Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 23 Hydref 2018.
Diolchaf i arweinydd y tŷ am yr ymateb yna. A yw arweinydd y tŷ yn ymwybodol bod astudiaeth a gyhoeddwyd yn y BMJ yr wythnos diwethaf yn dangos bod gan wledydd lle ceir gwaharddiad ar gosbi plant yn gorfforol, gan gynnwys slapio a smacio, gyfraddau is o drais ieuenctid? Mae'r canfyddiadau yn dangos bod cyfraddau ymladd corfforol ymhlith pobl ifanc 42 i 69 y cant yn is nag mewn gwledydd heb unrhyw waharddiadau o'r fath ar waith. Onid yw hi'n cytuno bod hon yn dystiolaeth dda iawn i gefnogi cynllun Llywodraeth Cymru i wahardd cosbi plant yn gorfforol?