Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 17 Hydref 2018.
Un o'r trafferthion mae'r bwrdd iechyd yn ei chael yn anodd mynd i'r afael â hi, wrth gwrs, yw'r oedi mewn trosglwyddo gofal cleifion, ac nid wyf yn gwybod os gallwch chi esbonio i fi sut y gallem ni fod wedi gweld sefyllfa fel ag a welwyd yn ysbyty'r Waun yn ddiweddar, lle cymerodd hi 368 o ddyddiau i drosglwyddo un claf, yn ôl y cyngor iechyd cymunedol. Nawr, nid yn unig bod hynny'n ddrwg i'r claf, mae yn sicr yn ddrwg i'r ysbyty ac i unrhyw un arall oedd am neu oedd angen defnydd o'r gwely hwnnw. Felly, pryd rydym ni yn mynd i weld gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gofal yn y gymuned yn cydlynu'n effeithiol yn y gogledd?