Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae Cymru wedi gweld gostyngiad cyson mewn achosion newydd o HIV. Ers i mi gyhoeddi'r astudiaeth dair blynedd ar broffylacsis cyn-gysylltiad, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2017, mae 559 o bobl wedi dechrau cael triniaeth proffylacsis cyn-gysylltiad, ac nid oes neb yn y garfan hon wedi cael HIV.