Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 23 Hydref 2018.
Rydym ni wedi cael llawer o sgyrsiau am y sefyllfa enbyd o ran Barnetteiddio'r gwariant HS2; ceir gohebiaeth helaeth i'r perwyl hwnnw. Yn amlwg dylai fod swm canlyniadol o'r fath, a, Llywydd, rwy'n ei roi ar y cofnod bod Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai fod swm canlyniadol o'r fath o ganlyniad i'r gwariant hwnnw. Hoffem i'n trenau gael eu hadeiladu yma yng Nghymru, hoffem gael yr arian i hwyluso hynny, a'r arian i hwyluso'r gwasanaethau a allai gysylltu â HS2 ar draws y gogledd, er enghraifft. Ond mae'n hollol iawn: rydym ni'n credu y dylai swm canlyniadol lifo ohono.