– Senedd Cymru ar 17 Hydref 2018.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gapasiti'r GIG. Galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6829 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder am gapasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.
2. Yn nodi bod pwysau drwy gydol y flwyddyn yn llesteirio gallu'r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i ymdrin â phwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans, er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor dadl y Ceidwadwyr Cymreig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Rydym am fynegi ein pryder ynghylch capasiti GIG Cymru i ateb y galw am ofal heb ei gynllunio drwy gydol y flwyddyn, ac nid yn ystod y gaeaf yn unig, sy'n aml yn destun llawer o drafod yma, gan mai gwirionedd y sefyllfa yw y gall pwysau edrych ychydig yn wahanol yn y gaeaf gan fod nifer uwch o blant ifanc â bronciolitis neu bobl fregus sydd wedi cael codymau a heintiau ar y frest, ond y gwir plaen yw bod y pwysau hyn yn digwydd drwy gydol y flwyddyn, ac mae methiant cyson Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r her hon yn llesteirio'n ddifrifol gallu'r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at ofal heb ei gynllunio.
Yn y 12 mis diwethaf, cofnodwyd bron 1,400 o ddyddiau—dyna un fil pedwar cant o ddyddiau—o bwysau argyfwng eithafol yn ysbytai GIG Cymru. Gweithredodd ein hysbytai o dan bwysau eithafol ar 1,395 o ddyddiau dros gyfnod o flwyddyn yn 2016-17. Mae'r pwysau ar y gwasanaeth, ar staff ac ar gleifion yn annioddefol ac ni all barhau. Mae cyfraddau salwch yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru yn 8.8 y cant, sy'n ffigur syfrdanol ac yn 2015-16, collodd GIG Cymru dros 948 o flynyddoedd pobl o waith yn sgil absenoldeb staff gyda salwch sy'n gysylltiedig â straen. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i ymdrin â phwysau mewn gwasanaethau gofal y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
Nawr, mae'n ymddangos i mi fod gwelliannau yn y meysydd allweddol hyn yn dibynnu ar sicrhau nad yw pobl yn mynd i ddibynnu ar y gwasanaethau hanfodol hynny oherwydd nad ydynt yn gallu cael mynediad at ofal yn y gymuned leol lle maent yn byw. Mae sicrhau model gofal cymunedol cywir yn hanfodol, yn enwedig gan fod y Llywodraeth a'r byrddau iechyd yn ceisio gweddnewid y ddarpariaeth o ofal eilaidd. Pan fydd ardaloedd fel gorllewin Cymru yn gweld y ddarpariaeth o ofal iechyd yn cael ei newid mewn ffordd nad yw'n ategu argaeledd gwasanaethau yn y gymuned rhaid gofyn y cwestiwn: sut y gallwn atal y pwysau ar ofal critigol, ar wasanaethau y tu allan i oriau a thimau ambiwlans ledled Cymru?
Rydym wedi clywed dro ar ôl tro fod y rhai ohonom sy'n ddigon ffodus i fyw yn hwy—ac i wneud hynny yn ein cartrefi ein hunain gyda lwc—yn aml yn cael trafferth i gael y cymorth priodol, fel arfer oherwydd diffyg adnoddau gan y gwasanaethau cymdeithasol. Er mai nod y ddadl hon yw tynnu sylw at ddiffyg cynllunio integredig ar ran y Llywodraeth ar gyfer gofal heb ei gynllunio, rwy'n derbyn bod gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth, yn cyflwyno elfen hanfodol, a byddwn yn cefnogi ei welliannau.
Ddirprwy Lywydd, ni allaf fod o ddifrif o gwbl ynglŷn â gwelliant y Llywodraeth. Gadewch imi ddarllen y tamaid hwn:
'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhoi Cymru iachach ar waith i ymdrin â'r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans'.
Nawr, efallai eich bod yn cofio bod 'Cymru Iachach', gweledigaeth a chynllun gweithredu mawr ei glod y Llywodraeth a ddeilliodd o adolygiad seneddol, yn rhoi modelau cymdeithasol o iechyd a gofal yn y gymuned yn bendant iawn ynghanol y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd. Conglfaen sylfaenol y cyfeiriad teithio hwn yw rhagweld anghenion iechyd a gweithredu strategaethau atal ac ymyrraeth gynnar cynaliadwy er mwyn lleihau'r effaith ar afiechyd a'r angen am fodelau gofal cymdeithasol ymyraethol. Yr uchelgais yw sicrhau na fydd pobl yn mynd i'r ysbyty oni bai ei bod yn hanfodol iddynt wneud hynny. Caiff gwasanaethau eu cynllunio i leihau'r angen i fynd i'r ysbyty ac i dreulio amser yno. Mae 'Cymru Iachach' yn datgan yn benodol y bydd yna 'symud adnoddau i'r gymuned', ac mae hyn yn newydd da os yw'n ei gwneud hi'n bosibl lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans ac ar ofal y tu allan i oriau a gofal critigol. Felly, y cynllun yw cyfeirio pobl oddi wrth yr ysbyty ac at wasanaethau cymunedol. Fodd bynnag, heb i'r gwasanaethau cymunedol fod ar waith, bydd pobl yn dal i fod angen eu hysbyty, ac eleni, gwelodd rhai ysbytai yng Nghymru eu perfformiadau gwaethaf ers dechrau cadw cofnodion o ran y ddarpariaeth o wasanaethau brys.
Mae Llywodraeth Cymru yn methu cryfhau seiliau'r GIG. Ni allwn ddatblygu model cymunedol os nad oes gennym ddarpariaeth o ofal ataliol, gofal sylfaenol neu ofal cymdeithasol sy'n ymateb 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn. A sut y gellir datblygu hwnnw pan fo gwariant ar ofal sylfaenol gan y byrddau iechyd wedi gostwng 5 y cant mewn termau real rhwng 2010-11 a 2017-18? Mae'r dirywiad hwn yn y gwasanaethau'n effeithio ar lawer o brofiadau cleifion ac yn creu oedi mawr i bobl.
Ysgrifennydd y Cabinet, y gofyniad mwyaf sylfaenol ar gyfer gofal heb ei gynllunio yw bod yn rhaid iddo allu darparu gofal yn gyflym i bobl sydd mewn argyfwng neu ag anghenion brys, ac fel y dywedais eisoes, bydd y gymuned yn parhau i ddibynnu ar hynny. Cafodd un o fy etholwyr sy'n 91 mlwydd oed godwm a thorrodd ei glun mewn tri lle mewn uned iechyd meddwl sydd wedi'i leoli ar draws y ffordd o ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd. Nid oedd y staff yn yr uned yn cael ei godi oddi ar y llawr hyd nes y cyrhaeddai gweithwyr meddygol proffesiynol. Ysgrifennydd y Cabinet, cymerodd bump awr i'r gweithwyr proffesiynol hynny gyrraedd, a gadawyd y truan i orwedd ar y llawr am yr holl amser hwnnw, yn 91 mlwydd oed. Yn ffodus, cafodd ei godi gan barafeddygon a'i gludo'r 380 llathen yr holl ffordd ar draws y ffordd. Mater o lwc oedd hi ei fod wedi byw drwy'r profiad o ystyried ei oedran a difrifoldeb ei anafiadau. Nawr, fe allwn, ac mae'n rhaid inni, gynllunio ar gyfer ein gwasanaethau iechyd, ond rhaid inni hefyd gael yr hyblygrwydd i ymateb i amgylchiadau anghyffredin fel hyn, oherwydd credaf fod y stori hon yn amlygu ei bod hi'n mynd yn fwyfwy heriol i wasanaethau brys Cymru allu ymdopi â phwysau'r gaeaf, pwysau'r haf, ac yn wir, pwysau'r flwyddyn gyfan.
Y llynedd, darparodd Llywodraeth Cymru £50 miliwn yn ychwanegol i leddfu pwysau'r gaeaf ac agorodd 400 o welyau ychwanegol ar draws y GIG yng Nghymru er mwyn sicrhau y gallai ein gwasanaethau ymdopi â'r galw. Gyd-Aelodau'r Cynulliad, mae hynny'n cyfateb i ysbyty cyffredinol dosbarth. Fodd bynnag, ni welwyd unrhyw arwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn ailddyrannu'r cyllid hwn eleni er gwaethaf y ffaith bod y galw am wasanaethau wedi tyfu trwy gydol y flwyddyn. Mae'r defnydd gwelyau yn parhau i fod yn gyson uwch na'r lefel defnydd a argymhellir o 85 y cant, sy'n golygu bod safonau diogelwch cleifion yn cael eu bygwth. Yn 2017-18, roedd y defnydd dyddiol cyfartalog yn 87 y cant ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, gan gyrraedd dros 88 y cant ar rai adegau, ac ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru, cyrhaeddodd bron i 88 y cant. Mae hwnnw'n ffigur syfrdanol o uchel.
Ac mae'r darlun hyd yn oed yn fwy digalon yn y cyfraddau defnydd ar gyfer gwelyau meddygol acíwt. Ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, er enghraifft, cyrhaeddodd dros 93 y cant. Eisoes, cawn ein hystyried ymhlith rhai o'r gwasanaethau gofal critigol gwaethaf yn Ewrop, ac mae'n dod yn fwyfwy gwir fod gwelyau gofal critigol yn cael eu defnyddio'n amhriodol a bod ysbytai'n gorfod canslo llawdriniaethau er mwyn sicrhau y gall y gwelyau gofal critigol hyn barhau heb eu defnyddio.
Mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn galw am 250 o welyau ychwanegol a chyllid i'w ddefnyddio'n benodol ar gyfer mynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Byddai hyn yn rhyddhau gwelyau mewn ysbytai ac yn caniatáu ar gyfer llif yn symudiad cleifion drwy'r system gyfan. Felly, rydym yn ôl gyda mater hollbwysig cyllido. Nid wyf yn galw am fwy a mwy o arian, ond am i'r arian sy'n cael ei roi i'r GIG gael ei ddefnyddio mewn ffyrdd mwy creadigol. Bob blwyddyn, cyrhaeddwn bwynt lle mae'r Llywodraeth yn dweud, 'Dim mwy o arian'; bob blwyddyn mae'n newid ei meddwl wrth i'r pwysau gynyddu. Y broblem yw nad yw'r cylch hwn yn gynaliadwy, nid yw'n caniatáu ar gyfer cynllunio cydlynol ac mae'n golygu bod arian yn anochel yn cael ei daflu at broblemau tymor byr, sy'n gwneud gwahaniaeth hynod o ymylol yn y tymor byr yn hytrach na newid cynaliadwy. Mae angen arian, newid sylfaenol, canlyniadau newydd, nid pwysau, arian, pwysau, arian, pwysau, arian, neu ni fydd y darlun byth yn newid.
Ychydig iawn o dryloywder a geir ynglŷn â'r defnydd o'r cronfeydd hyn. Ni allwn ddweud os yw'r ateb cyflym yn datrys y broblem: a oedd yn cynnig gwerth am arian? A allwn nodi ar gyfer beth y cafodd ei ddefnyddio? Er bod y byrddau iechyd wedi gallu ei yrru drwodd i'r rheng flaen o bosibl, y realiti mae'n debyg yw mai dim ond cau tyllau ariannol y bydd, oherwydd er mwyn ei ddefnyddio'n effeithiol yn y rheng flaen, mae angen adnoddau dynol, ac ni ellir sicrhau'r rheini fel agor a chau tap. Ac yn y pen draw, mae datrys y broblem yn yr ysbyty yn ymwneud ag ymdopi â galwadau cynyddol mewn gwasanaethau, diffyg staff, colli gormod o welyau, diffyg adnoddau yn y gymuned a lefel sy'n gostwng o gyllid cymesur ar gyfer gofal sylfaenol. Yr un meddygon teulu'n union ag y gofynnoch iddynt ddarparu gwasanaeth y tu allan i oriau sydd dan bwysau ar ôl cael eu cyllid wedi'i dorri 5 y cant mewn termau real, gwasanaeth a ddylai chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ysgafnhau'r pwysau ar wasanaethau brys a heb eu cynllunio—nid yw'n bosibl. Ni cheir cysondeb mewn unrhyw ran o Gymru yn y mynediad at wasanaethau y tu allan i oriau.
Ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg y llynedd, roedd 19 y cant o'r holl sifftiau y tu allan i oriau heb eu llenwi. Ni all Hywel Dda lenwi oddeutu 1,500 awr o wasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau. Ar 12 achlysur gwahanol, nid oedd gan Caerdydd a'r Fro unrhyw ddarpariaeth meddyg teulu ar draws y bwrdd iechyd cyfan am gyfnod o amser, ac yn Aneurin Bevan, digwyddodd y sefyllfa honno ar 27 diwrnod gwahanol. Ym mis Ionawr eleni, roedd bron 14 y cant o'r sifftiau heb eu llenwi yn Betsi Cadwaladr. Gallwch weld ei fod yn digwydd ar draws Cymru gyfan, ac nid wyf ond yn dangos mai crafu'r wyneb yn unig yw hyn. Pan fo gennym Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn dweud, a dyfynnaf, mae gwendidau yn y system ar draws y wlad yn peryglu gofal cleifion ac yn cynyddu'r pwysau ar adrannau achosion brys, does bosib nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru sylweddoli bod y sefyllfa yn y ddarpariaeth y tu allan i oriau yn argyfyngus.
Gwasanaethau y tu allan i oriau, ambiwlans, gofal critigol, pwysau nas cynlluniwyd yn cael ei waethygu gan ofal cymdeithasol sy'n gwegian. Os ydych chi fel Llywodraeth o ddifrif eisiau glynu at yr uchelgais a nodwyd yn yr adolygiad seneddol, os ydych chi fel Llywodraeth o ddifrif yn awyddus i drawsnewid gwasanaethau—fel y dengys eich geiriau teg yn y weledigaeth ar gyfer iechyd—os ydych chi fel Llywodraeth yn wirioneddol awyddus i ymdrin â'r pwysau diddiwedd ar ein gwasanaethau brys, ar ofal critigol, ar wasanaethau y tu allan i oriau neu wasanaethau ambiwlans, mae angen ichi edrych ar ben arall y telesgop, symud mesur o adnoddau i ofal sylfaenol a gofal cymunedol, cyllido a staffio gofal cymdeithasol, a naill ai cefnogi pobl yn briodol yn eu cartrefi neu sicrhau bod gwelyau preswyl o ansawdd ar gael sy'n gweddu i anghenion yr unigolyn, buddsoddi mewn gofal ataliol, ymateb i ddynameg tueddiadau iechyd ein poblogaeth a chanolbwyntio ar lesiant integredig pobl Cymru.
Dyma'r dewis anoddaf un i chi, i'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol, ac a bod yn onest, i ninnau. Mae dyletswydd arnoch i ddiwallu anghenion heddiw tra'ch bod yn cynllunio, yn darparu adnoddau ac yn cyllido anghenion yfory, ond fel y mae, byddwch yn treulio gweddill eich amser fel Ysgrifennydd iechyd yn datrys problemau wrth iddynt godi, a byddwch yn syrthio rhwng dwy stôl. Ni fyddwch yn cynnal ein systemau presennol yn ddigonol, ac ni fyddwch yn dylanwadu ar y trawsnewidiad a geisiwch ac a rannwn gyda chi.
I ddyfynnu'r adolygiad seneddol:
'Oni ellir datgloi cynnydd cyflymach, ehangach, bydd mynediad at y gwasanaethau, a’u hansawdd, yn dirywio yn wyneb y pwysau a ragfynegir.'
Dyma pam y bydd y pum mlynedd nesaf yn brawf hollbwysig. Mae'n ymwneud â blaenoriaethau, Ysgrifennydd y Cabinet, ac roedd bob amser yn mynd i ymwneud â blaenoriaethau, ac rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, a gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James yn ffurfiol?
Gwelliant 1—Julie James
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud i adeiladu capasiti GIG Cymru i fodloni'r galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn ystod misoedd y gaeaf.
2. Yn nodi bod angen cydnabod a deall y pwysau sydd drwy gydol y flwyddyn, er mwyn hybu gallu’r GIG i ddarparu mynediad cyson a theg at wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi rhoi Cymru Iachach ar waith i ymdrin â’r pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gwasanaethau amserol sy'n diwallu eu hanghenion.
Yn ffurfiol.
Diolch. A gaf fi ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd yn ei enw ei hun? Rhun.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo:
Yn nodi bod pwysau ariannol sy’n arwain at wasanaethau gofal cymdeithasol gwaeth yn cyfrannu at bwysau cynyddol ar y GIG.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ym mhwynt 3, ychwanegu 'gofal cymdeithasol,' ar ôl 'phwysau ar wasanaethau'.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydw i'n cynnig y gwelliannau yma sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i. Mae hi'n galonogol, rydw i'n meddwl, ein bod ni yn ymddangos fel petaem ni'n symud tuag at ddealltwriaeth fwy soffistigedig erbyn hyn bod yr NHS yn wynebu pwysau drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond yn y gaeaf, pan fo tywydd eithafol, wrth gwrs, yn gallu creu pwysau ar y system ofal brys. Mae goblygiadau'r sylweddoliad yma yn glir iawn—mae'r NHS angen cynllunio ar gyfer pwysau tymhorol, ond beth mae angen ei ddeall ydy bod pwysau tymhorol yn rhywbeth sy'n gallu digwydd ar draws y flwyddyn. Ydy, mae hi'n aeaf bob blwyddyn, ond mae'n debygol iawn y bydd pyliau amlach o dymheredd uchel yn y dyfodol hefyd, ac rydym ni'n gwybod bod tymheredd uchel yn gallu bod yn straen mawr ar wasanaethau iechyd.
Yn amlach na pheidio, nid y nifer o bobl sy'n troi i fyny yn yr adrannau brys sydd yn achosi'r pwysau gaeaf—mae mwy o bobl yn mynychu adrannau brys yn ystod misoedd yr haf. Wrth gwrs, nid yw hi'n ddefnyddiol, nid yw hi'n llawer o help, pan fo pobl—lot o bobl—sydd ddim yn wir angen adran brys yn troi i fyny efo annwyd drwg neu oherwydd eu bod nhw wedi yfed gormod. Ond hyd yn oed pe baem ni'n atal y math yna o fynediad i adrannau brys, mae pwysau'r gaeaf yn dal i fodoli achos mae'r pwysau gaeaf yna yn ymwneud, mewn difri, â'r math o gleifion, y bobl sydd angen bod yna, sydd yn dod drwy'r drws, achos, yn nodweddiadol, maen nhw'n hŷn, maen nhw'n dioddef o nifer o gyflyrau gwahanol ar yr un pryd, sydd, o ganlyniad, yn creu achosion mwy cymhleth. Mae'n cymryd mwy o amser. Mae'n cymryd mwy o arbenigedd i ddelio â'r anhwylderau. Mae'n fwy cymhleth i drin salwch yn llwyddiannus. Mae angen cyfnod hirach yn yr ysbytai ar bobl fel hyn, ac, yn aml iawn, wrth gwrs, maen nhw'n methu cael eu rhyddhau oherwydd methiant i roi pecynnau gofal cymdeithasol addas mewn lle.
Wrth gwrs, mae'r gaeaf yn ei gwneud hi'n fwy tebygol bod claf yn cael ei daro'n wael oherwydd tywydd oer. Pan yw'n llithrig y tu allan, mae'n fwy tebygol bod claf oedrannus yn llithro, a hefyd, mae yna broblemau ychwanegol sy'n cael eu hachosi gan, er enghraifft, dai o safon isel yn ystod misoedd y gaeaf. Ond mae tywydd cynnes hefyd yn gallu cael yr un effaith ar gleifion fel yma, drwy eu gwneud nhw yn wael, yn ddioddef o ddisychiad, o dehydration, strôc haul, ac yn y blaen. Felly, yng nghanol pwysau tymhorol, beth sydd gennym ni mewn difri ydy math o glaf sydd yn fwy bregus, ac mae deall hynny yn golygu y gallwn ni ddeall pa bolisïau, gobeithio, sydd angen eu rhoi mewn lle er mwyn helpu'r NHS i gynllunio ar gyfer y newidiadau mewn patrymau defnydd yma—ac yma mae ein gwelliannau ni yn dod i mewn.
Mae'n anhygoel, mewn difri, ein bod ni'n dal, drwy ein gwelliannau ni, yn gorfod tynnu sylw at ofal cymdeithasol a'i bwysigrwydd wrth helpu'r NHS. Mae'n anghredadwy bod y Ceidwadwyr fel petaen nhw'n briod i'r syniad ei bod hi'n bosib gwarchod cyllideb yr NHS ar un llaw, a thorri gwariant gofal cymdeithasol ar y llaw arall, heb unrhyw effaith. Rydw i'n meddwl bod methu cynnwys gofal cymdeithasol yn y cynnig gwreiddiol yn gwneud rhywfaint o ddrwg i'ch hygrededd chi yn hyn o beth. Mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn gwelliant y Llywodraeth, am ei fod o'n dileu ein gwelliant ni ac yn gwneud hefyd yr un camgymeriad esgeulus o fethu sôn am bwysigrwydd gofal cymdeithasol.
I gloi, ychydig o bolisïau eraill a fyddai'n help: buddsoddi mewn gwasanaethau i gadw pobl yn iach ac allan o'r ysbyty yn y lle cyntaf—gwasanaethau ataliol drwy wasanaethau gofal cymdeithasol; gofal meddygol allan o oriau gwell a all fod o gymorth i bobl ynghynt i gael triniaeth pan fydd anhwylder arnyn nhw, pigiadau ffliw—rydym ni'n gwybod bod yna broblemau ar hyn o bryd efo'r ddarpariaeth o bigiadau ffliw—ac, fel y gwnes i grybwyll, tai o ansawdd sâl, ychydig funudau yn ôl. Mae angen meddwl ar draws holl adrannau'r Llywodraeth ynglŷn â sut i greu poblogaeth fwy gwydn. Mae yna bethau y gallem ni edrych arnyn nhw o ran hyblygrwydd a chynyddu hyblygrwydd ymhlith staff ac ysbytai er mwyn sicrhau bod cyfnodau o dywydd gwael ddim yn effeithio mor ddrwg, er enghraifft, ar allu staff i gyrraedd eu gwaith, a drwy fonitro angen mewn amser real a diffinio'r angen yna mewn modd mwy ystyrlon na ffigurau yn unig, mi allem ni ymateb drwy symud staff a rhannu cyfleusterau ac yn y blaen.
Heb os, mae paratoi yn effeithiol ar gyfer pwysau tymhorol yn rhywbeth a ddylai fod yn arfer cyffredin, felly mae'n rhaid inni weld, rydw i'n meddwl, diwedd ar yr esgusodion sydd i'w clywed bob blwyddyn, ac mae'n rhaid inni fod mewn sefyllfa lle nad ydym ni'n gorfod dychweled at yr un testun flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Drwy geisio dileu ein cynnig, sy'n adlewyrchu'r pryder a fynegwyd wrthym gan staff a chleifion drwy gydol y flwyddyn ynglŷn â chapasiti GIG Cymru i ateb y galw, mae Llywodraeth Cymru yn ailgylchu brawddegau rydym wedi'u clywed mor aml o'r blaen. Rwyf wedi cymryd rhan mewn dadleuon tebyg trwy gydol y pedwar Cynulliad diwethaf, a bob tro, mae Llywodraeth Cymru wedi osgoi'r cyfrifoldeb trwy ofyn inni gydnabod y gwaith y mae'n ei wneud ar adeiladu capasiti GIG Cymru. Felly, gadewch inni fod yn gwbl glir: mae GIG Cymru wedi cael ei arwain gan Weinidogion iechyd Llafur mewn Llywodraeth dan arweiniad Llafur ers 1999.
Rydym yn parhau i fethu cyflawni targedau rhwng atgyfeirio a thriniaeth ac nid yw'r targed ar gyfer amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion wedi'i gyrraedd mewn 10 mlynedd. Mae bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru ers tair blynedd. Dangosodd ffigurau Llywodraeth Cymru fis diwethaf fod Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Glan Clwyd wedi cyflawni'r perfformiad damweiniau ac achosion brys gwaethaf ar gyfer ysbytai Cymru ers dechrau cadw cofnodion.
Bythefnos ar ôl ysgrifennu at y bwrdd iechyd ynglŷn ag etholwr a oedd wedi aros am dair blynedd am lawdriniaeth ar y pen-glin ac sydd mewn poen cyson, ddoe yn unig y cawsom gydnabyddiaeth gan y bwrdd iechyd, ar ôl gorfod mynd ar drywydd hyn gyda'u cadeirydd newydd. Treuliodd etholwr arall dair awr gyda chymydog a fu farw tra'i fod yn aros yn yr eira am ambiwlans yn dilyn strôc, a dioddefodd chwe mis o oedi a chamwybodaeth wedyn ar ôl cwyno wrth wasanaeth ambiwlans Cymru. Drwy fy ymyrraeth i gyda'r prif weithredwr yn unig y cafodd ymddiheuriad ac ymateb hanner blwyddyn yn ddiweddarach.
Yr haf hwn, collwyd mwy na 5,000 o oriau oherwydd bod ambiwlansys yn gorfod oedi wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai yng ngogledd Cymru. Mae cyfraddau defnydd gwelyau yn gyson yn uwch na'r lefel defnydd o 85 y cant a argymhellir er mwyn cynnal safonau diogelwch cleifion. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, canslwyd llawdriniaethau bron i 75,000 o gleifion GIG Cymru am resymau nad oeddent yn rhai clinigol. Erbyn hyn mae'n glir nad yn y gaeaf yn unig y ceir pwysau eithafol ar wasanaethau gofal heb ei drefnu, ond trwy gydol y flwyddyn.
Dyna pam y mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i ymdrin â phwysau a sicrhau bod cleifion yn cael gwasanaethau gofal heb ei gynllunio a gofal critigol sy'n diwallu eu hanghenion, gan gynnwys gwasanaethau ataliol megis gofal yn y gymuned a gofal y tu allan i oriau. Fel y dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Peter Fox, yr wythnos diwethaf, mewn dogfen a gefnogir gan arweinwyr llywodraeth leol o bob plaid, gyda £370 miliwn o arian newydd yn cyrraedd o San Steffan, mae angen dull creadigol o ariannu gwasanaethau ataliol er mwyn cadw pobl allan o ysbytai.
Yn rhwystredig o reolaidd, rwyf wedi siarad yn y Siambr hefyd am achosion o gyrff trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau ataliol effeithiol ac sydd wedi colli eu cyllid oherwydd comisiynu hurt sy'n ychwanegu miliynau at bwysau costau ar wasanaethau iechyd a gofal statudol. Ar gais yr ymgyrchwyr ffurfiais CHANT Cymru—ysbytai cymuned yn gweithredu'n genedlaethol gyda'i gilydd—yn yr ail Gynulliad, i ymgyrchu yn erbyn rhaglen Llywodraeth Lafur Cymru o gau ysbytai a gwelyau cymunedol. Ar lefel genedlaethol, fe wnaethom hyrwyddo rôl ysbytai cymunedol yn darparu gofal iechyd hygyrch o safon uchel yn lleol a lleihau pwysau ar ein hysbytai cyffredinol. Ar ôl 2011, gwthiodd Llafur yn ei blaen gyda'r cau, ac rydym yn gweld y canlyniadau anorfod y buom yn rhybuddio yn eu cylch.
Nid oes adnoddau'n cael eu dyrannu i gefnogi polisi Llywodraeth Cymru o gryfhau gofal sylfaenol a lleoliadau cymunedol. Os yw cleifion yn cael gofal yn agosach at eu cartrefi, mae'n hanfodol fod ymarfer cyffredinol yn cael adnoddau digonol. Yn 2014, rhybuddiodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fod y gyfran o gyllid GIG Cymru ar gyfer gofal cleifion mewn ymarfer cyffredinol wedi bod yn gostwng ers blynyddoedd. Canfu arolwg gan Gymdeithas Feddygol Prydain yn 2016 fod 82 y cant o feddygon teulu yn poeni ynglŷn â chynaliadwyedd eu practis yng Nghymru. Yn 2016, dywedodd is-gadeirydd pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru, 'Ni allaf bwysleisio digon pa mor agos i ymyl y dibyn yw pethau, a'i bod yn bryd gweithredu yn awr neu byth.' Yn 2016-17—y ffigurau diweddaraf sydd ar gael—ymarfer cyffredinol yng Nghymru a gafodd y gyfran isaf o wariant y GIG ar iechyd yn y DU er gwaethaf cynnydd yn y galw gan gleifion. Yr wythnos diwethaf, dangosodd ffigurau Cymdeithas Feddygol Prydain ar gyfer Cymru fod 21 o bractisau meddygon teulu wedi cau ers mis Hydref 2015, gydag 82 pellach mewn perygl o gau a 29 bellach yn cael eu rheoli gan fwrdd iechyd, gyda'r nifer fwyaf ohonynt yng ngogledd Cymru.
Wrth fynd ar drywydd yr agenda hon, gallai rhai pobl ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ideoleg o flaen cleifion, lle roedd BMA Cymru hefyd wedi darparu tystiolaeth nad yw practisau sy'n cael eu rheoli yn darparu gwerth am arian a bod byrddau iechyd wrthi'n ceisio'u dychwelyd i ddwylo contractwyr ymarfer cyffredinol annibynnol. Da iawn, Weinidog.
Yn fy sylwadau agoriadol ac mewn ymateb uniongyrchol i'r Aelodau Ceidwadol gyferbyn, ac yn arbennig y sylwadau yng nghyfraniad Mark Isherwood, rwy'n gofyn a ydynt yn teimlo y byddai'r £4 biliwn ychwanegol y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi'i gael pe bai'r grant bloc wedi cyfateb i'r twf yn yr economi ers 2010 wedi bod yn un ffordd ddefnyddiol i Gymru a'n system gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ymateb i beth o'r pwysau y maent yn ei ddisgrifio. Ac yn yr un modd, a ydynt yn credu y byddai'n ddefnyddiol gwybod yn union faint o arian y mae Cymru'n mynd i'w gael yn sgil yr addewid gan y Prif Weinidog ar ben-blwydd y GIG yn ddiweddar na chafodd ei ariannu, neu faint o arian ychwanegol y mae Cymru'n mynd i'w gael yn sgil y diwedd ar gyni sydd ar fin digwydd, fel y mae Prif Weinidog y DU yn ein harwain i gredu. Oherwydd er bod Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn bwrw iddi'n dda gyda chynlluniau ar gyfer y gaeaf o'n blaenau, maent yn gwneud hynny heb unrhyw sicrwydd ynglŷn â phryd y daw'r cyllid ychwanegol i law gan Drysorlys y DU.
Yr wythnos diwethaf, roedd plaid cyni yn galw am fwy o arian ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol. Yn awr maent am wario mwy ar gapasiti yn y GIG. Rwy'n credu y bydd pobl Cymru'n gweld eironi hyn yn glir iawn.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad. Byddwch yn sicr yn cydnabod bod y sefyllfa a etifeddodd y Llywodraeth Geidwadol yn ôl yn 2010, o ran cyllid cyhoeddus, yn gwbl erchyll. Aeth Gordon Brown â'n gwlad at ymyl y dibyn, ac mae'r Llywodraeth Geidwadol gyfrifol hon wedi gwrthdroi'r sefyllfa honno.
Wel, wrth gwrs, Lywydd, dim ond y Ceidwadwyr sy'n dal i gredu'r celwydd hwnnw, ond dyna ni. Felly, wrth i'r ddadl—[Torri ar draws.] Felly, wrth inni drafod y materion yma, a chanolbwyntio'n gwbl briodol ar gyfrifoldebau ein Llywodraeth yng Nghymru, nid wyf fi wedi anghofio cyfrifoldebau Llywodraeth y DU i gyllido Cymru'n iawn. Ac os nad ydych yn hoffi hynny, gadewch imi ofyn i gyn-arweinydd y Ceidwadwyr neu arweinydd presennol y Ceidwadwyr os gallant ddangos imi y llythyrau a anfonasant at Lywodraeth y DU yn mynnu mwy o arian i Gymru. Ac fe fentraf nad ydynt yn bodoli.
Ond i droi at gapasiti'r GIG—
Nid wyf yn cymryd ymyriad arall. I droi at gapasiti'r GIG—[Torri ar draws.]
Nid yw'n derbyn ymyriadau. Dawn Bowden, gallwch barhau.
I droi at gapasiti'r GIG, mae'r ymateb sydd angen inni ei wneud, fel y mae'r cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod, yn ymateb system gyfan. Ac mae'r gydnabyddiaeth honno ar goll yn llwyr o gynnig y Ceidwadwyr. Mae'n werth cofio, yma yng Nghymru, ein bod eisoes yn trin iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol gyda'i gilydd, ac y bydd 'Cymru Iachach'—cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru—yn cyflymu cynnydd yn y maes, wedi'i gefnogi gan £100 miliwn y gronfa trawsnewid.
Ar y llaw arall, mae Lloegr fwy neu lai wedi anwybyddu gofal cymdeithasol, sydd wedi golygu, pan fo pwysau'n cynyddu, fod y straen yn pentyrru ar y GIG yno, heb ddim capasiti i gael pobl allan o'r ysbyty. A thra bo'r Torïaid yn parhau i feirniadu model ymateb ambiwlans llwyddiannus Cymru, ac yn dweud ein bod yn symud y pyst gôl i sicrhau gwell canlyniadau targed, mae'n ddiddorol nodi bod Lloegr a'r Alban bellach yn ei efelychu.
Ond bydd ymateb system gyfan yn mynd y tu hwnt i wasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans, fel y'u crybwyllir yn y cynnig hwn. Mae angen iddo ganolbwyntio hefyd ar rôl gofal cymdeithasol ac ar gryfhau gofal sylfaenol. Ac yng Nghymru, diolch i Lafur Cymru, mae gennym system iechyd a gofal wedi'i chynllunio sy'n caniatáu ar gyfer y math hwnnw o ymateb. Gwyddom fod y Llywodraeth hon mewn rowndiau cyllidebol olynol wedi darparu arian i helpu i integreiddio'r gwasanaethau hollbwysig hyn, a diolch byth, nid yw ein gwasanaethau wedi'u torri'n ddarnau bach, yn barod ar gyfer preifateiddio. Felly, mae gennym botensial i wneud gwelliannau pellach.
Fel aelod o'r pwyllgor iechyd, rwyf wedi darllen gwaith cyrff fel y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys gyda diddordeb. Mewn adroddiad ar eu prosiect llif cleifion yn y gaeaf ar gyfer y DU gyfan, maent wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen inni ganolbwyntio ar anghenion gofal cleifion sydd wedi cael yr holl ofal meddygol sydd ei angen arnynt ac sy'n ffit i gael eu rhyddhau'n ôl i'r gymuned. Mae'r coleg brenhinol yn disgrifio hyn fel y bloc ymadael y gallwn ei agor drwy gryfhau ein pecynnau gofal cymdeithasol ymhellach. Er ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd gyda hyn yng Nghymru, yn amlwg mae llawer mwy y gellir ei wneud, ac wrth gwrs, mae pawb ohonom yn gwybod bod gallu symud cleifion allan o'r ysbyty mor gyflym â phosibl hefyd yn gwella canlyniadau i gleifion.
O'r dystiolaeth a glywsom yn y pwyllgor iechyd ar draws amrywiaeth o faterion, credaf fod angen inni barhau i fynd i'r afael hefyd â'r amrywio rhwng arferion a pherfformiad byrddau iechyd. Rwy'n credu mai dyna oedd y pwynt roeddech chi'n ei wneud, Angela, oherwydd rwy'n ei chael hi'n amhosibl deall pan fo bwrdd iechyd yn sefydlu arferion gwaith llwyddiannus, er enghraifft trosglwyddo cleifion Cwm Taf o ambiwlansys wrth ddrws blaen yr ysbyty, pam nad yw hynny'n cael ei ailadrodd yn gyflym mewn mannau eraill. Yn yr un modd, credaf fod angen cefnogaeth fwy cadarn ar systemau brysbennu. Er enghraifft, os yw rhywun yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys ac nad dyna'r gwasanaeth sydd ei angen arnynt, dylem alluogi staff y GIG sydd o dan bwysau i'w cyfeirio'n fwy cadarn allan o'r rhan honno o'r gwasanaeth.
Rwy'n deall bod y coleg brenhinol yn gofyn am gynyddu'r capasiti gwelyau, a mater i'r Llywodraeth ei ystyried yw hynny fel rhan o'r strategaeth genedlaethol newydd, ond roedd y coleg brenhinol hefyd yn canolbwyntio eu cyngor ar optimeiddio llif cleifion, ar gamau adweithiol i helpu capasiti, ar ddefnyddio a grymuso'r system ehangach, ac ar strategaeth ar gyfer y gweithlu. Felly, er bod y cynnig yn ddefnyddiol, yn fy marn i mae iddo ffocws rhy gyfyng, a dyna pam y mae'r gwelliant, rwy'n credu, yn darparu darlun gwell o'r ymateb y gallwn ei roi yng Nghymru i ateb gofynion ein gwasanaethau iechyd a gofal, a dyna pam y byddaf yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth ac yn pleidleisio yn erbyn y cynnig gwreiddiol.
Yn sicr hoffwn gefnogi ein cynigion ein hunain i sefydlu cynllun cenedlaethol sy'n anelu at gyflwyno gwasanaethau y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans mwy cynaliadwy a fydd yn diwallu anghenion pobl Cymru. O dan y Llywodraeth Lafur Cymru hon, mae'r GIG yng Nghymru wedi parhau i dangyflawni'n gynyddol. Mae'r problemau hyn wedi bod yn arbennig o ddifrifol ym mwrdd Betsi Cadwaladr, sy'n cynnwys fy etholaeth fy hun.
Mae Betsi Cadwaladr wedi gweld problemau sylweddol gyda pherfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys. Dengys adroddiad Ystadegau ar gyfer Cymru ar amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys a gyhoeddwyd yn 2018, fod 68 y cant o gleifion yn aros mwy na phedair awr i gael eu gweld, gan waethygu ym mis Awst 2018. Mewn dau ysbyty yng ngogledd Cymru y cafwyd y perfformiad gwaethaf yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion. Gwelodd Ysbyty Maelor Wrecsam lai na hanner eu cleifion o fewn amser targed y Llywodraeth ei hun o bedair awr. Roedd cyfradd Ysbyty Glan Clwyd yn 52 y cant.
Gwaethygwyd y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans gan rwystrau system yn ein hysbytai yn achosi oedi sylweddol wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys. Collwyd bron i 5,000 awr i oedi wrth drosglwyddo cleifion yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni. Daw'r ffigurau hyn wedi i uwch grwner gogledd Cymru a chrwner cynorthwyol amlygu pryderon yn ddiweddar ynglŷn ag amseroedd aros am ambiwlans yn eu hysbysiadau rheoliad 28.
Ymhellach—[Torri ar draws.]—mae gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau, sy'n rhan annatod o'r broses o ysgafnhau'r pwysau ar y gwasanaethau brys, hefyd o dan bwysau. Rwy'n credu bod hynny wedi dihuno Ysgrifennydd y Cabinet. Dywed adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2018 ar gyflwr gwasanaethau y tu allan i oriau nad yw gwasanaethau o'r fath yn bodloni'r safonau cenedlaethol oherwydd diffyg morâl a phroblemau staffio. Mae ymchwil gan BBC Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn dangos na allai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr lenwi 2,082 awr o sifftiau meddyg teulu y tu allan i oriau. Mae hyn yn golygu bod 462 o sifftiau unigol heb eu llenwi, a phwysau cynyddol ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys, yn enwedig ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys.
Er bod y bobl sy'n gweithio mewn gofal critigol y tu allan i oriau a'r gwasanaeth ambiwlans yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd gwych i gleifion, ac rydym yn canmol pob un ohonynt, mae'r ffigurau hyn yn dangos yn glir fod diffyg arweinyddiaeth wedi gwneud cam â hwy, ac rwy'n dweud wrthych: daw'r diffyg arweiniad hwnnw o'r fan hon. Mae fy etholwyr wedi blino ar fwrdd iechyd sy'n tangyflawni'n ddifrifol ac sydd wedi gweld safonau'n disgyn yn barhaus, a bwrdd iechyd sydd wedi bod yn destun mesurau arbennig ers tair blynedd.
Nid ein hetholwyr yw'r unig rai sydd wedi blino. Mae cyn reolwr uwch yn y GIG yng Nghymru, Siobhan, bellach yn gadael Cymru yn dilyn sawl methiant yng ngofal ei gŵr, ac nid oeddwn yn hoffi'r ffordd y cafodd ei dadleuon eu diystyru yn y Siambr hon yn gynharach. Mae'n dadlau bod yna wagle yn Llywodraeth Cymru ac nad yw byrddau iechyd yn cael eu rheoli gan y Llywodraeth, nac yn atebol i'r bobl. Mae hyn yn digwydd oherwydd methiannau eich Llywodraeth—heb arweiniad, yn analluog ac yn ddi-glem. Dyna waddol y Llywodraeth Lafur hon.
Fodd bynnag, mae'n galonogol clywed am ymrwymiad Prif Weinidog y DU yn ddiweddar i fuddsoddi £20 biliwn ychwanegol y flwyddyn mewn cyllid termau real i'r GIG. Mae hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn cael hwb ariannol o £1.2 biliwn y flwyddyn. Rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi cyllid hirdymor yn ddoeth yn awr, yn enwedig mewn gwasanaethau gofal critigol ac ambiwlans. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r byrddau iechyd i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i fynd i'r afael â'r problemau y mae gwasanaethau gofal critigol ac ambiwlans yn eu profi ar hyn o bryd. Hefyd, rwy'n annog y Llywodraeth i ymrwymo mwy o adnoddau i wasanaethau ataliol er mwyn lleihau presenoldeb diangen mewn adrannau achosion brys tra bo'r gronfa trawsnewid gwerth £100 miliwn yn cael ei gweithredu.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid dyma'r tro cyntaf i mi fod yn ymbil arnoch, bron iawn, ac yn erfyn arnoch i ddangos peth trugaredd tuag at y cleifion lu sy'n dibynnu ar ein nyrsys, ein meddygon ymgynghorol, ein meddygon, ein meddygon teulu a'n gweithwyr gofal yn y gymuned diwyd. Yn y fan hon y mae'r bai—nid ar y Senedd hon, ond arnoch chi, y Llywodraeth, yma yng Nghaerdydd. Os gwelwch yn dda, Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnaf i chi eto, nid yn unig er lles fy etholwyr yn Aberconwy, a'ch cleifion, ond er lles holl gleifion Cymru a'u teuluoedd.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae UKIP yn cefnogi eu cynnig heddiw. Fel hwythau, rydym yn cydnabod y problemau o ran capasiti yn y GIG yng Nghymru. Fel hwythau, rydym yn cydnabod bod y pwysau ar y GIG yn bwysau drwy gydol y flwyddyn ac nid taro gofal cleifion yn ystod misoedd y gaeaf yn unig y mae'n ei wneud. Ac fel hwythau, rydym yn cydnabod yr angen am strategaeth hirdymor, a elwir ganddynt yma yn 'gynllun cenedlaethol', i fynd i'r afael â'r problemau hyn, yn hytrach na'r atebion plaster glynu rydym i'n gweld yn eu cael flwyddyn ar ôl blwyddyn gan y Llywodraeth Lafur yma ym Mae Caerdydd.
Rydym hefyd yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru, sy'n nodi bod angen inni gael strategaeth hirdymor hefyd ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol, oherwydd os parhawn i ddefnyddio'r dull o ddatrys problemau iechyd a gofal cymdeithasol wrth iddynt ddigwydd yn unig, fel y nododd Rhun ap Iorwerth yn gynharach heddiw yn ystod y cwestiynau i'r Gweinidog iechyd—mae'n well gennyf ei alw'n ddull plaster glynu, ond yr un peth ydyw yn ei hanfod—bydd hynny hefyd yn arwain at gynyddu'r pwysau ar y GIG.
Rydym yn cydnabod bod gan y Llywodraeth Lafur gynllun, ac maent yn cyfeirio ato yn eu gwelliant, ond mae amser yn gweithio'n erbyn eu dadleuon bellach. Maent wedi rheoli'r GIG yng Nghymru ers 19 blynedd, ac mae canlyniadau iechyd i lawer o bobl mewn llawer o rannau o Gymru yn dal i ymddangos fel pe baent yn gwaethygu. Mae'r Llywodraeth Lafur wedi'u plagio gan anfodlonrwydd y cyhoedd ynglŷn â'u gwaith yn rhedeg y GIG ers tymor cyntaf y Cynulliad, ac maent yn dal i wynebu'r un problemau yn eu hanfod ag a oedd ganddynt yr adeg honno. Fel y gwyddom, ac fel y crybwyllwyd heddiw mae'n dal i fod gennym sawl bwrdd iechyd sy'n destunau mesurau arbennig ac ymyrraeth wedi'i thargedu.
Mae Llywodraeth Cymru bellach yn gwario tua 50 y cant o'i chyllideb ar iechyd. Yn sicr, ni ellir caniatáu i'r duedd ar i fyny barhau am gyfnod amhenodol. Mae angen inni symud tuag at fwy o wariant ataliol, fel y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ac eraill wedi'i gynghori. Gwnaeth argymhelliad fod angen inni glustnodi swm penodol o leiaf o'r gyllideb iechyd er lles hirdymor y cyhoedd yng Nghymru a dweud ei fod i'w neilltuo ar gyfer gwariant ataliol. Felly, roedd yn rhaid iddo fod yn fuddsoddiad, er enghraifft, mewn hybu gweithgareddau a allai atal gordewdra rhag digwydd, yn hytrach na'i wario ar drin effeithiau gordewdra.
Mae'n ymddangos i mi fod y syniad o wariant ataliol yn un da, ond mae ei weithredu'n ymarferol wedi bod yn anodd. Yn y pen draw, mae gennym ddadl ynglŷn â beth yn union yw gwariant ataliol, felly mae angen inni feddwl yn awr am ddiffiniad ar ei gyfer cyn y gellir llunio polisi o'r fath. Nid wyf am edrych yn fanwl ar beth sydd a beth nad yw'n wariant ataliol heddiw, ond rwy'n teimlo bod rhaid inni symud tuag at ddull mwy strategol a mwy hirdymor o weithredu, ac nid wyf yn argyhoeddedig fod Llywodraeth Lafur Cymru yn symud i'r cyfeiriad hwnnw. Felly, dyna pam y mae UKIP heddiw yn cefnogi'r cynnig a gwelliannau Plaid Cymru ac yn gwrthwynebu gwelliant y Blaid Lafur. Diolch yn fawr iawn.
Os ydym i leddfu'r pwysau ar ein GIG, rhaid inni ymdrin â mater cymorth ac adnoddau ar gyfer gwasanaethau ataliol. Un gwasanaeth o'r fath yw gofal y tu allan i oriau. Mae'n ffaith bod gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau yn hollbwysig ar gyfer lleddfu'r pwysau ar wasanaethau brys yng Nghymru. Yn ddiweddar, cynhyrchodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad ac arolwg a ganfu fod bron 700,000 o bobl yn cysylltu â'r gwasanaeth y tu allan i oriau bob blwyddyn yng Nghymru. O'r staff a ymatebodd i'r arolwg, dywedodd 66 y cant nad yw'r gwasanaethau'n ddigon hyblyg i ateb y llanw a'r trai yn y galw. Roedd 46 y cant yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf fod y morâl yn dda. Er bod cleifion yn gweld gwerth gwasanaethau y tu allan i oriau, nid yw'r safonau cenedlaethol yn cael eu cyrraedd oherwydd problemau staffio a morâl isel.
Ni allai fy mwrdd iechyd lleol fy hun, Aneurin Bevan, lenwi oddeutu 2,300 o sifftiau gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau. Ar ddim llai na 27 diwrnod gwahanol, nid oedd gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau ar gael ar draws y bwrdd iechyd cyfan am o leiaf 30 munud. Yn y chwe mis rhwng mis Hydref 2017 a mis Mawrth 2018, nid oedd gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau ar gael ar draws y rhanbarth cyfan am dros 53 awr. Am gyfnod o bum niwrnod ym mis Chwefror, roedd mwy na hanner y sifftiau meddyg teulu y tu allan i oriau heb eu llenwi.
Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer y gwasanaeth hwn. Mae'r cynllun gweithredu'n galw am roi camau ar waith ar unwaith i ymateb i'r argyfwng. Maent yn dweud bod gwendidau yn y system bresennol ar draws y wlad yn peryglu gofal cleifion, a mwy o bwysau ar adrannau achosion brys. Dywedodd y coleg eu bod wedi galw am bum cam hanfodol a chyraeddadwy i helpu i drawsnewid gofal meddyg teulu y tu allan i oriau yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys mynd i'r afael â'r problemau allweddol sy'n wynebu ymarfer cyffredinol yn yr hinsawdd bresennol.
Er gwaethaf ymrwymiadau maniffesto'r Blaid Lafur i wella mynediad at feddygon teulu, mae'n dod yn fwyfwy anodd i gleifion allu gweld eu meddyg teulu. Canfu ymchwiliad newyddion gan y BBC yn gynharach eleni mai ond mewn dau fwrdd iechyd yng Nghymru y gall claf weld eu meddyg teulu yn hwyrach gyda'r nos. Ledled Cymru, mewn saith bwrdd iechyd, dim ond chwarter y cleifion meddyg teulu oedd yn cael cynnig apwyntiadau hyd at 6.30 p.m. gyda'r nos ddwywaith yr wythnos, a dim ond 20 y cant o feddygfeydd meddygon teulu Cymru oedd yn gallu cynnig apwyntiadau yn gynnar yn y bore cyn 8.30 a.m. o leiaf ddwywaith yr wythnos. Nid yw'n ryfedd fod cadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru wedi dweud, yn ei eiriau ef,
Gyda'r diffyg adnoddau a dim buddsoddiad newydd mewn gwasanaethau y tu allan i oriau, nid yw'n syndod fod meddygon teulu'n teimlo eu bod wedi blino gormod i weithio y tu allan i oriau.
Mae'r pwysau ar feddygon teulu bellach yn ddifrifol. Mae nifer y meddygon teulu newydd sy'n ymuno â'r gweithlu yng Nghymru ar ei lefel isaf ers degawd ar hyn o bryd. Dim ond 129 meddyg teulu yn unig a ychwanegwyd at y gweithlu yn 2016-17. Mae'r nifer sy'n gadael y gwasanaeth bellach ar ei lefel uchaf yn y ddau ddegawd diwethaf; gadawodd 212 y gwasanaeth dros yr un cyfnod, sy'n llawer mwy nag a ddaeth i mewn.
Lywydd, mae'r cynnig hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun cenedlaethol cynhwysfawr i fynd i'r afael â'r pwysau ar wasanaethau gofal y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans. Credaf y byddai cynllun o'r fath yn sicrhau gwelliant sylweddol i gleifion yng Nghymru, ac mae'n haeddu cefnogaeth y Cynulliad hwn heddiw. Rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn gwrando. Nid yw pawb yn y Siambr hon yn gwrando, ond ar yr ochr hon i'r Siambr o leiaf mae pawb ohonom yn edrych ymlaen at weld gwasanaeth iechyd gwell yn y wlad hon. Mae gennych dros un rhan o dair o'r gyllideb, ond ble mae'r gwasanaethau i'r bobl? Rwyf eto i'w gweld. Diolch i chi.
Mae'n bleser gallu cymryd rhan yn y ddadl yma ar gapasiti yn y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Wrth gwrs, fel sydd wedi cael ei ddweud, mae'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru o dan straen anferthol drwy'r flwyddyn. Yn fy mhractis i yn Abertawe, rydym ni'n cael ryw gwpwl o gannoedd o alwadau ffôn oddi wrth gleifion bob bore o'r wythnos, ac roedd yna un dydd Llun gwpwl o fisoedd yn ôl pan wnaethom ni gael 700 o alwadau ffôn. Wedyn, wrth gwrs, fel meddygon teulu a nyrsys ac ati, mae'n rhaid inni ddygymod efo'r baich gwaith yna, mewn sefyllfa, wrth gwrs, lle y mae gyda ni brinder staff a hefyd brinder adnoddau i edrych ar ôl y bobl yma.
Wrth gwrs, o dan y fath amgylchiadau, mae'r staff yn y gwasanaeth iechyd, fel rydym ni wedi clywed eisoes, yn cyflawni gwaith clodwiw iawn o dan amgylchiadau sydd yn anodd, sydd yn gymhleth, ac sydd mor, mor brysur mae'n anodd iawn gallu trosglwyddo pa mor brysur ydym ni, yn aml, i bobl sydd ddim yn gweithio o dan y fath amgylchiadau.
Felly, mae yna ryw dri pheth i'w ddweud ynglŷn â'r ddadl yma ynglŷn â chapasiti yn y gwasanaeth iechyd. Oes, mae yna brinder staff yn y lle cyntaf. Enwch chi unrhyw fath o broffesiwn sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd ac mae angen rhagor ohonyn nhw—nyrsys, meddygon teulu. Rydym ni'n brin o ryw 400 o feddygon teulu yma yng Nghymru. Mae yna ryw 2,000 o feddygon teulu yng Nghymru; dylai fod yna tua 2,500. Mae gennym ni lai o feddygon y pen yma yng Nghymru na'r rhan fwyaf o wledydd eraill Ewrop. Ymhlith ein harbenigwyr ni yn ein hysbytai, mae tua 40 y cant o swyddi consultants, felly, yn wag yn ein hysbytai ni yma yng Nghymru.
Felly, wrth gwrs, gyda system mor brysur a phrinder staff, wrth gwrs ein bod ni'n mynd i gael rhestrau aros, pobl yn gorfod gweithio llawer yn rhy galed ac ati, ac ati. Dyna pam, fel plaid, rydym ni eisiau agor ysgol feddygol newydd ym Mangor. Mae'n rhaid inni hyfforddi mwy o feddygon yn y lle cyntaf. Mae'n rhaid inni dyfu fwy ohonyn nhw achos nid ydym ni'n cynhyrchu digon o feddygon ar hyn o bryd, a hyd yn oed pe bai pob un sy'n graddio'r dyddiau yma yn aros i weithio yng Nghymru, ni fuasai yna yn dal ddim digon o feddygon yng Nghymru i fod yn gwasanaethu ein pobl.
Elfen arall o'r capasiti ydy prinder gwlâu sydd wedi cael ei sôn amdano eisoes. Mae sawl coleg brenhinol yn dweud am hyn ac weithiau nid yw hi'n ffasiynol i sôn am brinder gwlâu, achos dros y chwarter canrif diwethaf, rydym ni wedi colli rhai miloedd o wlâu yn ein hysbytai ac yn ein cartrefi gofal yma yng Nghymru. Pam mae hynny'n bwysig? Wel, gyda'r boblogaeth yn mynd yn hŷn rŵan, mae yna ystod o bobl sydd yn rhy sâl i aros gartref, hyd yn oed â pha bynnag package dwys sydd gyda chi yn eu cefnogi nhw. Ond eto, er eu salwch a'r ffaith eu bod nhw mor fregus, nid ydyn nhw'n ddigon difrifol wael i fod ar wely mewn ward argyfwng acíwt mewn ysbyty cyffredinol fel Singleton neu Dreforys. Mae yna wastad ystod o gleifion sy'n cwympo rhwng y ddwy stôl yna, ac nid ydym ni'n gallu delio efo nhw yn dda iawn y dyddiau hyn yn absenoldeb gwlâu yn ein hysbytai cymunedol ni.
Y pwynt olaf rwy'n mynd i'w wneud o ran capasiti, wrth gwrs, ydy bod y rhan fwyaf o'r capasiti pwysig yn fan hyn y tu allan i'r gwasanaeth iechyd. Rwy'n sôn yn fan hyn am ofal cymdeithasol. Mae sefyllfa gofal cymdeithasol yng Nghymru, fel yng ngweddill Prydain, yn fregus iawn ar hyn o bryd oherwydd tanariannu cyson dros y blynyddoedd, sy'n golygu bod yna drothwy uchel iawn i chi allu derbyn gwasanaethau, wedyn, oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol. Yn y bôn, os nad oes yna ddim gofal cymdeithasol, fydd yna ddim gwasanaeth iechyd. Dyna pam, yn y lle cyntaf, mae angen mynd i'r afael efo gofal cymdeithasol. Mae'r amser yn brin rŵan, achos nid ydym ni'n gallu cynnig unrhyw fath o gefnogaeth i drwch eang o'n poblogaeth ar hyn o bryd. Dyna pa mor ddifrifol ydy'r sefyllfa. A dyna pam, fel plaid, rydym ni'n edrych i ailgynllunio'n radical y system gofal cymdeithasol drwy greu gwasanaeth gofal cymdeithasol cenedlaethol o'r newydd, a fydd yn gweithredu fel ein gwasanaeth iechyd ni, ochr yn ochr. Mae'n rhaid, achos ar hyn o bryd, nid ydym ni'n gallu cynnig fawr ddim gofal i'n pobl fwyaf bregus ni sydd fwyaf angen y gofal yna, ac mae'r adnoddau jest ddim ar gael. Mae'r amser wedi pasio i jest wneud pethau bach wrth yr ochrau; mae angen ateb radical a gwasanaeth gofal cymdeithasol newydd, teilwng i'n gwlad. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae ein GIG yn wynebu galw nas gwelwyd mo'i debyg o'r blaen. Yn y 12 mis diwethaf, cafwyd ymhell dros filiwn o ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru. Mae dros bedwar o bob 10 ohonom yn ei chael hi'n anodd gwneud apwyntiad gyda meddyg teulu a chaiff llawdriniaethau eu canslo fel mater o drefn oherwydd diffyg gwelyau. Er bod yr ymgyrch Dewis Doeth yn gam i'r cyfeiriad cywir, mae'n mynd i gymryd llawer mwy o amser i ail-addysgu'r cyhoedd yng Nghymru yn llwyr. Mae'n rhan mor annatod o feddylfryd y cyhoedd fod angen iddynt weld meddyg pan fyddant yn sâl fel bod eu hargyhoeddi bod fferyllydd cymunedol weithiau'n opsiwn llawer gwell yn mynd i gymryd amser hir iawn. Pan gysylltwch y meddylfryd hwn â'r ffaith ei bod hi'n mynd yn anos gweld meddyg teulu oherwydd tanariannu a gorweithio, nid yw'n unrhyw syndod fod pobl yn ymweld yn amhriodol ag adrannau damweiniau ac achosion brys.
Rhaid inni fod yn feiddgar os ydym am sicrhau bod ambiwlansys yn ciwio y tu allan i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol. Rhaid inni fod yn feiddgar os ydym yn mynd i sicrhau nad yw ein staff GIG gweithgar yn teimlo eu bod yn gweithio ynghanol rhyfel. A rhaid inni fod yn feiddgar os ydym yn mynd i sicrhau bod dyfodol gan ein GIG. Gwyddom y byddai dros draean o'r rhai sy'n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys yn cael sylw mwy priodol mewn mannau eraill yn y GIG, a dyna pam rwy'n cefnogi Cymdeithas Feddygol Prydain a'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn llwyr, wedi iddynt awgrymu ein bod yn ystyried cydleoli gwasanaethau gofal sylfaenol a'r defnydd o ffisigwyr wrth y drws blaen. Rhaid inni edrych hefyd ar gyflwyno gwasanaeth porth un pwynt a all gyfeirio pobl at y gwasanaeth priodol. Mae'r gwasanaeth 111 yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond mae angen iddo gael ei gyflwyno'n gyflymach a chael cylch gorchwyl sy'n llawer ehangach.
Adnoddau cyfyngedig sydd gennym o ran meddygon a nyrsys, ac yn aml iawn gall claf gael ei weld yn gyflymach a chael yr un lefel o ofal drwy weld gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd. Pam mynd ag amser gwerthfawr meddyg teulu ar gyfer darparu nodyn salwch pan all therapydd galwedigaethol ymdrin â'r cais? Pam gweld meddyg ynglŷn ag annwyd pan all y fferyllydd ddarparu'r driniaeth orau ar eich cyfer? Ac fel y dywedais yn gynharach, bydd hyn yn galw am newid ffordd o feddwl y cyhoedd yn llwyr, a dyna pam y mae'n rhaid inni eu helpu i wneud y dewisiadau cywir. Ni all hysbysebion wneud mwy na hyn a hyn. Rhaid inni gyflwyno system brysbennu cleifion, a chredaf fod gan y gwasanaeth 111 botensial i fod yn system o'r fath. Gwnewch y peth yn siop un stop ar gyfer y GIG a helpwch i sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth orau ar yr adeg iawn drwy eu cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol.
Ni all ein GIG fforddio gaeaf drwg arall sy'n arwain at wanwyn drwg a haf gwaeth. Rhaid inni weithredu yn awr a chymryd y camau mentrus sydd eu hangen i leddfu'r pwysau ar y system. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch ichi, Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r wrthblaid am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'r teimlad cyffredinol—fod darparu gwasanaethau o safon uchel sy'n ateb galw mawr a chynyddol—yn rhywbeth rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno arno, ond yn amlwg mae yna bwyntiau yn y cynnig lle ceir anghytundeb; a dyna'r rheswm dros welliant Llywodraeth Cymru.
Disgrifiodd yr adolygiad seneddol, a luniwyd o banel o arbenigwyr annibynnol wedi'i gefnogi gan bob plaid yn y lle hwn, y galwadau cynyddol a'r heriau newydd sy'n wynebu'r GIG a gofal cymdeithasol: poblogaeth sy'n heneiddio, ffactorau'n ymwneud â ffordd o fyw a disgwyliadau newidiol y cyhoedd. Er gwaethaf y galwadau hyn, fe wyddom fod y mwyafrif helaeth o gleifion sydd angen gwasanaethau'r GIG yn cael gofal mewn modd amserol, gyda chyfraddau uchel o fodlonrwydd. Diolch i'n staff wrth gwrs fod gofal GIG nodweddiadol yn effeithiol, yn amserol ac yn drugarog. Ond o ran capasiti i ateb y galw am wasanaethau, mae'r nifer uchaf erioed o staff yn gweithio yn GIG Cymru bellach. Dyma'r unig wasanaeth cyhoeddus, mewn adeg o gyni, sydd wedi gweld cynnydd yn nifer y gweithwyr, ac yn yr wythnosau sydd i ddod, byddaf yn cyhoeddi fy mhenderfyniad ar fuddsoddi yn nyfodol ein gweithlu gofal iechyd.
Rwyf eisoes wedi disgrifio sut y mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein hymrwymiad i alluogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i fodloni anghenion y boblogaeth—fel y dywedais o'r blaen, y tro cyntaf erioed inni gael cynllun iechyd a gofal cymdeithasol sy'n eiddo i'r sector iechyd, llywodraeth leol a'r trydydd sector. Bydd rhaglen drawsnewid yn sicrhau cyflymder a diben i'r modd rydym yn buddsoddi mewn pobl a'r modd yr adeiladwn y capasiti staff, ac rydym yn gwybod bod gwella gallu'r system i gynllunio'n effeithiol ac yn effeithlon yn hanfodol. Rydym yn cyflawni ar flaenoriaeth allweddol i weithio gyda sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid er mwyn symleiddio'r gwaith o gynllunio a darparu ein gwasanaethau. Mae ein gwelliant yn cydnabod gwaith cynhwysfawr ein staff yn y GIG, mewn llywodraeth leol, a chan bartneriaid ehangach, ar gynllunio ac adeiladu capasiti o amgylch ac o fewn GIG Cymru i ateb y galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn. Wrth gwrs, fe glywsom rywfaint o hyn mewn perthynas â chynlluniau penodol ar gyfer y gaeaf, yn sylwadau cynharach David Melding.
Rydym wedi bod yn agored ynglŷn â'r heriau a deimlir gan y gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans brys, a gwyddom hefyd, er gwaethaf y pwysau, fod y mwyafrif helaeth sydd angen y gwasanaethau hyn yn parhau i gael mynediad amserol a gofal o safon uchel—unwaith eto, diolch i'n staff tosturiol ac ymroddedig. Er enghraifft, dengys y ffigurau diweddaraf sydd ar gael fod pobl sydd wedi'u categoreiddio fel rhai y mae eu bywyd mewn perygl yn ein categori coch o alwadau brys am ambiwlans yn cael ymateb o fewn ychydig dros bum munud ar gyfartaledd, ac roedd Dawn Bowden yn iawn i nodi bod ein model ar gyfer gwasanaethau ambiwlans brys yn cael ei efelychu yn Lloegr a'r Alban. Rydym wedi bod yn glir ynglŷn â'r modd y targedwn gymorth cenedlaethol ar gyfer y gwasanaethau hyn, gyda dealltwriaeth eglur o'r galw a'r ffordd orau i'w reoli. Bydd hynny'n ein helpu i ddarparu gofal sylfaenol y tu allan i oriau sy'n gynaliadwy yn ogystal â gwasanaethau gofal critigol. Yn ddiweddar cyhoeddais £5 miliwn ychwanegol i fod ar gael eleni ar gyfer gofal critigol, a bydd yn ein helpu i greu'r capasiti sydd ei angen dros y gaeaf ac i greu sylfaen ar gyfer gwelliant cynaliadwy.
Rydym wedi comisiynu adolygiad annibynnol o wasanaethau ambiwlans a'r categori oren i ddeall a ellir gwella trefniadau rheoli cleifion ac wrth gwrs, bydd gennym ddatganiad ar hynny y mis nesaf a chyfle i'r Aelodau ystyried hynny ymlaen llaw. Mae gwaith sylweddol ar y gweill ym mhob un o'r tri maes i ganolbwyntio ar yr angen i gydnabod a deall y pwysau a chynllunio i'w ddiwallu. Ein cynllun yw helpu i gynorthwyo staff rheng flaen i ddarparu gwasanaethau perfformiad uchel, gan ganolbwyntio ar brofiad, canlyniad a gwerth.
O ran datblygu cynllun cenedlaethol i ymdrin â phwysau ar wasanaethau, mae 'Cymru Iachach' yn disgrifio ein hymrwymiad i ddarparu dull system gyfan, lle mae'r holl wasanaethau'n cael eu darparu'n ddi-dor a'u lapio o amgylch anghenion yr unigolyn. Mae'n hanfodol nad ydym yn ystyried gwasanaethau ar eu pen eu hunain. Dylem wrthsefyll y galwadau rheolaidd yn y lle hwn ac mewn mannau eraill i greu cynlluniau penodol newydd a thameidiog, a chanolbwyntio yn lle hynny ar gyflawni'r camau gweithredu a nodwyd gennym ac y cytunwyd arnynt yn ein cynllun hirdymor.
Ar niferoedd gwelyau—gwnaed pwynt ar amrywiol adegau yn y ddadl—mae gennym gyfradd defnydd is nag yn Lloegr a mwy o welyau yn gyfrannol na'r system yn Lloegr. Nawr, yn benodol ar ofal critigol, rwyf wedi cyfeirio at y £5 miliwn eleni i helpu i gefnogi cynnydd parhaol yn nifer y gwelyau gofal critigol, ac mae hynny'n tanlinellu ein hymrwymiad i gryfhau gofal critigol ac rydym yn cydnabod bod hynny'n angenrheidiol, nid yn unig ar gyfer y gaeaf, ond yn y tymor hwy. Mae hynny'n dilyn fy nghyhoeddiad diweddar o £15 miliwn o gyllid rheolaidd o'r flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer y gwasanaethau hanfodol hyn.
Ar ein gwasanaethau ambiwlans brys, mae gennym gynllun cenedlaethol eisoes. Mae gan ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans Cymru gynllun a gymeradwywyd hyd at 2021 yn seiliedig ar y bwriadau a nodwyd gan brif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans. Heb amheuaeth, bydd yr Aelodau'n falch o wybod bod y trefniadau comisiynu cydweithredol sydd gennym yng Nghymru wedi'u copïo yn Lloegr yn ddiweddar. Gwyddom fod mwy o barafeddygon yn gweithio yng Nghymru nag erioed o'r blaen, ac ers 2014 mae nifer y lleoedd hyfforddiant parafeddygol wedi mwy na dyblu ers 2014—nid drwy ddamwain, ond drwy ddewisiadau bwriadol a wnaed gan arweinyddiaeth Llafur Cymru.
Ar wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau, cafwyd ffocws sylweddol a chyfunol ar y maes hwn dros y flwyddyn ddiwethaf. Fel rhan o'n cynllun ehangach, mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu model newydd o ofal sylfaenol y tu allan i oriau, wedi'i fodelu ar integreiddio di-dor â gwasanaethau eraill drwy'r gwasanaeth 111. Ac rwy'n falch o glywed cydnabyddiaeth yn y ddadl hon ac yn ystod yr wythnosau diwethaf i effaith lwyddiannus y gwasanaeth 111 lle cafodd ei gyflwyno. Buaswn yn rhybuddio Aelodau a fyddai'n galw am gyflwyno'r gwasanaeth hwnnw ar unwaith ledled y wlad. Rhan o'r llwyddiant oedd deall y galw ym mhob ardal ac adeiladu capasiti mewn cymorth gofal sylfaenol a gwneud yn siŵr fod gennym y staff cywir yn y lle cywir i ddarparu gwasanaeth o ansawdd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
Ond does bosib nad ydych yn cydnabod bod cael rhywle fel bwrdd iechyd Aneurin Bevan heb wasanaeth y tu allan i oriau am rannau o'r diwrnod ar 27 o ddiwrnodau gwahanol yn annerbyniol os ydym yn ceisio cael gwared ar y pwysau hwn.
A dyna pam rydym yn ymrwymedig i gyflwyno'r gwasanaeth 111. Rydym yn ymrwymedig i wella gofal y tu allan i oriau, fel y mae pob Llywodraeth ledled y Deyrnas Unedig. Rydym yn gwneud rhywbeth yn ei gylch mewn gwirionedd. Ac fe fyddwch yn gweld y gwasanaeth 111 yn cyrraedd Aneurin Bevan yn y dyfodol gweddol agos.
Nawr, ar niferoedd staff—[Torri ar draws.] Wel, ar niferoedd staff, mae'n werth ystyried, fel y dywedais, ein bod wedi parhau i fuddsoddi yn ystod cyfnod o gyni Torïaidd, ond mae'n ymwneud â mwy na nifer y staff; mae'n ymwneud â sut y maent yn gwneud eu gwaith. Dyna pam fod integreiddio iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol gyda modelau gofal di-dor yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Er gwaethaf toriadau sylweddol i gyllideb Llywodraeth Cymru, ar ôl wyth mlynedd galed o gyni Torïaidd—sy'n parhau, fel y mae Dawn Bowden yn ein hatgoffa—rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn wahanol iawn i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin, lle mae dewisiadau'r Ceidwadwyr—dewisiadau bwriadol—wedi arwain at doriadau eto ac eto i ofal cymdeithasol yn Lloegr. Eto i gyd, yma yng Nghymru, rydym wedi cael £50 miliwn eleni yn y gronfa gofal integredig, £100 miliwn dros ddwy flynedd i'r gronfa trawsnewid, a £30 miliwn y flwyddyn nesaf ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol.
Ceir stori wahanol iawn yma yng Nghymru am ein dewisiadau mewn adeg o gyni a beth sy'n digwydd pan fo'r Ceidwadwyr mewn grym. Ac mae nifer o'r sylwadau a wnaeth y siaradwyr Ceidwadol heddiw yn gwrth-ddweud ei gilydd—ar y naill law'n galw am fwy o arian tuag at ofal sylfaenol, ond ar y llaw arall, yn galw am fwy o arian tuag at ofal eilaidd. Nid oes modd gwneud y ddau beth a awgrymwch a galw ar yr un pryd am gael mwy o arian i lywodraeth leol. Dyma ganlyniadau anochel y cyni Torïaidd, a dylwn eich atgoffa o'r ffaith ddiymwad honno. Mae'r Blaid Geidwadol wedi ymgyrchu dros gyni mewn tri etholiad cyffredinol olynol. Ni allwch hyrwyddo cyni mewn etholiad a throi eich cefn wedyn ar ei ganlyniadau diymwad a diwahân. Byddwn yn parhau i flaenoriaethu gofal cymdeithasol fel sector o bwys cenedlaethol. Mae'n cael lle blaenllaw yn 'Cymru Iachach', ein cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, wedi'i gynllunio a'i berchnogi, am y tro cyntaf, gan y sector iechyd, llywodraeth leol a'r trydydd sector.
Fe wyddom fod angen i'r GIG drawsnewid er mwyn diwallu anghenion a gofynion heddiw a'r dyfodol, ond bydd un peth yn aros fel erioed: bydd y GIG yn parhau i gyflawni er mwyn diwallu anghenion y bobl sydd ei angen fwyaf, ac ni fydd y bobl hynny byth yn ymddiried yn y Torïaid i ofalu am ein GIG.
Galwaf ar Suzy Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Ydy, mae'n hawdd gwneud eich hun i edrych yn well bob amser, onid yw, oherwydd bod Llywodraeth arall o bosibl yn gwneud yn waeth na'u harfer. Nid yw hynny'n celu'r ffaith eich bod yn dal i gynhyrchu'r canlyniadau iechyd gwaelaf ledled y DU. A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon, os gwelwch yn dda? Mae'n ddrwg gennyf nad wyf yn mynd i gael amser i ymateb i'r cyfan, gan nad oes gennyf lawer o amser. Ond yn y bôn roedd y ddadl hon yn ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng gweledigaeth, a gefnogwyd gan lawer ohonom, a phrofiad byw ein hetholwyr—ac yn wir, ein meddygon, a barnu o'r hyn a ddywedodd Dai Lloyd.
Nid yw enghraifft Angela Burns o'r gŵr bonheddig a fu'n aros am bum awr i fynd lai nag ychydig gannoedd o lathenni yn unigryw, ond mae'n ddarlun o'r problemau roeddem yn ceisio rhoi sylw iddynt yn y ddadl hon ac y gobeithiem gael ymateb synhwyrol gan y Llywodraeth yn eu cylch. Oherwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr nad ydych wrth eich bodd â'r ystadegau y tu allan i oriau hynny chwaith, na'r ystadegau oedi wrth drosglwyddo gofal, pa mor hir y mae ambiwlansys yn aros y tu allan i ysbytai—nid wyf yn hapus iawn eich bod wedi methu rhoi datganiad ar amseroedd ambiwlansys, gyda llaw—neu'n wir, y ffaith bod parafeddygon, 8.8 y cant ohonynt, yn absennol oherwydd salwch. [Torri ar draws.] Ond mae hyn oll yn digwydd dan eich goruchwyliaeth chi.
Mae pawb ohonom y tu ôl i chi gyda chyfeiriad yr adolygiad seneddol, yn dilyn y gwaith a wnaed ar hynny, tuag at ofal cymunedol gwell—roedd yn gyfeiriad polisi y tueddai pawb ohonom i'w ddilyn beth bynnag—ond nid ydym yn ei deimlo, a dyna pam y mae eich gwelliant mor wag. Mae'r cyfeiriadau at ofal cymdeithasol y tueddwn i'w clywed yma yn dal i deimlo fel ôl-ystyriaeth o gymharu â'r gwasanaeth iechyd. Mae gennym enghreifftiau yn fy etholaeth o gau gwasanaethau a chlinigau dros dro—dros dro sy'n troi'n barhaol, gan fod staff yn cael eu hadleoli; digwyddodd hynny ym Maesteg. Mae gennym syniadau newydd, fel gwaith y Groes Goch gydag unigolion sy'n gwneud cyfres o alwadau 999 amhriodol, yn cael eu treialu yn Nhreforys. Canlyniadau gwych—tynnu arian yn ôl. Ac wrth gwrs, pan fyddwch yn sôn am fodel cymdeithasol o ofal yn y gymuned, mae'n ymwneud â mwy na meddygon teulu; mae'n ymwneud â phobl fel y Groes Goch a'r parafeddygon a'r fferyllwyr a'r trydydd sector.
Felly, rwyf am ichi edrych ar ofal yn y gymuned, os mynnwch, fel math o orlifdir ataliol lle gellir rheoli gofal a lles ein hetholwyr yn well. Nid lliniaru effeithiau dŵr storm ymhellach i lawr yr afon yn unig y mae gorlifdiroedd yn ei wneud; maent yn creu pridd ffrwythlon. Dyna lle mae pethau'n tyfu, lle bydd pethau'n gwella, lle rydych yn cael arwyddion o iechyd. Os yw gofal cymunedol yn ymwneud â gofal ataliol yn cynhyrchu'r canlyniadau gwerthfawr hyn dan lai o bwysau ac yn fwy effeithlon i fyny'r afon, dyna ble y dylid buddsoddi. Ond os gadewch i ddyfroedd y storm—ac maent yn cynyddu; maent yn digwydd drwy gydol y flwyddyn bellach—i barhau i ledu ar draws anialdir sych, rydych yn mynd i aros gyda'r canlyniadau sydd gennym yn awr.
Y toriad o 5 y cant y soniodd Angela Burns amdano—gwn eich bod chi'n sôn am gynnydd canol blwyddyn, ond mae'r toriad o 5 y cant yn tanseilio diben 'Cymru Iachach' yn sylfaenol yma, ac nid yw'n iawn, fel y soniodd Caroline Jones—. Os nad ydych yn buddsoddi mewn gofal yn y gymuned, nid ydych yn creu hyder mewn rhan o'r gwasanaeth iechyd lle mae angen creu hyder er mwyn darbwyllo pobl i ymatal rhag pwyso 999 ar eu ffôn.
Felly, nid wyf yn arbennig o awyddus i aros tan yr wythnos nesaf, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ddrwg gennyf na sonioch chi am hyn yn eich ymateb i'r ddadl, ond ceir cronfa trawsnewid—dwy, mewn gwirionedd; fe sonioch am hynny'n gynharach—ac nid wyf yn gweld eto sut y maent yn cyfrannu at greu'r gofal yn y gymuned sydd ei angen er mwyn inni allu atal problemau rhag digwydd i lawr yr afon.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, at y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio.