Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 17 Hydref 2018.
Rwyf wedi rhoi tystiolaeth ar atal hunanladdiad i'r pwyllgor rydych yn aelod ohono ac rwy'n edrych ymlaen at yr adroddiad. Fe fyddwch yn gwybod, o'r adolygiad canol cyfnod 'Siarad â fi 2', ein bod wedi edrych ar ystod o fesurau. Er enghraifft, rhoesom gamau ar waith ar unwaith yn dilyn y dystiolaeth a roddais i wneud yn siŵr fod gwybodaeth a ddylai fod ar gael ar sail eang—ac nad oedd ar gael yn eang fel y clywsom gan Sefydliad Jacob Abraham er enghraifft—. Felly, rydym wedi rhoi camau ar waith ar unwaith i geisio sicrhau bod cymorth a chefnogaeth ar gael yn dilyn digwyddiadau o'r fath yn ogystal â phethau y gallem ac y dylem eu gwneud i geisio atal hunanladdiad yn y lle cyntaf.