Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 17 Hydref 2018.
Rwyf eisoes wedi disgrifio sut y mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein hymrwymiad i alluogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i fodloni anghenion y boblogaeth—fel y dywedais o'r blaen, y tro cyntaf erioed inni gael cynllun iechyd a gofal cymdeithasol sy'n eiddo i'r sector iechyd, llywodraeth leol a'r trydydd sector. Bydd rhaglen drawsnewid yn sicrhau cyflymder a diben i'r modd rydym yn buddsoddi mewn pobl a'r modd yr adeiladwn y capasiti staff, ac rydym yn gwybod bod gwella gallu'r system i gynllunio'n effeithiol ac yn effeithlon yn hanfodol. Rydym yn cyflawni ar flaenoriaeth allweddol i weithio gyda sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid er mwyn symleiddio'r gwaith o gynllunio a darparu ein gwasanaethau. Mae ein gwelliant yn cydnabod gwaith cynhwysfawr ein staff yn y GIG, mewn llywodraeth leol, a chan bartneriaid ehangach, ar gynllunio ac adeiladu capasiti o amgylch ac o fewn GIG Cymru i ateb y galw am wasanaethau drwy gydol y flwyddyn. Wrth gwrs, fe glywsom rywfaint o hyn mewn perthynas â chynlluniau penodol ar gyfer y gaeaf, yn sylwadau cynharach David Melding.
Rydym wedi bod yn agored ynglŷn â'r heriau a deimlir gan y gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau, gofal critigol ac ambiwlans brys, a gwyddom hefyd, er gwaethaf y pwysau, fod y mwyafrif helaeth sydd angen y gwasanaethau hyn yn parhau i gael mynediad amserol a gofal o safon uchel—unwaith eto, diolch i'n staff tosturiol ac ymroddedig. Er enghraifft, dengys y ffigurau diweddaraf sydd ar gael fod pobl sydd wedi'u categoreiddio fel rhai y mae eu bywyd mewn perygl yn ein categori coch o alwadau brys am ambiwlans yn cael ymateb o fewn ychydig dros bum munud ar gyfartaledd, ac roedd Dawn Bowden yn iawn i nodi bod ein model ar gyfer gwasanaethau ambiwlans brys yn cael ei efelychu yn Lloegr a'r Alban. Rydym wedi bod yn glir ynglŷn â'r modd y targedwn gymorth cenedlaethol ar gyfer y gwasanaethau hyn, gyda dealltwriaeth eglur o'r galw a'r ffordd orau i'w reoli. Bydd hynny'n ein helpu i ddarparu gofal sylfaenol y tu allan i oriau sy'n gynaliadwy yn ogystal â gwasanaethau gofal critigol. Yn ddiweddar cyhoeddais £5 miliwn ychwanegol i fod ar gael eleni ar gyfer gofal critigol, a bydd yn ein helpu i greu'r capasiti sydd ei angen dros y gaeaf ac i greu sylfaen ar gyfer gwelliant cynaliadwy.
Rydym wedi comisiynu adolygiad annibynnol o wasanaethau ambiwlans a'r categori oren i ddeall a ellir gwella trefniadau rheoli cleifion ac wrth gwrs, bydd gennym ddatganiad ar hynny y mis nesaf a chyfle i'r Aelodau ystyried hynny ymlaen llaw. Mae gwaith sylweddol ar y gweill ym mhob un o'r tri maes i ganolbwyntio ar yr angen i gydnabod a deall y pwysau a chynllunio i'w ddiwallu. Ein cynllun yw helpu i gynorthwyo staff rheng flaen i ddarparu gwasanaethau perfformiad uchel, gan ganolbwyntio ar brofiad, canlyniad a gwerth.
O ran datblygu cynllun cenedlaethol i ymdrin â phwysau ar wasanaethau, mae 'Cymru Iachach' yn disgrifio ein hymrwymiad i ddarparu dull system gyfan, lle mae'r holl wasanaethau'n cael eu darparu'n ddi-dor a'u lapio o amgylch anghenion yr unigolyn. Mae'n hanfodol nad ydym yn ystyried gwasanaethau ar eu pen eu hunain. Dylem wrthsefyll y galwadau rheolaidd yn y lle hwn ac mewn mannau eraill i greu cynlluniau penodol newydd a thameidiog, a chanolbwyntio yn lle hynny ar gyflawni'r camau gweithredu a nodwyd gennym ac y cytunwyd arnynt yn ein cynllun hirdymor.
Ar niferoedd gwelyau—gwnaed pwynt ar amrywiol adegau yn y ddadl—mae gennym gyfradd defnydd is nag yn Lloegr a mwy o welyau yn gyfrannol na'r system yn Lloegr. Nawr, yn benodol ar ofal critigol, rwyf wedi cyfeirio at y £5 miliwn eleni i helpu i gefnogi cynnydd parhaol yn nifer y gwelyau gofal critigol, ac mae hynny'n tanlinellu ein hymrwymiad i gryfhau gofal critigol ac rydym yn cydnabod bod hynny'n angenrheidiol, nid yn unig ar gyfer y gaeaf, ond yn y tymor hwy. Mae hynny'n dilyn fy nghyhoeddiad diweddar o £15 miliwn o gyllid rheolaidd o'r flwyddyn ariannol nesaf ar gyfer y gwasanaethau hanfodol hyn.
Ar ein gwasanaethau ambiwlans brys, mae gennym gynllun cenedlaethol eisoes. Mae gan ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans Cymru gynllun a gymeradwywyd hyd at 2021 yn seiliedig ar y bwriadau a nodwyd gan brif gomisiynydd y gwasanaeth ambiwlans. Heb amheuaeth, bydd yr Aelodau'n falch o wybod bod y trefniadau comisiynu cydweithredol sydd gennym yng Nghymru wedi'u copïo yn Lloegr yn ddiweddar. Gwyddom fod mwy o barafeddygon yn gweithio yng Nghymru nag erioed o'r blaen, ac ers 2014 mae nifer y lleoedd hyfforddiant parafeddygol wedi mwy na dyblu ers 2014—nid drwy ddamwain, ond drwy ddewisiadau bwriadol a wnaed gan arweinyddiaeth Llafur Cymru.
Ar wasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau, cafwyd ffocws sylweddol a chyfunol ar y maes hwn dros y flwyddyn ddiwethaf. Fel rhan o'n cynllun ehangach, mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu model newydd o ofal sylfaenol y tu allan i oriau, wedi'i fodelu ar integreiddio di-dor â gwasanaethau eraill drwy'r gwasanaeth 111. Ac rwy'n falch o glywed cydnabyddiaeth yn y ddadl hon ac yn ystod yr wythnosau diwethaf i effaith lwyddiannus y gwasanaeth 111 lle cafodd ei gyflwyno. Buaswn yn rhybuddio Aelodau a fyddai'n galw am gyflwyno'r gwasanaeth hwnnw ar unwaith ledled y wlad. Rhan o'r llwyddiant oedd deall y galw ym mhob ardal ac adeiladu capasiti mewn cymorth gofal sylfaenol a gwneud yn siŵr fod gennym y staff cywir yn y lle cywir i ddarparu gwasanaeth o ansawdd.