2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 17 Hydref 2018.
1. Beth yw cynllun Llywodraeth Cymru i ddod â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig? OAQ52790
Diolch. Rwyf wedi nodi disgwyliadau clir i'r bwrdd iechyd eu cyflawni er mwyn cael eu hystyried ar gyfer eu hisgyfeirio yn fframwaith gwella'r mesurau arbennig. Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar gynnydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 6 Tachwedd.
Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, mae bwrdd iechyd gogledd Cymru wedi bod yn destun mesurau arbennig ers mis Mehefin 2015. Ar y pryd, dywedwyd wrthym fod y camau a gymerwyd yn adlewyrchu pryderon difrifol a pharhaus ynghylch arweinyddiaeth, llywodraethiant a chynnydd y bwrdd iechyd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ddiolchgar am y newyddion diweddaraf a ddarparwyd gennych wedi tair blynedd o fesurau arbennig, ond yr hyn rwy'n ei chael hi'n anodd asesu yw trywydd y gwelliant a phryd y bydd y bwrdd iechyd yn darparu'r gwasanaethau o ansawdd y mae fy etholwyr yn eu haeddu. Ysgrifennydd y Cabinet, os yw'r bwrdd iechyd wedi gwneud peth cynnydd fel y dywedwch, pryd y bydd yn cyrraedd ei nod terfynol?
Mae'n gwestiwn y bydd yr Aelodau'n parhau i'w ofyn hyd nes y byddwn yn gweld gwelliant gwirioneddol a pharhaol yn narpariaeth yr ardaloedd sy'n destunau mesurau arbennig. Rydym wedi gweld cynnydd mewn perthynas â mamolaeth. Nid ydym wedi gweld cynnydd digonol ar iechyd meddwl. Rydym wedi rhywfaint o gynnydd ar wasanaeth y tu allan i oriau. Rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd ar arweinyddiaeth.
Iechyd meddwl yw'r maes gweithgarwch sydd bob amser wedi bod fwyaf heriol, ac felly mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd drwy gael strategaeth, ond i mi yn sicr, ni all fod yn fater o osod amserlen artiffisial er hwylustod gwleidyddion. Dyna pam fod gan y fframwaith mesurau arbennig brif weithredwr GIG Cymru, ynghyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ein rheoleiddiwr, a Swyddfa Archwilio Cymru, i sicrhau nad yw hon yn broses sy'n cael ei gyrru gan yr hyn sy'n gyfleus i mi neu unrhyw un arall yn y Llywodraeth, ond yn hytrach, ei bod yn asesiad real a gonest o'r cynnydd a wneir gan fwrdd iechyd. Felly, y cynllun gwella a amlinellais yw'r cynllun y dylent lynu wrtho, er mwyn dod allan o fesurau arbennig. Cyflwynir adroddiad gonest ac agored ar eu cynnydd ar 6 Tachwedd ac yn y dyfodol. Dylai'r Aelodau a'r cyhoedd gael eu sicrhau bod yna drosolwg annibynnol go iawn ar y cynnydd a wneir, neu fel arall.
Fe ddywedoch chi nad oeddech yn dymuno nodi amserlen ar gyfer gwelliannau, ac eto gallaf gofio, pan wnaeth yr Ysgrifennydd iechyd blaenorol y bwrdd iechyd hwn yn destun mesurau arbennig, fe gyhoeddodd fod cynlluniau 100 niwrnod ar waith i drawsnewid y sefyllfa. Wel, mae 1,228 diwrnod wedi bod ers hynny.
Mae llawer o'r dangosyddion perfformiad yn y bwrdd iechyd hwnnw'n mynd tuag yn ôl. Mae'n fwrdd iechyd sy'n torri pob record bellach, gan mai hwy sydd â'r adrannau damweiniau ac achosion brys sy'n perfformio waethaf erioed mewn dau o'u hysbytai yn y mis diwethaf yn unig, a gwyddom nad yw eu sefyllfa ariannol wedi'i datrys, nid yw'r problemau iechyd meddwl yn y bwrdd iechyd wedi'u datrys o hyd, ac mae cwestiynau'n dal i fodoli ynglŷn â gallu'r arweinyddiaeth a'r llywodraethiant yn y bwrdd iechyd i drawsnewid y sefyllfa.
Dywedwch eich bod yn nodi eich disgwyliadau, ond rydych yn methu cyflawni'r disgwyliadau hynny o gwbl—y gwelliannau rydych wedi'u haddo ac yr addawodd eich rhagflaenydd y byddent yn cael eu gwneud yn y bwrdd iechyd hwn. Ni chredaf fod gadael y sefyllfa'n hollol benagored yn ddigon da. Mae pobl yn awyddus i weld rhywfaint o atebolrwydd uniongyrchol yn ein system byrddau iechyd. Nid ydynt yn ei weld ar hyn o bryd—nid ydych yn derbyn cyfrifoldeb, ac mae'r bwrdd iechyd yn methu gwneud unrhyw benderfyniadau gan eu bod mewn mesurau arbennig ac maent yn dweud mai chi yw'r un sy'n gwneud yr holl benderfyniadau.
Felly, a ydych yn derbyn nad yw'r trefniadau atebolrwydd yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn ddigon da, a bod hon yn enghraifft berffaith o pam nad ydynt yn ddigon da? A beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau bod y byrddau iechyd yn fwy uniongyrchol atebol i'r cyhoedd?
Wel, fel y gŵyr yr Aelodau o'n sesiynau rheolaidd yn y Siambr, mewn datganiadau, mewn dadleuon, ac yn wir, mewn cwestiynau a gaf bob tair wythnos, mae atebolrwydd rheolaidd ac uniongyrchol i'w gael. Rwy'n ateb cwestiynau a chaf fy nwyn i gyfrif yn rheolaidd. O ran Betsi Cadwaladr, ceir fframwaith gwella newydd, gyda gwelliannau i'w gwneud, ac rwy'n disgwyl cael fy nwyn i gyfrif amdanynt. Nid wyf erioed wedi ceisio gwadu'r ffaith mai fi sy'n gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru—i'r gwrthwyneb.
Yr her gyda'n fframwaith atebolrwydd yw sicrhau ei fod yn cynnwys gonestrwydd a gwrthrychedd, er mwyn mesur y cynnydd a wnawn, y cymorth ychwanegol rydym yn ei ddarparu, nid yn unig o ran pobl, ond hefyd o ran yr adnoddau ychwanegol rydym wedi'u darparu, yr adnoddau ychwanegol rydym wedi'u darparu o'r mis Mehefin hwn, er enghraifft—bron i £7 miliwn yn ychwanegol ar gyfer darparu staff ychwanegol i sicrhau gwelliant. Ac fe fyddaf yn agored ynglŷn â ble mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd, fel y byddaf yn agored ynglŷn â ble mae rhagor o waith i'r bwrdd iechyd ei wneud. Fodd bynnag, dylai'r Aelodau gael cysur o'r ffaith bod ein staff yn y bwrdd iechyd yn llawer mwy cadarnhaol ynglŷn â gweithio i'r sefydliad nag a oeddent ddwy flynedd yn ôl a phedair blynedd yn ôl. Fel y dengys yr arolwg staff, gwnaed gwelliannau sylweddol o ran i ba raddau yr ystyriai'r staff fod y bwrdd iechyd yn lle da i weithio, neu y dywedent eu bod yn falch o weithio i'r bwrdd iechyd, ac y byddent yn argymell triniaeth i ffrind neu berthynas. Felly, mae cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud, ond hyd nes y gwelwn welliant sylweddol a pharhaus mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn arbennig, a chynnydd ar ddisgyblaeth ariannol yn y bwrdd iechyd hefyd, yn ogystal â pherfformiad mewn prif driniaethau dewisol, byddaf yn parhau i wynebu cwestiynau, wrth gwrs, fel y bydd y bwrdd iechyd eu hunain.
Un o'r trafferthion mae'r bwrdd iechyd yn ei chael yn anodd mynd i'r afael â hi, wrth gwrs, yw'r oedi mewn trosglwyddo gofal cleifion, ac nid wyf yn gwybod os gallwch chi esbonio i fi sut y gallem ni fod wedi gweld sefyllfa fel ag a welwyd yn ysbyty'r Waun yn ddiweddar, lle cymerodd hi 368 o ddyddiau i drosglwyddo un claf, yn ôl y cyngor iechyd cymunedol. Nawr, nid yn unig bod hynny'n ddrwg i'r claf, mae yn sicr yn ddrwg i'r ysbyty ac i unrhyw un arall oedd am neu oedd angen defnydd o'r gwely hwnnw. Felly, pryd rydym ni yn mynd i weld gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal yn y gymuned yn cydlynu'n effeithiol yn y gogledd?
Diolch am y cwestiwn. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol ar leihau nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ar draws ein gwasanaeth iechyd, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Mae’r Gweinidog a minnau yn edrych ar y ffigurau bob mis a phan fo byrddau iechyd yn llusgo ar ôl, rydym yn gwneud yn siŵr fod camau'n cael eu cymryd a chwestiynau’n cael eu gofyn. Felly, nid oes diffyg goruchwyliaeth neu ddiffyg diddordeb gan Weinidogion y Llywodraeth mewn perthynas â’r cynnydd rydym wedi'i wneud, na hunanfodlonrwydd. Bydd y cynnydd hwnnw’n parhau. Nid yw ond yn ymwneud yn rhannol ag adnoddau: mae llawer ohono'n ymwneud â'r berthynas waith, ac ers i mi ddod i'r adran, fel Dirprwy Weinidog ar y pryd, gallaf ddweud bod gwelliant sylweddol wedi bod yn y berthynas rhwng iechyd a llywodraeth leol, ac mae hynny wedi arwain at wella perfformiad hefyd.
Yn yr achos unigol a grybwyllwyd gennych, er na allaf wneud sylwadau ar yr amgylchiadau unigol, gallaf ddweud yn fras, pan fo cymaint o oedi wedi digwydd, y rheswm am hynny bron bob amser yw oherwydd bod yr unigolyn angen pecyn gofal cymhleth nad yw ar gael ar ei gyfer. Fodd bynnag, hoffwn pe baech yn ysgrifennu ataf, a byddaf fi neu'r Gweinidog yn ymchwilio ac yn dod yn ôl atoch gyda manylion y mater hwnnw.