom ni godi'r mater gyda'r prif weithredwr. Rhoddodd ef y bai ar y bobl awtistig, sy'n dioddef mwy o ofid dwys, sydd ar ben eu tennyn, sy'n cysylltu â mi i ddweud eu bod yn ystyried hunanladdiad oherwydd yr argyfwng y cawsant eu gwthio iddo gan fethiant yr awdurdod lleol sy'n cynnal y gwasanaeth awtistiaeth integredig, sy'n methu â deall ystyr anghenion cyfathrebu a chymdeithasol pobl awtistig. Mae hyn, felly, yn ysgogi sefyllfa lle mae ei swyddogion ei hun yn gorfod ymdopi â sefyllfaoedd y mae'r prif weithredwr yn eu defnyddio wedyn fel esgus i beidio â chyfarfod â'r bobl sydd â'r atebion.
Dyna beth oedd amrywiaeth eang iawn o faterion yn cael eu codi. Gwnaf fy ngorau i fynd i'r afael â'r rhan fwyaf ohonyn nhw. O ran y mater di-fflach ynghylch diweddaru'r rheoliadau ac ati, yn amlwg, bwriadwn wneud yn siŵr y bydd y rheoliadau sydd angen eu diweddaru yn cael eu diweddaru pan fydd y fframwaith ar waith, a'r ymgynghoriadau wedi eu cwblhau. Ac rwyf am achub ar y cyfle hwn i ddweud ein bod yn bryderus iawn y bydd hyn yn llwyr adlewyrchu barn pobl anabl a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli. Ac, fel y dywedais yn y datganiad, rydym ni wedi cysylltu â llawer o unigolion yn ogystal â sefydliadau cynrychioliadol, ac rydym yn awyddus i annog hynny i ddigwydd. Byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno hyn. Os oes gan yr Aelod unrhyw beth penodol y byddai'n hoffi i ni roi sylw iddo o ran cyflwyniad a gwybodaeth, rwy'n fwy na pharod i drafod hynny gydag ef. Mae croeso i bob syniad, i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ledaenu mor eang â phosibl.
O ran gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, rydym ni wedi gweithio'n agos iawn â nhw. Mae fy nghyd-Aelod Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn ei chynllun cyflogadwyedd, wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod yr holl raglenni sydd ar gael yn dod at ei gilydd dan y teitl 'Cymru'n Gweithio'. Y syniad yw—maddeuwch y gyfatebiaeth, Dirprwy Lywydd—cuddio'r mecanwaith, wrth i bobl ddod i ofyn am gymorth. Nid mater iddyn nhw yw eu bod wedi dod i'r lle iawn neu yn y ffrwd gywir, ond eu bod yn cael cymorth gan bawb mewn gwirionedd sydd yn helpu o dan y teitl, ac mae hynny'n cynnwys asiantaethau Llywodraeth y DU hefyd, i'w cael ar y trywydd iawn, yn y lle iawn, ar yr amser iawn, ac mae hynny'n cynnwys cael y cymorth anabledd.
Nododd nifer o faterion unigol yr wyf yn fwy na pharod i gwrdd ag ef i'w trafod y tu allan. Ac os oes unrhyw beth y gallaf ei wneud i sicrhau bod cyfarfodydd yn digwydd, rwy'n hapus i wneud hynny ochr yn ochr â'm cyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus. Os gallwn ei helpu ef ar y mater penodol hwnnw, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.
Ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, yn y bôn, ei fod yn cytuno â mi mai'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yn y fan yma yw sicrhau bod pob unigolyn anabl yn cael ei ystyried yn unigolyn unigryw yn ei hanfod, a bod y rhwystrau sy'n ei atal rhag cymryd rhan mewn cymdeithas yn cael eu chwalu ac nad ydym yn gweld hyn fel rhywbeth y mae angen iddyn nhw ei wneud er mwyn cael mynediad at bethau. Felly, rwy'n hapus iawn i drafod gydag ef y mater a gododd ynglŷn â gofyn i bobl brynu cadeiriau olwyn o faint arbennig, oherwydd yn sicr nid dyna'r model yr hoffwn i ei weld yn cael ei gyflwyno.
Felly, pan gaiff y cynllun gweithredu ei gyhoeddi, bydd yr Aelod yn gallu gweld bod gennym ni amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â hynny. Byddwn yn ei ymgorffori yn ein cyfarwyddiadau amrywiol i awdurdodau lleol a chyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n comisiynu ac yn y blaen, ond yn bwysicach byddwn yn disgwyl iddyn nhw ac i ni ein hunain yn Llywodraeth Cymru—ac rwy'n fwy na hapus i drafod y mater gyda'r Comisiynydd fel y mae'r Aelod yn ei awgrymu—fod yn gyflogwyr enghreifftiol yn hyn o beth. Credaf y dylem fod yn ailedrych ar ein targedau ni ein hunain a bod ar y blaen trwy'r byd i'r perwyl hwnnw. Ar hyn o bryd, nid wyf wedi fy modloni bod ein targedau mor ymestynnol ag y gallen nhw fod, a byddwn yn ceisio cael y sector cyhoeddus yng Nghymru i arwain y ffordd a dangos i gyflogwyr eraill, yn arbennig yng Nghymru, gan fod yr Aelod yn hollol iawn: oni bai bod ganddyn nhw gyflwr difrifol iawn sy'n cyfyngu ar fywyd, mae pawb yr wyf innau'n ei gyfarfod hefyd yn dymuno gweithio a bod mor annibynnol â phosibl. Felly, bwriadwn gyflwyno'r fframwaith hwnnw yn hynny o beth.
Diolch am y datganiad ar y pwnc pwysig yma ar weithredu ar anabledd a gwella'r cyfleoedd ar gyfer byw yn annibynnol. Mae'r pwnc yn un pwysig, ond gyda phob parch nid yw'r datganiad ei hun yn ein goleuo ni rhyw lawer. Beth sydd yma ydy datganiad yn dweud bod cyhoeddiad ar ei ffordd. Yr wythnos nesaf, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi fframwaith newydd a chynllun gweithredu—dyna mae'r datganiad yma'n dweud wrthym ni yn y bôn. Rŵan, nid oes gen i syniad beth fydd cynnwys y fframwaith, nid oes gen i syniad beth fydd ymateb pobl anabl iddo, nac ymateb yr elusennau a'r grwpiau sy'n cynrychioli pobl anabl. Felly, fy nghwestiwn cyntaf ydy: oni fyddai wedi bod yn well cyhoeddi'r datganiad ar ôl ichi gyhoeddi'r fframwaith newydd fel bod gyda ni rhywbeth i gnoi cil arno fo, rhywbeth i'w drafod, rhywbeth i ymateb iddo fo, a rhywbeth i'w gloriannu?
Yn absenoldeb unrhyw beth i'r gwrthbleidiau graffu arno fo, rwyf am ofyn ichi am rhywbeth sydd yn bwysig i bobl anabl ond sydd ddim yn y datganiad, sef grant byw'n annibynnol Cymru. Mae Mark Isherwood wedi sôn am hwn yn barod. Rwyf am ddod ato fo o gyfeiriad ychydig yn wahanol. Fel y gwyddoch chi, mae'n bolisi gan eich plaid chi i gadw'r grant yma ac i beidio â chaniatáu i bobl anabl gael eu cefnogi o gyllidebau cyffredinol cynghorau. Roedd eich cynhadledd yn ddoeth iawn i fabwysiadau'r polisi hwnnw. Felly, a gaf i ofyn hyn? Yn absenoldeb unrhyw beth sylweddol yn eich datganiad chi heddiw yma, a gaf i ofyn ail gwestiwn—ac fy nghwestiwn olaf i—sef: pryd fydd Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur yn mabwysiadu polisi'r Blaid Lafur a chyhoeddi y bydd y grant byw'n annibynnol yn parhau a ddim yn diflannu erbyn 2020?
Rwy'n cydnabod pwynt cyntaf Siân Gwenllian. Mae'r amseru bob amser yn broblem. Hoffwn yn fawr iawn, er hynny, dynnu sylw at y lansiad, a rhoi cymaint o gyhoeddusrwydd ag y bo modd iddo ac annog cymaint o ymateb ag y bo modd. Byddaf, Dirprwy Lywydd, pan fydd gennym yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yn dychwelyd i'r Siambr i roi datganiad arall i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu craffu ar ei sylwedd hefyd. Credaf fod hwnnw'n bwynt teg. Mae bob amser yn anodd iawn gwybod a yw'n well ei wneud yn gyntaf neu wedyn, ond roeddwn yn awyddus iawn i bwysleisio (a) gwaith pobl anabl a'u cynrychiolwyr ledled Cymru wrth lunio'r fframwaith yr ydym ar fin ymgynghori arno, ac yna'r cyfle i ymgynghori ymhellach. Ein dyhead mwyaf yw sicrhau mai dyma'r peth gorau posib ar gyfer y bobl anabl eu hunain. Felly, rwy'n derbyn ei phwynt hi. Credaf ei fod yn bwynt dilys, ond penderfyniad oedd hyn mewn gwirionedd i dynnu sylw at y fframwaith cyn i ni ei lansio i wneud yn siŵr bod yr Aelodau yn ymwybodol ohono ac yn disgwyl amdano. Yna, yn bendant byddaf yn dod yn ôl gyda'r sylwedd ar ôl i ni gael yr ymgynghoriad . Credaf fod hwnnw'n bwynt teg.
O ran y grant byw'n annibynnol, mae fy nghyd-Aelod y Gweinidog y tu ôl i mi newydd roi nodyn i mi yn garedig iawn i ddweud wrthyf—fel yr eglurais i Siân Gwenllian pan oeddwn yn ateb cwestiynau ar fy mhortffolio fy hun, yr wythnos diwethaf oedd hynny rwy'n credu, mae gennyf i swyddogaeth oruchwylio gyffredinol ar gyfer Llywodraeth Cymru a swyddogaeth i ddylanwadu ar gydweithwyr, ond mewn gwirionedd mae llawer o'r manylion hyn mewn gwahanol bortffolios. Felly, mewn gwirionedd, mae'r grant penodol hwnnw ym mhortffolio Gweinidog sy'n gydweithiwr i mi. Ond rwy'n clywed bod y cyfnod pontio yn mynd rhagddo'n dda iawn—rydym yn ei fonitro'n agos iawn. Maen nhw'n cwblhau gwerthusiad yn annibynnol o brofiad pobl—rydym yn cyflawni hyn o dan y model cymdeithasol, felly, 'Beth sy'n bwysig i mi'. Rydym wedi cael y sgwrs hon gyda'n gilydd yn weddol aml. Mae'n ymwneud i raddau helaeth â gwneud yn siŵr bod yr hyn a gyflwynwn yn bwysig a'i fod yn gweithio ac mai dyna ddymuniad pobl mewn gwirionedd. Ein profiad â phobl sy'n pontio yw ei fod wedi bod yn dda iawn, i ateb eich cwestiwn, ond rwyf yn derbyn eich pwynt gwreiddiol a byddaf yn ymrwymo i ddod yn ôl gyda'r sylwedd.
A gaf i yn gyntaf oll groesawu datganiad Llywodraeth Cymru? Rwy'n siŵr na fyddai unrhyw un yn anghytuno ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu pobl anabl i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau a'u breuddwydion—dylai pawb allu gwneud hynny. Cytunaf nad yw hon yn dasg hawdd, oherwydd mae'n gofyn inni weithio'n galed i chwalu'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag uchelgeisiau o'r fath.
Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, ceir 75,000 o bobl anabl yng Nghymru sydd wrthi'n chwilio am waith neu a fyddai'n hoffi gweithio. Mae hynny'n bron i 2,000 fesul etholaeth. A gaf i ddatgan buddiant? Mae fy chwaer, sydd yn un o'ch etholwyr chi, yn un ohonyn nhw, mewn gwirionedd.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno oni bai bod gennym ni gwotâu neu gymhelliant ariannol, na fydd cyflogwyr nac adrannau personél yn newid yn eu hagweddau? Bydd yn rhaid inni naill ai roi cymhelliant iddyn nhw neu wneud rhywbeth iddyn nhw. Nid oes gwerth mewn dweud, 'Rydym ni'n awyddus ichi gyflogi mwy o bobl anabl'—rydym wedi dweud hynny ers degawdau, ac nid ydyn nhw wedi gwneud hynny. Felly, rwyf i o'r farn bod angen inni wneud rhywbeth llawer mwy rhagweithiol nag o'r blaen.
A gaf i ddweud gair am drafnidiaeth? Mae gennym ni gyfres o gamau syml a allai wneud bywyd pobl anabl yn haws wrth deithio, fel cludiant cyhoeddus yn enwi'r arosfannau ar goedd a chael gwared ar annibendod palmant i helpu'r rhai â nam ar y golwg; cludiant cyhoeddus yn arddangos yr arhosfan nesaf i helpu'r rhai sydd yn drwm eu clyw; hygyrchedd cludiant cyhoeddus i gadeiriau olwyn; llwybrau i groesi ffyrdd; a mwy nag un defnyddiwr cadair olwyn yn gallu defnyddio bws ar yr un pryd. Nid yw'r rhain yn gofyn llawer, ond byddent yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau llawer o'r bobl sy'n dioddef anableddau.
O ran y grant byw'n annibynnol, rwy'n un o'r nifer fawr o bobl, gan gynnwys yn ein plaid ni, sy'n siomedig ei fod wedi dod i ben. Yr hyn yr wyf am ei ofyn yw—. Nid wyf i'n credu y daw yn ei ôl, felly nid wyf am ofyn a fyddwch yn dod ag ef yn ei ôl, oherwydd rwy'n credu mai'r ateb fyddai 'nac ydym'. Ond a gaf i ofyn bod Ysgrifennydd y Cabinet, pa un bynnag bynnag ydyw, yn gofyn bod awdurdodau lleol yn adrodd am eu gwariant yn y maes hwn? Felly, er nad yw'n grant penodol, adroddir yn ôl faint y mae pob awdurdod lleol yn ei wario arno, a chaiff hynny ei adrodd fel y bydd ar gael i bob un ohonom ni. Felly, os yw ein hawdurdod lleol yn gwario llai nag o'r blaen, credaf y byddai llawer ohonom yn awyddus i godi'r mater gyda nhw.
Mae'r Gweinidog yn clywed y neges yn glir iawn, rwy'n credu, ac rwyf i o'r farn bod y pwynt olaf yna wedi ei wneud yn dda iawn. Ie, yn bendant, o ran y pwyntiau ar gludiant cyhoeddus, credaf eu bod hwythau wedi eu gwneud yn dda iawn hefyd, Mike Hedges. Rydym wedi cael llawer o drafodaethau ar wasanaethau bws amrywiol yn eich etholaeth chi sy'n croesi i'm hetholaeth innau, ac ni allwn gytuno mwy ynglŷn â'r cyhoeddiadau, cymhorthion gweledol a hygyrchedd. Cefais sawl sgwrs fuddiol gyda fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â hynny. Rydym yn golygu gwneud yn siŵr y bydd y fframwaith yn cymryd hynny i ystyriaeth.
O ran anogaeth weithredol i gyflogwyr, cefais y fraint fawr o siarad yng nghynhadledd Hyderus o ran Anabledd yn ei etholaeth ef ei hun ychydig wythnosau yn ôl. Dyna'n union oedd hynny—roeddem yn sôn am yr hyn y gellid ei wneud i gymell cyflogwyr. Mae targed Llywodraeth y DU o 1 miliwn o bobl ledled y DU yn golygu tua 55,000 ar gyfer Cymru. Rydym yn awyddus i weithio'n agos iawn gyda nhw i gynyddu hynny i'r 70,000 a nodwyd ganddo, gan sicrhau bod arian Cymru ac arian Llywodraeth y DU yn uno i roi'r cymhelliad gorau i bobl, a bydd hynny'n edrych i weld beth sy'n cymell cyflogwyr, o ran newid eu hagweddau. Yn aml, mae'n ymwneud ag agweddau—nid rhwystr corfforol ydyw mewn gwirionedd. Tynnwyd sylw yn y gynhadledd at y ffaith fod y cyflogwyr yno wedi eu synnu'n fawr i ddarganfod bod y cymhellion ar gael yn hawdd ac yn rhesymol eu pris.
Rwyf hefyd yn ystyried cynllun y mae llawer o elusennau anabledd a'n pobl ein hunain yn Anabledd Cymru wedi gofyn i mi edrych arno, sef rhyw fath o system sgorio sy'n arddangos hygyrchedd i fusnesau arbennig. Nid oes unrhyw reswm pam na allai hynny ymestyn i gyflogwyr hefyd.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, arweinydd y Tŷ, am eich ymateb i gwestiwn Siân Gwenllian, oherwydd roeddwn innau am godi'r un pwynt, ei bod braidd yn anodd cael trafodaeth synhwyrol am fframwaith nad oes neb wedi ei ddarllen eto. Ond rwyf hefyd yn derbyn eich pwynt eich bod yn dymuno tynnu sylw at y ffaith bod ymgynghoriad wedi dechrau, ac rwy'n croesawu'n fawr eich ymrwymiad, ar ddiwedd yr ymgynghoriad, i ddod â'ch cynigion yn ôl i'r Siambr hon, fel y gallwn eu trafod gyda pheth manylder.
Mae gennyf un cwestiwn penodol yn y cyd-destun hwn. Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn yr oeddech yn ei ddweud am atgyfnerthu ymrwymiad y Cynulliad a Llywodraeth Cymru i'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n eithriadol o bwysig. Mae eich datganiad yn cyfeirio at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ac yn cyfeirio at ddeddfwriaeth arall. A wnewch chi gytuno â mi, arweinydd y tŷ—ac mae hyn yn cyfeirio, ar un ystyr, at rai o'r pwyntiau a wnaeth Mike Hedges—bod yn rhaid cael rhywfaint o iawndal cyfreithiol ar gyfer pobl anabl yng Nghymru pan na fodlonir eu hawliau dan y fframwaith newydd? A wnewch chi gytuno â mi—a chredaf y byddai pawb yn y Siambr hon yn cytuno fwy na thebyg—nad yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ymddangos yn fecanwaith effeithiol iawn i bobl anabl ei ddefnyddio pan fyddan nhw'n teimlo fel unigolion nad yw eu hawliau yn cael eu bodloni? Felly, a wnewch chi gytuno i roi ystyriaeth bellach i'r mater a drafodwyd gennym yr wythnos diwethaf pan ystyriwyd y posibilrwydd o ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig i gyfraith Cymru, yng nghyd-destun y trafodaethau ar y fframwaith newydd, a allai roi i bobl anabl hawliau dan gyfraith Cymru i geisio iawndal os nad yw eu hanghenion o dan y fframwaith yn cael eu diwallu, naill ai gan ddarparwyr gwasanaethau neu o bosibl gan gyflogwyr hefyd?
Gwnaf. Mae Helen Mary Jones yn gwneud llawer o bwyntiau da iawn yn y fan yna. Fel y dywedais yn ein dadl ar ei chynnig deddfwriaethol, rwy'n awyddus iawn i weld sut mae deddfwriaeth y fframwaith yn clymu at ei gilydd ar hyn o bryd, beth allai ymgorffori'r confensiwn yn uniongyrchol wneud i hynny neu beidio, a llunio system sy'n rhoi i bobl y budd mwyaf posibl o'r holl ddeddfwriaeth honno o ran eu hawliau, a'u gallu i gael y gwasanaethau a'r hygyrchedd sydd eu heisiau arnyn nhw mewn gwirionedd. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ein trafodaeth ynglŷn â hynny.
Rwy'n awyddus iawn, Dirprwy Lywydd, i wneud yn siŵr ein bod ni, mewn gwirionedd, yn hytrach na haenu pethau ar ben ei gilydd, yn eu llunio'n gyfanwaith di-dor, fel bod gan bobl system agored a thryloyw, sy'n hygyrch ac yn hawdd ei defnyddio ac sydd mewn gwirionedd yn gwella eu bywydau. Dyma'r hyn a fynnwn yma, ac rydym yn pwysleisio i'r bobl hynny sydd ar hyn o bryd yn rhoi rhwystrau yn y ffordd, nad yw honno'n ffordd dderbyniol o ymddwyn yma yng Nghymru.
Diolch i chi am y datganiad ar y fframwaith ar gyfer byw'n annibynnol, sydd i raddau helaeth iawn, wrth gwrs, yn un o'm prif flaenoriaethau gwleidyddol ac mae gennyf brofiad mawr yn y maes. Rwy'n falch o gyfrannu at y datganiad hwn fel un o ymddiriedolwyr Vale People First, ar ôl gweld y gweddnewid ym mywydau pobl ag anableddau dysgu dros y 40 mlynedd diwethaf, ers i'r ymchwiliad i ysbyty Trelái arwain at strategaeth arloesol ar gyfer cau ysbytai arhosiad hir a chael mwy o fyw yn y gymuned. Fel cyn-gynghorydd yn Sir De Morgannwg, cadeiriais Nimrod a gweld gweddnewid yr adsefydlu o ysbyty Trelái. Roedd arddangosfa yn y Senedd yn ddiweddar o gartref cyntaf gwasanaethau cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, a sefydlwyd yn Cathays.
Un o'r camau cyntaf a gymerais fel Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol oedd ariannu a chyflymu'r broses o gau ysbytai arhosiad hir yng Nghymru. Credaf fod cael Dai Lloyd, David Melding ac eraill yn y Siambr yn golygu bod llawer iawn o gefnogaeth drawsbleidiol i hynny. Ond fi oedd y Gweinidog yn 2013 hefyd a wnaeth dderbyn deiseb, a dyna pryd y daeth y Pwyllgor Deisebau i chwarae rhan. Roedd deisebydd o Anabledd Cymru yn galw am fframwaith ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol. Yr hyn oedd yn allweddol oedd ein bod yn sefydlu panel strategol ar draws Lywodraeth Cymru dan arweiniad uwch was sifil. Sicrhawyd ymrwymiad ledled y Llywodraeth i gyflawni'r model cymdeithasol o anabledd, ac mae'n ddiddorol bod gennych mewn gwirionedd ddau Weinidog yma y tu cefn i chi a oedd fel ei gilydd yn allweddol i gyflawniad eich fframwaith mewn gwirionedd, oherwydd oni bai i chi dorri'r seilos a chael y camau trawslywodraethol hynny, ni fyddai gennych chi fframwaith ar gyfer byw'n annibynnol.
Hefyd, fel Helen Mary, rwyf innau yn awyddus i gael gwybod sut yr ydych chi'n gweld hyn fel ffordd o ddarparu'r model cymdeithasol o anabledd, y gwnaethom ni, mewn gwirionedd, ei groesawu yn sesiwn cyntaf y Cynulliad hwn. Sut mae symbylu'r polisi trawslywodraethol hwnnw i ymsefydlu'r fframwaith mewn polisi a deddfwriaeth? Ac a ydych chi'n croesawu gwaith sefydliadau fel Vale People First yn cael ei ailadrodd ledled Cymru, sy'n rhoi arweiniad ar hawliau a grymuso pobl ag anableddau dysgu?
Ydw. Gan ddechrau gyda'r mater diwethaf hwnnw'n gyntaf, rwy'n eu croesawu'n fawr iawn. Un o'r rhesymau yr oeddwn yn awyddus i gyflwyno'r datganiad hwn oedd er mwyn annog grwpiau fel Vale People First i gyflwyno unrhyw beth y maen nhw'n credu ein bod wedi ei adael allan, neu y gallem ei wella, neu y gallem ei ychwanegu at y fframwaith pan ddaw. Wrth gwrs, rydym wedi ymgynghori'n helaeth eisoes—roeddem am gael fframwaith cystal â phosib cyn i ni fynd i ymgynghoriad, fel na fydd yn peri syndod i sefydliadau. Serch hynny, rydym yn awyddus iddyn nhw ddod â'u sylwadau yn ôl atom ni ac rwy'n croesawu'n fawr iawn y sylwadau gan bob un o'r Aelodau etholedig sydd â llawer o brofiad yn y mater hwn. Jane Hutt, rydych chi yn sicr yn un o'r rheini, o ran yr hyn y credwch y gellid ei ychwanegu at y fframwaith neu sut y gallai glymu at ei gilydd. Ac fel y dywedais mewn ymateb i Helen Mary Jones, rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod gennym ni lwybr tryloyw ac agored ar gyfer yr holl elfennau ym mywyd rhywun y mae angen eu dwyn ynghyd yma, fel ei bod yn eglur iawn i gyflogwyr, aelodau cymdeithas ddinesig, busnesau a'r bobl eu hunain beth sy'n ofynnol ganddynt gan y fframwaith hwn a'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud i gydymffurfio ag ef, a'r cymhellion a'r cosbau sy'n gysylltiedig â chydymffurfio neu beidio. Rwyf wedi gweithio'n agos iawn gydag amryw o Weinidogion, sydd y tu cefn i mi ar hyn o bryd, ond Gweinidogion eraill hefyd, ac rydym wedi sôn am wasanaethau cyhoeddus heddiw—cludiant cyhoeddus, er enghraifft—i wneud yn siŵr bod gennym ni fframwaith trawslywodraethol, yn dilyn ôl eich troed chi, mae'n rhaid i mi ddweud, i wneud yn siŵr nad oes natur seilo i hyn, ond ei fod yn cymryd i ystyriaeth weithredu ledled y gyfundrefn gyfan.
Pe caf i, Dirprwy Lywydd, wneud ond un pwynt yma—. Felly, er enghraifft, Deddf Cydraddoldeb 2010—mae mater yn codi o ran a ydym yn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig neu a ydym yn dwyn darnau ohono i rym yn syth neu'n newid y geiriad ychydig i'w gael i asio'n well. Rwy'n eiddgar i gael sgwrs briodol i sicrhau ein bod yn cael yr hyn sy'n addas at y diben allan o hynny i'r dyfodol, yn hytrach na dim ond gwneud hynny fesul tipyn. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y sgwrs honno wrth iddi fynd ymlaen ac rwy'n mawr obeithio y bydd y fframwaith, pan welwch ef, a'r cynllun gweithredu yn enwedig sy'n mynd gydag ef, yn nodi hynny fel llwybr.
Yn olaf, Caroline Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, arweinydd y tŷ. Rwy'n croesawu fframwaith diweddar eich Llywodraeth ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol. Mae cael byw'n annibynnol yn rhywbeth yr ydym i gyd yn ei gymryd yn ganiataol, ond i unigolyn ag anableddau ceir cymaint o rwystrau sy'n gwneud byw'n annibynnol bron yn amhosibl i lawer. Mae cymydog i mi, er enghraifft, yn teithio 15 munud yn ei gadair olwyn i gael bws fel y gall gwrdd â'i ffrindiau a byw mor annibynnol ag y mae'n ei ddymuno. Ond yn aml iawn nid oes digon o le ar y bws i fynd ag ef, felly bydd yn aros ym mhob tywydd am fws arall i ddod; mae ef yn aros yn obeithiol iawn y bydd hyn yn digwydd. Felly, mae angen dirfawr i fynd i'r afael â hyn.
Er nad oedd yn berffaith o bell ffordd, cafodd y fframwaith blaenorol groeso eang gan ei fod yn amlinellu'r camau angenrheidiol i gael gwared ar lawer o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl yng Nghymru. Yn anffodus, fe fethodd â gwneud gwelliannau mawr mewn llawer o feysydd, fel y nodwyd.
Mae cyfran y bobl anabl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru wedi codi dros 40 y cant yn y blynyddoedd diwethaf. Mae tua dwy ran o bump o bobl anabl Cymru nawr yn byw mewn tlodi incwm. Er y gellir priodoli rhywfaint o'r cynnydd hwn i bolisïau byrbwyll Llywodraeth y DU i ddiwygio lles, yn ôl Sefydliad Joseph Rowntree, nid dyma'r prif reswm am y tlodi cynyddol yng Nghymru. Maen nhw yn tynnu sylw at y bwlch cyflogaeth cynyddol rhwng pobl anabl a'r rhai nad ydynt yn anabl.
Galwodd Ysgrifennydd y Cabinet yr ystadegau tlodi yn warth cenedlaethol, ac oni chymerwn gamau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r rhwystrau bydd yn destun cywilydd cenedlaethol. Edrychaf ymlaen at ddarllen am y camau gweithredu penodol y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau hyn, arweinydd y tŷ. Eto i gyd, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu'r camau yr ydych yn eu cymryd i fynd i'r afael ag effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU.
Rwy'n croesawu'r newyddion bod cyflwyno'r credyd cynhwysol wedi cael ei ohirio unwaith eto. Gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ailfeddwl am y cynllun hwn. Efallai ei fod wedi ei gyflwyno gyda'r bwriadau gorau, ond mae wedi gadael llawer o bobl yn amddifad. Arweinydd y tŷ, a fyddwch chi'n cyflwyno achosion gerbron Llywodraeth y DU i sicrhau na fydd credyd cynhwysol yn cael ei gyflwyno yng Nghymru hyd nes gellir gwarantu na fydd pobl anabl yn waeth eu byd?
Arweinydd y ŷ, mae swyddogaeth allweddol i drafnidiaeth ddi-rwystr wrth gynnig nid yn unig annibyniaeth ond llwybr allan o dlodi a'r enghreifftiau y tynnais sylw atyn nhw o bobl anabl yn cael eu gwrthod gan dacsis neu godi tâl ychwanegol arnyn nhw oherwydd eu bod angen cerbydau hygyrch. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn llwyr ddileu'r arfer anfoesol ac anghyfreithlon hwn?
Yn olaf, Arweinydd y tŷ, tynnodd y Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb sylw at y prinder dybryd o dai hygyrch yng Nghymru, gan ei alw yn argyfwng cudd Cymru. Felly, a wnewch chi amlinellu'r camau yr ydych yn eu cymryd i gynyddu argaeledd tai hygyrch yng Nghymru?
Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad, ac rwy'n edrych ymlaen at graffu ar fanylion y fframwaith a'r cynllun gweithredu wedi'u diweddaru.
Diolch yn fawr iawn, Caroline Jones, am y sylwadau hynny. Byddaf yn ceisio eu cwmpasu i gyd. Rwyf wedi cael sgyrsiau gyda chydweithwyr amrywiol—y Gweinidog Tai yn fwyaf diweddar, er enghraifft, fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, a fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—ynglŷn â rhai o'r materion yr ydych yn eu codi. Mae rhai ohonyn nhw o fewn ein maes rheolaeth ni, nid yw eraill yn gymaint felly. Byddem yn croesawu yn fawr iawn, er enghraifft, y gallu i reoleiddio rhai o'r gwasanaethau bysiau, a fyddai'n caniatáu inni bennu mannau penodol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn benodol, ond mewn gwirionedd faterion eraill hefyd y gwnaeth Mike Hedges dynnu sylw atyn nhw ynglŷn â chymhorthion gweledol a chlywedol ar gyfer helpu rhywun i fod yn annibynnol. Nid wyf i'n gwybod a yw'r Aelod neu unrhyw un o Aelodau eraill y Cynulliad sy'n bresennol wedi bod gydag un o'r nifer fawr o elusennau anabledd sydd gennym ac wedi cael eu rhoi yn yr un sefyllfa â rhywun ag amddifadedd synhwyrau ac wedyn wedi cerdded drwy fan cyfarwydd; wedyn byddai gennych syniad da iawn yn fuan am rai o'r rhwystrau corfforol. Ond ceir hefyd, fel y nododd yr Aelod, nifer fawr o rwystrau sy'n ymwneud ag agwedd a rhwystrau sefydliadol. Felly, bydd y cynllun yn mynd i'r afael hefyd â chamsyniadau ynglŷn â'r hyn y gall pobl ei wneud a'r hyn na allen nhw ei wneud a rhai canlyniadau anfwriadol hefyd.
Ac os caf i orffen, Dirprwy Lywydd, gyda'r enghraifft hon a roddwyd i mi gan un o'r bobl ifanc y bûm yn siarad â nhw yn y gynhadledd yr euthum iddi gyda Leonard Cheshire a Delsion, cynhadledd i gyflogwyr Hyderus o ran Anabledd. Bu cyflogwr lleol yn galonogol dros ben a dywedodd lawer o'r pethau cywir ynghylch dymuno cyflogi pobl anabl a phobl â nam corfforol penodol ac yn y blaen, ond roedd ar yr un pryd wedi cynyddu'r gofynion hyblygrwydd ar gyfer ei holl swyddi gradd mynediad, fel bod yn rhaid ichi, er mwyn cael eich cyflogi yno, allu gwneud y tasgau i gyd ar draws pob gradd sylfaenol. Ac roedd hynny'n golygu nad yw pobl sydd â gallu da mewn un maes yn benodol, ond efallai heb y gallu i wneud popeth, yn gallu cael hyn, ac roedd yn rhaid tynnu sylw'r cyflogwr at hynny cyn iddo sylweddoli y byddai'n cael yr effaith honno. Nid dyna'r bwriad, ac mewn gwirionedd nid oedden nhw wedi gweld bod hynny'n digwydd. Pan ddangoswyd hynny iddyn nhw, serch hynny, roedden nhw'n coleddu'r syniad ac yn hapus iawn i edrych eto i weld a oedd hwnnw, yr hyn oedd yn ymddangos iddyn nhw fel arfer cyflogaeth safonol, mewn gwirionedd â chanlyniad anfwriadol. A dyna'r math o sgwrs yr ydym yn bwriadu ei chael ledled Cymru i sicrhau, pan fydd pobl yn edrych ar eu strategaethau adnoddau dynol a'u disgrifiadau swydd ac ati, y byddan nhw mewn gwirionedd yn ystyried y peth o safbwynt rhywun a allai fod yn anabl, os ydyn nhw newydd roi rhywbeth yn y swydd ddisgrifiad a fyddai'n gwahardd unigolyn i bob pwrpas a fyddai wedi gwneud y swydd yn dda iawn ac a fyddai'n fudd gwirioneddol i'w cwmni.
Felly, credaf fod yr hanesyn gan yr unigolyn ifanc a'r canlyniad tra boddhaus mewn gwirionedd pan oedd y cyflogwr yn cydnabod y mater yn dangos yn berffaith pam mae angen y fframwaith a pham mae angen inni ei thaenu mor eang â phosibl. Byddwn yn ddiolchgar iawn, Dirprwy Lywydd, pe gallai Aelodau'r Cynulliad ddefnyddio'u rhwydweithiau cyfain i sicrhau ein bod yn cael cymaint o ymatebion â phosibl i'n hymgynghoriad. Diolch.
Diolch.