Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 17 Hydref 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae gwaith sylweddol wedi cael ei wneud gan Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a chyngor Rhondda Cynon Taf i ddatblygu cyfleuster gofal sylfaenol integredig newydd yn Aberpennar. Nawr, byddai'r cyfleuster gofal iechyd arfaethedig hwn sy'n werth £6.5 miliwn yn disodli'r gwasanaethau hen ffasiwn yn y dref ac yn mabwysiadu dull cyfannol drwy ddod â gwasanaethau at ei gilydd. Gan gydnabod y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud ar ddatblygu'r prosiect hwn, pa fath o fanteision y bydd y gymuned yn elwa arnynt o'r model hwn yn eich barn chi, a sut y bydd Llywodraeth Cymru'n hwyluso'r gwaith o'i ddarparu?