Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 23 Hydref 2018.
O dan y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i ddarpariaethau penodol yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth weithredu eu swyddogaethau, ond nid ydy’r Mesur yn darparu ffordd o weithredu pan fydd hawliau o dan y confensiwn yn cael eu torri. Os bydd Cymru’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd llawer o ddulliau cyfreithiol o ddiogelu hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu colli. A wnaiff eich Llywodraeth chi, felly, ystyried ymgorffori hawliau plant o dan y confensiwn i mewn i gyfraith Cymru’n llawn, er mwyn sicrhau y bydd yna ffordd o weithredu ar gael pan fydd hawliau yn cael eu torri?