Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 23 Hydref 2018.
Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn gweithio i wella canlyniadau canser yr ysgyfaint mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys datblygu llwybr gofal sy'n seiliedig ar werth. Bydd hyn yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael, yn mynd i'r afael ag amrywiadau mewn gofal, ac yn cyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig i bobl.