Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion gan etholwyr ynglŷn â'u profiad o wneud ceisiadau i Cyllid Myfyrwyr Cymru. Nid yw gohebiaeth gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sy'n darparu'r gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru, wedi darparu'r canlyniadau a'r esboniadau roedd rhai o fy etholwyr yn dymuno'u cael. Un pryder sy'n cael ei fynegi wrthyf yn gyson yw'r sylw nad yw'r staff wedi cael hyfforddiant digonol i'w galluogi i ateb cwestiynau penodol, ac nad oes uwch reolwyr wrth law i gynorthwyo. Gall hyn arwain at oedi wrth brosesu ceisiadau, gan achosi cryn bryder i etholwyr sydd â dyddiadau pendant a chlir ar gyfer mynd i'r brifysgol. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa drafodaethau a gafwyd gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i sicrhau bod Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl?