Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 23 Hydref 2018.
Diolch yn fawr am y datganiad. Rydw i wedi bod yn galw’n gyson arnoch chi yn y lle yma i weithredu, ac mae'n gadarnhaol gweld datganiad o'ch bwriad i wneud hynny ym maes technoleg iaith. Yn wir, mae hwn yn faes rydw i a Phlaid Cymru yn cymryd diddordeb mawr ynddo, fel rydych chi’n gwybod. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, fe wnes i a’m cyfaill Jill Evans gynnal digwyddiad ar ieithoedd Ewropeaidd yn yr oes ddigidol, efo cynrychiolaeth o Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor, yn y Senedd yma, fel mae’n digwydd.
Mae Canolfan Bedwyr, yn fy etholaeth, yn gwneud gwaith arloesol efo'r adnoddau sydd ar gael, ond y feirniadaeth sydd wedi bod yn y gorffennol, yn gyffredinol o ran technoleg iaith, ydy nad oes yna ddim gorolwg digon strategol wedi dod o dŷ’r Llywodraeth, a bod y cyllid wedi bod yn gyfyngedig ac yn bytiog ei natur. Dyna’r rheswm pam y gwnaeth Plaid Cymru alw am strategaeth bwrpasol i sicrhau datblygiad y Gymraeg ym maes technoleg iaith ac ar y llwyfannau digidol. Mae hynny am ddau brif reswm: yn gyntaf, fel bod y Llywodraeth hon yn ymddwyn fel Llywodraeth genedlaethol ac yn cymryd perchnogaeth dros roi arweiniad ar gyfer tyfu technoleg cyfrwng Gymraeg, ac, yn ail, er mwyn unioni’r tanfuddsoddiad ariannol i gefnogi’r weledigaeth ar gyfer sicrhau bod y Gymraeg yn fyw yn oes fodern awtomeiddio. Er nad ydw i wedi cael cyfle i edrych yn fanwl ar gynnwys y cynllun eto, mae’n addawol bod y Llywodraeth yn cyhoeddi strategaeth o’r fath.
Ond, i ddod at yr ail bwynt, sef y cyllid, nid wyf i'n clywed sôn yn eich datganiad chi am unrhyw gyllid newydd sydd wedi cael ei glustnodi i wireddu’r cynigion hyn, ond mi wnes i glywed chi ar Radio Cymru’r bore yma yn sôn mai £400,000 ydy’r buddsoddiad rydych chi am roi i gefnogi’r cynllun yma, a hynny tan ddiwedd tymor y Cynulliad yma. A fedrwch chi, felly, gadarnhau, y prynhawn yma, fod yr hyn a ddywedoch chi ar Radio Cymru'r bore yma yn gywir, a jest cadarnhau faint yn union o gyllid newydd a fydd ar gael yn flynyddol ar gyfer gwireddu'r cynigion yma?
Mi oeddech chi'n sôn yn eich datganiad am yr angen i wasanaethau Cymraeg fod yn rhwydd ac yn hygyrch i'w defnyddio er mwyn i bobl allu manteisio arnyn nhw, ac rydw i'n cytuno'n llwyr efo chi yn y fan honno. Ers i safonau'r Gymraeg ddod yn weithredol, mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n dod ar draws cyfleoedd cynyddol i ddefnyddio'r Gymraeg efo cyrff sydd o fewn cwmpas dyletswyddau iaith. Cryfder y safonau ydy eu bod nhw yn cydio ym mhob elfen ar waith sefydliadau, ac mae hynny'n amlwg wrth fod y Gymraeg yn flaenllaw ar beiriannau hunanwasanaeth, apiau a gwefannau, er enghraifft. Fy nghwestiwn i, felly, ydy: oni fyddai'n well defnydd o adnoddau ac yn well o ran llwyddiant y cynllun yma i'ch swyddogion chi fod yn parhau i weithredu'r pwerau sydd gennych chi, a hynny i'r eithaf, er mwyn cyflwyno rhagor o reoliadau ar gyfer safonau yn y sectorau y mae modd eu cyflwyno, gan gynnwys ar gwmnïau telathrebu, sydd yn gwmnïau dylanwadol iawn o safbwynt defnydd pobl o'r Gymraeg?
I gloi, mi oeddwn i'n falch iawn fod gwaith Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, yn Senedd Ewrop wedi sicrhau cefnogaeth i'w hadroddiad hi yn galw ar i'r Comisiwn Ewropeaidd lunio polisïau i fynd i'r afael â gwahaniaethau yn erbyn ieithoedd lleiafrifol yn y maes digidol, gan gynnwys y Gymraeg. Ond, wrth gwrs, mae'n ofid beth fydd yn digwydd os bydd Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Buaswn i'n hoffi gofyn, felly, i gloi: pa drafodaethau mae swyddogion eich Llywodraeth chi, neu ydych chi fel Gweinidog, wedi'u cael efo'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch y gwaith sydd wedi cael sêl bendith rŵan yn sgil gwaith Jill Evans, a sut ydych chi'n paratoi i barhau i weithio ar lefel Ewropeaidd, ac yn rhyngwladol, er lles y Gymraeg a thechnoleg iaith at y dyfodol? Diolch.