Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 23 Hydref 2018.
Iawn. Diolch, Llywydd. Diolch, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i, arweinydd y tŷ, byddaf yn parhau â'r cwestiwn. Rwy'n gobeithio eich bod chi'n sylweddoli nad oedd unrhyw awgrym o fod yn nawddoglyd.
Nawr, rwy'n falch eich bod chi'n cytuno â mi ar y pwynt hwnnw. Mae fy ymchwilwyr wedi gwneud y cyfrifiadau i ddarganfod y swm canlyniadol Barnett yn seiliedig ar reolau'r Trysorlys, ac rydym ni wedi cyfrifo ffigur o tua £4.6 biliwn, sef yr hyn y dylai Cymru fod wedi ei gael. Yn amlwg, nid yw'n ymddangos bod unrhyw arwydd o swm tebyg i hynny yn dod i Gymru, felly a gaf i ofyn am ychydig mwy o eglurder, o gofio eich ateb cyntaf? A ydych chi'n mynd yn ôl at Lywodraeth y DU nawr i gael cytundeb mwy realistig gan Drysorlys y DU ynghylch y mater hwn?