Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch yn fawr, Joyce. Lywydd, deallaf eich bod wedi caniatáu i gwestiwn 3 a chwestiwn 5 gael eu grwpio. Felly, datganolwyd y pwerau hyn ar 30 Medi. Bydd y cyflogau ac amodau athrawon cyntaf i gael eu gosod gan Weinidogion Cymru yn weithredol o 1 Medi 2019. Byddant yn cael eu llywio gan system sy'n cynnwys trafodaeth fanwl gyda fforwm partneriaeth rhanddeiliaid ac yn cael eu hystyried yn fanwl gan gorff adolygu annibynnol newydd.