Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch, Lywydd. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, o benderfyniad yr Athro Siobhan McClelland—economegydd iechyd a rheolwr iechyd uchel ei pharch sydd wedi dal uwch swyddi ar fyrddau iechyd—i adael Cymru er mwyn chwilio am well gofal i'w gŵr sydd â chanser. Adroddir ei bod wedi dweud:
Nid oes capasiti na gallu yn Llywodraeth Cymru i greu polisi iechyd gwirioneddol dda.
O gofio mai geiriau rhywun mor uchel ei pharch â'r Athro McClelland yw'r rhain, does bosib nad ydych yn cytuno na allech glywed beirniadaeth fwy hallt o'r ffordd rydych yn rhedeg y GIG yng Nghymru.