Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 23 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:47, 23 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n debyg, arweinydd y tŷ, bod dewis arall yn hytrach na—hynny yw, mae hon yn ffordd arall o edrych ar hyn—o'r safbwynt bod eich Gweinidog yr economi, Ken Skates, er ei fod wedi nodi manteision posibl HS2 i'r gogledd a'r canolbarth, er eu bod yn gymharol fach mewn termau ariannol, mae hefyd wedi gwneud y pwynt y gallai'r prosiect HS2 gael effaith andwyol ar economi'r de. Oherwydd trwy wneud teithiau'n gyflymach o Lundain i ganolbarth Lloegr a'r gogledd, rydych chi, o safbwynt cymharol, yn gwneud de Cymru ymhellach o Lundain. Felly, gallai hynny gael effaith andwyol ar economi de Cymru. Nid yw'n eglur felly pa un a oes unrhyw fanteision net o'r prosiect HS2 i Gymru. Hoffwn nodi mai polisi UKIP yw bod y prosiect HS2 yn mynd allan o reolaeth o ran costau ac y dylid ei ddiddymu. A oes achos erbyn hyn y gallai Llywodraeth Cymru ystyried lobïo San Steffan i geisio cyflawni'r canlyniad hwnnw?