Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 17 Hydref 2018.
Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw, i siarad ar ran fy nghyd-Aelod, Adam Price. Mae angen gallu gwirioneddol, ewyllys wleidyddol a dewrder sylweddol i symud oddi wrth y ffyrdd confensiynol o feddwl am bolisi economaidd, symud oddi wrth yr obsesiwn gyda dangosyddion economaidd cenedlaethol fel gwerth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros, obsesiwn y mae'r cyfryngau a phob plaid wleidyddol wedi bod yn euog ohono yn y gorffennol, ac edrych ar sut y gallwn wella bywydau pob dydd ein cyd-ddinasyddion mewn termau real. Mae i werth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros le yn y broses o fesur cyfoeth cenedlaethol cyffredinol wrth gwrs, ond nid yw'r dangosyddion hyn yn ein galluogi i fesur a deall mynediad pobl go iawn at adnoddau go iawn, gan gynnwys cyfoeth ariannol, heb sôn am iechyd a hapusrwydd a lles ein cyd-ddinasyddion, a hynny, wrth gwrs, sy'n bwysig go iawn i bobl yn eu bywydau bob dydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi canolbwyntio ein polisi economaidd ar gyflawni 'prif enillion' fel y'u gelwir—y cwmnïau angori y cyfeiriodd Lee Waters atynt eisoes. Cafwyd rhywfaint o lwyddiant yn denu cwmnïau mawr rhyngwladol, cwmnïau dan berchnogaeth dramor yn bennaf, i Gymru, a'u cadw yma. Er y gallwn weld atyniad y dull hwn o weithredu, mae'n achosi problemau; mae bob amser wedi achosi problemau, ond fel y nododd Lee Waters yn gynharach, mae wedi dod yn fwy o broblem bellach.
Wrth gwrs, ceir budd economaidd uniongyrchol, yn amlwg, i'r rhai a gyflogir yn uniongyrchol yn y cwmnïau hyn, ac weithiau i gwmnïau a chadwyni cyflenwi lleol, ond yn y diwedd anfonnir yr elw i fannau eraill a'i wario mewn mannau eraill, a gwyddom fod ymrwymiad y cwmnïau rhyngwladol hyn i Gymru, gyda rhai eithriadau nodedig, ar y gorau'n arwynebol. Yn rhy aml, byddant yn adleoli ar fympwy'r marchnadoedd, ac wrth gwrs, mae Brexit yn cynyddu'r perygl o hynny, fel y nodwyd eisoes.
Ymddengys bod yna gonsensws yn datblygu na allwn barhau fel hyn. Mae angen newid y patrwm meddwl o ran polisi. Rhaid inni ganolbwyntio datblygu economaidd yn fwy tuag at yr economi bob dydd, sy'n berthnasol i bob dinesydd yn eu bywydau bob dydd. Felly, mae'r ffocws newydd ar yr economi sylfaenol yng nghynllun gweithredu Llywodraeth Cymru i'w groesawu'n fawr iawn yn fy marn i, fel y mae eraill wedi dweud. Lluniwyd yr economi sylfaenol o'r nwyddau a gwasanaethau sylfaenol a ddosberthir yn lleol sy'n hanfodol i fywyd, gan gynnwys bwyd, cyfleustodau, adeiladu, manwerthu, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, ac rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth Hefin am bwysigrwydd gofal cymdeithasol a sut rydym wedi rhoi llawer ohono ar gontract allanol i gwmnïau rhyngwladol mawr nad ydynt yn poeni llawer iawn mewn gwirionedd naill ai am y bobl y maent yn darparu gwasanaethau iddynt, eu gweithwyr, na'r cymunedau y maent yn darparu gwasanaethau o'u mewn. Ac wrth gwrs, mae tai'n hanfodol. Dyma'r sectorau lle mae dros hanner y bobl yng Nghymru'n gweithio, wrth gwrs, ond rydym wedi tueddu i'w diystyru, yn nhermau polisi.
Bydd gweithio ar flaenoriaethu'r economi sylfaenol yn ein galluogi i godi cyflogau yn y sectorau allweddol hyn wrth inni wella cynhyrchiant, ac atal colledion o gaffael lleol a defnydd preifat. Gwnaed pwyntiau da iawn eisoes am gyngor Preston, a byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed pa gysylltiadau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cael, a pha gysylltiadau pellach y bwriadant eu cael, gyda'r enghraifft drawiadol iawn honno. Ond wrth gwrs, ceir enghreifftiau da eraill, ac mae eraill wedi eu crybwyll.
Wrth gwrs, byddai canolbwyntio ar yr economi sylfaenol yn caniatáu inni gadw cyfran fwy o'r elw trwy berchnogaeth leol a chymdeithasol uwch. A gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd. Mae Plaid Cymru wedi bod yn ystyried syniadau, gan gynnwys sefydlu cwmnïau datblygu economaidd cymunedol ledled Cymru sy'n gallu nodi cyfleoedd yn y farchnad ar gyfer mentrau cydweithredol lleol a sefydlu rhwydwaith a strwythur gwell ar gyfer y sector bwyd a diod yng Nghymru, gan ddwyn ynghyd y gwahanol randdeiliaid ym meysydd amaethyddiaeth, prosesu bwyd, iechyd, maeth a'r amgylchedd. Gallai hyn greu un polisi cydgysylltiedig sy'n gosod bwyd iach, maethlon a gynhyrchwyd yn lleol fel nod trosfwaol allweddol i Lywodraeth Cymru.
Fel popeth arall mewn gwleidyddiaeth, mater o flaenoriaethau yw newid ffocws polisi economaidd. Os yw'r sectorau sylfaenol a'r economi sydd wedi'i diystyru yn symud i fyny rhestr flaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd, a bod yr arwyddion yn dda—mae'n amlwg fod yna symud ar hyn—yna gellir defnyddio adnoddau'n well i gefnogi a datblygu polisïau gwell i ymgysylltu â'r microgwmnïau er elw sydd i gyfrif am dros 30 y cant o gyflogaeth yng Nghymru.
Rhaid inni ddatblygu cymorth effeithiol i fusnesau bach, ac er y bu rhywfaint o lwyddiant yn y gorffennol, rwy'n siŵr y byddai pawb ohonom yn cydnabod bod modelau blaenorol o gymorth i fusnesau bach ar y cyfan wedi methu cyrraedd y busnesau gyda'r potensial mwyaf i dyfu ac a allai eu defnyddio fwyaf.
Os gallwn gael hyn yn iawn, gallwn ddylanwadu'n gadarnhaol ar fywydau nifer fawr o ddinasyddion, a chreu swyddi da tra'n cefnogi twf a llywio diwylliant y genhedlaeth nesaf o gwmnïau gwreiddiedig canolig eu maint—y canol coll y clywn amdano. Mae llawer o'r sylfeini a rhai o'r sefydliadau a all gynnal yr economi sylfaenol eisoes yn bodoli. Er enghraifft, mae gan y banc datblygu botensial enfawr i adeiladu'r canol coll. Fodd bynnag, mae'n rhaid iddo symud tuag at wneud cymorth ariannol hirdymor ar gyfer y cwmnïau hyn sy'n wreiddiedig yng Nghymru drwy fenthyciadau amyneddgar, lle nad oes disgwyl gallu cynhyrchu elw cyflym neu adenillion cyflym iawn ar fuddsoddiad, a helpu cwmnïau lleol i dyfu, a phan fo angen, i gael eu prynu o bosibl gan y staff eu hunain.
Gallaf weld, Ddirprwy Lywydd, fod fy amser yn brin. Mae llawer mwy y gellid ei ddweud.