7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Capasiti'r GIG

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 17 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:09, 17 Hydref 2018

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n cynnig y gwelliannau yma sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i. Mae hi'n galonogol, rydw i'n meddwl, ein bod ni yn ymddangos fel petaem ni'n symud tuag at ddealltwriaeth fwy soffistigedig erbyn hyn bod yr NHS yn wynebu pwysau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn y gaeaf, pan fo tywydd eithafol, wrth gwrs, yn gallu creu pwysau ar y system ofal brys. Mae goblygiadau'r sylweddoliad yma yn glir iawn—mae'r NHS angen cynllunio ar gyfer pwysau tymhorol, ond beth mae angen ei ddeall ydy bod pwysau tymhorol yn rhywbeth sy'n gallu digwydd ar draws y flwyddyn. Ydy, mae hi'n aeaf bob blwyddyn, ond mae'n debygol iawn y bydd pyliau amlach o dymheredd uchel yn y dyfodol hefyd, ac rydym ni'n gwybod bod tymheredd uchel yn gallu bod yn straen mawr ar wasanaethau iechyd.