Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:51, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Roedd ddoe yn ddiwrnod Adfywio Calon. Rwy'n siŵr eich bod wedi rhagweld y cwestiwn hwn. Dim ond hyn a hyn y gall cynllun yr Ysgrifennydd iechyd ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ei wneud, a hyd y gallaf ddweud o siarad â'r elusennau perthnasol ledled Cymru, mae gwrthwynebiad ymhlith eich swyddogion i gynnwys sgiliau achub bywyd mewn argyfwng, nid adfywio cardio-pwlmonaidd yn unig, fel rhan orfodol o gwricwlwm newydd Donaldson. Nawr, rwy'n sylweddoli bod dull Donaldson yn ymwneud â pheidio â bod yn rhy gyfarwyddol, ond ceir eithriadau i hyn yn barod. Pa dystiolaeth sy'n rhaid i mi ei rhoi ichi er mwyn sicrhau bod addysgu sgiliau achub bywyd gorfodol yn un o'r eithriadau hynny?