Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 23 Hydref 2018.
Arweinydd y tŷ, y rheswm y mae gan Gymru rai o'r cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint gwaethaf yn Ewrop, yn bennaf, yw oedi cyn cael diagnosis. Mae amseroedd aros annerbyniol o hir am brofion diagnostig ac israddio atgyfeiriadau meddygon teulu fel mater o drefn yn cyfrannu at ddiagnosis hwyr o ganser yr ysgyfaint. Felly, arweinydd y tŷ, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau amseroedd aros diagnostig a sicrhau nad yw atgyfeiriadau meddygon teulu yn cael eu hisraddio?