1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 23 Hydref 2018.
5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella hawliau plant yng Nghymru? OAQ52833
Mae gennym ni gynlluniau eglur i ddiogelu ac ymestyn hawliau plant. Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol, a byddwn yn deddfu i roi'r bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed mewn etholiadau llywodraeth leol ac yn cefnogi Comisiwn y Cynulliad i ymestyn hawliau pleidleisio i'r bobl ifanc hyn ar gyfer y Cynulliad.
Diolchaf i arweinydd y tŷ am yr ymateb yna. A yw arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod astudiaeth a gyhoeddwyd yn y BMJ yr wythnos diwethaf yn dangos bod gan wledydd lle ceir gwaharddiad ar gosbi plant yn gorfforol, gan gynnwys slapio a smacio, gyfraddau is o drais ieuenctid? Mae'r canfyddiadau yn dangos bod cyfraddau ymladd corfforol ymhlith pobl ifanc 42 i 69 y cant yn is nag mewn gwledydd heb unrhyw waharddiadau o'r fath ar waith. Onid yw hi'n cytuno bod hon yn dystiolaeth dda iawn i gefnogi cynllun Llywodraeth Cymru i wahardd cosbi plant yn gorfforol?
Ydw, rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith ymchwil. A dweud y gwir, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfraniad Cymru at yr astudiaeth ymddygiad iechyd ymhlith plant oedran ysgol—un o'r ffynonellau data y mae'r gwaith ymchwil yn eu defnyddio. Rydym ni wedi ein calonogi'n fawr gan y casgliad bod gwaharddiad gwlad o gosb gorfforol yn gysylltiedig â llai o drais ieuenctid. Mae'n anodd iawn ei ddweud: llai o drais ieuenctid. [Chwerthin.] Wrth gwrs, ystyriwyd amrywiaeth eang o waith ymchwil ac adolygiadau gennym wrth ddatblygu'r sail dystiolaeth ar gyfer ein deddfwriaeth arfaethedig, ac mae'r ymchwil newydd yn ddiddorol ac yn berthnasol iawn i hynny. Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig nodi bod ein penderfyniad i fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hefyd yn un egwyddorol yn seiliedig ar ymrwymiad i hawliau plant, yn ogystal ag ar yr ymchwil ar drais, er bod honno'n agwedd ychwanegol braf iawn i'w chael. Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd yn cyflwyno Bil ym mlwyddyn 3 y rhaglen ddeddfwriaethol.
Arweinydd y tŷ, rwyf i wedi dadlau o'r blaen, wrth gwrs, bod angen ymestyn ein sylw dyledus ni a Llywodraeth Cymru i hawliau plant yn ein polisïau a'n deddfwriaeth i gyrff cyhoeddus, mewn gwirionedd, er mwyn i effaith yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma gael ei theimlo yn lleol. Nid wyf i'n credu bod ymgynghoriad tair tudalen ar y we, fel yr ydym ni wedi ei weld ar gau ysgol gan Gyngor Abertawe yn ddiweddar—a allai fod yn addas ar gyfer pobl ifanc 17 mlwydd oed ond nad yw ar gyfer plant 5 mlwydd oed—yn arbennig o ddefnyddiol. Ond, mewn gwirionedd, mae angen i Lywodraeth Cymru edrych yn nes at gartref o bryd i'w gilydd hefyd. Nid oedd yr asesiad o effaith o hawliau plant ar y newidiadau diweddaraf i'r cod ysgolion yn sôn am erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn o gwbl. Felly, rwy'n gofyn: a ydych chi'n credu ei bod yn syniad da y dylai pob asesiad gynnwys datganiad o'r rhesymau pam nad yw erthygl 12 wedi ei dilyn? Hynny yw, efallai bod rhesymau da dros ben am hynny—ei bod yn anymarferol neu'n wirioneddol annefnyddiol. Ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol pe bydden nhw'n cynnwys datganiad ynghylch pam na wrandawyd ar leisiau plant yn benodol ar achlysur.
Diolch. Ie, mae gen i ddiddordeb mawr yn yr hyn a ddywedodd yr Aelod. Nid wyf yn ymwybodol ohono, felly byddwn yn croesawu sgwrs rhyngof i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac iddi archwilio'r mater hwnnw, oherwydd rwy'n credu bod yr hyn y mae hi'n ei ddweud yn fater o gryn ddiddordeb.
O dan y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i ddarpariaethau penodol yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth weithredu eu swyddogaethau, ond nid ydy’r Mesur yn darparu ffordd o weithredu pan fydd hawliau o dan y confensiwn yn cael eu torri. Os bydd Cymru’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd llawer o ddulliau cyfreithiol o ddiogelu hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu colli. A wnaiff eich Llywodraeth chi, felly, ystyried ymgorffori hawliau plant o dan y confensiwn i mewn i gyfraith Cymru’n llawn, er mwyn sicrhau y bydd yna ffordd o weithredu ar gael pan fydd hawliau yn cael eu torri?
Ydy, mae'n bwynt diddorol iawn, ac mewn sgwrs gyda Helen Mary Jones ynghylch ymgorffori hawliau pobl anabl, mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn edrych i weld beth allai effaith hynny fod yn y sgyrsiau hynny, gan gynnwys, os oes angen, darpariaethau gorfodi ac ati. Byddwn yn sicr yn croesawu sgwrs a oedd yn ymestyn hynny i hawliau'r plentyn.
Ni, wrth gwrs, yw'r unig wlad yn y DU hyd yma i ymgynghori â phlant a phobl ifanc ar eu barn ar Brexit, a byddwn yn derbyn adroddiad yr ymgynghoriad erbyn diwedd mis Hydref. Felly, bydd yn ddiddorol iawn gweld beth mae'r bobl ifanc eu hunain yn ei ddweud am y mater o ymgorffori hawliau ar ôl Brexit hefyd.