Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 23 Hydref 2018.
Arweinydd y tŷ, mae Gweinidog yr amgylchedd yn llygad ei le: mae'r setliad llywodraeth leol hwn yn annheg ac yn anghytbwys. Mae'r setliad cyllid llywodraeth leol yn dangos y bydd pob un o'r chwe awdurdod yn y gogledd yn cael gostyngiad i'w cyllid o flwyddyn i flwyddyn, ac, mewn cymhariaeth, bydd saith—saith—o'r 12 awdurdod yn y de yn cael cynnydd, neu barhad, i lefel y cyllid o'r llynedd. Felly, yn gyntaf, mae'n amlwg bod gennym ni raniad rhwng y gogledd a'r de, ac i ychwanegu at hynny—i ychwanegu at hynny—ddoe, roedd y Prif Weinidog—[Torri ar draws.]