Cyllid Myfyrwyr Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:21, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth ynglŷn ag astudio, cyllid myfyrwyr a Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae profiad y rhan fwyaf o bobl yn eithaf da. Nawr, rwy'n sylweddoli na allwch roi sylwadau ar achosion penodol, ond mae etholwr wedi cysylltu â mi yn ddiweddar i sôn am yr anhawster wrth sicrhau cymorth ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio dramor. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch amlinellu pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft?