Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 17 Hydref 2018.
ADY a phlant â niwro-wahaniaethau sydd efallai'n dangos mathau gwahanol o ymddygiad yn yr ysgol a all fod yn rhywbeth y mae bwli yn penderfynu canolbwyntio arnynt. Felly, mae ein datblygiad dysgu proffesiynol newydd, fel rhan o addysg gychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus i staff sydd eisoes yn yr ysgol—mae'n ymdrin yn rhannol ag ADY, oherwydd os gallwn sicrhau bod pethau'n iawn i blant ag ADY byddwn yn sicrhau bod pethau'n iawn i'n holl blant. Mae manteision gwell dealltwriaeth, empathi a sut y gallwn ymdopi â gwahaniaeth yn ein hystafell dosbarth—waeth beth yw natur y gwahaniaeth hwnnw—yn helpu ein holl blant. Rwy'n falch iawn o ddweud bod yr adborth cychwynnol gan Estyn, sy'n edrych ar ein rhaglen newydd i baratoi a thrawsnewid y system ADY, wedi bod yn gadarnhaol iawn am y datblygiadau hyd yn hyn.