Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 17 Hydref 2018.
Yn ôl ymchwil diweddar gan Chwarae Teg, mae menywod ifanc yn dal i ffafrio sectorau gwaith sydd wedi'u dominyddu gan fenywod yn draddodiadol, er yr angen am fwy o fenywod mewn meysydd fel STEM ac ati. Un honiad yn yr adroddiad ydy nad ydy gwasanaethau cyngor gyrfaoedd yn cynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar ferched ifanc. Rydw i yn gwybod bod yna nifer o unigolion yn gwneud gwaith clodwiw, ond a ydy'r Llywodraeth yn hyderus bod gwasanaethau cyngor gyrfaoedd yn herio stereoteipiau yn ddigonol ac yn darparu gwybodaeth am bob math o yrfaoedd a sectorau?