Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 17 Hydref 2018.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Roedd y pwyllgor yn bwriadu i'r adroddiad hwn fod yn adroddiad ac yn ymchwiliad i godi ymwybyddiaeth o rai o'r prif syniadau a chysyniadau yn ogystal â gwneud argymhellion i'r Llywodraeth. Hefyd roeddem am herio busnesau a'r trydydd sector yn ogystal â'r Llywodraeth, oherwydd rwy'n credu bod angen i bob un ohonom feddwl am y newidiadau enfawr sy'n cyrraedd yn fwyfwy mynych.
Nawr, fel y dywedais ar ddechrau'r ddadl hon heddiw, ni allai fod mwy yn y fantol. Ni allai'r dystiolaeth a gasglwyd gennym fod yn gliriach. Cawsom dystiolaeth glir yn ein sesiynau pwyllgor; rhybuddiodd arbenigwyr fod miloedd o swyddi'n debygol o fod yn y fantol yn y dyfodol agos iawn. Mae awtomatiaeth yn wynt a allai rwygo drwy'r economi gyfan a gadael dinistr yn ei sgil os nad ydym yn paratoi'n briodol. Ond os ydym yn barod, mae yna gyfleoedd enfawr hefyd wrth gwrs, a soniodd cyd-aelodau o'r pwyllgor a Jack Sargeant am hynny yn ystod ein dadl heddiw.
Ymhelaethodd Adam Price ar ardaloedd peilot a'r angen i adeiladu llwyfan i arddangos gallu Cymru a photensial deallusrwydd artiffisial—coleg deallusrwydd artiffisial, yn hytrach, ac amlinellodd yr achos o'i blaid. Soniodd Hefin, wrth gwrs, am gerbydau awtonomaidd, a gwn ein bod fel pwyllgor yn bwriadu gwneud rhagor o waith yn y maes hwnnw. A chanolbwyntiodd David Rowlands ei gyfraniad ar y ffaith bod angen i'r Llywodraeth nodi'r anghenion, ac angen i fusnesau nodi'r anghenion, mewn perthynas â chreu'r gweithlu cywir ar gyfer y dyfodol. Mae'r pedwerydd chwyldro diwydiannol yn digwydd er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd, fel y dywedodd Lee Waters. Siaradodd Lee Waters yn helaeth, wrth gwrs, am amaethyddiaeth fanwl. Dyma rywbeth nad oedd gennyf farn arbennig o gryf yn ei gylch o'r blaen. [Torri ar draws.] Ai eich dyfyniad chi ydoedd, Lee, neu un rhywun arall? [Torri ar draws.] Fe'i rhoddaf i chi. Credaf fod amaethyddiaeth fanwl yn rhywbeth nad oedd gennyf lawer o farn arno cyn gwneud y gwaith hwn, ond gallaf ddweud yn sicr bellach fy mod yn rhannu'r farn sydd wedi bod gan Lee ers peth amser. Rwy'n ddiolchgar i Jack Sargeant am ei gyfraniad, yn rhoi ei safbwynt ef fel peiriannydd, ac enghraifft a roddodd ynglŷn â sut y gall deallusrwydd artiffisial wella ein gofal iechyd yn ogystal.
Hoffwn ddiolch i ychydig o bobl. Cawsom amrywiaeth helaeth o arbenigwyr yn ystod ein hymchwiliad ac roedd y rhan fwyaf ohonynt, os nad y mwyafrif, wedi'u lleoli yng Nghymru. Cawsom dystiolaeth mewn perthynas â cherbydau awtonomaidd, amaethyddiaeth fanwl—y cyfan yn dystiolaeth dda. Ymwelsom hefyd ag Amazon yn ystod ein hymchwiliad, a Phrifysgol Abertawe yr ochr draw i'r ffordd—ymwelsom â'u hadran beirianneg. Fel y nododd Vikki Howells, mae'r adran beirianneg honno'n ehangu. Credaf fod Vikki wedi'i chyfareddu cymaint â minnau gan y robot a welsom, ac a oedd yn mynd i fod yn edrych ar ein holau yn ein henaint, mae'n debyg. Diolch hefyd i dîm y pwyllgor sy'n ein cynorthwyo a'r tîm integredig.
Er fy mod yn cloi'r ddadl yn awr, credaf mai dechrau ar ddadl lawer hwy yw hi ac un y credaf fod angen iddi ddigwydd.