– Senedd Cymru am 4:07 pm ar 17 Hydref 2018.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Diwydiant 4.0—dyfodol Cymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Russell George.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn fy enw i.
Nawr, mae'r holl ymchwiliadau a wnawn fel pwyllgor yn ddiddorol yn eu ffordd eu hunain, ond o'r holl ymchwiliadau a wnaethom yn y pwyllgor ers i mi fod yn Gadeirydd ar Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, rhaid imi ddweud mai hwn yw'r un lle cefais fy llygaid wedi'u hagor fwyaf—sef y gwaith sy'n ymwneud ag awtomatiaeth. Clywsom rai o'r tystion yn dweud wrthym am ymchwil sy'n dangos bod degau o filoedd o swyddi'n mynd i gael eu colli o ganlyniad i awtomatiaeth, a chlywsom hefyd am astudiaeth sy'n dangos bod degau o filoedd o swyddi'n mynd i gael eu creu o ganlyniad i awtomatiaeth. Nawr, rwy'n credu fy mod yn rhywun sy'n optimistaidd o ran ei natur, felly rwy'n croesawu'r pedwerydd chwyldro diwydiannol, ond fe ddysgasom un peth pendant o'n gwaith—sef bod Llywodraeth sy'n methu paratoi ar gyfer awtomatiaeth yn paratoi i fethu. Wrth gwrs, nid her i Lywodraeth yn unig yw hon; mae'n her i fusnes a darparwyr gwasanaethau ar draws y wlad. Mae awtomatiaeth yn dod ac mae angen i bawb ohonom feddwl beth y mae hynny'n ei olygu i ni.
Cefais fy siomi gan agweddau ar ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad, a allai ymddangos braidd yn rhyfedd gan i'r Llywodraeth dderbyn 11 o'r 12 o argymhellion. Roeddwn yn falch o nodi na dderbyniwyd unrhyw argymhellion mewn egwyddor, ac un yn unig a wrthodwyd. Ond fel pwyllgor, rydym yn glir mai ein nod a'n pwrpas yw sbarduno newid. Bwriedir i'n hargymhellion newid a gwella polisi Llywodraeth. Felly, pan gaiff ein hargymhellion eu derbyn, ond bod y testun cysylltiedig yn ei gwneud yn glir nad yw ein pryderon yn newid ymddygiad, yna rwy'n bryderus.
Mae argymhelliad 1 yn enghraifft o hyn: mae'r pwyllgor yn galw am waith
'i sicrhau bod Cymru yn darparu technolegau sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â’u defnyddio.'
Ond mae'r ymateb yn rhestru'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud, ac mae'n sôn am y gwaith sydd eisoes ar y gweill gan yr Athro Phil Brown. Nid yw'n glir ein bod yn cytuno yma, felly efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i hynny yn ei sylwadau cloi. A bod yn deg, efallai fod adolygiad Brown yn ymdrin â'r materion sy'n codi, a byddaf yn aros yn eiddgar iddo gael ei gyhoeddi i weld pa argymhellion y mae'n eu gwneud. Rwy'n weddol siŵr nad gwaith yr Athro Brown fydd diwedd y gân o ran y gwaith sydd angen ei wneud, a gobeithio bod y Llywodraeth yn barod i ymateb i unrhyw fylchau neu'r camau nesaf y mae'n eu nodi.
Mae argymhelliad 11 yn dilyn patrwm tebyg o dderbyn heb weithredu o'r newydd. Mae'r argymhelliad yn glir ein bod am weld mwy o ymchwilwyr ar y lefel uchaf yn gwneud eu gwaith yma yng Nghymru ac yn cadw'r sgiliau hynny ar gyfer economi Cymru. Mae'r goblygiadau ariannol a restrir yn ymateb y Llywodraeth yn dweud y byddai costau ychwanegol
'Pe baem yn lansio cronfa' ond nid fel arall. Wel, am hynny y mae'r argymhelliad yn galw, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, gobeithio bod y cylch cyllidebol cyfredol yn rhoi gallu i chi wneud hynny.
Fe edrychaf ar argymhelliad 4, sef yr unig un a wrthodwyd. Daeth yr argymhelliad o awgrym gan yr Athro Calvin Jones o Brifysgol Caerdydd y gallai fod manteision gwirioneddol i Gymru o greu model cymunedol i brofi technolegau sy'n dod i'r amlwg yng nghyd-destun Cymru. Roedd yn syniad a gafodd dderbyniad brwd gan eraill y siaradasom â hwy yn ystod yr ymchwiliad, ac mae ymateb y Llywodraeth yn dweud ei bod yn gweithio ar nifer o gynigion yn hytrach nag un lleoliad penodol. Nawr, mae gennyf gydymdeimlad â'r syniad y gallai fod manteision i gynnal profion mewn nifer o leoliadau yn hytrach nag un gymuned unigol. Nid pa un a oes un safle neu 10 o safleoedd yw'r peth pwysicaf; yr hyn sy'n bwysig yw bod yna safleoedd yng Nghymru sy'n caniatáu i dechnoleg arloesol gael ei phrofi a'i datblygu i weddu i anghenion Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd modd mynd ar drywydd y cyfleoedd hyn. Ni fyddwn yn cael ail gyfle i fod yn flaenllaw yn y technolegau newydd hyn.
Rwy'n falch fod argymhelliad 12 wedi gweld gweithredu ar unwaith. Roedd hi'n eithaf rhyfedd clywed mai dim ond un o'r tair partneriaeth sgiliau rhanbarthol a oedd wedi nodi awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial yn eu cynlluniau ar gyfer gofynion y dyfodol, felly edrychaf ymlaen at weld ffrwyth llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn hynny o beth.
Bwriad y pwyllgor oedd i'r adroddiad hwn fod yn ddechrau yn hytrach na diwedd ar y drafodaeth, ac ni allai fod mwy yn y fantol, ond mae gennyf ddiddordeb arbennig yn sylwadau'r Aelodau y prynhawn yma ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, yn enwedig o ran—. Efallai y gallai amlinellu rhai o'r sylwadau a wneuthum ar yr argymhellion a gyflwynais ac a drafodais heddiw mewn rhagor o fanylder.
Roeddwn am ganolbwyntio'n unig ar argymhellion 3, 7 a 9 yn fy ymateb. O ran argymhelliad 3, sy'n gofyn beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i harneisio arbenigedd a chysylltiadau ledled Cymru ac ymhlith y Cymry ar wasgar, un o'r pethau y buaswn yn ei ddweud yw bod cynnydd yn cael ei wneud yng Nghymru yn y maes hwn mewn prifysgolion, ac maent yn cynnwys arbenigedd o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Er enghraifft, yn gynharach eleni, helpais i lansio ysgol dechnolegau Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sy'n un enghraifft o'r modd y gall sefydliadau addysg uwch harneisio arbenigedd academaidd ac ymchwil.
Yr wythnos diwethaf hefyd, helpais i lansio rhaglen Uwchgyfrifiadura Cymru, sef rhaglen £15 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ac arian Ewropeaidd, sy'n uno prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor i edrych ar amrywiol brosiectau gwahanol i ddatblygu deallusrwydd cyfrifiadura er mwyn datblygu prosiectau. Canfûm mai un o'r pethau mwyaf diddorol am hynny oedd nad oedd yn ymwneud yn unig â chynnyrch terfynol, megis yr uwch-gar a microbioleg; mae'n ymwneud hefyd â sut y deallwn wyddoniaeth gymdeithasol. Roedd gan yr Athro Roger Whitaker bapur ar rwydweithiau a sut y gall cyfrifiaduron ein helpu i ddeall rhwydweithiau rhyngweithio cymdeithasol rhwng pobl. Dyma'r union beth yr oeddwn yn sôn amdano yn y ddadl flaenorol pan gyfeiriais at gyfalaf cymdeithasol. Felly, mae cyfrifiaduron yn ein helpu i ddeall yr amgylchedd a adeiladwyd ar batrwm cymdeithasol cymhleth yr ydym yn byw ynddo. Credaf fod hynny'n hynod o ddiddorol yn y ffordd rydym yn datblygu ein dealltwriaeth o gymdeithas. Felly, mae gwyddoniaeth gymdeithasol yn chwarae rhan yn hynny o beth.
O ran argymhelliad 7, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y rôl y dylai ei chwarae yn annog cwmnïau cerbydau clyfar ac awtonomaidd—CAV—i rannu data cyn damweiniau er mwyn cyflymu dysgu, hoffwn dynnu sylw'r Siambr at dudalen 36 yn yr adroddiad. Cawsom sgwrs ddiddorol iawn gyda Dr Nieuwenhuis, a ddywedodd wrth y pwyllgor fod, llawer o'r ceir allan yno y byddai modd eu hacio erbyn heddiw mae'n debyg
—mae'n debyg y byddai modd hacio cerbydau clyfar ac awtonomaidd heddiw— ac mewn gwirionedd, mae rhai ohonynt wedi cael eu hacio. Felly, mae angen inni osgoi senario lle gallai rhywun gyda bwriad drwg hacio degau o filoedd o geir yn sydyn a'u defnyddio i redeg dros bobl mewn dinasoedd neu rywbeth fel hynny, a byddai hynny'n bosibl yn ddamcaniaethol.
Buaswn yn dweud nad yn ddamcaniaethol y mae'n bosibl hyd yn oed: mae'n bosibl; ac yn sicr yn rhywbeth sy'n hollol gredadwy yn yr amgylchedd rydym yn byw ynddo heddiw. Yn ymateb Llywodraeth Cymru, maent yn dweud nad yw'r rheoliadau sy'n effeithio ar CAV wedi'u datganoli i Gymru ac felly bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU drwy'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Gan ddibynnu ar ba mor gyflym y mae'r dechnoleg hon yn datblygu, efallai na fydd hyn yn digwydd bob amser, ac rwy'n gobeithio na fydd y setliad datganoli presennol sydd gennym yn un parhaol. Ac os daw Llywodraeth Cymru i fod yn gyfrifol am hyn, mae'n bwysig ein bod yn cadw llygad ar beth sy'n newid yn y maes hwn.
Ac yn olaf—. Os gallaf ddod o hyd i fy mhapurau—. Rwyf dros y lle ym mhob man oherwydd roeddwn yn paratoi ar gyfer y ddadl flaenorol yn ogystal. Yn olaf, gydag argymhelliad 9, mae'n dweud,
'Wrth ddatblygu ei gweledigaeth ar gyfer addysg ôl-orfodol, dylai Llywodraeth Cymru ailffocysu ac ailddatblygu ei chymorth ar gyfer dysgu gydol oes, gan greu ffyrdd newydd a hygyrch i weithwyr sydd mewn perygl o golli eu swyddi yn y tonnau awtomeiddio cyntaf o ailhyfforddi ac uwchsgilio.'
Ac un o'r pethau—. Prif destun pryder ymateb Llywodraeth Cymru yw cynllun peilot y cyfrif dysgu personol, a fyddai'n ariannu ail-hyfforddiant galwedigaethol personol mewn sectorau lle mae prinder sgiliau. Nawr, bid a fo am hynny, ond mae angen i bobl wybod bod mwy na gwerth ariannol i'w cyfraniad ac y bydd y cyfraniad sydd ganddynt i'w wneud yn cael ei werthfawrogi pan fyddant yn gadael addysg. A buaswn wedi hoffi clywed mwy gan Lywodraeth Cymru ar y maes penodol hwnnw ynglŷn â sut rydym yn mynd i ddatblygu'r weledigaeth o fewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Bydd y Llywodraeth yn datblygu deddfwriaeth ar hyn—ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol—yn y dyfodol agos, ac rwy'n credu y bydd angen inni ddeall y bydd diwydiant 4.0 yn chwarae rôl enfawr yn natblygiad addysg a hyfforddiant. Ac ar argymhelliad 9, credaf fod ymateb Llywodraeth Cymru ychydig yn fyr o'r nod o ran yr hyn y buaswn yn disgwyl ei weld, sy'n rhyw lun o adleisio sylwadau Cadeirydd y pwyllgor yn ei sylwadau agoriadol.
Rwy'n credu y bydd yn rhaid aros i weld ai ymateb i'r adroddiad hwn yw fy ngweithred olaf fel aelod o'r pwyllgor, ond—[Torri ar draws.] Iawn, peidiwch â chynhyrfu.
Ond credaf fod Cadeirydd y pwyllgor yn llygad ei le: credaf fod yr adroddiad hwn wedi bod yn un o'r rhai mwyaf diddorol a mwyaf pellgyrhaeddol. Os caf ganolbwyntio ar un o'r argymhellion y cyfeiriodd y Cadeirydd atynt o ran y syniad o greu ardal beilot, credaf fod hwn yn gyfle anhygoel i ni, a chredaf mai'r pwynt am ardal beilot mewn man penodol—mewn gwirionedd mae'r cyfle go iawn yn y cyfuniad o dechnoleg. Felly, mewn gwirionedd, mae ardaloedd peilot yn bodoli, onid ydynt, a labordai byw ar gyfer syniadau penodol? Ac mae'r syniad o brosiectau peilot clyfar mewn dinasoedd yn bodoli ar draws y byd. Mae'r syniad diddorol am adeiladu ardal beilot draws-dechnoleg, os mynnwch—. Mae pobl yn cyfeirio ato fel adeiladu dinas neu dref o'r rhyngrwyd i fyny, gan gyflymu'r daith tuag at y dyfodol, ac yn y rhyng-gysylltiad â gwahanol dechnolegau ac adeiladu labordy trefol lle gallwch weld y rhyngweithio rhwng pŵer synwyryddion wedi'u masgynhyrchu a chyfrifiadura cwmwl a cheir awtonomaidd ac ati, oll yn cael eu hadeiladu yn yr un lle. Ac wedyn, wrth gwrs—. Mae hyn yn dechrau digwydd. Felly, ar lannau dwyreiniol Toronto ar hyn o bryd, mae Sidewalk Labs, sef is-gwmni arloesi trefol Google, yn adeiladu ardal beilot drefol, y gyntaf o'i bath, am $50 miliwn, i roi rhywfaint yn unig o'r hyn y soniwn amdano i bobl. Mae Bill Gates yn gwneud yr un peth yn Belmont, Arizona—prosiect $80 miliwn yno, sy'n cyfuno'r technolegau hyn am y tro cyntaf. Felly, mae'n digwydd yn yr Unol Daleithiau. Nid oes unrhyw un wedi adeiladu un yn Ewrop eto. Roedd cynnig i wneud hynny ym Mhortiwgal yn ddiweddar, ond nid yw wedi digwydd eto. Yn sicr nid oes neb wedi gwneud un mewn cyd-destun gwledig chwaith. Ceir cwestiynau gwahanol ynglŷn â'r cyd-destun gwledig y cyfeiriodd Calvin Jones atynt yn rhai o'i sylwadau.
Wrth gwrs, nid ardal beilot technoleg yn unig ydyw, mae'n ardal beilot ar gyfer arloesi cymdeithasol, oherwydd ni allwch dreialu technoleg tan i chi roi pobl yn y darlun hefyd mewn gwirionedd. Y modd y mae pobl yn rhyngweithio â thechnoleg yw un o'r cwestiynau allweddol, a dyna pam mai'r peth cyffrous am adeiladu ardal beilot go iawn, sef ardal beilot ar raddfa ddynol mewn cymuned arfaethedig newydd, yw ei bod yn caniatáu i chi gael y wybodaeth honno. Dyna pam y mae'r cwmnïau technoleg eu hunain yn buddsoddi yn hyn oherwydd gallant weld mewn gwirionedd, os gallwch gael y data hwnnw, yna mae'n darparu llwyfan ar gyfer arloesi i chi, ac mae hynny'n gyffrous dros ben.
Pam na wnawn ni adeiladu'r cyntaf yn Ewrop yma yng Nghymru? Y math o ffigurau y soniais amdanynt, does bosib eu bod y tu hwnt i'n gallu? Ac mewn gwirionedd, byddai'n rhoi brand i ni. Mewn un ystyr, yr hyn a wnewch yw adeiladu llwyfan; rydych yn adeiladu ardal arddangos agored ar gyfer yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig o safbwynt technoleg deallusrwydd artiffisial. Ac mewn gwirionedd, $50 i $100 miliwn, nid yw'n fuddsoddiad gwael o'i gymharu â rhai o'r pethau eraill y buddsoddwn ynddynt yn aml o ran ein strategaeth datblygu economaidd. Felly, hoffwn annog Ysgrifennydd y Cabinet i edrych eto ar hyn. Rwyf wedi awgrymu o'r blaen—edrychwch—gallech ei gyfuno â chais am expo. Nid oes rhaid i chi fynd am yr un mawr, ond gallech fynd am yr un llai, yr un canolig, sy'n seiliedig ar themâu penodol. Yn 2027, er enghraifft, gallech ddweud, 'Wel, gallai cymuned y dyfodol, cymuned deallusrwydd artiffisial y dyfodol, fod yn thema', a gallech adeiladu'r ardal beilot, i bob pwrpas, fel y safle expo, ac yna gallai barhau fel math o labordy trefol yn y dyfodol.
Un neu ddau o bethau eraill y gallem ei wneud: mae Sefydliad Technoleg Massachusetts wedi cyhoeddi yr wythnos hon eu bod yn creu coleg deallusrwydd artiffisial cyntaf y byd. Cymerodd 20 mlynedd i ni yng Nghymru greu prifysgol feddalwedd—rwy'n cofio'r daflen pan gafodd ei dosbarthu gyntaf. Pam na wnawn ni lamneidio'r dyfodol ac adeiladu coleg deallusrwydd artiffisial? Gallai fod yn gyfle cyffrous iawn i ni yng Nghymru.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r angen am gronfa. I roi syniad i chi, mae gan ddinas yn Tsieina—Tianjin—gronfa gwerth $16 biliwn ar gyfer deallusrwydd artiffisial. Un ddinas yn unig yn Tsieina yw honno; mae gan Shanghai yr un fath yn union. Gyda'i gilydd maent yn gwario mwy ar ddeallusrwydd artiffisial yn y gronfa honno nag a wnawn ledled yr Undeb Ewropeaidd. Os nad yw hynny'n ein cymell i weithredu, nid oes dim arall yn mynd i wneud hynny.
Fel y mae'r siaradwyr blaenorol wedi nodi, nid yn unig ein bod yn gweld newidiadau dirfodol i economi Cymru wrth i'r economi wynebu newidiadau—rhai da, rhai drwg—felly hefyd ym myd gwaith. Bydd y swyddi yn y dyfodol yn perthyn nid yn unig i oes arall o gymharu â swyddi'r gorffennol, o ran eu cyfleoedd, eu heriau a'u gofynion byddant hefyd yn perthyn i fyd arall.
Rwyf wedi mwynhau cyfrannu at yr ymchwiliad hwn, sydd, fel y mae'r Cadeirydd wedi ein hatgoffa, i fod yn ddechrau ar sgwrs ynglŷn â sut y gallwn lywio'r dyfodol hwnnw, ac er bod yr ymadrodd wedi tyfu'n ystrydeb braidd, sut y gallwn sicrhau ei fod yn canolbwyntio'n briodol ar bobl. Mae hyn yn allweddol i'n nawfed argymhelliad, sy'n herio Llywodraeth Cymru i roi ailhyfforddi ac uwchsgilio gweithwyr wrth wraidd ei pholisi dysgu gydol oes. Roedd y tystion a siaradodd â ni yn eglur yn eu tystiolaeth mai gweithwyr heb lawer o sgiliau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial.
Ond mae menywod yn wynebu risg arbennig yn y tymor byr, er enghraifft yn y sector manwerthu, lle rydym wedi gweld cynnydd yn y defnydd o'r til hunanwasanaeth. Gyda llaw, mae ymchwil newydd yn dangos bod cyflenwadau o diliau hunanwasanaeth wedi parhau i gynyddu, gyda'r niferoedd 14 y cant yn uwch am yr ail flwyddyn yn olynol. At hynny, mae gennym dasg i'w gwneud o hyd yn nodi sgiliau'r dyfodol ar gyfer edrych ar y galw a'r mathau o swyddi a allai fod eu hangen mewn unrhyw ardal benodol. Bydd rhan allweddol gan fyrddau sgiliau rhanbarthol i'w chwarae yn hyn o beth.
At hynny, mae angen inni ddatblygu system drionglog o gyfnewid rhwng cyflogwyr, addysg uwch ac addysg bellach fel yr awgrymodd yr Athro Richard Davies yn ei dystiolaeth i ni. Hefyd mae angen inni ddeall sut y gallwn ymgysylltu â'r grwpiau mwyaf anodd eu cyrraedd, sydd fwyaf o angen uwchsgilio efallai, a chredaf fod rôl allweddol i'w chwarae yma ar gyfer addysg i oedolion yn y gymuned, yn enwedig yng ngallu'r sector hwnnw i gynnwys a datblygu cysylltiadau cymunedol. Gan fod yr argymhelliad hwn yn allweddol, caf fy nghalonogi gan y ffaith bod y Gweinidogion wedi'i dderbyn, a hefyd eu bod wedi dechrau rhoi camau ar waith i ateb yr her hon. Rhaid i ddysgu gydol oes olygu hynny. Dylem annog diwylliant sy'n cydnabod hyn ac yn cynnig yr adnoddau a'r cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen, felly edrychaf ymlaen at lansio peilot y cyfrif dysgu personol y flwyddyn nesaf.
Dylai datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnom ei gwneud yn haws hefyd i Gymru gyflawni argymhelliad 1. Mae hwn yn cydnabod bod angen inni sicrhau bod ein heconomi yn cynhyrchu cymaint ag y mae'n ei ddefnyddio ar dechnolegau sy'n dod i'r amlwg. Ar ei fwyaf uchelgeisiol, efallai y gellid adfer ein henw da am fod yn weithdy'r byd. Roedd tystiolaeth gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r Athro Calvin Jones yn nodi ffyrdd y gallem wneud hyn. Mae gan ein prifysgolion ran allweddol i'w chwarae yma, a chefais fy synnu, ar ein hymweliad â Phrifysgol Abertawe, wrth weld sut y mae'r sefydliad hwnnw'n ymateb i awtomatiaeth. Mae ei adran beirianneg wedi treblu yn ei maint ac mae ei adran gyfrifiadureg yn profi twf tebyg. Rhaid i hyn hefyd fod yn amcan allweddol i raglen y dinas-ranbarth, gan ein galluogi i fabwysiadu dull rhanbarthol o weithredu'r economi.
Yn y trafodaethau a arweiniodd at argymhelliad 6, dull 'gwnaed yng Nghymru' o gyflawni amaethyddiaeth fanwl, cawsom dystiolaeth ar y ffyrdd y gallai hyn fod o fudd i ffermydd bach. Mae gwir angen hyn arnom. Gwyddom mai 48 hectar yn unig yw maint cyfartalog ffermydd Cymru, ac mae 54 y cant o ffermydd Cymru yn llai nag 20 hectar o faint. Fodd bynnag, mae modd cymhwyso ei fanteision hyd yn oed yn ehangach na hyn.
Cyfarfûm yn ddiweddar â chwmni o'r enw CEA Research and Development. I'r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r cysyniad, ystyr 'CEA' yw 'amaethyddiaeth rheoli amgylchedd', sef math o hydroponeg sy'n tyfu cnydau mewn amgylchedd artiffisial a reolir. Mae gan CEA Research and Development uchelgeisiau, mewn cydweithrediad â'r Gymdeithas Ffermio Fertigol, i agor cyfleuster ymchwil a datblygu newydd i wneud gwaith ymchwil a datblygu ar systemau artiffisial ar gyfer y diwydiant amaethyddiaeth rheoli amgylchedd yn fy etholaeth. Ceir nifer o fanteision i amaethyddiaeth rheoli amgylchedd: dim angen plaladdwyr, gwell defnydd o dir, defnyddio llai o ddŵr, llai o filltiroedd bwyd, ac wrth gwrs, gallu i wrthsefyll yr hyn a all fod yn dywydd anwadal iawn yng Nghymru. Yn wir, gellid cael gwared ar fethiant cnydau a gwastraff, a gallai hyd yr amser o hadau i gynnyrch fod ychydig o dan chwarter yr amser y mae'n ei gymryd i amaethyddiaeth draddodiadol. Dywedodd CEA Research and Development fod Cymru'n lleoliad perffaith ar gyfer hyn o ran mynediad at adnoddau ffisegol, a lawn mor bwysig, at gyfleusterau academaidd o'r radd flaenaf. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i hyn fel rhan o gyfres o gamau gweithredu y mae'n eu hamlinellu yn ei hymateb i'r argymhelliad, ac edrychaf ymlaen at ailedrych ar agweddau ar y pwnc hollbwysig hwn yn ddiweddarach yn y tymor.
A gaf fi gyfeirio'n ôl at y ddadl flaenorol am eiliad, Ddirprwy Lywydd? Er fy mod yn cytuno'n llwyr â'r holl deimladau a fynegwyd mor huawdl gan Lee Waters, ac yn wir gan yr holl gyfranwyr eraill, rhaid inni beidio ag anghofio mai drwy economi gref ddiwydiannol yng Nghymru yn unig y gellir darparu'r arian sector cyhoeddus a fydd yn sail i'r economi sylfaenol, sy'n fy arwain at fy nghyfraniad i'r ddadl bresennol.
Mae dyfodol diwydiant yng Nghymru ar groesffordd, a bydd y penderfyniadau a wnawn yn awr yn newid economi Cymru'n sylweddol er gwell neu er gwaeth. A ydym yn croesawu'r technolegau newydd, megis deallusrwydd artiffisial, ac o bosibl yn elwa ar y budd ariannol? Neu a ydym mewn perygl o lusgo ar ôl y gwledydd sydd eisoes yn croesawu'r dechnoleg hon? Dyna pam y mae'n hollbwysig ein bod, yn ein safle o gyfrifoldeb, yn gosod y sylfeini i'r busnesau newydd hynny ffynnu, tra'n sicrhau bod gweithwyr a busnesau sefydledig yn cael y cymorth sydd ei angen i fanteisio ar y dechnoleg newydd hon, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl yng Nghymru.
Un o ofnau mwyaf, a mwyaf dealladwy, pobl sy'n wynebu ymddangosiad technoleg newydd megis deallusrwydd artiffisial yw'r bygythiad o golli swyddi. Mae hyn yn arbennig o wir ymysg gweithwyr heb lawer o sgiliau. Mae Future Advocacy yn darogan fod y gyfran o swyddi mewn perygl mawr yn sgil awtomatiaeth erbyn y 2030au cynnar yn amrywio rhwng 22 y cant a dros 39 y cant. Mae David Hagendyk, cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, yn tynnu sylw at yr ofn hwn, gan ddweud mai ar weithwyr heb lawer o sgiliau y bydd awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial yn effeithio fwyaf.
Fodd bynnag, o'i drin yn iawn, gallai'r bygythiad o golli swyddi greu cyfle euraid, cyfle i wella sgiliau ac ailhyfforddi gweithwyr yn y sgiliau a allai nid yn unig gyflymu'r broses o greu swyddi newydd, ond a allai'n raddol greu gwell ansawdd bywyd iddynt hwy a'u teuluoedd, a'u cymunedau hefyd. Er y gall y broses o hyfforddi'r gweithwyr hyn mewn rolau anghyfarwydd a thechnegol fod yn ymarfer costus ar y dechrau, bydd yn profi'n hynod o gosteffeithiol yn y dyfodol trwy ddiogelu swyddi a chyflwyno gweithlu newydd mwy medrus. Mae hefyd yn gyfle perffaith i bwyso ar brofiad cwmnïau technoleg a seiber sy'n bodoli'n barod, gan ddefnyddio'r arbenigedd yn ein prifysgolion sydd o'r radd flaenaf. Gyda help y sefydliadau hyn, gall cwmnïau a diwydiannau sy'n mentro tuag at awtomatiaeth gael hyfforddiant a dealltwriaeth werthfawr. Daw bonws ychwanegol drwy hyn o gadw'r hyfforddiant yng Nghymru ei hun.
Ni all y cyfle i uwchsgilio a hyfforddi fod yn gyfyngedig i'r gweithlu presennol. Fel llunwyr polisi a chyfraith, mae gennym ddyletswydd i baratoi'r genhedlaeth nesaf o weithlu Cymru. Amcangyfrifir y bydd 65 y cant o blant a ddechreuodd yn yr ysgol gynradd ym mis Medi yn gweithio yn y pen draw mewn rolau nad ydynt yn bodoli eto. Drwy fethu â buddsoddi ynddynt heddiw, mae risg y byddwn yn peryglu nid yn unig eu dyfodol hwy, ond dyfodol Cymru hefyd, gan y gallai cwmnïau uwch-dechnoleg gael eu gorfodi i chwilio am weithwyr sydd â chymwysterau addas y tu allan i Gymru. Er ei bod yn wir y gall y penderfyniadau i greu cyflogaeth a dod â diwydiannau newydd a chyffrous i Gymru fod y tu hwnt i'n rheolaeth uniongyrchol, drwy ddatblygu a meithrin sgiliau newydd yng nghenedlaethau'r dyfodol, fe allwn annog diwydiant i weld Cymru fel cyrchfan ar gyfer busnes arloesol.
Er mwyn galluogi myfyrwyr y dyfodol i gyrraedd eu llawn botensial yn ddigyfyngiad mae angen newid mawr yn y cwricwlwm a'r amgylchedd y mae'r plant hyn yn cael eu haddysgu a'u magu ynddo. Yn ymchwil ein pwyllgor, roedd nifer o dystion arbenigol, megis Dr Rachel Bowen, yn cefnogi canfyddiadau adroddiad Donaldson, ac yn awgrymu pe bai adroddiad Donaldson yn cael ei weithredu'n briodol y gallai greu dysgwyr sy'n hollol barod i ymdrin â heriau'r unfed ganrif ar hugain. Ein dyletswydd yw sicrhau bod gweithwyr y dyfodol yn gadael addysg gyda'r sgiliau i ymdopi mewn amgylchedd gwaith a fydd yn esblygu ac yn newid ar gyflymder nas profwyd erioed o'r blaen.
Barn ein pwyllgor yw bod dyfodol economi Cymru yn dibynnu'n fawr ar allu Llywodraeth Cymru i fanteisio ar y technolegau newydd hyn a chreu amgylchedd lle ceir cyfle unigryw i'r gweithlu presennol wella'u sgiliau, a system addysg a fydd yn arfogi cenedlaethau'r dyfodol â'r sgiliau a'r gallu angenrheidiol i addasu i amgylchedd gwaith sy'n newid yn barhaus. Diolch.
Rwy'n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet fod y ddadl hon a'r ddadl ar yr economi sylfaenol yn ddwy ochr i'r un geiniog. Mae'n edrych yn debyg fod y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn mynd i greu cyfoeth enfawr, ond mae'n gyfoeth nad yw'n mynd i gael ei rannu'n gyfartal. Bydd wedi'i ddosbarthu'n anghyfartal, a dyna pam y mae cadernid yr economi sylfaenol wrth edrych ar ôl cymunedau a adawyd ar ôl mor bwysig—oherwydd bydd pobl yn cael eu hadleoli. Ceir rhagfynegiadau cyson y bydd oddeutu traean o swyddi'n cael eu heffeithio, ond nid yw'n mynd i fod mor ddu a gwyn â hynny. Bydd oddeutu 60 y cant o dasgau cyffredinol wedi'u hawtomeiddio—bydd yn effeithio ar bob un ohonom.
Dyma un o'r meysydd lle mae'r pedwerydd chwyldro diwydiannol yn digwydd er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd, ac rydym yn brwydro i ddal i fyny. Buom yn trafod hyn yn y Siambr ers dros ddwy flynedd ac rwy'n credu ei bod hi'n anodd i Lywodraeth ddal i fyny â lefel y newid sy'n digwydd yn yr economi. I fod yn deg â Llywodraeth Cymru, maent wedi cychwyn adolygiad Phil Brown i edrych ar y goblygiadau o ran sgiliau, a bydd yn cyflwyno'i adroddiad i ddechrau yn y flwyddyn newydd, ac rwy'n credu bod honno'n fenter ragorol. Hefyd, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud yn siŵr yn ei gynllun gweithredu economaidd newydd fod cymorth Llywodraeth yn y dyfodol yn canolbwyntio—un o'r colofnau allweddol yw'r modd y mae'n cefnogi awtomatiaeth a'r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Mae hynny i'w ganmol.
Ond nid wyf yn teimlo ein bod yn bachu'r agenda o ddifrif. Fel y mae ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad pwyllgor hwn yn ei ddweud yn glir, mae llawer o bethau'n digwydd, ond nid wyf yn teimlo ein bod ni'n manteisio i'r eithaf arno ac yn ei gymhwyso mewn ffordd a allai roi inni'r fantais a ddaw i'r sawl sy'n symud yn gynnar. Un o argymhellion y pwyllgor yw ein bod yn edrych i weld sut y gallwn ddangos ein harbenigedd maes—y meysydd lle mae gennym fantais wirioneddol. Ac nid oes llawer ohonynt, ond mae yna rai lle mae gan Gymru fantais wirioneddol. Felly, mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn enghraifft glasurol—rydym yn arwain y byd yn y maes hwnnw. Dylem fod yn edrych ar sut y gallwn gymhwyso awtomatiaeth yn y meysydd lle rydym yn gwneud yn dda, er mwyn inni allu dod yn arweinwyr yn y meysydd lle rydym wedi achub y blaen i ryw raddau eisoes. Nid ydym yn gwneud hynny, ac mae'r ymateb i'r adroddiad yn siomedig.
Hoffwn inni ganolbwyntio'n bennaf ar yr elfen amaethyddiaeth fanwl, oherwydd unwaith eto, mae'n enghraifft o ddefnydd ymarferol ble gallem gael mantais y sawl sy'n symud gyntaf mewn is-set benodol. Ac o ran Brexit, dyma rywbeth y gallwn achub y blaen arno—goblygiadau hynny—i roi rhywfaint o fantais inni. Ac mae Vikki Howells eisoes wedi sôn am gynhyrchu bwyd, sydd unwaith eto yn un o nodweddion y ddadl ar yr economi sylfaenol.
Credaf fod ymateb y Llywodraeth yn wan. Ddwy flynedd yn ôl, cytunwyd mewn dadl gan Aelod unigol y byddai'r Llywodraeth yn cyhoeddi strategaeth ar amaethyddiaeth fanwl. Mae honno eto i ymddangos. Mae ymateb y Llywodraeth yn derbyn argymhelliad 5 ac argymhelliad 6, ond unwaith eto, pan edrychwch ar yr hyn a ddywedant, ymddengys nad ydynt yn barod i wneud dim yn wahanol i'r hyn y maent yn ei wneud eisoes. Nawr, rwy'n derbyn bod swyddogion y Llywodraeth hyd at eu clustiau'n ceisio ymdrin â Brexit yn y portffolio amaethyddiaeth, ond yn bendant rydym yn colli cyfle yma. Hoffwn annog y Llywodraeth i edrych eto ar hyn, fel y bûm yn pwyso ers dwy flynedd, yn ofer, oherwydd teimlaf o ddifrif ein bod yn colli cyfle allweddol.
Roedd y dystiolaeth a gafwyd yn un a oedd yn darbwyllo. Mae manteision amaethyddiaeth fanwl yn lluosog. Clywsom gan yr Athro Simon Blackmore o Brifysgol Harper Adams ynglŷn â sut, o safbwynt amgylcheddol, y gall defnydd o'r technolegau hyn leihau'n sylweddol faint o blaladdwyr a niwed a wneir i'r amgylchedd. Felly, er enghraifft, yn ei dystiolaeth, dywedodd wrthym sut y maent bellach yn gallu cael gwared ar y defnydd o chwynladdwyr a rhoi cemegau'n uniongyrchol ar ddeilen chwynnyn, gan arbed 99.9 y cant o'r cemegau'n syth—a dileu'r angen am gemegau a gwella ansawdd y planhigyn, gwella cynhyrchiant ar ffermydd, ac ar ôl Brexit, dyna'n union fydd angen inni ei wneud. Ond nid yw'r cymorth Llywodraeth Cymru a gynigir i ffermydd—fel y clywsom yn y dystiolaeth—yn ddigon hyblyg, felly dywedodd Jason Llewellin, ffermwr o sir Benfro wrthym ei fod wedi gorfod cael 600 o brofion pridd er mwyn gallu defnyddio amaethyddiaeth fanwl ar ei fferm, ond dim ond 10 ohonynt a oedd ar gael o dan gynllun Cyswllt Ffermio y Llywodraeth, ac nid oes unrhyw lwybr go iawn i fynd ymlaen at y lefel nesaf. Nawr, nid yw'r Llywodraeth yn derbyn hynny yn ei hymateb.
Felly, rwyf am ailadrodd yr hyn a ddywedais o'r blaen wrth y Gweinidogion sy'n bresennol, sef os darllenwch yr adroddiad, mae yna achos cryf dros y modd y gallwn gymhwyso'r dechnoleg hon i amgylchiadau Cymru—y mathau o ffermydd sydd gennym, y ffermydd llai, datblygu peiriannau bach. Gallwn arwain yn hyn o beth. Mae gwaith gwych ar y gweill ym Mhrifysgol Abertawe, mae clwstwr arbenigedd eisoes o amgylch Prifysgol Aberystwyth, ac mae gwaith da'n cael ei wneud ar draws y colegau addysg bellach yng Nghymru yn y ffermydd sy'n eiddo iddynt. Fe allwn dorri drwodd yma, ond mae angen inni wneud mwy, ac nid yw'r Llywodraeth ei wneud, ac nid wyf yn deall pam.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu diddordeb mewn diwydiant 4.0 ac am eu gwaith yn yr ymchwiliad hwn. Mae'n rhywbeth y buaswn yn bendant wedi hoffi cyfrannu ato.
Rydym yng nghanol newid sylweddol o ran y ffordd rydym yn cynhyrchu cynnyrch, diolch i ddigideiddio gweithgynhyrchu. Dylem bob amser barhau i ganolbwyntio ar weld y chwyldro diwydiannol nesaf fel cyfle ac nid fel her. Nid yw hynny'n golygu esgus na fydd yna heriau, oherwydd fe fydd rhai, yn sicr, ond dylem bob amser barhau'n uchelgeisiol ynglŷn â'r dyfodol a'r hyn y gallwn ei wneud i droi'r risgiau'n wobrau, felly o allu nodi cyfleoedd i wneud y gorau o logisteg a chadwyni cyflenwi, offer a cherbydau awtonomaidd, robotiaid, rhyngrwyd pethau, a'r cwmwl. Nawr, fel peiriannydd, rwy'n arbennig o gyffrous ynglŷn â'r potensial i bob sector yn ein heconomi, a gallwn ei wireddu os cawn y buddsoddiad yn gywir, a hynny o seilwaith i addysg, dysgu gydol oes, prentisiaethau a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae'n allweddol ein bod yn rhoi diwydiant wrth wraidd ein cwricwlwm a'n bod o ddifrif ynglŷn â buddsoddiadau fel cysylltedd digidol.
Mae'n bosibl mai fy etholaeth yn Alun a Glannau Dyfrdwy fydd yn cael ei tharo galetaf yn sgil colli swyddi gweithgynhyrchu. Felly, yn yr ysbryd o droi risg yn wobrau, rhaid inni weithredu. Nid yw'n fater sydd wedi'i gyfyngu i gorneli gogledd-ddwyrain Cymru neu Gaerdydd yn unig, mae'n effeithio ar bob un ohonom, ond gall fod o fudd inni hefyd. Dylem fod yn cynllunio i greu canolfannau technoleg yng ngorllewin Cymru, gan weithio ar sgiliau digidol at ddibenion rhaglennu, codio a datblygu. Yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan adeiladu ar ein record fyd-eang o fod yn gartref i rai o gwmnïau gweithgynhyrchu gorau'r byd, gyda'r buddsoddiad cywir mewn seilwaith digidol, gallem wella ein galluoedd drwy gyfuno ein gweithlu medrus a robotiaid a chaniatáu iddynt esblygu ar y cyd. Mewn rhannau eraill o Gymru, dylem gryfhau ein hymdrechion i ddenu cwmnïau byd-eang i fuddsoddi yn y farchnad cerbydau awtonomaidd. Mae hyn yn rhywbeth na ddylem ei ofni, ac yn y Gymru wledig, fel y dywed Lee yn gywir, dylem edrych ar sut y gall deallusrwydd artiffisial ac awtomatiaeth greu elw pellach i'n gweithwyr gwledig a'n ffermydd.
Gwn fod telerau ac amodau gwaith, ynghyd â chyflogau, yn poeni llawer o weithwyr hefyd, wrth inni fynd drwy'r cyfnod hwn o newid. Ond nid yw'r cwestiwn ynglŷn â sut y mae datblygiadau technolegol wedi effeithio ar natur greiddiol ein gwaith yn ddim byd newydd. Mae'n gwestiwn oesol ac yn ymestyn yn ôl i'r chwyldro diwydiannol cyntaf. Felly, gadewch inni fod yn feiddgar, gadewch i ni edrych ar opsiynau fel yr incwm sylfaenol cyffredinol fel ateb atodol, gadewch i ni edrych ar sut y gall cymunedau cyfan elwa ar yr amser y mae gweithwyr yn ei arbed drwy awtomatiaeth, gan wneud gweithwyr yn rhan o'n cymunedau unwaith eto. Credaf hefyd y dylai Llywodraeth Cymru fod yn edrych yn agosach ar sut y mae'n ystyried ac yn cynllunio ac yn ymateb i'r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Efallai y dylai fod ganddynt Weinidog penodol wedi'i gefnogi gan weithgor yn cynnwys arbenigwyr o bob cwr o'r byd. Nid chwyldro y gallwn ei gynllunio 10 mlynedd ymlaen llaw yw hwn. Mae'r chwyldro yma eisoes ac mae angen inni weithredu ar frys i addasu ac i elwa.
Heddiw, Lywydd, rwy'n gwisgo oriawr Apple a brynwyd yn ddiweddar. Mae ei nodweddion newydd yn caniatáu i chi weld mwy a gwneud mwy mewn un cipolwg—gallaf weld Lesley yn gwenu arnaf yn awr. Mae cydosodiad yr oriawr 30 y cant yn llai o faint ac eto mae'n cynnwys y 21 y cant yn fwy o gydrannau, ac ynghanol yr oriawr mae yna synhwyrydd calon optegol sy'n caniatáu i chi wirio curiad eich calon yn gyflym. Gall ganfod os yw curiad eich calon yn disgyn islaw'r trothwy am gyfnod o 10 munud pan fyddwch i'ch gweld yn anweithgar, ac mae'n sbarduno hysbysiad. Dyna awtomatiaeth gofal iechyd o flaen ein llygaid. Ond yn sicr mae angen inni wneud mwy a monitro cyfradd y newid mewn awtomatiaeth gofal iechyd yma yng Nghymru. Cafodd yr oriawr ei hail-gynllunio'n sylfaenol a'i hail-strwythuro i'ch helpu i fod hyd yn oed yn fwy egnïol, iach a chysylltiedig, a rhaid i hynny fod yn nod terfynol i'r Llywodraeth hon. Drwy gydol y chwyldro diwydiannol hwn yn yr unfed ganrif ar hugain, dylem ail-gynllunio ac ail-strwythuro polisi yn sylfaenol er mwyn helpu pobl ledled Cymru.
I gloi, Lywydd, hoffwn ddiolch unwaith eto i'r pwyllgor am y gwaith hwn. Mae'n adroddiad gwych ac yn gyflawniad aruthrol. Da iawn yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth? Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto, mae wedi bod yn ddadl ystyrlon iawn ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am ei waith. Dywedodd Russell George ar y cychwyn os methwch baratoi, dylech baratoi i fethu. Mae hyn yn rhywbeth a gâi ei ddweud yn aml pan oeddwn yn y corfflu hyfforddi swyddogion. Mae'n rhywbeth sydd yr un mor berthnasol i ddatblygiad economaidd a llawer o feysydd gwasanaeth eraill. Rwy'n credu'n gryf mai ein her yn hyn o beth yw diogelu economi Cymru ar gyfer y dyfodol, ac mae'n rhaid inni achub y blaen ar newid er mwyn arfogi, nid yn unig ein pobl a'n lleoedd, ond hefyd ein busnesau i wynebu'r dyfodol yn hyderus. Y prif ffocws wrth ddiogelu economi Cymru ar gyfer y dyfodol yw ein cynllun gweithredu economaidd.
Mae'n werth dweud bod pob chwyldro diwydiannol blaenorol wedi arwain at greu mwy o swyddi nag y maent wedi'u dinistrio—a'r prif wahaniaeth yw bod y swyddi a grëwyd yn aml yn fwy datblygedig na'r rhai a gollwyd, ac felly mae'n gwbl hanfodol y dylem ganolbwyntio ein hymdrechion yn gadarn ar arfogi pobl â'r sgiliau i fanteisio ar y swyddi a gaiff eu creu o ganlyniad i'r pedwerydd chwyldro diwydiannol.
Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn ymgorffori tair prif elfen ein dull o fynd i'r afael ag awtomatiaeth—yn gyntaf, y buddsoddiad sydd ei angen i ddatblygu awtomatiaeth ar gyfer gwireddu ei fanteision niferus. Yn ail, mae angen inni addysgu a hyfforddi pobl ar gyfer swyddi'r dyfodol, ac yn drydydd, mae angen inni gefnogi gweithwyr yn yr hyn a fydd, mewn llawer o rannau o'r wlad, yn gyfnod pontio anodd. Hefyd mae angen inni rymuso gweithwyr i sicrhau bod twf wedi'i rannu at ei gilydd—gan daflu cipolwg yn ôl unwaith eto ar y ddadl yn gynharach fod yn rhaid i'n ffocws fod ar sbarduno twf cynhwysol. Dylid defnyddio'r pedwerydd chwyldro diwydiannol fel ffordd o ysgogi twf tecach a dosbarthiad tecach o swyddi o ansawdd uchel ar draws y wlad.
Mae awtomatiaeth a digideiddio yn un o'r pum galwad i weithredu sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu economaidd. Rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd iawn â busnesau a rhanddeiliaid i drafod effaith bosibl a chyfleoedd awtomatiaeth a thechnolegau digidol. Roeddwn yn arbennig o falch, y bore yma, o gyfarfod â CAF, sy'n adeiladu mwy na hanner y trenau a defnyddir yn y 15 mlynedd nesaf a thu hwnt. Byddant yn cael eu hadeiladu yn y cyfleuster yng Nghasnewydd, ac roeddwn yn falch o glywed mai cyfleuster Casnewydd fydd y cyfleuster gweithgynhyrchu cyntaf a ddigideiddir yn llawn yn nheulu CAF—a hynny o ganlyniad i weithio gyda Llywodraeth Cymru i osod y pedwerydd chwyldro diwydiannol yn gadarn ar flaen eu hystyriaethau wrth ddylunio'r cyfleuster, a sicrhau bod y bobl a fydd yn gweithio yno yn cael sgiliau i fanteisio ar dechnoleg ddigidol sy'n newydd ac yn datblygu.
Yn ogystal, rwy'n meddwl bod cymuned dechnoleg arloesol Cymru eisoes yn ystyried cyfleoedd deallusrwydd artiffisial. Yn ddiweddar, agorodd M7 Managed Services, mewn partneriaeth ag IBM, ganolfan cymhwysedd mewn deallusrwydd artiffisial. Drwy ein rhaglen Creu Sbarc, rydym hefyd yn helpu i greu amgylchedd er mwyn i fusnesau technoleg newydd allu cystadlu'n effeithiol ac yn effeithlon drwy ysgogi ac ennyn diddordeb pawb yn ecosystem Cymru i gefnogi entrepreneuriaeth wedi'i yrru gan arloesedd ar draws y wlad. Mae'r Ganolfan Ragoriaeth mewn Technolegau Symudol a Datblygol, a leolwyd ym Mhrifysgol De Cymru, yn cynorthwyo busnesau Cymru i ddatblygu gwasanaethau drwy fabwysiadu deallusrwydd artiffisial a thechnolegau eraill sy'n datblygu.
Rwy'n credu bod harneisio manteision awtomatiaeth yn galw am seilwaith sy'n cefnogi rhyng-gysylltedd dyfeisiau mewn amgylchedd awtomataidd. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi ein hymrwymiad i ddarparu band eang cyflym a dibynadwy ledled Cymru ac i alluogi'r farchnad i gyflwyno rhwydweithiau symudol pumed genhedlaeth.
Nawr, mae'r angen am fusnesau hynod gymwys ac arloesol yng Nghymru yn fwy nag erioed o'r blaen. Mae ein cryfderau eisoes yn cynnwys lled-ddargludyddion cyfansawdd, gweithgynhyrchu uwch a niwclear, ac rydym yn gweithio i fanteisio ar gyllid o gronfa her strategaeth ddiwydiannol y DU a chyllid o'r UE i gefnogi'r cryfderau hyn. Rydym wedi buddsoddi symiau sylweddol yn y meysydd gweithgaredd hyn, a byddwn yn parhau i wneud hynny, oherwydd—
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ildio?
—y rhain yw diwydiannau'r dyfodol. Gwnaf, â phleser.
Diolch am ildio. Rydych wedi sôn am gydrannau allweddol yr economi newydd hon—band eang, trenau trydan. Credaf fod hwn yn amser da i hyrwyddo'r seilwaith ceir trydan yn ogystal. Gwn nad yw'n gwbl gysylltiedig â hyn, ond ar yr un pryd, mae'r cyfan yn rhan o rwydweithiau. Rydym yn gwybod, ar hyn o bryd, fod angen i Gymru ddal i fyny o ran cael seilwaith gwefru ceir trydanol ar waith, felly rwy'n gobeithio y byddwch yn gwneud honno'n ystyriaeth flaenllaw yn ogystal.
Yn wir. Credaf fod yr Aelod yn llygad ei le—mae'r farchnad yn methu'n sylweddol yng Nghymru, ac mae hyn hefyd yn berthnasol i feysydd eraill o ddarpariaeth dechnolegol. Y rheswm y bu'n rhaid inni ymyrryd mor ddwfn o ran band eang cyflym iawn yw oherwydd ein bod wedi gorfod mynd i'r afael â methiant y farchnad.
Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r sector modurol. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd sut y caiff y gronfa o £2 miliwn ei defnyddio i osod pwyntiau gwefru trydan. Rydym yn gobeithio y gallwn ddefnyddio hynny fel cymhelliant i ddatblygu mwy o bwyntiau gwefru a fydd yn galluogi ceir i gael eu gwefru'n gyflym iawn. Credaf ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn defnyddio adnodd cyfyngedig yn y ffordd orau bosibl, ac mae hynny'n golygu diogelu'r ddarpariaeth o fannau gwefru ar gyfer y dyfodol; mae'n golygu buddsoddi yn y pwyntiau gwefru sy'n mynd i allu cyflenwi pŵer i geir yn gynt. Rwy'n arbennig o falch fod technolegau newydd yn y sector modurol yn cael eu datblygu yma ar hyn o bryd yng Nghymru. Rwy'n falch iawn y bydd pwerwaith trydan Lagonda newydd Aston Martin Lagonda ymhlith y mwyaf datblygedig ar y blaned, ac y byddwn yn ei weld yn cael ei ddatblygu yma.
Nawr, ym mis Mawrth, cyhoeddwyd adolygiad o oblygiadau arloesi digidol ar ddyfodol gwaith ac economi Cymru, fel y nododd yr Aelodau, ac mae'r gwaith hwnnw bellach ar y gweill ac yn cael ei arwain gan yr Athro Phil Brown o ysgol gwyddorau cymdeithasol Prifysgol Caerdydd. Rydym yn edrych ymlaen at ganlyniad yr adolygiad ym mis Mawrth, a gallaf sicrhau Russell George y bydd yn mynd i'r afael ag argymhelliad 1, ac os nad yn llawn, yna gallaf ei sicrhau y gwneir rhagor o waith ategol. Mae angen inni fod yn wirioneddol effro bob amser yn ystod y pedwerydd chwyldro diwydiannol i dechnolegau sy'n creu marchnad newydd y gellid ei defnyddio gan economi Cymru, ac o fewn economi Cymru, i roi mantais gystadleuol inni. Felly, bydd gofyn cael gradd gyson o fonitro, gwerthuso, astudio ac ymchwil. Ac a gaf fi sicrhau Russell ac Aelodau eraill yn y Siambr y byddwn yn parhau i ddatblygu perthynas strategol, gydgefnogol a buddiol gyda busnesau, gyda'r byd academaidd a chyda chymunedau i baratoi ein heconomi ar gyfer y dyfodol.
Mae newidiadau yn y ffordd y gweithiwn a goblygiadau awtomatiaeth yn golygu bod angen inni ailystyried ein hymagwedd tuag at ddysgu gydol oes ac addasu ein darpariaeth hyfforddiant a sgiliau yn unol â hynny. Mae ein cynllun cyflogadwyedd yn nodi amryw o fesurau i gynorthwyo unigolion i ddatblygu ac addasu eu sgiliau i anghenion newidiol y farchnad lafur. At hynny, fel y nododd rhai o'r Aelodau, bydd technoleg ac arloesedd, gan gynnwys y defnydd o ddata, yn helpu'r diwydiant ffermio i foderneiddio ac i ddod yn fwy gwydn a chystadleuol a mynd i'r afael â'i gyfrifoldebau newid hinsawdd a'r amgylchedd. Ni chredaf y dylid ystyried ffermio manwl ar ei ben ei hun; yn hytrach, dylid ei ystyried yn rhan o strategaeth amaethyddol a defnydd tir ehangach ar ôl Brexit, a bydd amaethyddiaeth fanwl yn sicr yn helpu'r sector i fynd i'r afael â'i gyfrifoldebau newid hinsawdd a'r amgylchedd yn unol â'r cynllun gweithredu economaidd.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol o'r amser. Gan daflu cipolwg yn ôl ar y ddadl flaenorol, yn aml iawn cwmnïau angori, fel buddsoddwyr mawr gyda'r gallu i harneisio arloesedd ac arbenigedd o bob cwr o'r byd, sy'n gyrru newid technolegol, a chredaf mai honiad peryglus iawn yw dweud y dylem roi'r gorau i gefnogi arloesedd mewn cwmnïau megis Airbus UK, Ford, Calsonic Kansei, Tata ac eraill er mwyn cefnogi datblygiad yr economi sylfaenol yn unig. Yn hytrach, dylem weld yr economi sylfaenol fel sylfaen i economi Cymru sy'n sbarduno twf cynhwysol, a diwydiannau yfory, sy'n cynnwys y cwmnïau angori a gefnogwyd gennym, fel ysgogwyr y pedwerydd chwyldro diwydiannol y mae angen inni weithio mewn partneriaeth â hwy.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Russell George i ymateb i'r ddadl?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Roedd y pwyllgor yn bwriadu i'r adroddiad hwn fod yn adroddiad ac yn ymchwiliad i godi ymwybyddiaeth o rai o'r prif syniadau a chysyniadau yn ogystal â gwneud argymhellion i'r Llywodraeth. Hefyd roeddem am herio busnesau a'r trydydd sector yn ogystal â'r Llywodraeth, oherwydd rwy'n credu bod angen i bob un ohonom feddwl am y newidiadau enfawr sy'n cyrraedd yn fwyfwy mynych.
Nawr, fel y dywedais ar ddechrau'r ddadl hon heddiw, ni allai fod mwy yn y fantol. Ni allai'r dystiolaeth a gasglwyd gennym fod yn gliriach. Cawsom dystiolaeth glir yn ein sesiynau pwyllgor; rhybuddiodd arbenigwyr fod miloedd o swyddi'n debygol o fod yn y fantol yn y dyfodol agos iawn. Mae awtomatiaeth yn wynt a allai rwygo drwy'r economi gyfan a gadael dinistr yn ei sgil os nad ydym yn paratoi'n briodol. Ond os ydym yn barod, mae yna gyfleoedd enfawr hefyd wrth gwrs, a soniodd cyd-aelodau o'r pwyllgor a Jack Sargeant am hynny yn ystod ein dadl heddiw.
Ymhelaethodd Adam Price ar ardaloedd peilot a'r angen i adeiladu llwyfan i arddangos gallu Cymru a photensial deallusrwydd artiffisial—coleg deallusrwydd artiffisial, yn hytrach, ac amlinellodd yr achos o'i blaid. Soniodd Hefin, wrth gwrs, am gerbydau awtonomaidd, a gwn ein bod fel pwyllgor yn bwriadu gwneud rhagor o waith yn y maes hwnnw. A chanolbwyntiodd David Rowlands ei gyfraniad ar y ffaith bod angen i'r Llywodraeth nodi'r anghenion, ac angen i fusnesau nodi'r anghenion, mewn perthynas â chreu'r gweithlu cywir ar gyfer y dyfodol. Mae'r pedwerydd chwyldro diwydiannol yn digwydd er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd, fel y dywedodd Lee Waters. Siaradodd Lee Waters yn helaeth, wrth gwrs, am amaethyddiaeth fanwl. Dyma rywbeth nad oedd gennyf farn arbennig o gryf yn ei gylch o'r blaen. [Torri ar draws.] Ai eich dyfyniad chi ydoedd, Lee, neu un rhywun arall? [Torri ar draws.] Fe'i rhoddaf i chi. Credaf fod amaethyddiaeth fanwl yn rhywbeth nad oedd gennyf lawer o farn arno cyn gwneud y gwaith hwn, ond gallaf ddweud yn sicr bellach fy mod yn rhannu'r farn sydd wedi bod gan Lee ers peth amser. Rwy'n ddiolchgar i Jack Sargeant am ei gyfraniad, yn rhoi ei safbwynt ef fel peiriannydd, ac enghraifft a roddodd ynglŷn â sut y gall deallusrwydd artiffisial wella ein gofal iechyd yn ogystal.
Hoffwn ddiolch i ychydig o bobl. Cawsom amrywiaeth helaeth o arbenigwyr yn ystod ein hymchwiliad ac roedd y rhan fwyaf ohonynt, os nad y mwyafrif, wedi'u lleoli yng Nghymru. Cawsom dystiolaeth mewn perthynas â cherbydau awtonomaidd, amaethyddiaeth fanwl—y cyfan yn dystiolaeth dda. Ymwelsom hefyd ag Amazon yn ystod ein hymchwiliad, a Phrifysgol Abertawe yr ochr draw i'r ffordd—ymwelsom â'u hadran beirianneg. Fel y nododd Vikki Howells, mae'r adran beirianneg honno'n ehangu. Credaf fod Vikki wedi'i chyfareddu cymaint â minnau gan y robot a welsom, ac a oedd yn mynd i fod yn edrych ar ein holau yn ein henaint, mae'n debyg. Diolch hefyd i dîm y pwyllgor sy'n ein cynorthwyo a'r tîm integredig.
Er fy mod yn cloi'r ddadl yn awr, credaf mai dechrau ar ddadl lawer hwy yw hi ac un y credaf fod angen iddi ddigwydd.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig i nodi adroddiad y pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.