6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Diwydiant 4.0 — Dyfodol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 4:39, 17 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu diddordeb mewn diwydiant 4.0 ac am eu gwaith yn yr ymchwiliad hwn. Mae'n rhywbeth y buaswn yn bendant wedi hoffi cyfrannu ato.

Rydym yng nghanol newid sylweddol o ran y ffordd rydym yn cynhyrchu cynnyrch, diolch i ddigideiddio gweithgynhyrchu. Dylem bob amser barhau i ganolbwyntio ar weld y chwyldro diwydiannol nesaf fel cyfle ac nid fel her. Nid yw hynny'n golygu esgus na fydd yna heriau, oherwydd fe fydd rhai, yn sicr, ond dylem bob amser barhau'n uchelgeisiol ynglŷn â'r dyfodol a'r hyn y gallwn ei wneud i droi'r risgiau'n wobrau, felly o allu nodi cyfleoedd i wneud y gorau o logisteg a chadwyni cyflenwi, offer a cherbydau awtonomaidd, robotiaid, rhyngrwyd pethau, a'r cwmwl. Nawr, fel peiriannydd, rwy'n arbennig o gyffrous ynglŷn â'r potensial i bob sector yn ein heconomi, a gallwn ei wireddu os cawn y buddsoddiad yn gywir, a hynny o seilwaith i addysg, dysgu gydol oes, prentisiaethau a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae'n allweddol ein bod yn rhoi diwydiant wrth wraidd ein cwricwlwm a'n bod o ddifrif ynglŷn â buddsoddiadau fel cysylltedd digidol.

Mae'n bosibl mai fy etholaeth yn Alun a Glannau Dyfrdwy fydd yn cael ei tharo galetaf yn sgil colli swyddi gweithgynhyrchu. Felly, yn yr ysbryd o droi risg yn wobrau, rhaid inni weithredu. Nid yw'n fater sydd wedi'i gyfyngu i gorneli gogledd-ddwyrain Cymru neu Gaerdydd yn unig, mae'n effeithio ar bob un ohonom, ond gall fod o fudd inni hefyd. Dylem fod yn cynllunio i greu canolfannau technoleg yng ngorllewin Cymru, gan weithio ar sgiliau digidol at ddibenion rhaglennu, codio a datblygu. Yng ngogledd-ddwyrain Cymru, gan adeiladu ar ein record fyd-eang o fod yn gartref i rai o gwmnïau gweithgynhyrchu gorau'r byd, gyda'r buddsoddiad cywir mewn seilwaith digidol, gallem wella ein galluoedd drwy gyfuno ein gweithlu medrus a robotiaid a chaniatáu iddynt esblygu ar y cyd. Mewn rhannau eraill o Gymru, dylem gryfhau ein hymdrechion i ddenu cwmnïau byd-eang i fuddsoddi yn y farchnad cerbydau awtonomaidd. Mae hyn yn rhywbeth na ddylem ei ofni, ac yn y Gymru wledig, fel y dywed Lee yn gywir, dylem edrych ar sut y gall deallusrwydd artiffisial ac awtomatiaeth greu elw pellach i'n gweithwyr gwledig a'n ffermydd.

Gwn fod telerau ac amodau gwaith, ynghyd â chyflogau, yn poeni llawer o weithwyr hefyd, wrth inni fynd drwy'r cyfnod hwn o newid. Ond nid yw'r cwestiwn ynglŷn â sut y mae datblygiadau technolegol wedi effeithio ar natur greiddiol ein gwaith yn ddim byd newydd. Mae'n gwestiwn oesol ac yn ymestyn yn ôl i'r chwyldro diwydiannol cyntaf. Felly, gadewch inni fod yn feiddgar, gadewch i ni edrych ar opsiynau fel yr incwm sylfaenol cyffredinol fel ateb atodol, gadewch i ni edrych ar sut y gall cymunedau cyfan elwa ar yr amser y mae gweithwyr yn ei arbed drwy awtomatiaeth, gan wneud gweithwyr yn rhan o'n cymunedau unwaith eto. Credaf hefyd y dylai Llywodraeth Cymru fod yn edrych yn agosach ar sut y mae'n ystyried ac yn cynllunio ac yn ymateb i'r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Efallai y dylai fod ganddynt Weinidog penodol wedi'i gefnogi gan weithgor yn cynnwys arbenigwyr o bob cwr o'r byd. Nid chwyldro y gallwn ei gynllunio 10 mlynedd ymlaen llaw yw hwn. Mae'r chwyldro yma eisoes ac mae angen inni weithredu ar frys i addasu ac i elwa.

Heddiw, Lywydd, rwy'n gwisgo oriawr Apple a brynwyd yn ddiweddar. Mae ei nodweddion newydd yn caniatáu i chi weld mwy a gwneud mwy mewn un cipolwg—gallaf weld Lesley yn gwenu arnaf yn awr. Mae cydosodiad yr oriawr 30 y cant yn llai o faint ac eto mae'n cynnwys y 21 y cant yn fwy o gydrannau, ac ynghanol yr oriawr mae yna synhwyrydd calon optegol sy'n caniatáu i chi wirio curiad eich calon yn gyflym. Gall ganfod os yw curiad eich calon yn disgyn islaw'r trothwy am gyfnod o 10 munud pan fyddwch i'ch gweld yn anweithgar, ac mae'n sbarduno hysbysiad. Dyna awtomatiaeth gofal iechyd o flaen ein llygaid. Ond yn sicr mae angen inni wneud mwy a monitro cyfradd y newid mewn awtomatiaeth gofal iechyd yma yng Nghymru. Cafodd yr oriawr ei hail-gynllunio'n sylfaenol a'i hail-strwythuro i'ch helpu i fod hyd yn oed yn fwy egnïol, iach a chysylltiedig, a rhaid i hynny fod yn nod terfynol i'r Llywodraeth hon. Drwy gydol y chwyldro diwydiannol hwn yn yr unfed ganrif ar hugain, dylem ail-gynllunio ac ail-strwythuro polisi yn sylfaenol er mwyn helpu pobl ledled Cymru.

I gloi, Lywydd, hoffwn ddiolch unwaith eto i'r pwyllgor am y gwaith hwn. Mae'n adroddiad gwych ac yn gyflawniad aruthrol. Da iawn yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Diolch.