1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 17 Hydref 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, beth amser yn ôl, gofynnais i chi a oeddech yn credu y byddai ymadael â'r UE yn arwain at unrhyw fanteision i sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch ac fe ddywedoch nad oeddech. Mewn erthygl gan y BBC yn gynharach y mis hwn, tynnwyd sylw at y ffaith bod ein colegau'n gweld bod cyfleoedd i'w cael ar gyfer addysg bellach ac uwch i'r rheini sy'n mynd i'r drafferth o edrych amdanynt. A yw'r erthygl honno yn gynharach y mis hwn, lle nododd y BBC fod pennaeth coleg Caerdydd wedi dweud bod Brexit yn arwain at hwb enfawr o £3 miliwn gan fyfyrwyr o Tsieina, yn dangos eich bod yn anghywir neu ai pennaeth y coleg sy'n anghywir?
Rwy'n falch iawn fod Coleg Caerdydd a'r Fro yn awyddus i archwilio cyfleoedd newydd. Mae myfyrwyr rhyngwladol yn bwysig iawn i'n sefydliadau AB ac AU, a hoffwn anfon neges glir iawn i fyfyrwyr ledled y byd y gallant fod yn sicr o brofiad cadarnhaol iawn wrth ddod i astudio yng Nghymru. Pe bawn i ond yn gallu darbwyllo'r Swyddfa Gartref i beidio â chynnwys eu niferoedd yn ein ffigurau mewnfudo, efallai y gallem gael mwy ohonynt eto.
Diolch am yr ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Aeth yr is-bennaeth yn ei blaen i ddweud:
Mae ein partneriaeth gyda Tsieina wedi dod yn gryf iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, drwy gymorth Brexit o bosibl.
Mae eich plaid chi—ac wrth hynny golygaf blaid y Democratiaid Rhyddfrydol rydych yn ei chynrychioli, yn hytrach na'r Blaid Lafur rydych yn ei gwasanaethu—eisiau anwybyddu pleidleisiau mwyafrif pleidleiswyr Cymru ac aros yn yr UE, fel y mae eich cyd-Aelodau o'r Cabinet. Os cewch eich dymuniad a'ch bod yn sicrhau Brexit ffug, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i wneud iawn am y diffyg gwerth miliynau o bunnoedd o'r difidend y gall prifysgolion a cholegau ei ddisgwyl yn sgil Brexit?
Mae'n rhaid imi ddweud, Lywydd, mai'r Aelod, ac efallai ei chyd-Aelodau o'i chwmpas—ond nid wyf fi byth yn gallu dweud a oes consensws ymhlith aelodau grŵp UKIP—yw'r unig bobl y gwn amdanynt, yn y sectorau AB ac AU, nad ydynt yn anesmwyth ynglŷn â Brexit. Buaswn yn ei hannog i wrando ar Prifysgolion Cymru a'r sector AB ynglŷn â'r heriau real iawn fydd yn wynebu addysg bellach ac uwch o ganlyniad i Brexit: y ffaith y bydd cyfyngiadau ar nifer y myfyrwyr a all ddod yma i astudio; y ffaith bod cryn dipyn o bryder eisoes ymhlith aelodau o staff Ewropeaidd sydd eisoes o bosibl yn gwneud penderfyniadau i adael addysg uwch Cymru a mynd i weithio yn rhywle arall; y bygythiad i Horizon 2020, a'r bygythiad i allu myfyrwyr Cymru i gymryd rhan yn Erasmus+. Mae'r holl faterion hynny'n fygythiad gwirioneddol i'n sectorau AB ac AU.
Diolch am y rhestr o sgwarnogod, Ysgrifennydd y Cabinet. Af ymlaen i drafod yr agwedd ymarferol ar hyn. Hoffwn wybod beth rydych yn ei wneud mewn gwirionedd i helpu prifysgolion a cholegau i farchnata eu hunain i'r sylfaen myfyrwyr rhyngwladol ehangach a mwy proffidiol. Er enghraifft, a ydych wedi gofyn i'r is-gangellorion mewn colegau AB pa gymorth ymarferol y gallwch ei roi iddynt? Er enghraifft, noddi a threfnu eu presenoldeb mewn ffeiriau addysgol a thalu am ryddhau staff iddynt allu gwneud hynny mewn marchnadoedd rhyngwladol megis Tsieina a Malaysia, a allai fod yn broffidiol iawn i ni, neu'r modd y gallai cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru sicrhau bod eu hymgyrchoedd marchnata'n cael mwy o effaith, fel y gellir denu mwy o fyfyrwyr i Gymru. A allwch egluro, os gwelwch yn dda, pa gamau ymarferol rydych yn eu cymryd ar hyn o bryd i farchnata ein prifysgolion a'n colegau y tu hwnt i'r UE, sef lle mae'r rhan fwyaf o'r farchnad mewn gwirionedd—nid yr UE?
Yn amlwg, nid oedd yr Aelod yn gwrando'n astud iawn pan oeddwn yn rhoi tystiolaeth ar hyn yn ddiweddar yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Pe bai wedi gwrando, byddai'n ymwybodol o'r buddsoddiad o fwy na £2 miliwn a roddwyd i Cymru Fyd-Eang drwy'r gronfa bontio Ewropeaidd i'w cynorthwyo i farchnata eu sefydliadau AU dramor. Ym mis Medi, gydag is-ganghellor Prifysgol Abertawe, cynhaliais ddigwyddiad 'Astudio yng Nghymru' yn swyddfa conswl Prydain yn Efrog Newydd. Rydym yn parhau i ddatblygu ein perthynas gyda'r sector AU yn Fiet-nam, a bydd un o ddirprwy is-gangellorion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Fiet-nam cyn bo hir, eto i ddatblygu gwaith systemau i systemau.
Ond gadewch imi ddweud yn gwbl glir, er bod hyn oll i'w groesawu'n fawr, pe bai'r Aelod yn gwrando ar Prifysgolion Cymru, byddai'n ymwybodol o'u pryderon enfawr ynghylch effaith Brexit. Pe bai'n gwrando ar lais y myfyrwyr, byddai'n ymwybodol mai'r pryderon a fynegwyd gan y prifysgolion a'r pryderon a fynegwyd gennyf fi a'r Llywodraeth hon yw'r pryderon a fynegwyd gan lais y myfyrwyr. Tybed pam fod cymaint o gonsensws ar hyn os yw'r pryderon yn ddi-sail.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Weinidog, mae athrawon mewn ysgolion yn derbyn codiad cyflog, wrth gwrs, o 3.5 y cant, neu hyd at 3.5 y cant, ond bydd gennym ni sefyllfa wedyn lle bydd athrawon sy'n dysgu disgyblion chweched dosbarth mewn ysgolion yn derbyn codiad cyflog, tra bydd y rhai sy'n dysgu myfyrwyr chweched dosbarth mewn colegau addysg bellach, wrth gwrs, ddim yn derbyn codiad cyflog cyfatebol. Nawr, nid wyf yn mynd i ofyn ichi ymyrryd yn y trafodaethau presennol yna, ond, o ran egwyddor, a ydych chi'n cytuno bod angen sicrhau chwarae teg cyflog i athrawon mewn colegau addysg bellach, o'u cymharu ag athrawon ysgol?
A gaf i ddiolch yn fawr, Llyr, am y cwestiwn? Byddwch chi'n ymwybodol bod cyflogau athrawon yn cael eu penderfynu ar hyn o bryd gan y Llywodraeth yn San Steffan, a byddwn yn derbyn consequential er mwyn talu ar gyfer hynny. Nid yw hynny'n digwydd pan fo'n dod i addysg bellach.
O ran beth sy'n digwydd ar hyn o bryd, rŷm ni'n monitro'r sefyllfa, wrth gwrs, gyda beth sy'n digwydd yn y negodi rhwng yr undebau a ColegauCymru, a gadewch inni fod yn glir mai nhw sydd yn gyfrifol am benderfynu beth yw'r cyflogau. Ond, o ran egwyddor, rydw i'n meddwl y byddai hi'n gwneud synnwyr bod rhywun sy'n dysgu ffiseg mewn ysgol i'r chweched dosbarth efallai yn haeddu'r un math o gyflog â phobl sydd yn dysgu mewn coleg chweched dosbarth.
Diolch ichi am yr eglurdeb yna, ac am dderbyn yr egwyddor, achos mae hi'n neges bwysig, rydw i'n meddwl, y mae'r sector eisiau ei chlywed. Wrth gwrs, yn ôl ColegauCymru, mae'n debyg y bydd angen £10 miliwn i dalu am godiad cyflog ar gyfer staff addysg bellach er mwyn cynnig codiad cymesur ar eu cyfer nhw.
O fod yn ymwybodol o sefyllfa gyllido'r sector fel y mae hi ar hyn o bryd, mae'n debyg y byddai gofyn i Lywodraeth Cymru gwrdd â'r gost, neu o leiaf peth o'r gost yna, felly a gaf i ofyn, gan eich bod chi'n gwybod bod yna anghydfod ar hyn o bryd, gan eich bod chi'n gwybod mai'r tebygolrwydd yw y bydd gofyn i'r Llywodraeth gyfrannu at y gost ychwanegol yna petai hi'n codi, a hefyd gan eich bod chi'n gwybod bod cyllideb y Llywodraeth yma yn y broses o gael ei chwblhau, pa drafodaethau ŷch chi wedi'u cael â'r Gweinidog neu'r Ysgrifennydd cyllid i ddadlau dros gefnogaeth ychwanegol i sicrhau cyflogau tecach ar gyfer y rheini yn y sector?
Tan ein bod ni'n glir beth y mae'r trafodaethau yn mynd i'w benderfynu, mae'n anodd iawn inni benderfynu beth ddylai fod yn y gyllideb, ond a gaf i fod yn glir gyda chi ein bod ni'n ymwybodol o'r sefyllfa? Mae Ysgrifennydd y gyllideb yn ymwybodol y bydd hwn, efallai, yn fater y bydd yn rhaid edrych arno. Felly, rydw i'n meddwl bod rhaid tanlinellu'r ffaith, wrth gwrs, ein bod ni'n trio delio â'r materion hyn tra ydym ni dal yn ceisio trafod ac wynebu austerity. Mae hynny wedi creu problem, wrth gwrs. Felly, mae'n gwestiwn anodd inni i wneud y penderfyniadau hyn, ond mae eisiau ichi fod yn hollol glir ein bod ni'n ymwybodol o'r sefyllfa, a bod yr Ysgrifennydd cyllid hefyd yn ymwybodol o'r sefyllfa.
Diolch yn fawr. Nawr, mi ddywedoch chi yn ddiweddar, ac rydw i'n siŵr eich bod chi wedi rhagweld y byddai rhywun yn codi hyn—ond mi ddywedoch chi fod angen mwy o bwyslais ar ddysgu gydol oes, ac nad yw hynny yn flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru. A allwch chi fod yn glir gyda ni, onid eich bai chi yw hynny, oherwydd chi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y maes o fewn y Llywodraeth yma?
Diolch yn fawr. Yn amlwg, roedd hynny wedi ei ddweud mewn fforwm gwahanol, ac nid yma yw'r lle, rydw i'n meddwl, i drafod blaenoriaethau'r dyfodol i'r Blaid Lafur. Ond, a gaf i fod yn glir mai llymder sydd wedi achosi'r toriadau sydd wedi digwydd hyd yn hyn, ond bod y Llywodraeth bresennol yn gwbl ymrwymedig i sicrhau ein bod ni'n cario ymlaen i fuddsoddi mewn basic skills, mewn dysgu Saesneg i bobl sydd â Saesneg fel ail iaith, a hefyd ar gyfer sicrhau bod pobl gyda sgiliau digidol? Felly, mae'r ymrwymiad yna ar hyn o bryd gan y Llywodraeth.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Roedd ddoe yn ddiwrnod Adfywio Calon. Rwy'n siŵr eich bod wedi rhagweld y cwestiwn hwn. Dim ond hyn a hyn y gall cynllun yr Ysgrifennydd iechyd ar gyfer ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ei wneud, a hyd y gallaf ddweud o siarad â'r elusennau perthnasol ledled Cymru, mae gwrthwynebiad ymhlith eich swyddogion i gynnwys sgiliau achub bywyd mewn argyfwng, nid adfywio cardio-pwlmonaidd yn unig, fel rhan orfodol o gwricwlwm newydd Donaldson. Nawr, rwy'n sylweddoli bod dull Donaldson yn ymwneud â pheidio â bod yn rhy gyfarwyddol, ond ceir eithriadau i hyn yn barod. Pa dystiolaeth sy'n rhaid i mi ei rhoi ichi er mwyn sicrhau bod addysgu sgiliau achub bywyd gorfodol yn un o'r eithriadau hynny?
Diolch, Suzy. Yn wir, roeddwn wedi rhagweld y byddech, ar ryw adeg, yn gofyn y cwestiwn hwn, oherwydd eich gwaith yn ymgyrchu ar hyn. Fel y dywedwch yn gwbl gywir, mae 'Dyfodol Llwyddiannus' wedi ein herio i ailfeddwl am ein hymagwedd at y cwricwlwm, ac mae'n dweud yn glir iawn fod lefel uchel o gyfarwyddyd a manylder ar lefel genedlaethol yn cyfyngu, a dyfynnaf o adroddiad Donaldson,
'ar y llif a'r dilyniant yn y dysgu gan blant a phobl ifanc'.
Fel y cyfryw, mae angen inni sicrhau nad yw'r cwricwlwm yn rhoi rhestr gynhwysfawr a manwl o bopeth sy'n rhaid ei addysgu, ac mae perygl gwirioneddol wrth wneud hynny. Fodd bynnag, mae'r rhain yn sgiliau pwysig a ddylai fod ar gael i blant eu dysgu. Felly, fe fyddwch yn ymwybodol mai un o'r meysydd dysgu a phrofiad, fel yr amlinellodd Donaldson, yw iechyd a lles, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd yn ein rhwydwaith o ysgolion arloesi. Mae swyddogion hefyd yn gweithio gydag ysgolion arloesi a chynrychiolwyr o Sefydliad Prydeinig y Galon, y Groes Goch Brydeinig ac Ambiwlans Sant Ioan i ystyried diogelwch ac iechyd pobl eraill yn y cwricwlwm newydd. Ac maent yn gweithio gyda'i gilydd i ystyried sut y gall y cwricwlwm gefnogi a galluogi ysgolion i ymgorffori sgiliau achub bywyd yn ôl angen y dysgwr.
Diolch. Roeddwn wedi rhagweld eich ateb chi hefyd, fel y mae'n digwydd. Rwy'n disgwyl y byddwn yn ôl yma cyn i gwricwlwm Donaldson gael ei gwblhau'n derfynol, gan y credaf fod lle—nid yw hyn yr un fath â, 'A gaf fi roi hebogyddiaeth ar y cwricwlwm?', mae a wnelo â sgiliau achub bywyd. Ac mae galw am iddo fod yn orfodol ar y cwricwlwm, hyd y gallaf ddweud, felly efallai y byddwn yn dychwelyd ato.
Yn y cyfamser, hoffwn ddychwelyd at y cwestiynau y buoch yn eu hateb yn gynharach ar les disgyblion ysgol benywaidd. Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi canfod fod bwlio ar sail rhywedd, wrth gwrs, yn dal i fod yn broblem yn ein hysgolion, a bod cydnabyddiaeth bellach fod anhwylder sbectrwm awtistiaeth ymhlith merched, mae'n debyg, yn cael ei nodi'n llai aml na nifer yr achosion mewn gwirionedd, yn rhannol wrth gwrs am fod merched yn llwyddo i ddysgu ymddygiad sy'n cuddio eu gwir brofiadau. Nawr, yn bersonol, credaf y bydd Bil Paul Davies yn cyfeirio sylw ac adnoddau at hyn, ond buaswn yn falch o gael gwybod beth rydych yn ei wneud ar hyn o bryd i godi ymwybyddiaeth ymhlith staff a disgyblion ynglŷn â sut y gellir nodi merched sydd â chyflyrau anhwylder sbectrwm awtistiaeth mewn ysgolion, a sut i'w cefnogi os ydynt yn cael eu bwlio, ac efallai ar yr adegau hynny pan allent hwy fod yn bwlio rhywun arall. Diolch.
Diolch, Suzy. Gadewch imi ddweud yn glir: prin yr aiff diwrnod heibio heb i rywun ofyn imi roi rhywbeth yn y cwricwlwm, felly, credwch fi, mae cryn dipyn o alw am wneud llawer iawn o bynciau yn elfen statudol o'r cwricwlwm. Nid wyf yn gwybod os wyf fi erioed wedi cael hebogyddiaeth, ond rwyf wedi cael awgrymiadau y dylai pethau eraill o'r math hwnnw fod yn orfodol i bob plentyn ysgol.
Ar fater bwlio, rwy'n siŵr fod llawer o'r Aelodau wedi gweld sylw yn y papurau newydd ac ar y rhyngrwyd i achosion yn ymwneud â merch ifanc yr wythnos hon. Hoffwn ddweud yn gwbl glir: nid oes unrhyw le i fwlio unrhyw un o'n myfyrwyr yn ein hysgolion mewn unrhyw ffordd. Fel y dywedais wrth Leanne Wood, rwy'n disgwyl i'n hysgolion fod yn lleoedd diogel ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Y tymor hwn, rydym yn y broses o ddiweddaru ac adnewyddu ein canllawiau gwrth-fwlio i ysgolion i'w gwneud yn ddogfen lawer mwy defnyddiol na'r hyn a fu gennym yn y gorffennol o bosibl, a bydd honno'n cael ei chyhoeddi maes o law.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn hefyd ynglŷn â nodi a chynorthwyo plant ag anghenion dysgu ychwanegol—
Na, na.
—o bob math.
Ond nid ADY.
ADY a phlant â niwro-wahaniaethau sydd efallai'n dangos mathau gwahanol o ymddygiad yn yr ysgol a all fod yn rhywbeth y mae bwli yn penderfynu canolbwyntio arnynt. Felly, mae ein datblygiad dysgu proffesiynol newydd, fel rhan o addysg gychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus i staff sydd eisoes yn yr ysgol—mae'n ymdrin yn rhannol ag ADY, oherwydd os gallwn sicrhau bod pethau'n iawn i blant ag ADY byddwn yn sicrhau bod pethau'n iawn i'n holl blant. Mae manteision gwell dealltwriaeth, empathi a sut y gallwn ymdopi â gwahaniaeth yn ein hystafell dosbarth—waeth beth yw natur y gwahaniaeth hwnnw—yn helpu ein holl blant. Rwy'n falch iawn o ddweud bod yr adborth cychwynnol gan Estyn, sy'n edrych ar ein rhaglen newydd i baratoi a thrawsnewid y system ADY, wedi bod yn gadarnhaol iawn am y datblygiadau hyd yn hyn.
Rwy'n ddiolchgar am eich ateb, mewn gwirionedd. Rwy'n falch o glywed bod y gwaith yn mynd rhagddo ar y canllawiau ar fwlio, a gobeithiaf y byddant mor eang â phosibl ac yn cynnwys bwlio pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol—a llu o ffactorau eraill rydym wedi eu trafod yma o'r blaen.
Roeddwn yn ddiolchgar i'r Gweinidog am gadarnhau nad yw'r codiad cyflog ar gyfer athrawon—yr arian canlyniadol Barnett ohono, y dywedasoch y byddai'n mynd i athrawon mewn sesiwn gwestiynau ddiweddar yma—yn cynnwys darlithwyr, yn ôl pob tebyg. A gaf fi ofyn ichi felly—dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid, ychydig wythnosau yn ôl wrth ateb fy nghwestiwn ar y gyllideb ddrafft, ei fod yn rhoi £15 miliwn yn eich cyllideb i fynd, a dyfynnaf, yn uniongyrchol i ysgolion. Nawr, ai arian newydd yw hwnnw neu a yw'n rhan o'r £100 miliwn y mae eisoes wedi'i addo chi, ac ar beth fydd yn cael ei wario?
Yn gyntaf oll, a gaf fi gywiro—? Mae'n rhywbeth technegol, ond mae angen ei gywiro.
O'r gorau.
Nid oes arian canlyniadol Barnett i dalu am godiad cyflog athrawon. Yn Lloegr, mae'n rhaid i'r arian hwnnw ddod o'r Adran Addysg. Mae'r rhain yn adnoddau rydym wedi darbwyllo Llywodraeth San Steffan ei bod yn ddyletswydd arnynt i'w darparu inni, felly nid yw'n arian canlyniadol Barnett. Er bod hynny'n swnio fel peth bach, mewn gwirionedd, wrth ystyried y darlun mawr, mae'n wahaniaeth go bwysig i'w wneud. Gallaf ddweud yn gwbl glir hefyd y bydd pob ceiniog o'r arian hwnnw'n cael ei ddosbarthu, drwy'r grant cymorth refeniw, i awdurdodau lleol ei ddefnyddio ar gyfer cyflogau athrawon. Ni fydd dim ohono'n cael ei gadw yn ganolog. Mae'r £15 miliwn yn ychwanegol at fy nghyllideb i; dyna pam y gwelwch arwydd plws wrth ymyl y prif grŵp gwariant addysg yng ngwaith papur y Gweinidog cyllid. Byddwn yn dosbarthu'r arian drwy awdurdodau lleol unigol. Bydd yn cael ei ddarparu'n bennaf at ddibenion datblygu proffesiynol, a gobeithiaf wneud datganiad i'r Siambr maes o law i roi manylion llawn ein pecyn datblygiad proffesiynol newydd ar gyfer y staff sydd yn ein hysgolion ar hyn o bryd.