Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch yn fawr am eich ateb manwl, ond fe fyddwch yn ymwybodol fod adroddiad diweddar gan Estyn wedi canfod nad yw'r rhan fwyaf o ddarparwyr prentisiaethau lefel uwch yn eu rheoli'n dda a bod llawer o gyrsiau wedi dyddio. Aethant ymlaen i ddweud, o ganlyniad i hynny, nad yw llawer o ddarparwyr yn adlewyrchu ymarfer cyfredol ac anghenion cyflogwyr yng Nghymru. Mae Dŵr Cymru yn anfon eu staff i'r coleg yn Lloegr i gyflawni anghenion hyfforddi, tra bo cwmnïau mawr eraill wedi gorfod datblygu eu prentisiaethau eu hunain gan na chynigir eu hanghenion hyfforddi mewn mannau eraill yn y wlad hon. Pa gamau rydych chi neu Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r pryderon hyn er mwyn sicrhau bod gan weithwyr Cymru y sgiliau sydd eu hangen i alluogi busnesau i dyfu a ffynnu, os gwelwch yn dda?