Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, mae bwrdd iechyd gogledd Cymru wedi bod yn destun mesurau arbennig ers mis Mehefin 2015. Ar y pryd, dywedwyd wrthym fod y camau a gymerwyd yn adlewyrchu pryderon difrifol a pharhaus ynghylch arweinyddiaeth, llywodraethiant a chynnydd y bwrdd iechyd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddiolchgar am y newyddion diweddaraf a ddarparwyd gennych wedi tair blynedd o fesurau arbennig, ond yr hyn rwy'n ei chael hi'n anodd asesu yw trywydd y gwelliant a phryd y bydd y bwrdd iechyd yn darparu'r gwasanaethau o ansawdd y mae fy etholwyr yn eu haeddu. Ysgrifennydd y Cabinet, os yw'r bwrdd iechyd wedi gwneud peth cynnydd fel y dywedwch, pryd y bydd yn cyrraedd ei nod terfynol?