1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 17 Hydref 2018.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfraddau boddhad cwsmeriaid Cyllid Myfyrwyr Cymru? OAQ52779
Roedd cyfradd boddhad Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer y flwyddyn hyd yma yn 86 y cant, ar 1 Hydref. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu gwasanaeth o'r safon uchaf.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion gan etholwyr ynglŷn â'u profiad o wneud ceisiadau i Cyllid Myfyrwyr Cymru. Nid yw gohebiaeth gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, sy'n darparu'r gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru, wedi darparu'r canlyniadau a'r esboniadau roedd rhai o fy etholwyr yn dymuno'u cael. Un pryder sy'n cael ei fynegi wrthyf yn gyson yw'r sylw nad yw'r staff wedi cael hyfforddiant digonol i'w galluogi i ateb cwestiynau penodol, ac nad oes uwch reolwyr wrth law i gynorthwyo. Gall hyn arwain at oedi wrth brosesu ceisiadau, gan achosi cryn bryder i etholwyr sydd â dyddiadau pendant a chlir ar gyfer mynd i'r brifysgol. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa drafodaethau a gafwyd gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i sicrhau bod Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl?
Diolch, Jayne. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am anawsterau rhai o'ch etholwyr wrth ymdrin â'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Yr wythnos cyn y diwethaf, cyfarfûm gyda phrif weithredwr newydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn eu swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno i drafod fy nisgwyliadau o'r hyn yr hoffem ei sicrhau ar gyfer myfyrwyr Cymru gyda hi ac uwch aelodau eraill o staff, ac rydym yn parhau i drafod gyda hwy sut y gellir gwella gwasanaethau.
Rydym yn ymwybodol o rai o'r anawsterau y mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi'u hwynebu o ran recriwtio a chadw staff yng Nghyffordd Llandudno, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dod i gytundeb gyda'r Trysorlys a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr y bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn talu'r cyflog byw go iawn i bob un o'r staff, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n dechrau datrys rhai o'r problemau gyda recriwtio a chadw staff. Yn wir, mae sawl aelod newydd o staff wedi cael hyfforddiant sefydlu y mis hwn, ond mae rhai swyddi gwag yn y swyddfa o hyd, ac mae'n amlwg y gall hynny arwain at anawsterau. Ac fel y dywedais, rydym yn parhau i drafod gyda'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr pa gamau y gallant eu cymryd i wella'r gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr Cymru.
Hoffwn ategu'r un math o sylwadau â Jayne Bryant AC, oherwydd gwn fod fy nhîm o staff a minnau wedi teimlo'n rhwystredig iawn gyda'r distawrwydd ar y pen arall wrth ymwneud ar ran rhywun sydd mewn sefyllfa anobeithiol, ac a dweud y gwir, mae'r amser hir y maent wedi bod yn ei gymryd hyd yn oed i ymateb i ohebiaeth wedi bod yn annerbyniol. Ond wrth sôn am gyllid myfyrwyr, mae nifer gynyddol o fyfyrwyr yn dod ataf yn fwyfwy pryderus ynglŷn â lefelau eu dyled. Dengys ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch y bydd dyledion graddedigion o'r cartrefi tlotaf yn cynyddu 20 y cant, o £25,000 i £30,000, ac y bydd dyledion graddedigion o gartrefi gydag incwm blynyddol o £50,000 yn cynyddu oddeutu 40 y cant.
Dros y saith mlynedd ddiwethaf, mae Bethan Jenkins AC, ein cyd-Aelod, wedi tynnu ein sylw sawl tro yn y Siambr hon at gynhwysiant ariannol ac addysg ariannol drwy ein hysgolion, ein colegau a'n prifysgolion. Rwyf wedi ei chefnogi gyda'r galwadau hynny, a gwn fod y Llywodraeth i fod i gymryd camau cadarn i ystyried sut y gallwn sicrhau'r math hwn o ymwybyddiaeth a chodi proffil y ffordd rydych yn rheoli eich arian eich hun. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr holl ddadleuon a gawsom yn flaenorol, pan soniwyd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu?
A gaf fi ddweud, Lywydd, fy mod wedi rhoi amser i eistedd gyda'r bobl sy'n ateb galwadau yng Nghyffordd Llandudno er mwyn gwylio'r ffordd y maent yn gweithredu a'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu? Ac a gaf fi ddweud bod ymroddiad y staff a'u hymrwymiad i wneud y gwaith yn iawn wedi creu argraff enfawr arnaf? Felly, pan oeddwn yno, yn sicr nid oeddwn yn dyst i unrhyw ddistawrwydd ar ben y llinellau ffôn, ac rwy'n synnu bod yr Aelod yn teimlo fel hyn am lawer o'i hetholwyr, rwy'n tybio, sy'n gweithio yn y swyddfa honno.
Ar fater dyledion myfyrwyr, gadewch inni fod yn gwbl glir ynglŷn â'r hyn y mae myfyrwyr o aelwydydd tlotaf Cymru yn ei gael: maent yn cael grant nad oes angen ei ad-dalu o dros £9,000 y flwyddyn i astudio, a gadewch inni fod yn gwbl glir, Janet Finch-Saunders, na fyddai'r myfyrwyr hynny, pe baent yn byw dros y ffin yn Lloegr, yn derbyn unrhyw beth. Dim un geiniog goch.
O ran cynhwysiant ariannol, mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau difrifol, a bydd yn gwybod, wrth inni ddatblygu ein cwricwlwm newydd, fod materion sy'n ymwneud â chynhwysiant ariannol ac addysg ariannol yn bwysig iawn, ac yn wir, unwaith eto, rwyf wedi rhoi amser i archwilio sut y mae hyn yn cael ei gyflwyno yn ein hysgolion, a gwelais wers wych yn cael ei rhoi yn ysgol uwchradd yr Olchfa yn Abertawe, a oedd yn gwbl ganolog i addysgu mathemateg, oedd, ond a oedd hefyd yn dysgu myfyrwyr ynglŷn â threth, sut y gallent gyfrifo eu biliau treth, ac yn hollbwysig, ar gyfer beth y defnyddir eu trethi—ac yn yr achos hwn, fe'u defnyddir i gefnogi myfyrwyr tlawd.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth ynglŷn ag astudio, cyllid myfyrwyr a Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae profiad y rhan fwyaf o bobl yn eithaf da. Nawr, rwy'n sylweddoli na allwch roi sylwadau ar achosion penodol, ond mae etholwr wedi cysylltu â mi yn ddiweddar i sôn am yr anhawster wrth sicrhau cymorth ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio dramor. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch amlinellu pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft?
Diolch yn fawr iawn, Jack. Fel y gwyddoch, ar hyn o bryd, nid yw'r pecyn cymorth llawn ond ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio yn y Deyrnas Unedig, naill ai ar sail amser llawn, rhan-amser, neu ar lefel israddedig neu ôl-raddedig. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod manteision cyfnod o astudio dramor i rai myfyrwyr. Dyna pam rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i gael mynediad at raglen Erasmus͏+.
O ran yr argymhellion yn adolygiad Diamond a ddywedai y dylai Llywodraeth Cymru ystyried pa fath o gefnogaeth y gellir ei darparu i fyfyrwyr sy'n mynd dramor, rwy'n gobeithio gallu gwneud cyhoeddiad i'r Siambr hon yn ystod y tymor hwn ynglŷn â chynllun peilot yn y cyswllt hwn, ond mae'n rhaid imi ddweud yn glir iawn mai ar gyfer cyfnod o astudio mewn gwlad dramor fydd hynny, nid ar gyfer cwrs yn ei gyfanrwydd.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, David Melding.