2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 17 Hydref 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, o benderfyniad yr Athro Siobhan McClelland—economegydd iechyd a rheolwr iechyd uchel ei pharch sydd wedi dal uwch swyddi ar fyrddau iechyd—i adael Cymru er mwyn chwilio am well gofal i'w gŵr sydd â chanser. Adroddir ei bod wedi dweud:
Nid oes capasiti na gallu yn Llywodraeth Cymru i greu polisi iechyd gwirioneddol dda.
O gofio mai geiriau rhywun mor uchel ei pharch â'r Athro McClelland yw'r rhain, does bosib nad ydych yn cytuno na allech glywed beirniadaeth fwy hallt o'r ffordd rydych yn rhedeg y GIG yng Nghymru.
Mae'n ddrwg gennyf, wrth gwrs, fod gan yr Athro McClelland reswm—ac yn ôl y datganiad a wnaed gan y bwrdd iechyd, rheswm da—dros gwyno am y gofal y mae ei gŵr wedi'i gael. Mae hefyd yn ddrwg gennyf ei bod yn teimlo'r angen i symud i fyw yn rhywle arall. Ond nid wyf yn derbyn y ffordd y mae'n beirniadu holl system y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Rwy'n derbyn bod ei barn—. Wrth gwrs, fel gyda phob claf, rydych yn deall eich profiad personol. Pan fyddaf yn edrych ar yr hyn y mae'r adolygiadau o'r system gyfan wedi'i ddangos yma yng Nghymru—. Edrychwch ar adolygiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd; nid oedd hwnnw'n awgrymu bod problem gyda'r system gyfan fel y disgrifiodd yr Athro McClelland. Yn wir, os edrychwch ar yr adolygiad annibynnol mwy diweddar y cytunodd pob plaid yn y Siambr hon iddo ar ffurf yr adolygiad seneddol, nid oeddent yn cytuno â beirniadaeth yr Athro McClelland yn awr. Proses yr adolygiad seneddol annibynnol hwnnw a arweiniodd at greu 'Cymru Iachach'. Dyna yw'r cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae'n cynnwys gwella a diwygio'r system, ac rwy'n ymrwymedig i gyflawni hynny.
Mae'r Athro McClelland wedi edrych ar y GIG yng Nghymru a'r ffordd y mae'n cael ei redeg yn fwy manwl nag unrhyw un arall, mwy na thebyg, ac un o'i phryderon yw bod eich Llywodraeth yn cael trafferth wrth geisio cael y byrddau iechyd i wneud yr hyn rydych eisiau iddynt ei wneud.
Nawr, yn y gyllideb ddiweddaraf, mae eich Llywodraeth wedi dewis rhoi dros £500 miliwn yn ychwanegol i iechyd a gofal cymdeithasol—newyddion gwych ar yr wyneb; mae pawb ohonom eisiau gweld buddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Ond gyda digon o angen mewn meysydd eraill ac adrannau eraill, cyrff cyhoeddus eraill, yn wynebu toriadau, pwy a allai weld bai arnynt am ofyn, 'Ai buddsoddiad yw hwn mewn gwirionedd neu achub croen?' Felly, yng ngoleuni pryderon Siobhan McClelland, a oes gennych reolaeth dros yr hyn a fydd yn digwydd i'r £500 miliwn hwnnw neu a fydd yn diflannu i dwll du camreoli ariannol?
Credaf y dylai llefarydd Plaid Cymru fod yn ofalus sut y mae'n nodi ei safbwyntiau. Mae'n swnio bron fel pe bai'n gwahodd y Llywodraeth i dorri'r gyllideb iechyd. Mewn gwirionedd, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud yw cyflawni ein cynllun gwella ar y cyd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae wedi cymryd cryn dipyn—[Torri ar draws.] Mae wedi cymryd cryn dipyn o waith i greu cynllun ar y cyd y mae iechyd, tai, llywodraeth leol a'r trydydd sector yn cytuno arno. Bydd angen edrych bob amser ar effeithlonrwydd a disgyblaeth ariannol o fewn y gwasanaeth. Os edrychwch ar hynny, mae gwelliant gwirioneddol wedi bod dros y tair blynedd diwethaf mewn gwirionedd, a llawer mwy i'w wneud. Ni fydd y gwasanaeth iechyd byth yn gwbl berffaith—bydd lle bob amser i gamgymeriadau a gwelliant, yn ogystal â llwyddiant sylweddol. Rwy'n falch ein bod yn deall fod yna heriau gwirioneddol, ac nad ydym yn hunanfodlon ynglŷn â rheoli a goresgyn y rheini.
Ymateb braidd yn ysgafn, mae'n rhaid i mi ddweud, o ran dweud fy mod yn gwahodd toriadau mewn cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol. Fy nghwestiwn yw: a oes gennych reolaeth ar beth sy'n digwydd i'r cynnydd hwnnw, cynnydd rwy'n ei groesawu, os yw'n gynnydd gwirioneddol, os yw'n fuddsoddiad? Nawr, y perygl, wrth gwrs, yw mai cronfa ar gyfer datrys problemau wrth iddynt godi yw hi. Rydym wedi gweld hynny dro ar ôl tro—£100 miliwn yma, £200 miliwn acw, er mwyn llenwi bylchau. Pan fo gennych gronfa ar gyfer datrys problemau wrth iddynt godi, mae gennych £500 miliwn na fydd yn mynd i'r afael â'r tanfuddsoddi cronig ym maes gofal sylfaenol, er enghraifft. Ni fydd yn ffurfio rhan o'r gwaith o greu cynaliadwyedd hirdymor. Felly, gadewch i mi eich gwahodd i ledaenu'r buddsoddiad hwn a gwneud yn siŵr fod y buddsoddiad yn gweithio. Rydych yn dweud ei fod ar gyfer gofal cymdeithasol yn ogystal ag iechyd, ond wrth edrych ar ble mewn iechyd y dylid rhoi'r arian hwnnw, os oes gennych reolaeth ar bethau, a wnewch chi ymrwymo i gyfarwyddo'r byrddau iechyd i roi, dyweder, hanner yr arian tuag at ofal sylfaenol fel y gallwn ddechrau adeiladu gwasanaeth cynaliadwy o'r diwedd?
Rwy'n ymrwymedig i ddarparu 'Cymru Iachach', sef ein cynllun ar y cyd sydd â ffocws pendant ar symud ein buddsoddiad a'n gweithgarwch i mewn i ofal iechyd lleol. Rwyf eisoes wedi dweud ar sawl achlysur nad ceisio cael ffigur artiffisial ar y swm sydd i fynd i un rhan o'r system yw'r ffordd gywir o fynd ati i wneud hynny. Rydym wedi sefydlu cronfa drawsnewid, ac rydym hefyd wedi sicrhau adnoddau ychwanegol ar gyfer y gronfa drawsnewid. Mae hwnnw'n gyllid ar y cyd i iechyd a gofal cymdeithasol benderfynu gyda'i gilydd sut i'w wario ar flaenoriaethau ar y cyd. Rydym wedi sicrhau, am y tro cyntaf, y bydd arian ychwanegol yn mynd yn uniongyrchol o iechyd i ofal cymdeithasol yn ogystal. Dyna ddewis a wnaed gennyf fel Gweinidog portffolio am fy mod yn cydnabod yr angen i sicrhau bod y system yn cael ei hariannu'n briodol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, rwy'n cadw'r addewidion rwyf wedi'u gwneud i iechyd a llywodraeth leol o ran y ffordd y byddwn yn defnyddio adnoddau i gyflawni'r cynllun ar y cyd y mae pawb ohonynt wedi ymrwymo iddo. Ni chaf fy rhwystro rhag gwneud hynny am mai dyna'r peth iawn i'w wneud i'n dinasyddion oherwydd bydd yn darparu gofal gwell, gofal mwy integredig a gofal sy'n nes at y cartref.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau nifer yr achosion o hunanladdiad yng Nghymru?
Rwyf wedi rhoi tystiolaeth ar atal hunanladdiad i'r pwyllgor rydych yn aelod ohono ac rwy'n edrych ymlaen at yr adroddiad. Fe fyddwch yn gwybod, o'r adolygiad canol cyfnod 'Siarad â fi 2', ein bod wedi edrych ar ystod o fesurau. Er enghraifft, rhoesom gamau ar waith ar unwaith yn dilyn y dystiolaeth a roddais i wneud yn siŵr fod gwybodaeth a ddylai fod ar gael ar sail eang—ac nad oedd ar gael yn eang fel y clywsom gan Sefydliad Jacob Abraham er enghraifft—. Felly, rydym wedi rhoi camau ar waith ar unwaith i geisio sicrhau bod cymorth a chefnogaeth ar gael yn dilyn digwyddiadau o'r fath yn ogystal â phethau y gallem ac y dylem eu gwneud i geisio atal hunanladdiad yn y lle cyntaf.
Ni all fod yn iawn fod un o bob tri unigolyn sy'n marw drwy hunanladdiad wedi bod mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl yn y flwyddyn cyn eu marwolaeth. Nid oes unrhyw amheuaeth ein yn bod yn methu cefnogi rhai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas a darparu cymorth effeithiol. Mae cleifion yng Nghymru yn gyson yn gorfod aros yn hir am asesiad. Dychmygwch y profiad o weld eich meddyg teulu a rhannu rhai o'ch teimladau mwyaf personol a chael clywed bod yn rhaid i chi aros a dioddef hyn am 56 diwrnod pellach cyn i chi gael asesiad cychwynnol i benderfynu a ydych chi'n ddigon sâl i gael cymorth. Yn ôl eich ystadegau diweddaraf, dyma sydd wedi digwydd i 528 o bobl yng Nghymru. Ni fyddai'r meddylfryd hwn o 'ddirywio cyn y gallwch gael mynediad at driniaeth' yn bodoli mewn unrhyw lwybr gofal arall. Felly, pam fod hynny'n wir ym maes iechyd meddwl? Gwyddom eich bod wedi gwrthod llawer o adroddiad damniol y pwyllgor plant a phobl ifanc ar wella gwasanaethau iechyd meddwl ataliol. Fel rydych wedi'i grybwyll, mae'r pwyllgor iechyd yn cynnal ymgynghoriad ar y mater hwn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, a allwch chi ddweud wrth y Siambr heddiw beth yn union y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gryfhau mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ataliol ar gyfer pobl yng Nghymru?
Credaf eich bod yn codi pwynt diddorol ynglŷn â'r ffaith bod un o bob tri o bobl wedi bod mewn cysylltiad, ond mae hynny hefyd yn golygu nad oedd tua dau o bob tri wedi cysylltu. Felly, mae yna her o ran yr hyn a wnawn os yw pobl yn cysylltu gyda'r gwasanaeth iechyd yn ogystal â her gymdeithasol ehangach o berswadio pobl i siarad a gwrando hefyd. Ar eich pwynt am yr hyn rydym yn ei wneud, buaswn yn gwneud dau bwynt cyffredinol. Y cyntaf yw ein bod yn buddsoddi £35 miliwn yn ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau anabledd dysgu yn y flwyddyn nesaf, a bydd cyfran benodol o hwnnw'n mynd tuag at ofal mewn argyfwng. Rydym yn cydnabod bod rhai rhannau o'n system yn well na rhannau eraill, felly byddwn yn buddsoddi mwy mewn gofal mewn argyfwng dros y flwyddyn nesaf.
Mae'r ail bwynt yn ymwneud â 'Cadernid Meddwl' a'r ochr fwy ataliol i bethau, ymyrraeth gynnar ac atal, nid yn unig yn nhermau cyffredinol y canol coll, ond yn arbennig mewn perthynas â phlant a phobl ifanc. Rydym yn bwrw ymlaen â'r ymrwymiadau a wnaethom. Heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, a minnau wedi bod yn cadeirio cyfarfod cyntaf y grŵp gorchwyl a gorffen ar y cyd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Cadeirydd y pwyllgor plant a phobl ifanc yn sylwedydd yn y grŵp hwnnw, ac yn gallu siarad yn rhydd, ac yn sicr fe wnaeth hynny yn ystod y cyfarfod heddiw. Pwrpas y grŵp yw deall a ydym yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ond yn fwy na hynny i weld a oes gennym y bobl iawn gyda'i gilydd i geisio gwneud gwahaniaeth, nid yn unig mewn dull o weithredu ar sail ysgol gyfan, ond yn fwy cyffredinol ar draws ein system gyfan hefyd. Felly, rydym o ddifrif ynglŷn â'r negeseuon yn yr adroddiad 'Cadernid Meddwl'. Rydym yn ymrwymedig i wneud yr hyn y gwnaethom addo ei wneud, ac rwy'n disgwyl y byddwn yn ymddangos gerbron y pwyllgor eto. Fel y dywedodd y Cadeirydd, bydd yn rhoi cyfle i ni ymddangos gerbron y pwyllgor yn ystod y gwanwyn er mwyn i ni gael dweud beth y byddwn wedi'i wneud dros y chwe mis cyntaf a lle rydym yn disgwyl bod yn y dyfodol hefyd. Gwn fod yr Aelodau o ddifrif ynglŷn â'r mater hwn, fel y dylent fod.
Hoffwn fynd at wraidd y mater cyllid, oherwydd dyna'n union roeddwn eisiau ei wybod gennych heddiw. Rydych newydd grybwyll, ac rwy'n credu fy mod yn eich dyfynnu'n gywir, eich bod yn bwriadu rhoi £35 miliwn ychwanegol yn y gyllideb iechyd meddwl. I fod yn onest, mae'r gyllideb mor aneglur fel ei bod hi'n anodd iawn canfod y llinellau i gyd—mae'n anodd gwybod a oes arian yn dal i fod wedi'i glustnodi ar gyfer iechyd meddwl.
Rwy'n credu eich bod wedi dweud, mewn tystiolaeth i'n pwyllgor, eich bod yn mynd i dynnu arian ar gyfer gofal mewn argyfwng a gofal y tu allan i oriau ym maes iechyd meddwl allan o'r gronfa drawsnewid £100 miliwn ar gyfer achub-popeth-yn-y-GIG—dyna oedd yn y dystiolaeth ysgrifenedig. A fydd y £35 miliwn ychwanegol hwn yn cyfrannu'r arian ychwanegol ar gyfer ymyrraeth gofal mewn argyfwng a gofal y tu allan i oriau, neu a yw hwnnw'n dod o'r gronfa drawsnewid?
Credaf eich bod yn bwriadu cyflwyno datganiad ar y gronfa drawsnewid, a hoffwn weld rhestr o ble y daw'r holl arian hwn, gan fod cymaint o bobl yn dweud eu bod yn cael arian o'r £100 miliwn hwnnw ac mae'n anodd iawn dweud i ble yn union y mae'r arian yn mynd. Wedi'r cyfan, ein gwaith ni yw craffu ar y gwariant a sicrhau bod y canlyniadau'n cael eu cyflawni, felly byddem yn gwerthfawrogi eglurder ar y mater hwn yn fawr.
Rwy'n siŵr y byddwch yn cael cyfle i fanylu llawer mwy ar y meysydd penodol hynny sydd gennym wrth graffu ar y gyllideb, ond rwy'n hapus i egluro'r pwyntiau rydych yn eu codi. Rydych yn gywir: bydd £35 miliwn yn ychwanegol—dyna'r rwy'n bwriadu ei fuddsoddi yn ogystal â'r hyn rydym yn ei ddarparu eisoes mewn gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau anabledd dysgu. Mae arian yn dal i fod wedi'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl.
Ceir rhywfaint o ddryswch ynglŷn â'r term 'cronfa drawsnewid', oherwydd mae cronfa drawsnewid benodol ar gael ar gyfer iechyd meddwl sy'n gwneud yn union yr hyn y mae'n ei ddweud—ceisio helpu i drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Mae cronfa drawsnewid 'Cymru Iachach' yn bodoli ar wahân; nid yr un symiau o arian ydynt ac nid yr un gronfa. Byddaf yn gwneud datganiad ar y gronfa drawsnewid i helpu i ddarparu 'Cymru Iachach'—yr wythnos nesaf neu'r wythnos ar ôl honno rwy'n credu. Byddaf yn gallu cadarnhau'r broses y mae sefydliadau yn ei dilyn yn ogystal â sut rydym yn edrych ar y cynigion cychwynnol a gyflwynwyd. Felly, dylwn allu rhoi mwy o fanylion i chi bryd hynny ynglŷn â'r hyn sydd eisoes wedi digwydd a'r hyn rwy'n disgwyl ei weld yn digwydd yn y dyfodol, ond maent yn gronfeydd gwahanol. Rwy'n gobeithio bod hynny'n helpu i egluro'r sefyllfa, ond o gofio bod yna gronfa drawsnewid iechyd meddwl a chronfa drawsnewid 'Cymru Iachach', rwy'n deall sut y gallai fod rhywfaint o ddryswch gonest mewn perthynas â'r mater.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch i chi, Lywydd. Cefais fy synnu braidd wrth glywed ymateb yr Ysgrifennydd iechyd i gwestiynau Rhun ap Iorwerth yn y sesiwn heddiw. I bob pwrpas, yr hyn a wnaeth yr Ysgrifennydd iechyd oedd diystyru barn yr Athro McClelland mewn modd a awgrymai nad oedd hi'n gallu gweld y coed gan brennau, neu ei bod hi, efallai, yn chwyddo ei phrofiad personol ei hun a'i gyffredinoli'n annheg mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae'r Athro McClelland yn un o arbenigwyr economeg iechyd mwyaf blaenllaw'r Deyrnas Unedig, ond mae hi hefyd wedi chwarae rôl ymarferol yn rheoli gwasanaethau iechyd fel is-gadeirydd bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Mae hi wedi bod yn bennaeth tystiolaeth i Cymorth Canser Macmillan a llawer o bethau eraill. Credaf ei bod wedi tynnu sylw at broblem systemig sylweddol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac mae'n crisialu'r broblem yn yr ychydig frawddegau hyn:
Mae gennym broblem sylfaenol yma gyda byrddau iechyd, nid o ran ffiniau daearyddol, ond yn y ffordd awtonomaidd y maent yn gweithredu.... Nid yw byrddau iechyd yn cael eu rheoli'n gadarn gan Lywodraeth Cymru ac nid ydynt yn atebol i'r bobl. Mae gwagle yn Llywodraeth Cymru lle dylid llunio polisi cadarn, trylwyr ac arloesol.
Pan fydd rhywun mor flaenllaw â'r Athro McClelland yn gwneud pwyntiau yn y ffordd honno, oni ddylai'r Ysgrifennydd iechyd wrando?
Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda'r Athro McClelland ar nifer o faterion, yn enwedig pan oedd yn gadeirydd ar y pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys. Rwy'n gwerthfawrogi ei chyfraniad i'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru.
Ond nid yw ei barn ar natur problem systemig wedi'i hategu gan amrywiaeth o bobl eraill. Rwyf wedi cyfeirio at y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac rwyf hefyd wedi cyfeirio at yr adolygiad seneddol annibynnol a edrychodd ar y system sydd gennym i weld a yw'r system ei hun yn addas i'r diben. Nid dweud 'Rydych angen diwygio'r system yn gyfan gwbl am ei bod hi wedi torri' oedd eu her i ni. Eu her oedd sut y defnyddiwn y dulliau sydd ar gael i ni i bennu cyfeiriad polisi priodol a chyflawni yn ei erbyn. Mae gwahaniaeth rhwng cyflawni a gweld a yw'r system ei hun yn addas i'r diben ai peidio. Ac o ran y polisi cadarn, yr adolygiad a'r camau i'w wella, wel, rydym wedi gweld hynny gyda'r adolygiad seneddol a 'Cymru Iachach', ac os edrychwch, er enghraifft, ar wobrau GIG Cymru, fe welwch arloesedd ar waith o fewn ein system. Fe welwch dystiolaeth yn cael ei defnyddio i greu mentrau polisi newydd ar gyfer cynhyrchu ymarfer newydd a gwell. Dyna'n union beth y dylem ei gael. Dyna beth rwy'n ei ddisgwyl ar gyfer ein system wrth i ni gyflawni'r cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac rwy'n benderfynol o wneud hynny.
Wrth gwrs, mae gwelliannau mewn rhai rhannau o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ond mewn rhannau eraill mae'n ymddangos ein bod yn symud tuag at yn ôl. Felly, er gwaethaf yr holl arian sy'n cael ei wario a'r ffaith bod hanner y byrddau iechyd naill ai'n destunau mesurau arbennig neu ymyrraeth wedi'i thargedu—ers blynyddoedd lawer mewn rhai achosion, fel Betsi Cadwaladr—mae cynnydd, ar y gorau, yn boenus o araf. Felly, does bosib nad yw hwn yn gyfle inni feddwl a yw'r system ei hun yn gweithio neu'n wir, a oes modd inni wneud iddi weithio o gwbl.
Ond hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiwn nesaf yn benodol ar Betsi Cadwaladr, er mwyn mynd ar drywydd yr atebion a roddwyd i Mandy Jones ar ddechrau'r cwestiynau heddiw. Un o nodweddion Betsi Cadwaladr yw bod mwy a mwy o bractisau meddygon teulu yn cael eu gweithredu'n fewnol a'u rheoli'n uniongyrchol, yn fwyaf diweddar ym Mhorthmadog bythefnos yn ôl—bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn cymryd practis arall o dan ei adain yn uniongyrchol. Bellach, mae bron i 100,000 o gleifion yng ngogledd Cymru o dan reolaeth uniongyrchol y bwrdd iechyd. Hoffwn wybod pa adolygiadau perfformiad a gynhaliwyd ar bractisau meddygon teulu a reolir yn uniongyrchol yng Nghymru a pha effeithiau y credir bod y newid hwn yn y trefniadau rheoli wedi'u cael ar ofal cleifion? Pan gyfarfûm â chynrychiolwyr meddygon teulu sawl mis yn ôl, roeddent yn eithaf pryderus ynglŷn â hyn oherwydd, yn benodol, un o'r problemau sydd wedi datblygu yw'r ffaith nad yw cleifion unigol bellach yn teimlo bod ganddynt feddyg teulu sy'n atebol iddynt yn bersonol, gan mai staff locwm a welir yn llawer o'r practisau hyn. Mae hynny'n arwain at ddiffyg hyder cynyddol, nid yn unig yn y system ysbytai, ond hefyd mewn gofal sylfaenol ar lefel leol.
Oes, mae yna nifer o bractisau a reolir ar draws ein system. Fel canran gyffredinol, mae'n dal i fod yn fach iawn. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod strwythur ymarfer cyffredinol yn newid. Byddwn yn gweld llai o bractisau bach sy'n cynnwys un neu ddau feddyg yn y dyfodol gan mai ein huchelgais mewn perthynas â darparu ymarfer cyffredinol, fel y nodir yn 'Cymru Iachach' ac fel y cawsom ein hannog i wneud yn yr adolygiad seneddol, yw gallu darparu gwasanaethau gyda'i gilydd mewn ffordd fwy integredig a gallu darparu ystod ehangach o wasanaethau. Rydym yn debygol o weld practisau mwy o faint ond llai ohonynt o ran nifer. Rydym yn debygol o weld mwy o feddygon teulu yn cael eu cyflogi gan feddygon teulu eraill fel partneriaid, fel y gwelwch ar hyn o bryd ym myd y gyfraith lle cyflogir y rhan fwyaf o gyfreithwyr gan gyfreithwyr eraill.
Yr her yw hon: a ydym yn dal i gael gwerth da am arian? A ydym yn dal i ddarparu gofal cleifion o safon uchel? Ac ym mhob practis a reolir, ac yn yr holl arolygon sy'n dod yn ôl, mae'r cyhoedd yn parhau i fod yn fodlon gyda'r gwasanaeth a gânt, ac felly nid oes effaith weladwy ar ofal cleifion. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl gweld cost uwch am fod yn rhaid iddynt gyflogi staff locwm ar ryw bwynt i wneud yn siŵr fod y gwasanaeth yn parhau, a dyna'r pris y byddwn yn ei dalu i sicrhau bod ymarfer cyffredinol yn goroesi tra'n bod yn gwneud newidiadau bwriadol iddo er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym strwythur gwell ar gyfer darparu gofal gwell gyda mwy o wasanaethau yn y dyfodol.
Yn sicr, o ran gogledd-orllewin Cymru, mewn un rhan o fy rhanbarth, Blaenau Ffestiniog, ac ym Mhorthmadog hefyd erbyn hyn, mae gennym sefyllfa sy'n gwaethygu mewn gwirionedd, oherwydd nid yw cleifion yn teimlo bod ganddynt berthynas bersonol gyda meddyg unigol am na allant ddatblygu'r berthynas honno'n ddigonol gyda meddyg locwm trwy ddiffiniad, gan na fydd yno'n barhaol o anghenraid.
Mae problem arall yn codi yn sgil hyn hefyd, oherwydd pan fydd Betsi Cadwaladr yn dod â phractis dan reolaeth fewnol, mae'n cael gwared ar yr adnodd rhyngrwyd Fy Iechyd Ar-Lein sy'n caniatáu i gleifion wneud apwyntiadau meddyg teulu ar-lein, ac mae hynny'n ei gwneud yn fwy anghyfleus i gleifion hefyd. Felly, pam mai un o nodweddion practisau dan reolaeth uniongyrchol yw'r arfer o gael gwared ar dechnoleg ddefnyddiol sy'n hanfodol er mwyn gwella gofal iechyd? Go brin fod hyn yn gwbl angenrheidiol. Gan fod Betsi Cadwaladr yn dal i fod yn destun mesurau arbennig, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd holi'r bwrdd iechyd i weld a allant wrthdroi'r polisi negyddol hwn.
Rwy'n hapus i edrych ar y mater ac ysgrifennu at yr Aelod gan gynnwys yr Aelodau Cynulliad eraill yn yr ohebiaeth cyn gynted â phosibl.