Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:59, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, o ran gogledd-orllewin Cymru, mewn un rhan o fy rhanbarth, Blaenau Ffestiniog, ac ym Mhorthmadog hefyd erbyn hyn, mae gennym sefyllfa sy'n gwaethygu mewn gwirionedd, oherwydd nid yw cleifion yn teimlo bod ganddynt berthynas bersonol gyda meddyg unigol am na allant ddatblygu'r berthynas honno'n ddigonol gyda meddyg locwm trwy ddiffiniad, gan na fydd yno'n barhaol o anghenraid.

Mae problem arall yn codi yn sgil hyn hefyd, oherwydd pan fydd Betsi Cadwaladr yn dod â phractis dan reolaeth fewnol, mae'n cael gwared ar yr adnodd rhyngrwyd Fy Iechyd Ar-Lein sy'n caniatáu i gleifion wneud apwyntiadau meddyg teulu ar-lein, ac mae hynny'n ei gwneud yn fwy anghyfleus i gleifion hefyd. Felly, pam mai un o nodweddion practisau dan reolaeth uniongyrchol yw'r arfer o gael gwared ar dechnoleg ddefnyddiol sy'n hanfodol er mwyn gwella gofal iechyd? Go brin fod hyn yn gwbl angenrheidiol. Gan fod Betsi Cadwaladr yn dal i fod yn destun mesurau arbennig, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd holi'r bwrdd iechyd i weld a allant wrthdroi'r polisi negyddol hwn.