Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:53, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Cefais fy synnu braidd wrth glywed ymateb yr Ysgrifennydd iechyd i gwestiynau Rhun ap Iorwerth yn y sesiwn heddiw. I bob pwrpas, yr hyn a wnaeth yr Ysgrifennydd iechyd oedd diystyru barn yr Athro McClelland mewn modd a awgrymai nad oedd hi'n gallu gweld y coed gan brennau, neu ei bod hi, efallai, yn chwyddo ei phrofiad personol ei hun a'i gyffredinoli'n annheg mewn perthynas â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae'r Athro McClelland yn un o arbenigwyr economeg iechyd mwyaf blaenllaw'r Deyrnas Unedig, ond mae hi hefyd wedi chwarae rôl ymarferol yn rheoli gwasanaethau iechyd fel is-gadeirydd bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Mae hi wedi bod yn bennaeth tystiolaeth i Cymorth Canser Macmillan a llawer o bethau eraill. Credaf ei bod wedi tynnu sylw at broblem systemig sylweddol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac mae'n crisialu'r broblem yn yr ychydig frawddegau hyn:

Mae gennym broblem sylfaenol yma gyda byrddau iechyd, nid o ran ffiniau daearyddol, ond yn y ffordd awtonomaidd y maent yn gweithredu.... Nid yw byrddau iechyd yn cael eu rheoli'n gadarn gan Lywodraeth Cymru ac nid ydynt yn atebol i'r bobl. Mae gwagle yn Llywodraeth Cymru lle dylid llunio polisi cadarn, trylwyr ac arloesol.

Pan fydd rhywun mor flaenllaw â'r Athro McClelland yn gwneud pwyntiau yn y ffordd honno, oni ddylai'r Ysgrifennydd iechyd wrando?