– Senedd Cymru am 5:46 pm ar 16 Hydref 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus—na. Mae hynny'n edrych yn anghywir i fi—y datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, ar y wybodaeth ddiweddaraf am flwyddyn 2 y rhaglen tai arloesol. Sori i'ch panico chi, Ysgrifennydd Cabinet. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu rhoi gwybod i Aelodau am ail flwyddyn y rhaglen dai arloesol. Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu Tai oherwydd nad cyfoeth materol yn unig yw ffyniant, mae a wnelo â phob un ohonom yn cael ansawdd bywyd da a chael byw mewn cymunedau cryf a diogel lle mae unigolion a busnesau yn ffynnu. Mae adeiladu tai o ansawdd da, a mwy ohonynt, yn hanfodol er mwyn cyflawni'r uchelgeisiau hyn.
Rydym yn benderfynol o gynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael, cynyddu cyflymder cyflenwi, a gwella ansawdd cartrefi a adeiledir fel y gallant ddiwallu anghenion a disgwyliadau sy'n newid. Rhaid inni hefyd sicrhau ein bod yn adeiladu nid yn unig ar gyfer tenantiaid a thrigolion heddiw, ond ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae angen inni leihau tlodi tanwydd, lleihau effaith adeiladu tai ar yr amgylchedd a lleihau anghydraddoldebau iechyd a lles, sy'n cael eu dwysáu gan dai o ansawdd gwael. Felly, o'i wneud yn iawn, mae gennym ni gyfle i adeiladu cartrefi o ansawdd uchel, bron yn ddi-garbon, cadw a hybu sgiliau ac arbenigedd yn y diwydiannau adeiladu a gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Er mwyn inni gyflawni ein huchelgais bydd angen ffordd wahanol sylfaenol o weithio, i ni a'n partneriaid. Mae'n amlwg os bydd graddfa a chyflymder adeiladu tai yn cynyddu'n sylweddol, mae'n annhebygol y bydd dulliau traddodiadol yn cyflawni ar eu pen eu hunain. Mae angen dull ffres, a dyna pam, y llynedd, lansiwyd y rhaglen tai arloesol. Nod y rhaglen yw ysgogi dylunio a darparu cartrefi newydd fforddiadwy, o ansawdd uchel, drwy fodelau tai newydd, llwybrau darparu newydd a thechnegau adeiladu newydd. Mae sefydliadau yn cael eu herio i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer cyflenwi'n gynt, ymdrin â materion megis tlodi tanwydd a newid demograffig, a'n helpu i gyrraedd ein targedau lleihau carbon. Hyd yn hyn, mae'r rhaglen wedi buddsoddi mewn 20 o fodelau newydd a dulliau newydd o adeiladu tai cymdeithasol a thai fforddiadwy, ac mae 276 o dai ar y gweill ac ar fin cael eu cwblhau.
Mae lefel y diddordeb yn y Rhaglen Tai Arloesol yn parhau i dyfu. Eleni cawsom bron i 40 y cant yn fwy o geisiadau am arian. Rydym ni hefyd wedi agor y rhaglen i'r sector preifat i gyflwyno ceisiadau, ac roeddwn yn croesawu ymateb cadarnhaol amrywiaeth o sefydliadau sy'n barod i ymuno â'r Llywodraeth i chwilio am atebion ynghylch tai yn y dyfodol. Eleni derbyniwyd cyfanswm o 48 o geisiadau am arian. Cafodd banel annibynnol y gwaith o asesu'r cynlluniau i weld i ba raddau yr oeddent yn cynnig arloesedd a'r gwerth sy'n ofynnol ar gyfer graddfa'r newid yr ydym am ei gweld. Rwy'n ddiolchgar i'r panel am ei waith, ac yn falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ariannu 26 o gynlluniau yn y flwyddyn ariannol hon.
Yn amodol ar gwblhau'r gwiriadau diwydrwydd dyladwy angenrheidiol, byddaf yn darparu bron i £43.1 miliwn i adeiladu 657 o gartrefi. Mae'r holl ymgeiswyr llwyddiannus wedi eu hysbysu a bydd rhestr lawn o'r cynlluniau llwyddiannus ar wefan Llywodraeth Cymru cyn bo hir.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i sôn wrthych chi am rai o'r cynlluniau a fydd yn cael buddsoddiad, i roi blas ichi o'r hyn y byddwn yn ei ariannu. Byddwn yn cefnogi tŵr 10-llawr newydd o bren wedi'u draws-laminadu, gyda mannau gwyrdd fertigol, sy'n creu 50 o gartrefi newydd yng Nghaerdydd. Mae'n dangos gwir uchelgais y gymdeithas dai dan sylw wrth gyflwyno cynllun a fydd y cyntaf yn y DU. Mae'r deunydd a ddefnyddir yn gynaliadwy a charbon isel, a bydd y cyfnod adeiladu yn llawer byrrach ac amcangyfrifir mai dim ond 12 wythnos bydd y cyfnod hwn. Byddwn hefyd yn ariannu cynllun arall sy'n defnyddio pren wedi'i laminadu â hoelbrennau, ar raddfa lai, fel y gellir cymharu a chyferbynnu'r ddau ddull o adeiladu.
Bydd ffatri newydd yn y gogledd. Byddwn yn ariannu tri chynllun yn y gogledd a fydd, gyda'i gilydd yn sefydlu ac yn cefnogi ffatri leol newydd a fydd yn sicrhau hyfforddiant a swyddi lleol newydd. Bydd y cartrefi ffrâm bren a adeiledir yn y ffatri wedi eu hachredu yn unol â system Beattie Passive, gan ddefnyddio deunydd inswleiddio perfformiad uchel, a fydd yn atal drafftiau yn llwyr i arbed gwres. Bydd y ffatri yn creu cartrefi ag effaith isel iawn ar yr amgylchedd a chostau tanwydd is i denantiaid.
Mae cymorth ar gael ar gyfer cydweithrediaeth dai model ynni gwyrdd. Byddwn yn ariannu cydweithrediaeth dai o ddatblygu egwyddorion cyntaf, a bydd y prif gontractwr, sydd eisoes wedi'i leoli yng Nghymru, yn adeiladu cartrefi preswyl am y tro cyntaf. Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar ddefnyddio technolegau ynni gwyrdd i gynhyrchu ynni cymunedol, i leihau costau cynnal, taliadau gwasanaeth ac allyriadau carbon yn gyffredinol.
Fe fydd datblygiad mawr o gartrefi effeithlon o ran ynni. Bydd buddsoddiad ym Mharc Eirin yn darparu 225 o gartrefi newydd effeithlon o ran ynni a fydd yn cyflawni allyriadau a fydd bron yn ddi-garbon. Yn ystod rhan o'r flwyddyn, bydd y cartrefi yn allforwyr net ynni, gan gyfrannu pŵer at y grid cenedlaethol, a bydd tlodi tanwydd y tenantiaid hyn yn cael ei ddileu. Bydd y cynllun yn dangos y gallwn ddarparu ar raddfa a llunio model ariannol y gellir ei atgynhyrchu ar gyfer datblygu tai ar y raddfa hon yn y dyfodol.
Mae cymorth ar gael ar gyfer prosiect sy'n ymwneud â darparu gofal iechyd a darparu addysg drwy gyfrwng adeiladu cartrefi cynaliadwy. Darperir chwe chartref ffrâm bren trwy gydweithrediad rhwng cymdeithas dai, elusen a'r bwrdd iechyd lleol. Caiff y cartrefi eu hadeiladu gan oedolion o amrywiaeth o grwpiau agored i niwed, gan gynnwys pobl ag anafiadau trawmatig i'r ymennydd, ceiswyr lloches, ffoaduriaid a phobl ddigartref.
Rwy'n falch bod 22 o'r 26 cynllun wedi ymgorffori pren yn eu cynigion, gan fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r diwydiant coed yng Nghymru i chwarae rhan fwy amlwg yn y gwaith adeiladu a gweithgynhyrchu cartrefi fforddiadwy.
Nid yw arloesi byth heb risg. Nid wyf yn disgwyl i bob cynllun gynnig yr atebion tymor hir yr ydym yn chwilio amdanynt. Ond fe wn fod yn rhaid inni wneud rhywbeth gwahanol. Bydd yr holl gynlluniau yn cael eu monitro'n ofalus a'i gwerthuso fel y gallwn ddysgu beth sy'n gweithio orau a pham. Mae hyn yn cynnwys gofyn i denantiaid a thrigolion sut brofiad yw byw yn y cartrefi hyn.
Gan droi at y flwyddyn nesaf, rwy'n dymuno i'r rhaglen herio'r ffiniau o ran dull a maint yr arloesi. Rwy'n disgwyl gweld mwy o harddwch o ran dylunio cartrefi, mwy o arloesi mewn cadwyni cyflenwi, yn ogystal â mwy o gydweithio cyffrous rhwng cymdeithasau tai, awdurdodau lleol a chyrff preifat a chyhoeddus. Dim ond drwy wneud hyn y bydd mwy o gartrefi'n cael eu darparu'n gynt, i ddiwallu anghenion a dyheadau pobl yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.
Rwy'n croesawu parhad y rhaglen hon, ac rwyf yn falch o weld ei bod bellach ar gael i'r sector preifat. Rwy'n credu pan gafodd ei gyhoeddi y llynedd yr oedd teimlad cyffredinol o amgylch y Siambr fod hyn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn, ac ni welaf unrhyw reswm i newid yr asesiad cychwynnol hwnnw.
Rwy'n croesawu'n arbennig y pwyslais ar ddylunio adeiladau, oherwydd os ydym ni am adeiladu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae'n rhaid inni adeiladu'n dda. A gaf i longyfarch y Gweinidog? Rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf erioed imi glywed y gair 'harddwch' wrth gyfeirio at bolisi cyhoeddus. Felly, rwy'n cytuno â chi bod angen mwy o harddwch wrth ddylunio adeiladau, yn enwedig wrth inni droi at adeiladau mwy modiwlar, oherwydd ei fod yn arloesol, a gellir ei ddefnyddio mewn ffyrdd a fydd yn arwain y ffordd o ran ansawdd y dylunio.
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y rhaglen hon yn cysylltu â chronfa her strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a ddyfarnodd £36 miliwn i Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe fis diwethaf? Bydd y grant hwnnw'n helpu i droi cartrefi ac adeiladau cyhoeddus yn orsafoedd pŵer bychain, ac mae ganddo nod penodol i gyflymu'r broses o gael y farchnad i'w mabwysiadu. Ac rwy'n siŵr mai dyna yw nodau craidd y rhaglen hon hefyd. Ac mae'n bwysig bod y mentrau amrywiol hyn yn cysylltu â'i gilydd gymaint â phosibl.
Hoffwn i—. Nid oes sôn o gwbl am y pwynt nesaf yn eich datganiad—sut y bydd y rhaglen tai arloesol yn llywio gwaith yr adolygiad tai fforddiadwy? Ac a fydd yn chwarae rhan wrth asesu sut y gellir darparu datblygiadau arloesol ar raddfa, sef un o'r prif dasgau yr ydych wedi eu rhoi i'r adolygiad tai?
A gaf i orffen drwy bwysleisio ei bod yn briodol, gyda diwydrwydd dyladwy, i gymryd risgiau penodol wrth chwilio am fentrau arloesol. Rwyf i yn credu bod hyn yn rhywbeth y dylid ei raglennu yn y fenter hon. Ac ni fydd pob menter arloesol yn cyrraedd y farchnad. Yn wir, weithiau, am sawl rheswm nid y pethau arloesol gorau sy'n cyrraedd y farchnad ac yn cael eu defnyddio. Felly, mae angen inni chwarae'n saff, mewn un ystyr, a chwmpasu ystod o fentrau a defnyddio'r gronfa yn y ffordd honno. Ond fe hoffwn i wybod ychydig mwy am sut y bydd y dulliau o fonitro a gwerthuso'n cael eu defnyddio i asesu'r rhaglen, er, yn amlwg, rwy'n falch iawn y bydd tenantiaid yn rhan greiddiol o'r asesiad hwnnw.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau, a'ch cefnogaeth unwaith eto eleni ar gyfer y rhaglen tai arloesol. Fe ddechreuaf gyda'ch pwynt olaf, a oedd yn ymwneud â sut y byddwn yn monitro ac yn gwerthuso'r rhaglen. Un o'r pethau cyffrous ynglŷn â'r rhaglen tai arloesol yw bod yn rhaid i bob ymgeisydd am gyllid gytuno i bolisi llyfr agored. Felly, bydd hynny'n cynnwys adroddiadau cynnydd rheolaidd i weithgor y rhaglen tai arloesol. Mae'n rhaid i ymgeiswyr gytuno i gael eu monitro yn ystod ac ar ôl adeiladu. Mae'n rhaid iddyn nhw gytuno i gasglu data, yn arbennig ar faterion o gost a pherfformiad. Ac yna mae'n rhaid iddyn nhw gytuno bod y gwersi a ddysgwyd drwy eu prosiectau yn cael eu rhannu'n gyhoeddus. Felly, y pethau penodol y byddwn yn chwilio amdanyn nhw wrth fonitro a gwerthuso fydd yr ochr dechnegol, perfformiad yr adeiladau, profiad y gwaith adeiladu, ac, fel yr ydych wedi cydnabod, y gwaith gyda thenantiaid hefyd.
Felly, cwestiynau syml: a yw'r tenantiaid yn hoffi eu cartref ac a yw'n lle dymunol a chysurus i fyw? A yw'r cartrefi yn hyblyg i ddarparu ar gyfer ffyrdd o fyw heddiw ac yn y dyfodol? A ydyn nhw'n gartrefi rhad ar ynni ar gyfer preswylwyr? A ydyn nhw'n gartrefi cost isel ar gyfer preswylwyr? A fyddai'n fforddiadwy i adeiladu'r cartrefi hyn yn y dyfodol? A ellir eu hadeiladu ar gyflymder? A ellir eu hadeiladu ar raddfa? A ydyn nhw wedi eu hadeiladu'n dda? A fydd hi'n fforddiadwy i'w cynnal yn y dyfodol? Ac a yw'r datblygiad cyffredinol yn creu lle da i fyw? Felly, dyma'r math o gwestiynau y byddwn yn eu gofyn yn rhan o'n gwaith monitro a gwerthuso.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr adolygiad tai fforddiadwy, ac mae'r gwaith hwn yn sicr yn digwydd gyfochr â hynny ac mae'n llywio gwaith yr adolygiad tai fforddiadwy. Fel y gwyddoch, o dan yr adolygiad hwnnw, ceir nifer o ffrydiau gwaith yn edrych ar feysydd penodol sydd angen sylw os ydym am gynyddu ein huchelgeisiau ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy yn y dyfodol. Mae un o'r ffrydiau gwaith hynny yn ymwneud â safonau a gofynion datblygu ansawdd. Felly, byddwn yn ceisio gweld i ba raddau y mae ein safonau presennol yn gywir, a sut y byddai angen eu newid os ydym am adeiladu mewn ffyrdd gwahanol yn y dyfodol. Ac mae ffrwd waith benodol yn edrych ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer adeiladu, gan gynnwys dulliau modern o adeiladu. Felly bydd y ffrwd waith hon yn ystyried sut y bydd y gadwyn gyflenwi, ar draws y dulliau modern o adeiladu yn gweithio a sut y gallwn gynyddu graddfa hyn yn y dyfodol hefyd. Beth yw'r capasiti? A oes prinder sgiliau? Dyma'r cwestiynau y bydd yr is-grŵp penodol hwnnw yn eu hystyried.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y cyhoeddiad rhagorol yn ddiweddar ynghylch y cyllid a gafodd SPECIFIC a Phrifysgol Abertawe. Roedd Llywodraeth Cymru yn falch iawn o roi llythyrau cefnogi i'r prosiect hwnnw ac yn falch iawn o allu darparu £6.5 miliwn i gefnogi'r prosiect hwnnw hefyd. Mae un neu ddau o'n prosiectau yr ydym ni'n eu cyhoeddi heddiw yn ymwneud yn benodol â datblygiad SPECIFIC, ac un yw tir ym Mharc Yr Helyg, Ffordd Colliers yn Abertawe. Prosiect cartrefi fel gorsafoedd pŵer fydd hwnnw, yn cyfuno deunyddiau adnewyddadwy— systemau ffotofoltäig, batris, pympiau gwres o'r ddaear, systemau awyru mecanyddol adfer gwres—a hefyd yn defnyddio'r hyn a elwir yn ffrâm bren ffabrig yn gyntaf safonol Abertawe. A chydweithrediad rhwng SPECIFIC a Bargen Ddinesig Abertawe yw hwnnw. Ceir ail brosiect hefyd ar Ffordd y Goron yn Llandarcy, a fydd yn barc arloesedd i arddangos dulliau adeiladu tai modiwlar a chyfeintiol ac i gymharu'r systemau a chymharu'r hyn sy'n cael ei ddysgu yma yng Nghymru â'r profiad dramor. Felly, mae hyn yn rhan ddiddorol o'r ymchwil a'r dysgu ynghylch y prosiect, felly mae'n cysylltu'n agos â'r gwaith cartrefi gweithredol sydd eisoes wedi ei gyhoeddi.
O ran dylunio, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn inni gael uchelgeisiau a dyheadau mawr ar gyfer ein tai fforddiadwy a'n tai cymdeithasol. Dylai ein nod fod i bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol allu byw mewn tai hardd y gall pawb fod yn falch ohonyn nhw. Pan welwn arolygon, mae cymuned—mae'n ddrwg gen i, cynhaliodd y Sefydliad Tai Siartredig arolwg yn ddiweddar. Mae pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn falch o hynny, maen nhw’n ymfalchïo yn eu cymunedau, felly gadewch i ni geisio adeiladu'r tai harddaf posibl ar gyfer y cymunedau hynny. Felly mae hyn, unwaith eto, yn rhywbeth y mae'r adolygiad tai fforddiadwy yn ei ystyried ond mae'n rhywbeth yr hoffwn i ganolbwyntio arno yn fwy ym mlwyddyn 3 y rhaglen.
Ac yna, dylwn i nodi, wrth lunio'r manylebau technegol ar gyfer y rhaglen tai arloesol, fe wnaed hynny gyda grŵp llywio a gadeiriwyd gan Gayna Jones o Gomisiwn Dylunio Cymru. Felly, yn sicr mae gennym ni bwyslais mawr ar ddylunio o ansawdd da.
Ac yn olaf, roeddwn yn falch iawn o gael cyflwyno hyn i'r sector preifat eleni. Rwy'n awyddus iawn i weld pwyslais cryf ar gefnogi busnesau bach a chanolig yn arbennig i ddychwelyd at adeiladu tai. Fe adawon nhw'r gwaith o adeiladu tai beth amser yn ôl a chanolbwyntio ar waith adnewyddu ac ati, ond rwy'n credu bod ganddyn nhw ran gref iawn i'w chwarae yn nyfodol adeiladu tai. Wrth gwrs, pan fydd cymdeithasau tai yn adeiladu cartrefi, pan fydd cartrefi yn cael eu hadeiladu drwy ein rhaglen tai arloesol, y busnesau bach a chanolig sy'n gweithio mewn partneriaeth â nhw i gyflawni hynny. Felly, rwy'n credu bod hwn yn gymhwyster arall sydd gennym o ran cefnogi busnesau bach a chanolig ochr yn ochr â phethau fel y gronfa datblygu eiddo a'n gwaith ni ar safleoedd lle mae gwaith wedi peidio.
Hoffwn ddiolch i chi am y datganiad hwn, ac mae'n galonogol i mi. Mae'n amlwg y bydd y cynlluniau a ddewiswyd yn ychwanegu hyd at 657 o gartrefi newydd, yn hytrach na'r 276 a adeiladwyd y llynedd, ac mae'r gyllideb ar gyfer hyn wedi cynyddu'n sylweddol. Yn y gorffennol, rwyf i a fy nghyd-Aelod, Siân Gwenllian wedi gofyn i'r cynllun fod yn fwy uchelgeisiol o ran targed a maint, ac mae mwy na dyblu nifer y cartrefi yn fan cychwyn da. Felly, mae'n bwysig croesawu hynny a nodi pan fyddwn yn gwneud cynnydd da.
Mae'n bwysig nodi y dylai hyn gyfrannu at yr ymagwedd ehangach o ran tai fforddiadwy. Mae chwe chant a phum deg saith o gartrefi newydd allan o'r targed o 20,000 yn welliant ar gyfanswm y llynedd. Rwy'n deall mai rhan o'r broses hon yw nodi beth fydd yn gweithio a beth na fydd yn gweithio er mwyn cefnogi cynlluniau mwy o faint yn y dyfodol. A wnewch chi ymrwymo i gynyddu cyllideb y flwyddyn nesaf ar gyfer y rhaglen hon os bydd y galw yn cynyddu unwaith eto ac, yn hollbwysig, os welir cyfleoedd i ariannu prosiectau mwy o lawer? Rwy'n deall bod arian yn brin, ond gallai hyn fod yn fuddsoddiad a fydd yn arbed yn y tymor hwy. I ychwanegu at y pwynt hwnnw, os ydych chi'n gallu mynd i'r afael â'r rhagolygon o newid yn yr hinsawdd—ac mae adroddiadau diweddar yn awgrymu bod hyn yn datblygu'n her gynyddol enbyd a brys— mae'n rhaid i arloesi fod yn rhan o hyn. Os ydych chi eisiau symud tuag at ddyfodol ynni gwyrdd, a gellir cyflawni hynny o ran cynhyrchu pŵer yn gynt nag y mae llawer o bobl yn ei feddwl, os ydym yn ymrwymo iddo, mae'n rhaid inni hefyd ddefnydd ynni yn fwy doeth a defnyddio llai ohono, ac mae cynllun o'r math hwn yn bwysig yn rhan o'r darlun cyfannol.
Rydych yn sôn am arloesi yn y cadwyni cyflenwi, a hoffwn ofyn yn benodol beth sy'n cael ei wneud i gyflawni hynny. Rwy'n deall bod mwy o bren a deunyddiau cynaliadwy yn cael eu defnyddio. Pa ddeunyddiau eraill ydym ni'n eu hystyried? A ydym ni'n cynyddu ein defnydd o ddeunyddiau traddodiadol o Gymru, megis llechi, er enghraifft? Y llynedd, pan gyflwynodd y diweddar Carl Sargeant y diweddariad hwn, tynnodd David Melding sylw at y gost o ddefnyddio dyluniadau a deunyddiau mwy pwrpasol, felly a oes ymdrechion i leihau'r costau hynny, ac a oes dewisiadau ar gyfer cyflymu'r broses hon?
Fe hoffwn i wybod ychydig mwy am ddefnyddio arloesi ar raddfa fwy o lawer, hefyd, oherwydd, fel y nodwyd, mae arloesi yn golygu cost, ac os ydym ni'n mynd i gynhyrchu cartrefi fel y rhai hynny ar raddfa lawer mwy, i gael effaith wirioneddol ar ba mor gynaliadwy y gall y diwydiant hwn a'r sector tai fod, mae'n bwysig ein bod yn ceisio canfod dulliau y gellir eu cynhyrchu ar raddfa fwy torfol.
Felly, dyna'r cwestiynau sydd gen i ond, yn gyffredinol, rydym ni'n diolch i chi am y datganiad heddiw.
Diolch yn fawr iawn am eich croeso i'r datganiad, a hefyd am eich sylwadau. Y gyllideb gyffredinol ar gyfer y rhaglen dros y tair blynedd ar hyn o bryd yw £90 miliwn. Fodd bynnag, mae digonedd o gyfleoedd yma i'r rhaglen tai arloesol weithio gyda chronfeydd eraill o arian. Felly, er enghraifft, defnyddiwyd y grant tai cymdeithasol mewn nifer o brosiectau y byddwn yn eu cyhoeddi heddiw er mwyn creu pecyn cymorth. Bydd rhai elfennau yn cael cyllid ar gyfer yr elfen arloesol yn unig, tra bydd eraill ar gyfer y rhan fwyaf o'r prosiect hwnnw hefyd. Felly, ceir, unwaith eto, ffyrdd arloesol y gallwn eu hystyried o ariannu'r prosiectau.
Fe gyfeirioch chi at bwysigrwydd gwneud yn siŵr bod y prosiectau hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi gyfan ac nid yn unig y cyflawni ar y diwedd. Mae £4 miliwn, er enghraifft, ar gael ar gyfer Cartrefi Croeso Cyf. Maen nhw'n adeiladu 30 o gartrefi ym Mhorth Tywyn. Maen nhw'n defnyddio pren o Gymru a hefyd gweithgynhyrchu lleol oddi ar y safle, sy'n defnyddio llafur lleol. Hefyd, ochr yn ochr â hynny, fe fyddan nhw'n defnyddio paneli solar Tŷ Solar, a weithgynhyrchir yn y gorllewin. Felly, lle bynnag y bo'n bosibl, mae gwaith wedi mynd rhagddo i sicrhau bod cyflenwi yn seiliedig ar ôl-troed lleol iawn er mwyn bod o fudd i'r economi leol, a hefyd lleihau'r ôl troed carbon hwnnw gymaint â phosibl. Ceir nifer o enghreifftiau gwych yn y cynlluniau a gyhoeddwyd heddiw o sut y gellir gwneud y cadwyni cyflenwi mor fyr ac mor lleol â phosibl.
O ran pren, fe ofynnoch chi a yw hyn yn ymwneud â phren yn unig. Na, mae llawer o ddeunyddiau arloesol eraill yn cael eu defnyddio. Felly, bydd prosiect mewnlenwi Ystagbwll ym Mhenfro yn system wedi ei chynllunio fel bloc o fflatiau i bobl dros 55 oed, a defnyddir pren o Gymru yno, ond hefyd paent o sail clai ar gyfer llygredd isel, a defnyddir amgylchedd di-garsinogen hefyd. Felly, rydym yn ceisio edrych ar bob cyfle, nid yn unig adeiladwaith allanol ffrâm yr adeilad, er mwyn defnyddio dulliau mwy gwyrdd, os mynnwch chi.
Mae'r mater o ddatgarboneiddio cartrefi yn fater enfawr. Mae'r rhaglen tai arloesol yn rhoi inni rai o'r atebion ar gyfer y dyfodol, ond yn sicr nid yw'n ein helpu ni o ran y stoc dai bresennol sydd gennym ni, sydd, fel y gwyddoch, yn rhai o'r hynaf a lleiaf effeithlon o ran gwres yn Ewrop. Felly, dyma un o'r rhesymau dros sefydlu grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio cartrefi sy'n bodoli eisoes, ac rydym wedi rhoi'r dasg iddo i'n helpu ni i lunio rhaglen i wireddu ein huchelgais datgarboneiddio ar gyfer y stoc dai bresennol. Nawr, mae hynny'n mynd i olygu llawer o waith ôl-osod, ac nid dim ond gwaith i'r Llywodraeth yw hyn; mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid inni weithio arno ochr yn ochr â benthycwyr morgeisi, cynllunwyr, y sector adeiladu, ac unigolion hefyd, fel bod pobl, pan fyddant yn ystyried buddsoddi yn eu cartref, mewn gwirionedd, maen nhw'n ystyried bod buddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni yn eu cartref yr un mor ddeniadol â buddsoddi mewn rhywbeth mwy gweladwy efallai, megis ystafell ymolchi newydd ac ati. Felly, mae'n mynd i gymryd newid mawr, rwy'n credu, o ran disgwyliadau pobl a'u parodrwydd i gymryd rhan yn yr agenda hon. Yn sicr mae hi'n daith yr ydym yn cychwyn arni.
Ein huchelgais oedd creu 1,000 o dai fforddiadwy yn rhan o'n 20,000 o dai fforddiadwy drwy'r prosiect hwn. Yr hyn yr hoffwn ei weld yn y pen draw, fodd bynnag, yw'r mathau hyn o fodelau o adeiladu yn dod yn fwy o ran o'r brif ffrwd. Felly, nid yw hwn yn brosiect arbenigol mewn unrhyw ffordd; mae hwn yn torri cwys newydd mewn gwirionedd, rwy'n credu, i'n helpu ni i chwyldroi'r ffordd yr ydym yn adeiladu cartrefi yng Nghymru.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n cytuno ei bod yn rhaglen addawol, a bydd yn ddiddorol gweld pa mor bell y gallwch fynd a faint o ddylanwad y bydd yn ei gael yn y pen draw ar eich targedau adeiladu tai. Rwy'n falch eich bod yn gweld rhan fawr ar gyfer busnesau bach a chanolig yn hyn. Rwy'n credu bod hynny'n ddatblygiad i'w groesawu. Fe wnaethoch chi sôn am y prinder sgiliau sydd gennym yn y diwydiant adeiladu yn gyffredinol, ac mae'n bosibl iawn y bydd angen sgiliau arbenigol o ran tai arloesol. Felly, i ba raddau y gallwch chi sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu yng Nghymru i hyfforddi pobl Cymru i wneud y swyddi hyn ac i helpu i ddatblygu eich rhaglen ar gyfer tai arloesol? Mae hefyd yn fater o le yr ydym yn adeiladu'r tai. Mae angen gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio safleoedd tir llwyd gymaint â phosibl, felly a ydych yn cydnabod yr angen hwnnw ac a ydych yn gwneud cymaint â phosibl i ddefnyddio safleoedd tir llwyd?
Rwy'n credu ein bod yn cydnabod y gall arloesi fod ar sawl ffurf ac mae llawer o wahanol fathau o gynlluniau. Gwn eich bod yn ymchwilio i lawer o wahanol fodelau, ac mai dim ond rhai ohonynt yn y pen draw sy'n dwyn ffrwyth. Felly, mae arloesi yn dda. Rwy'n nodi y llynedd, y cafodd Tesco ei adeiladu yn Llundain, ac yn un o'r amodau cynllunio, roedd yn rhaid iddyn nhw ddarparu fflatiau uwchben y siop. Hwnnw oedd y cynllun cyntaf o'i fath yr oeddwn i wedi clywed amdano. Dim ond enghraifft yw hynny, ond a oes syniadau arloesol sy'n debyg i hynny y gellir eu defnyddio, lle'r ydym yn mireinio'r amodau cynllunio fel y gallwn gael mwy o fathau o dai arloesol? Diolch.
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiynau hynny. Yn sicr, fe hoffwn i weld system gynllunio sydd yn galluogi arloesi ym maes tai. Mae gennym ni gyfle yn sgil yr adolygiad cynllunio a thai, y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, o dan ei chyfrifoldebau ar gyfer cynllunio, yn gynharach yn yr haf. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle gwirioneddol i roi arloesi wrth wraidd ein ffordd o feddwl o ran ein system gynllunio ar gyfer tai.
O ran sgiliau, rwy'n ymwybodol iawn bod hwn yn faes—yn naturiol, wrth gwrs, oherwydd ei fod yn faes arloesol—lle nad oes gennym ni'r sgiliau angenrheidiol i gynyddu hyn mor gyflym ag yr hoffem. Dyna pam ei bod yn bwysig inni weithio gyda'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol ar yr agenda hon ac y mae'r rhain yn wir ganolog i'r agenda polisi sgiliau Cymru. Felly, gallaf gadarnhau, bod y partneriaethau sgiliau rhanbarthol wedi ystyried yr agenda carbon isel wrth ddatblygu eu hadroddiadau blynyddol ar gyfer eleni. Gwn fod hon yn drafodaeth sy'n mynd rhagddi rhwng swyddogion y sgiliau a'r partneriaethau rhanbarthol ac eraill.
Yn sicr, mae angen i golegau feddwl yn nhermau beth y gallan nhw ei wneud i sicrhau bod pobl ar gael yn awr â'r sgiliau ar gyfer tai arloesol. Mae'r math o sgil sydd ei angen yn un gwahanol iawn. Ymwelais â rhai o'r datblygiadau ffatri lle mae tai arloesol wedi'u creu, ac roedden nhw'n awyddus iawn i bwysleisio wrthyf ba mor bwysig yw manylder wrth adeiladu tai arloesol, oherwydd eich bod yn adeiladu cydrannau a gaiff eu rhoi at ei gilydd ar y safle, ac mewn gwirionedd nid oes lle am wallau o gwbl o ran lle mae'r darnau yn ffitio gyda'i gilydd ac ati. Felly, mae'n set newydd o sgiliau, ond yn faes yr ydym ni'n gweithio'n wirioneddol ar draws y Llywodraeth arno i sicrhau ein bod ni'n barod i ateb yr her honno.
Unwaith eto, ar y mater o safleoedd tir llwyd, rydym wedi gweld llawer o brosiectau yn cael eu cyflwyno sy'n llenwi safleoedd lle nad oes adeiladu wedi digwydd o'r blaen. Rydym yn awyddus iawn i weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at y tir sydd ei angen arnyn nhw yn y lleoedd y maen nhw ei angen. Un o'r prosiectau sydd gennym ni hefyd yw'r gronfa tir ar gyfer tai. Dyma gronfa gwerth miliynau o bunnau, sef arian grant ar gyfer cymdeithasau tai er mwyn eu helpu i brynu'r tir sydd ei angen arnynt i wneud y gwaith adeiladu sydd ei angen o ran cyrraedd ein targedau uchelgeisiol ar gyfer tai.
Rwy'n siŵr bod Carl Sargeant yn gwenu'n fwyn arnom ni heddiw oherwydd ychydig llai na blwyddyn yw hi ers iddo gyhoeddi cam un y prosiect tai arloesol gwych hwn. Hoffwn longyfarch y Llywodraeth yn wirioneddol am fwrw ymlaen â hyn a mwy na dyblu nifer y tai yr ydym yn mynd i'w hadeiladu. Hoffwn siarad am un o'r prosiectau y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw yn eich datganiad, sef yr un ar Heol y Ddinas yn fy etholaeth i—£9 miliwn i gymdeithas dai Linc Cymru godi adeilad 10 llawr gwych, 50 o gartrefi a wneir o bren wedi'u laminadu ar draws. Mae ar safle hen warws dodrefn a aeth ar dân ychydig o flynyddoedd yn ôl, felly bydd yn adnewyddu safle tir llwyd mewn ardal sy'n dioddef yn fawr o lygredd aer. Bydd yr adeilad hwn, fel y'i cynigir, yn helpu i fynd i'r afael â lefel llygredd yn yr aer. Ychydig iawn o ardaloedd gwyrdd a geir yn yr ardal, felly mae'n wych y bydd gan bob un o'r 50 o fflatiau ei falconi gwyrdd ei hun, gyda gerddi fertigol, yn ogystal â gardd ddau lawr ar frig yr adeilad er mwyn i breswylwyr allu ei rhannu. Mae'r cyfan yn seiliedig ar y Bosco Verticale ym Milan, sef dau floc tŵr â 900 o goed. Yn amlwg nid yw hyn mor uchelgeisiol â hynny, gan nad yw'r safle mor fawr. Ond rwy'n siŵr mai dyma'r ffordd ymlaen ar gyfer y math o dai y bydd eu hangen arnom yn ein dinasoedd. Mae hyn yn gyffrous iawn. Yn wir, mae'r pren wedi'u lamineiddio ar draws yn defnyddio llawer llai o garbon na'r Bosco Verticale, a bydd hefyd yn cymryd llawer llai o amser i'w adeiladu. Mae Linc Cymru hyd yn oed yn sôn am adeiladu llawr yr wythnos, ar sail y ffaith y bydd llawer ohono yn cael ei ragffurfio yn y ffatri. Felly, gwych iawn, a diolch yn fawr iawn am sicrhau bod yr arian ar gael.
Yn sgil y llwyddiant a'r diddordeb yn yr holl brosiectau tai arloesol yr ydych wedi eu cael, tybed a allwn ni symud yn gyflymach wrth weithredu'r argymhelliad yn yr adroddiad 'rhagor│gwell', a ddywedodd fod angen darparu adeiladau o fewn amserlenni byrach â llai o ynni wedi'i ymgorffori ac sy'n storio carbon ac yn arwain at effaith ecolegol gadarnhaol. Wel, bydd y tŵr hwn yn gwneud hynny, a tybed pryd y byddwn yn mynd ati i ddiwygio rheoliadau adeiladu i atal y cartrefi diddychymyg, sy'n anodd eu gwresogi ac sy'n rhy ddrud y mae cwmniau adeiladu preifat mawr yng Nghaerdydd yn parhau i'w codi. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu ein sicrhau ni y byddwn yn bwrw ymlaen â'r math o reoliadau adeiladu effeithlon o ran ynni a gafodd eu rhwygo gan y Torïaid yn 2015.
Diolch yn fawr iawn ichi am eich cwestiynau ac am eich brwdfrydedd dros y prosiect yn eich etholaeth chi, a fydd yn amlwg y cyntaf yn y DU—mae'n hynod gyffrous i gael y gerddi fertigol hynny ac ati. Rydych yn cyfeirio ato fel prosiect sy'n adfywio'r ardal, a'r hyn sy'n arbennig o gyffrous am y rhaglen tai arloesol yn fy marn i yw nad tai arloesol ar wahân yw hyn, ond tai arloesol sy'n rhan o'n hagenda ehangach yn Llywodraeth Cymru. Felly, bydd yr £1.9 miliwn er mwyn i'r Gymdeithas Dai Newydd adeiladu 23 o gartrefi yn rhan o'r datblygiad Sied Nwyddau yn y Barri yn cynnwys mannau ar gyfer busnesau newydd ar yr un syniad â'r hyn a welwn yn y TramShed mewn gwirionedd, sy'n brosiect adfywio gwych, os oes unrhyw un wedi cael y cyfle i ymweld ag ef, a'r un bobl sydd y tu ôl i hynny fydd yn cynnal y prosiect arbennig hwnnw. Hefyd, bydd un o'r prosiectau yn y gogledd yn creu podiau hyblyg, symudol, wedi'u hadeiladu i safonau tai goddefol, i bobl ddigartref unigol fyw ynddyn nhw. Felly, mae hyn yn ymdrin â rhywfaint o'r angen brys am dai canolradd i bobl sy'n cysgu ar y stryd ar hyn o bryd. Felly, dyna brosiect cyffrous arall. Ac, wrth gwrs, mae'r llety i bobl dros 55 oed y cyfeiriais ato yn gynharach hefyd yn ymwneud â chreu tai sy'n addas i bobl wrth iddyn nhw fynd yn hŷn a'u hanghenion yn newid, ac ati. Unwaith eto, mae gennym ni brinder dybryd o dai addas ar gyfer pobl hŷn. Felly, mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â cheisio sicrhau ein bod yn cysylltu ar draws y Llywodraeth o ran cyflawni mwy nag un peth yn sgil y prosiect arloesol hwn.
Mae coed yn rhan o 22 o brosiectau. Mae pobl bob amser yn dweud wrthym na allwch chi adeiladu tai â choed o Gymru, ond rwy'n credu bod y prosiect hwn yn sicr yn profi nad yw hynny'n wir. Rydym yn sicr yn gwybod, yn ogystal â defnyddio coed yn y prosiectau, bod gwaith yn cael ei wneud ochr yn ochr â hyn mewn nifer o brifysgolion sy'n dangos beth y gellir ei wneud o ran trin coed Cymru er mwyn ei gryfhau i allu defnyddio hyd yn oed mwy ohono wrth adeiladu tai yng Nghymru hefyd.
O ran y mater o reoliadau adeiladu, yn anffodus, cyfrifoldeb fy nghyd-Aelod yw hwnnw, a byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch chi i roi'r sicrwydd yr ydych chi'n ei geisio.
Diolch i'r Gweinidog.