Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 17 Hydref 2018.
I mi, dyma'r darn olaf yn y jig-so addysg ac rwy'n falch iawn wir ein bod wedi gallu cyrraedd y sefyllfa hon lle mae'r pwerau bellach wedi'u datganoli'n ffurfiol. Ers llawer gormod o amser, rydym wedi gweld y gyfundrefn cyflogau ac amodau athrawon yn ymateb i agenda Llywodraeth wahanol i gefnogi system addysg wahanol. Mae hyn yn caniatáu inni deilwra cyflogau ac amodau ein hathrawon i adlewyrchu'r gwerthoedd sydd wrth wraidd ein system addysg, a gobeithio y bydd hyn yn rhoi cyfle inni sicrhau mai Cymru yw'r lle i fod yn weithiwr addysg proffesiynol.