Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 17 Hydref 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, Weinidog, bydd economi Cymru yn trawsnewid dros y degawdau sydd i ddod wrth i dechnolegau digidol ddod yn fwy amlwg. Bydd yn rhaid i fusnesau addasu wrth i ddata ddod yn nwydd mwy gwerthfawr na dim arall. Er mwyn helpu ein heconomi i addasu, mae'n rhaid inni sicrhau bod ein pobl ifanc yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gan genedlaethau'r dyfodol y sgiliau codio sydd eu hangen ar gyfer ein heconomi ddigidol yn y dyfodol?