Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 16 Hydref 2018.
Ie, ac mae Cwm-carn, mewn sawl ffordd, yn fodel ar gyfer yr hyn y ceisiwn ni ei gyflawni, gan sicrhau bod gennym ni fynediad cyhoeddus i dirwedd wych, i brofiad y gall y teulu ei fwynhau, ac i sicrhau bod pobl yn deall y lle y maen nhw'n byw ynddo neu'n ymweld ag ef. Felly, Cwm-carn, mewn sawl ffordd, yw'r math o fodel yr ydym eisiau ei ddatblygu mewn mannau eraill, ac i sicrhau y ceir cyfleoedd eraill. Buom yn sôn yn gynharach am ardal goedwigaeth Llanwynno, ac am sut y gallwn sicrhau bod yr amgylchedd hwn yn rhan o'n dyfodol mewn ffordd, efallai, nad yw ar hyn o bryd. Wrth yrru heibio Navigation a gweld adeiladwaith y pwll yno, ni chaf fy atgoffa o'r gorffennol yn unig, ond fe'm hatgoffir o'r cyfleoedd a fydd gennym yn y dyfodol. Rwy'n credu bod yr adeiladau o amgylch y Navigation yn rhan ddiwydiannol wych o'n treftadaeth. Mae'r bont wedi mynd erbyn hyn, mae traphont Crymlyn wedi diflannu, ond mae'n bwysig sicrhau bod gennym ddefnydd a defnydd cynaliadwy parhaus ar gyfer yr adeiladau diwydiannol a greodd y cymunedau yr ydym bellach yn byw ynddynt.