Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 16 Hydref 2018.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu rhoi gwybod i Aelodau am ail flwyddyn y rhaglen dai arloesol. Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu Tai oherwydd nad cyfoeth materol yn unig yw ffyniant, mae a wnelo â phob un ohonom yn cael ansawdd bywyd da a chael byw mewn cymunedau cryf a diogel lle mae unigolion a busnesau yn ffynnu. Mae adeiladu tai o ansawdd da, a mwy ohonynt, yn hanfodol er mwyn cyflawni'r uchelgeisiau hyn.
Rydym yn benderfynol o gynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael, cynyddu cyflymder cyflenwi, a gwella ansawdd cartrefi a adeiledir fel y gallant ddiwallu anghenion a disgwyliadau sy'n newid. Rhaid inni hefyd sicrhau ein bod yn adeiladu nid yn unig ar gyfer tenantiaid a thrigolion heddiw, ond ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae angen inni leihau tlodi tanwydd, lleihau effaith adeiladu tai ar yr amgylchedd a lleihau anghydraddoldebau iechyd a lles, sy'n cael eu dwysáu gan dai o ansawdd gwael. Felly, o'i wneud yn iawn, mae gennym ni gyfle i adeiladu cartrefi o ansawdd uchel, bron yn ddi-garbon, cadw a hybu sgiliau ac arbenigedd yn y diwydiannau adeiladu a gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Er mwyn inni gyflawni ein huchelgais bydd angen ffordd wahanol sylfaenol o weithio, i ni a'n partneriaid. Mae'n amlwg os bydd graddfa a chyflymder adeiladu tai yn cynyddu'n sylweddol, mae'n annhebygol y bydd dulliau traddodiadol yn cyflawni ar eu pen eu hunain. Mae angen dull ffres, a dyna pam, y llynedd, lansiwyd y rhaglen tai arloesol. Nod y rhaglen yw ysgogi dylunio a darparu cartrefi newydd fforddiadwy, o ansawdd uchel, drwy fodelau tai newydd, llwybrau darparu newydd a thechnegau adeiladu newydd. Mae sefydliadau yn cael eu herio i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer cyflenwi'n gynt, ymdrin â materion megis tlodi tanwydd a newid demograffig, a'n helpu i gyrraedd ein targedau lleihau carbon. Hyd yn hyn, mae'r rhaglen wedi buddsoddi mewn 20 o fodelau newydd a dulliau newydd o adeiladu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy, ac mae 276 o dai ar y gweill ac ar fin cael eu cwblhau.
Mae lefel y diddordeb yn y Rhaglen Tai Arloesol yn parhau i dyfu. Eleni cawsom bron i 40 y cant yn fwy o geisiadau am arian. Rydym ni hefyd wedi agor y rhaglen i'r sector preifat i gyflwyno ceisiadau, ac roeddwn yn croesawu ymateb cadarnhaol amrywiaeth o sefydliadau sy'n barod i ymuno â'r Llywodraeth i chwilio am atebion ynghylch tai yn y dyfodol. Eleni derbyniwyd cyfanswm o 48 o geisiadau am arian. Cafodd banel annibynnol y gwaith o asesu'r cynlluniau i weld i ba raddau yr oeddent yn cynnig arloesedd a'r gwerth sy'n ofynnol ar gyfer graddfa'r newid yr ydym am ei gweld. Rwy'n ddiolchgar i'r panel am ei waith, ac yn falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ariannu 26 o gynlluniau yn y flwyddyn ariannol hon.
Yn amodol ar gwblhau'r gwiriadau diwydrwydd dyladwy angenrheidiol, byddaf yn darparu bron i £43.1 miliwn i adeiladu 657 o gartrefi. Mae'r holl ymgeiswyr llwyddiannus wedi eu hysbysu a bydd rhestr lawn o'r cynlluniau llwyddiannus ar wefan Llywodraeth Cymru cyn bo hir.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i sôn wrthych chi am rai o'r cynlluniau a fydd yn cael buddsoddiad, i roi blas ichi o'r hyn y byddwn yn ei ariannu. Byddwn yn cefnogi tŵr 10-llawr newydd o bren wedi'u draws-laminadu, gyda mannau gwyrdd fertigol, sy'n creu 50 o gartrefi newydd yng Nghaerdydd. Mae'n dangos gwir uchelgais y gymdeithas dai dan sylw wrth gyflwyno cynllun a fydd y cyntaf yn y DU. Mae'r deunydd a ddefnyddir yn gynaliadwy a charbon isel, a bydd y cyfnod adeiladu yn llawer byrrach ac amcangyfrifir mai dim ond 12 wythnos bydd y cyfnod hwn. Byddwn hefyd yn ariannu cynllun arall sy'n defnyddio pren wedi'i laminadu â hoelbrennau, ar raddfa lai, fel y gellir cymharu a chyferbynnu'r ddau ddull o adeiladu.
Bydd ffatri newydd yn y gogledd. Byddwn yn ariannu tri chynllun yn y gogledd a fydd, gyda'i gilydd yn sefydlu ac yn cefnogi ffatri leol newydd a fydd yn sicrhau hyfforddiant a swyddi lleol newydd. Bydd y cartrefi ffrâm bren a adeiledir yn y ffatri wedi eu hachredu yn unol â system Beattie Passive, gan ddefnyddio deunydd inswleiddio perfformiad uchel, a fydd yn atal drafftiau yn llwyr i arbed gwres. Bydd y ffatri yn creu cartrefi ag effaith isel iawn ar yr amgylchedd a chostau tanwydd is i denantiaid.
Mae cymorth ar gael ar gyfer cydweithrediaeth dai model ynni gwyrdd. Byddwn yn ariannu cydweithrediaeth dai o ddatblygu egwyddorion cyntaf, a bydd y prif gontractwr, sydd eisoes wedi'i leoli yng Nghymru, yn adeiladu cartrefi preswyl am y tro cyntaf. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar ddefnyddio technolegau ynni gwyrdd i gynhyrchu ynni cymunedol, i leihau costau cynnal, taliadau gwasanaeth ac allyriadau carbon yn gyffredinol.
Fe fydd datblygiad mawr o gartrefi effeithlon o ran ynni. Bydd buddsoddiad ym Mharc Eirin yn darparu 225 o gartrefi newydd effeithlon o ran ynni a fydd yn cyflawni allyriadau a fydd bron yn ddi-garbon. Yn ystod rhan o'r flwyddyn, bydd y cartrefi yn allforwyr net ynni, gan gyfrannu pŵer at y grid cenedlaethol, a bydd tlodi tanwydd y tenantiaid hyn yn cael ei ddileu. Bydd y cynllun yn dangos y gallwn ddarparu ar raddfa a llunio model ariannol y gellir ei atgynhyrchu ar gyfer datblygu tai ar y raddfa hon yn y dyfodol.
Mae cymorth ar gael ar gyfer prosiect sy'n ymwneud â darparu gofal iechyd a darparu addysg drwy gyfrwng adeiladu cartrefi cynaliadwy. Darperir chwe chartref ffrâm bren trwy gydweithrediad rhwng cymdeithas dai, elusen a'r bwrdd iechyd lleol. Caiff y cartrefi eu hadeiladu gan oedolion o amrywiaeth o grwpiau agored i niwed, gan gynnwys pobl ag anafiadau trawmatig i'r ymennydd, ceiswyr lloches, ffoaduriaid a phobl ddigartref.
Rwy'n falch bod 22 o'r 26 cynllun wedi ymgorffori pren yn eu cynigion, gan fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r diwydiant coed yng Nghymru i chwarae rhan fwy amlwg yn y gwaith adeiladu a gweithgynhyrchu cartrefi fforddiadwy.
Nid yw arloesi byth heb risg. Nid wyf yn disgwyl i bob cynllun gynnig yr atebion tymor hir yr ydym yn chwilio amdanynt. Ond fe wn fod yn rhaid inni wneud rhywbeth gwahanol. Bydd yr holl gynlluniau yn cael eu monitro'n ofalus a'i gwerthuso fel y gallwn ddysgu beth sy'n gweithio orau a pham. Mae hyn yn cynnwys gofyn i denantiaid a thrigolion sut brofiad yw byw yn y cartrefi hyn.
Gan droi at y flwyddyn nesaf, rwy'n dymuno i'r rhaglen herio'r ffiniau o ran dull a maint yr arloesi. Rwy'n disgwyl gweld mwy o harddwch o ran dylunio cartrefi, mwy o arloesi mewn cadwyni cyflenwi, yn ogystal â mwy o gydweithio cyffrous rhwng cymdeithasau tai, awdurdodau lleol a chyrff preifat a chyhoeddus. Dim ond drwy wneud hyn y bydd mwy o gartrefi'n cael eu darparu'n gynt, i ddiwallu anghenion a dyheadau pobl yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.