Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn nadl yr Aelodau ar dlodi mislif ym mis Mai, clywsom fod rhai merched ysgol o deuluoedd incwm isel yn colli ysgol pan fyddant yn cael eu mislif oherwydd yr her o ymdopi oddi cartref heb eitemau mislif digonol. Rwy'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o £700,000 o arian cyfalaf i wella cyfleusterau ac offer mewn ysgolion, ac roedd yn arbennig o galonogol nodi y bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd. Mae hyn yn cydnabod ymchwil sy'n dangos bod mwy o ferched yn dechrau eu mislif yn iau ac nad oes gan rai ysgolion cynradd y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith y cyllid hwn, a beth yw'r disgwyliadau o ran cynaliadwyedd y cyllid yn y dyfodol?