Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, ac yn dilyn eich datganiad llafar ar y mater hwn ar 2 Hydref ac wrth symud ymlaen, yn amlwg, mae cyffuriau proffylacsis cyn-gysylltiad generig yn rhatach na'r rhai brand cyfredol sy'n cael eu defnyddio. A fyddech yn cytuno, os oes unrhyw arbedion i'w gwneud drwy newid i gyffuriau proffylacsis cyn-gysylltiad generig yn y dyfodol, byddai arbedion o'r fath yn hynod ddefnyddiol i hyrwyddo proffylacsis cyn-gysylltiad i grwpiau nad oes ganddynt fynediad ato yn y niferoedd y byddem yn eu disgwyl ar hyn o bryd?