– Senedd Cymru am 3:29 pm ar 23 Hydref 2018.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 4: datganiad gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes—y cynllun gweithredu technoleg Gymraeg. A galwaf ar Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Nawr, ym mis Gorffennaf 2017, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar gyfer Cymraeg, Cymraeg 2050. Nawr, prif darged Cymraeg 2050, mae'n bwysig ei nodi, oedd i ni gael gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg. Ond y pwynt arall roedd yn rhaid inni ei danlinellu yn y broses yna oedd ein bod ni eisiau gweld pobl yn defnyddio'r Gymraeg hefyd, a hefyd sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd arloesi mewn technoleg ddigidol, i’w gwneud yn bosib defnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun digidol.
Nawr, nod y datganiad heddiw yw lansio cynllun manwl i ddangos sut y byddwn ni'n gwneud hyn. Nawr, mae bron pawb—yn arbennig plant a phobl ifanc—yn dod i gyswllt â thechnoleg rywbryd yn ystod eu diwrnod. Ac mae’r cynllun gweithredu rŷm ni'n ei lansio heddiw yn cydnabod bod technoleg yn faes y mae'n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau'n hygyrch—yn accessible—yn ein byd digidol newydd ni. Ac rydw i'n meddwl mai’r maes yma sy’n mynd i newid y gêm yn 2018.
Nawr, mae’r cynllun yn nodi sut rŷm ni am sicrhau bod mwy o gyfle gan blant, pobl ifanc ac oedolion i ddefnyddio technoleg Cymraeg, ac mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ysgolion, yn y gweithle, ac yn y cartref. A beth sy'n bwysig yw bod yn rhaid i’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a’r dechnoleg fod yn hawdd dod o hyd iddynt; rhaid iddynt fod yn hygyrch—yn accessible. Rydw i'n un sy'n defnyddio technoleg bob dydd, ond anaml iawn y byddaf i'n cael y cyfle, a'r cynnig, i’w ddefnyddio yn Gymraeg heb fy mod i'n mynd i edrych amdano—heb fy mod i'n gorfod gofyn.
Ac, os oes dewis Cymraeg ar gael, nid yw hi bob amser yn amlwg ei bod hi ar gael heb fy mod i’n mynd i chwilio amdani. A nawr mae bywyd yn brysur—a phwy sydd â'r amser i chwilio? Ac, mewn gwirionedd, y cwestiwn yw: pam ddylai unrhyw un chwilio er mwyn defnyddio’r Gymraeg ar dechnoleg? Nawr, mae’r cynllun yn nodi sut rydym ni am i’r Gymraeg gael ei chynnig ar dechnoleg heb i chi orfod gofyn nac edrych amdani. Rŷm ni am i’r Gymraeg fod ar gael trwy beiriannau technolegol—o weithio ar gyfrifiadur i ddefnyddio’ch ffôn neu’ch tabled. Ac rŷm ni am ddatblygu’r dechnoleg a fydd yn eich galluogi i allu siarad â’ch peiriannau yn y Gymraeg, ac, yn hollbwysig, i'r peiriant wedyn eich deall chi.
Rŷm ni am i’r adnoddau technolegol y byddwn yn eu creu ar sail y cynllun fod ar gael yn rhwydd a chael eu rhannu, ac i bawb gael y cyfle i'w defnyddio eto ac eto. Ac, er mwyn i hyn ddigwydd, mae’r cynllun yn nodi bod yn rhaid inni wneud yn siŵr bod gennym ni'r seilwaith ddigidol gywir i gefnogi’r Gymraeg. Felly, dyma’r tri maes seilwaith penodol y bydd y cynllun yn mynd i’r afael â nhw: technoleg lleferydd Cymraeg, cyfieithu gyda chymorth cyfrifiadur, a deallusrwydd artiffisial yn y Gymraeg, fel bo peiriannau yn gallu deall Cymraeg ac yn gallu rhoi cymorth i ni yn y Gymraeg.
Nawr, o ran cyfieithu, byddwn ni'n edrych i weld sut y gallwn ni ddefnyddio technoleg i gynyddu faint o Gymraeg sydd i’w gweld a faint sy’n cael ei defnyddio, ac i helpu, ond nid i gymryd lle, cyfieithwyr proffesiynol. Ond mae'n rhaid i mi bwysleisio nad technoleg, na dogfennau technoleg er lles technoleg, sy’n mynd â fy mryd i. Nid y rheini sy’n bwysig. Yn hytrach, os gall technoleg ddod â rhagor o gyfleoedd i fyw trwy gyfrwng y Gymraeg, neu i ddysgu Cymraeg, mae angen i ni afael yn y cyfleoedd hynny. Ac fe wnawn ni afael ynddyn nhw.
Os gall technoleg hwyluso cyfleoedd i weithio ac i ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg, mae angen datblygu’r cyfleoedd hynny. Os gall technoleg wella safon bywyd pobl sy’n byw â heriau o ran hygyrchedd neu anabledd, mae angen iddyn nhw gael y dechnoleg honno yn y Gymraeg. A dyna fyddan nhw’n ei chael, a dyna beth maen nhw'n ei haeddu, ac mae angen i’r pethau hyn oll gael eu defnyddio’n eang.
Nawr, fel fi, mae’r mwyafrif o siaradwyr Cymraeg yn byw neu’n gweithio yn ddwyieithog. Wrth i mi wneud fy ngwaith, felly, bydd angen i’r dechnoleg rwy’n ei defnyddio ddelio â’r Saesneg a’r Gymraeg ar yr un pryd a dyma hefyd yn un o egwyddorion y cynllun. Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol, ac nid y Llywodraeth fydd yn gyfrifol am ei weithredu ar ei phen ei hun, ond fyddwn ni ddim yn swil o ran arwain nac ariannu, lle bo hynny'n briodol.
Dylwn i hefyd nodi fy mod i'n ddiolchgar i aelodau’r bwrdd o arbenigwyr rwy’n ei gadeirio am yr holl fewnbwn maen nhw wedi ei roi, ac i bawb a fu’n rhoi cyngor wrth ddatblygu’r cynllun.
Felly, i grynhoi: mae gweledigaeth glir gyda ni ar gyfer technoleg a’r Gymraeg, ac mae’r cynllun rŷm ni yn ei lansio heddiw yn dangos yr hyn yr ydym ni am ei wneud er mwyn sicrhau bod y weledigaeth yna yn dod yn realiti. Rŷm ni am weld y Gymraeg wrth wraidd arloesi mewn technoleg. Rŷm ni am iddi fod yn bosibl i sefydliadau, teuluoedd ac unigolion ddefnyddio’r Gymraeg mewn niferoedd cynyddol o sefyllfaoedd, boed rheini’n uniaith Gymraeg neu’n ddwyieithog, heb orfod gofyn am gael gwneud hynny. Nawr, mae'r dechnoleg yn symud yn gyflym ac rŷm ni am i’r Gymraeg symud gyda’r dechnoleg yna a dyna nod y cynllun yma.
Diolch am y datganiad. Roeddwn i jest yn iwsio'r dechnoleg nawr i edrych am beth yw'r gair am spoilt yn y Gymraeg, achos, fel Aelodau Cynulliad, rŷm ni'n spoilt gyda'r gwasanaethau sy'n llesol i ni fan hyn a sut rydym yn gallu manteisio arnyn nhw i'n helpu ni i weithio ac i iwsio'r ddwy iaith yma yn ystod ein gwaith busnes.
Pan welais i deitl y datganiad heddiw, roeddwn i'n meddwl bod y Llywodraeth yn mynd i drio osgoi'r ffaith sy'n eithaf embaras bod yna ostyngiad yn nifer yr athrawon Cymraeg ar hyn o bryd. Felly, nid oeddwn i'n edrych ymlaen at ddyfodol lle roedd y bwlch yna yn mynd i gael ei lenwi gan weithio drwy ffyrdd digidol, yn lle drwy athrawon. Felly, roeddwn i'n falch o weld ein bod yn siarad am rywbeth hollol wahanol.
Rwy'n derbyn eich dadansoddiad bod technoleg yn ymestyn mewn i'n bywydau bob dydd ac rwy'n meddwl ei bod yn lle da i gyflwyno'r Gymraeg i bobl, yn weledol ac yn agored, rili, yn ogystal â chaniatáu i siaradwyr Cymraeg i fyw drwy'r Gymraeg—mae'n hawdd gwasgu botwm 'iaith' ar beiriant ATM, er enghraifft. Ond rwy'n siŵr ein bod ni'n siarad am rywbeth lot mwy cymhleth ac uchelgeisiol na hynny.
Felly, rwyf wedi edrych yn glou ar y cynllun ei hunan; cyrhaeddodd y linc amser cinio heddiw, felly nid wyf i wedi ei weld yn fanwl eto. Ond welais i ddim o ddyddiad cau ar gyfer asesiad cynnydd yn ystod—wel, nid wyf yn gwybod beth fydd y cyfnod, felly, mae'n anodd i mi, fel rhywun o'r wrthblaid, graffu ar beth yw eich syniadau. Felly, os ydych chi'n gallu helpu gyda rhyw fath o time frame i ni heddiw byddai hynny'n ein helpu ni i wneud ein gwaith. A allwch chi rannu eich archwiliad neu analysis, hyd yn oed, am raglenni arloesi sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd—yma yng Nghymru, gobeithio, ond tramor hefyd? Os oes yna rywbeth inni wybod am hynny, byddai hynny'n wych.
Rydych chi'n sôn am arweinyddiaeth ac ariannu. Mae'r Llywodraeth yma yn cwyno bob dydd am ddiffyg arian, felly sut gallwch chi berswadio'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid y dylai hyn fod yn flaenoriaeth o ran ariannu? A, jest i ddod i ben, sut fyddech chi'n blaenoriaethu sectorau neu weithgareddau, neu beth bynnag, er mwyn elwa o'r cynllun hwn yn y ffordd fwyaf effeithiol, ac yn fwy amlwg hefyd, achos mae'n well inni weld y rhai sy'n elwa o'r cynllun yma yn ein hwynebu mewn ffordd? Nid ydym ni eisiau cuddio'r llwyddiannau tu ôl i rywbeth sydd ddim yn amlwg i bawb. Diolch.
Diolch yn fawr. Rydw i yn meddwl—jest ar y pwynt cyntaf, wrth gwrs, nad ŷm ni’n mynd i ddefnyddio peiriannau i drio dysgu pobl sut i siarad Cymraeg, ond rydw i yn meddwl ei bod hi’n bwysig hefyd ein bod ni yn arloesi gydag addysg trwy gyfrwng technoleg, ac rydw i yn meddwl bod yna bosibilrwydd i gynyddu darpariaeth addysgiadol trwy gyfrwng y Gymraeg. Rŷm ni’n gwneud rhywbeth ar hyn o bryd gydag E-sgol, sydd yn brosiect, a chawn ni weld sut y mae’n gweithio. Ambell waith, mae’n rhaid inni fod yn arloesol, ond, na, nid yw hwn yn mynd i gymryd lle athrawon yn ein dosbarthiadau ni.
Rydw i yn meddwl ei bod hi’n bwysig inni ddeall pa mor gymhleth yw’r peiriannau hyn. A diolch yn fawr am y cwestiwn ynglŷn â sut rŷm ni’n asesu cynnydd. Beth sy’n bwysig yw bod yna ddealltwriaeth fan hyn bod hwn yn gynllun sydd yn hirdymor. Nid ydym ni’n mynd i droi hwn o gwmpas dros nos, ond mae’n rhywbeth y bydd yn rhaid inni ddal ati, achos bydd y dechnoleg yn newid yn wythnosol, bron, ac felly mae’n rhaid inni gadw i fyny â hynny. Eisoes, mae yna lot o gydweithredu gyda rhai gwledydd eraill. Rydw i’n gwybod bod y ganolfan ym Mangor yn gweithio’n agos gyda’r Iwerddon, er enghraifft, ar sut maen nhw’n datblygu eu cof cyfieithu nhw. Rydw i yn meddwl bod yna bosibilrwydd fan hyn inni fanteisio ar y datblygiad ac efallai i droi hi i mewn i rywbeth lle rŷm ni’n gallu gwerthu’r syniadau a’r dechnoleg yma ar draws y byd. Achos beth rŷm ni’n sôn am fan hyn yw nid rhywbeth uniaith Gymraeg, ond rhywbeth dwyieithog. Mae yna gannoedd o wledydd ar draws y byd fydd yn edrych am y dechnoleg yma, felly, mae yna bosibilrwydd y bydd hwn yn rhywbeth y gall gael ei farchnata, wedyn, ar draws y byd.
Sut rŷm ni’n mynd i elwa o’r cynllun yma? Wel, un o’r pethau sy’n bwysig i ni ei wneud, wrth gwrs, yw sicrhau bod y sector cyhoeddus yn dod at ei gilydd, lle bo’n bosibl, inni gydweithredu fel, er enghraifft, ein bod ni’n datblygu cof cyfieithu, os ŷch chi’n mynd i gyfieithu. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru’n gwneud cyfieithu mewn rhyw ffordd. Os ŷm ni’n cael y peiriannau hyn i siarad â’i gilydd, wedyn bydd y dechnoleg a’r artificial intelligence yn gweithredu lot yn well gyda mwy o fewnbwn i mewn i’r system.
Diolch yn fawr am y datganiad. Rydw i wedi bod yn galw’n gyson arnoch chi yn y lle yma i weithredu, ac mae'n gadarnhaol gweld datganiad o'ch bwriad i wneud hynny ym maes technoleg iaith. Yn wir, mae hwn yn faes rydw i a Phlaid Cymru yn cymryd diddordeb mawr ynddo, fel rydych chi’n gwybod. Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, fe wnes i a’m cyfaill Jill Evans gynnal digwyddiad ar ieithoedd Ewropeaidd yn yr oes ddigidol, efo cynrychiolaeth o Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor, yn y Senedd yma, fel mae’n digwydd.
Mae Canolfan Bedwyr, yn fy etholaeth, yn gwneud gwaith arloesol efo'r adnoddau sydd ar gael, ond y feirniadaeth sydd wedi bod yn y gorffennol, yn gyffredinol o ran technoleg iaith, ydy nad oes yna ddim gorolwg digon strategol wedi dod o dŷ’r Llywodraeth, a bod y cyllid wedi bod yn gyfyngedig ac yn bytiog ei natur. Dyna’r rheswm pam y gwnaeth Plaid Cymru alw am strategaeth bwrpasol i sicrhau datblygiad y Gymraeg ym maes technoleg iaith ac ar y llwyfannau digidol. Mae hynny am ddau brif reswm: yn gyntaf, fel bod y Llywodraeth hon yn ymddwyn fel Llywodraeth genedlaethol ac yn cymryd perchnogaeth dros roi arweiniad ar gyfer tyfu technoleg cyfrwng Gymraeg, ac, yn ail, er mwyn unioni’r tanfuddsoddiad ariannol i gefnogi’r weledigaeth ar gyfer sicrhau bod y Gymraeg yn fyw yn oes fodern awtomeiddio. Er nad ydw i wedi cael cyfle i edrych yn fanwl ar gynnwys y cynllun eto, mae’n addawol bod y Llywodraeth yn cyhoeddi strategaeth o’r fath.
Ond, i ddod at yr ail bwynt, sef y cyllid, nid wyf i'n clywed sôn yn eich datganiad chi am unrhyw gyllid newydd sydd wedi cael ei glustnodi i wireddu’r cynigion hyn, ond mi wnes i glywed chi ar Radio Cymru’r bore yma yn sôn mai £400,000 ydy’r buddsoddiad rydych chi am roi i gefnogi’r cynllun yma, a hynny tan ddiwedd tymor y Cynulliad yma. A fedrwch chi, felly, gadarnhau, y prynhawn yma, fod yr hyn a ddywedoch chi ar Radio Cymru'r bore yma yn gywir, a jest cadarnhau faint yn union o gyllid newydd a fydd ar gael yn flynyddol ar gyfer gwireddu'r cynigion yma?
Mi oeddech chi'n sôn yn eich datganiad am yr angen i wasanaethau Cymraeg fod yn rhwydd ac yn hygyrch i'w defnyddio er mwyn i bobl allu manteisio arnyn nhw, ac rydw i'n cytuno'n llwyr efo chi yn y fan honno. Ers i safonau'r Gymraeg ddod yn weithredol, mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n dod ar draws cyfleoedd cynyddol i ddefnyddio'r Gymraeg efo cyrff sydd o fewn cwmpas dyletswyddau iaith. Cryfder y safonau ydy eu bod nhw yn cydio ym mhob elfen ar waith sefydliadau, ac mae hynny'n amlwg wrth fod y Gymraeg yn flaenllaw ar beiriannau hunanwasanaeth, apiau a gwefannau, er enghraifft. Fy nghwestiwn i, felly, ydy: oni fyddai'n well defnydd o adnoddau ac yn well o ran llwyddiant y cynllun yma i'ch swyddogion chi fod yn parhau i weithredu'r pwerau sydd gennych chi, a hynny i'r eithaf, er mwyn cyflwyno rhagor o reoliadau ar gyfer safonau yn y sectorau y mae modd eu cyflwyno, gan gynnwys ar gwmnïau telathrebu, sydd yn gwmnïau dylanwadol iawn o safbwynt defnydd pobl o'r Gymraeg?
I gloi, mi oeddwn i'n falch iawn fod gwaith Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, yn Senedd Ewrop wedi sicrhau cefnogaeth i'w hadroddiad hi yn galw ar i'r Comisiwn Ewropeaidd lunio polisïau i fynd i'r afael â gwahaniaethau yn erbyn ieithoedd lleiafrifol yn y maes digidol, gan gynnwys y Gymraeg. Ond, wrth gwrs, mae'n ofid beth fydd yn digwydd os bydd Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Buaswn i'n hoffi gofyn, felly, i gloi: pa drafodaethau mae swyddogion eich Llywodraeth chi, neu ydych chi fel Gweinidog, wedi'u cael efo'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch y gwaith sydd wedi cael sêl bendith rŵan yn sgil gwaith Jill Evans, a sut ydych chi'n paratoi i barhau i weithio ar lefel Ewropeaidd, ac yn rhyngwladol, er lles y Gymraeg a thechnoleg iaith at y dyfodol? Diolch.
Wel, diolch yn fawr, ac mae'n dda eich bod chi hefyd yn cydnabod y gwaith arbennig mae Canolfan Bedwyr yn ei wneud lan ym Mangor, ac mae e wir yn waith arloesol, rydw i'n meddwl, sydd yn digwydd, ac mae'n bwysig ein bod ni'n rhannu'r gwaith yna a bod pobl eraill yn cael y cyfle i ddefnyddio'r dechnoleg yna. Rydw i'n falch eich bod chi hefyd wedi tanlinellu mai beth sydd gyda ni yn fan hyn yw golwg mwy hirdymor, a golwg sydd yn strategol, a dyna pam ein bod ni wedi dod â'r bobl yma ynghyd, yr arbenigwyr, i ofyn iddyn nhw helpu, sut ddylem ni flaenoriaethu? A nhw sydd wedi ein helpu ni i ddod lan â'r blaenoriaethau sydd yn y strategaeth yma.
O ran y cyllid, mae'n iawn fod y cyllid—efallai ei fod e tamaid bach yn fwy, hyd yn oed, na beth ddywedais i ar Radio Cymru'r bore yma. Bydd y manylion yn y gyllideb a fydd yn dod gerbron y Senedd cyn bo hir, felly bydd hynny yn dod. Ni allaf i ddweud faint bydd yn dod yn y blynyddoedd sydd i ddod, oherwydd, wrth gwrs, nad ydym ni'n gwybod faint byddwn ni'n ei gael gan y Trysorlys yn Llundain. Ond, mae'n debygol o fynd i fyny o ble rydym ni nawr, felly rydw i'n siŵr y byddwch chi'n falch o glywed hynny.
O ran y gwasanaethau cyhoeddus, rydw i'n meddwl ei bod hi'n iawn fod y safonau wedi dod â rhywbeth sydd yn golygu bod pob un ar draws Cymru yn gwybod ble maen nhw'n sefyll. Beth fydd yn cael ei ganiatáu gyda'r cynllun newydd yma yw y byddan nhw yn gallu rhannu, rydw i'n meddwl, y wybodaeth yna yn haws ar draws Cymru.
Nid oes neb yn mynd i gael gwared â'r safonau—rydw i'n meddwl fy mod i wedi dweud hynny o'r blaen—ond byddwch chi yn ymwybodol hefyd fod beth rydym ni'n gallu ei wneud gyda'r sector preifat yn cael ei gyfyngu, i ryw raddau, gan y ddeddf bresennol.
O ran ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd, rydw i'n meddwl ein bod ni wedi bod yn arwain o ran ieithoedd lleiafrifol. Mae gennym ni stori eithaf da i'w hadrodd, rydw i'n meddwl. Maen nhw yn aml yn dod atom ni i ofyn am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ond wrth gwrs, mae wastad lle gyda ni i ddysgu, yn arbennig o lefydd fel Gwlad y Basg, rydw i'n meddwl. Felly, rŷm ni yn cydnabod y gwaith y mae'r Comisiwn wedi'i wneud, ac, wrth gwrs ein bod ni mewn trafodaethau gyda'r Comisiwn. Ond, wrth gwrs, os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd y berthynas yna'n newid, ac efallai beth fydd yn rhaid inni ei wneud bydd cael y berthynas yna gydag ieithoedd lleiafrifol eraill mewn ffordd bilateral yn hytrach na thrwy'r Undeb Ewropeaidd, a fydd yn drueni mawr, wrth gwrs.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, er ei bod yn drueni i mi orfod dweud mai prin yw'r manylion ynddo, ac yr ymddengys mai rhestr o ddyheadau ydyw i raddau helaeth, er bod y dyheadau hynny i'w canmol. Mae eich datganiad yn trafod cynllun, ond ni allaf weld cynllun manwl yn eich datganiad. Felly, tybed a fyddech yn rhoi gwybod inni pan gaiff y cynllun manwl ei gyhoeddi, ac a fyddwn ni'n cael golwg arno ymlaen llaw? Un peth yw lansio cynllun gweithredu newydd ar gyfer technoleg iaith Gymraeg, ond gadewch inni ddwyn i gof hefyd fod eich Llywodraeth chi wedi gwneud hynny bum mlynedd yn ôl. Felly, cyn lansio set newydd o amcanion, efallai y byddai'r Gweinidog yn dymuno adolygu'r hyn a gyflawnwyd dan y cynllun gweithredu technoleg iaith Gymraeg blaenorol.
Yn 2013, cynhyrchwyd dogfen gan Lywodraeth Cymru i'w defnyddio fel canllaw ar gyfer yr hyn y byddai'r Llywodraeth yn ei wneud ac yn gobeithio ei gyflawni yn y pum mlynedd nesaf o ran technoleg iaith Gymraeg. Un o'r meysydd y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n canolbwyntio arnynt oedd ysgogi'r prif gwmnïau technoleg, fel Google ac Amazon a Microsoft ac yn y blaen, i gynyddu'r ddarpariaeth yr oedden nhw'n ei chynnig trwy'r Gymraeg. Y canlyniadau dymunol a nodwyd oedd mwy o gynhyrchion a gwasanaethau yn cael eu darparu yn y Gymraeg gan y prif gwmnïau technoleg, a chynnwys digidol trydydd parti i fod ar gael yn hwylus yn y Gymraeg drwy sianeli dosbarthu'r prif gwmnïau technoleg. Roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus hefyd i annog y datblygiad o becynnau meddalwedd iaith Gymraeg newydd a gwasanaethau digidol, a chynyddu nifer y pecynnau meddalwedd a gwasanaethau digidol oedd ar gael—unwaith eto, amcanion y gallaf innau'n bersonol gyd-fynd â nhw i raddau helaeth iawn. Ond, a wnewch chi ddweud wrthyf i, Gweinidog: a oes cynnydd sylweddol wedi bod yn y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir gan y cwmnïau technoleg hyn yn Gymraeg? A fu cynnydd yn y cynnwys sydd ar gael ar-lein yn Gymraeg? A oes cynnydd neu welliant wedi bod yn yr apiau sydd ar gael i bobl yn ddwyieithog, neu i bobl uniaith Gymraeg? Mae'n rhaid ei bod yn anodd iawn, iawn i rywun sydd naill ai yn uniaith Gymraeg neu sydd â Saesneg prin i fynd o gwmpas eu pethau yn y byd symudol modern heb apiau yn yr iaith berthnasol.
Amcan arall oedd ysgogi'r gwaith o greu a rhannu a defnyddio cynnwys digidol yn Gymraeg. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf faint mwy o gynnwys sydd yno, a sut rydych yn ei asesu? A ydych mewn gwirionedd yn monitro faint o gynnwys sydd yno yn yr iaith Gymraeg, faint o apiau sydd ar gael yn y Gymraeg? Sut ydych mewn gwirionedd yn monitro cynnydd a chyflawniadau'r gwaith blaenorol yr ydych wedi ei wneud fel y gellir adeiladu i'r dyfodol?
Dywedodd yr adroddiad hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn anelu at sefydlu cynsail ar gyfer datblygu technoleg iaith Gymraeg newydd ac arloesol. A wnewch chi egluro ychydig i mi ar yr hyn a gyflawnwyd mewn gwirionedd, a beth oedd canlyniadau gwirioneddol y gwaith hwnnw, a pha gynsail a sefydlwyd mewn gwirionedd yn hynny o beth?
Nododd y ddogfen hefyd fod yna nifer o apiau ac e-lyfrau Cymraeg neu ddwyieithog wedi eu cyhoeddi ar-lein ar gyfer amrywiaeth o ddyfeisiau yn y Gymraeg, a bod rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer Microsoft Windows, Office ac yn y blaen, a bod gan Facebook ryngwyneb iaith Gymraeg. Felly, roedd yna gryn dipyn o weithgarwch, hyd yn oed bum mlynedd yn ôl, o ran yr iaith Gymraeg a thechnoleg. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym faint o arian a wariwyd gennych dros y blynyddoedd diwethaf ar wella'r ddarpariaeth Gymraeg ym maes technoleg a faint mewn gwirionedd o elwa a fu ar y buddsoddiad hwnnw? Diolch i chi.
Wel, diolch yn fawr iawn i chi, ac rwy'n falch eich bod yn sylweddoli bod y dyheadau yn y ddogfen yn dda. Rwyf i o'r farn, mewn gwirionedd, bod llawer o fanylder yn y cynllun. Ceir cyfeiriad clir ynddo. Rydym wedi cael arbenigwyr i'n cynghori ar yr hyn y dylem ni ei wneud. Felly, credaf mewn gwirionedd mai'r hyn sy'n glir yma yw nad cynllun yn unig yw hwn, ond cynllun gweithredu—rydym yn gwybod yn union i ble yr ydym yn mynd. Yr hyn yr ydym wedi ei wneud yw ysgogi, ac rydym yn gweithio gyda chwmnïau technoleg mawr, ond mae'n amlwg i mi mai un o'r pethau y mae angen i ni ganolbwyntio arno hefyd yw'r cynnwys. Felly, ni allwn ddisgwyl i'r cwmnïau technoleg mawr hyn edrych ar y cynnwys, ond mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni ei wneud i helpu. Mae gennym ni wici Cymraeg, a bûm mewn cynhadledd wici Cymraeg yn Aberystwyth ychydig fisoedd yn ôl, pan oedd pobl o bob cwr o Ewrop, unwaith eto, wedi dod at ei gilydd i wrando ar yr hyn yr oeddem yn ei wneud i ddatblygu'r Wicipedia Cymraeg. Mae'n tyfu bob dydd, ac rydym yn annog plant ysgol ac eraill i sicrhau eu bod yn ychwanegu at y corff o wybodaeth a'r gwaith y gellir ei ddefnyddio wedyn.
Mae gennym gyfarfodydd wedi eu trefnu â chwmnïau technoleg mawr; mae honno'n ddeialog barhaus gyda nhw. Bu cynnydd mawr yn nifer yr apiau sydd ar gael yn Gymraeg. Mae'r diolch am hynny i raddau helaeth i gynllun grantiau bach a gynhaliwyd gennym y llynedd. Mae rhai o'r rhain wedi bod yn llwyddiannus iawn. Llyfrau ar gyfer y deillion, er enghraifft—rydym wedi cael un enghraifft lle mae pobl wedi gallu darllen llyfrau ac yna ganiatáu i bobl ddall glywed y llyfrau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gennym ni dechnoleg wedi ei datblygu fel y gall pobl sy'n gofalu am bobl â dementia ei defnyddio i ddeall beth y mae eu hanwyliaid yn ei ddioddef, ac, unwaith eto, mae hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch sefyll ar ben mynydd gydag ap arbennig a gweld enwau'r holl fynyddoedd yn Gymraeg wrth ichi symud eich sgrin o gwmpas. Mae'r rhain yn bethau y byddai pobl yn disgwyl eu cael yn Saesneg, ac nawr rydym yn caniatáu i hynny ddigwydd yn Gymraeg ac yn darparu'r modd ar gyfer hynny.
Ond rydych yn hollol gywir, byddwn yn monitro cynnydd yr hyn yr ydym eisoes wedi ei wneud a'r hyn y gallwn ei adeiladu arno. A gadewch i ni fod yn glir yn hyn o beth o leiaf: mae hyn yn ymwneud ag adeiladu ar y gwaith da sydd wedi ei wneud eisoes. Ceir llawer o arbenigwyr yn y maes hwn yng Nghymru eisoes, ond mae angen llawer mwy arnom ni. Ac un o'r pethau yr ydym yn awyddus i'w wneud gyda'r prosiect hwn yw sicrhau ein bod yn datblygu'r dechnoleg a galluoedd y bobl sy'n gallu defnyddio'r dechnoleg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hynny'n rhan bwysig o'r cynllun technoleg hwn.
Ac yn olaf, Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'r weledigaeth y tu ôl i'r datganiad, sef gwneud y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal â'i gilydd fel bod modd iddyn nhw weithio ar yr un pryd ar yr un llwyfannau, a'r uchelgeisiau sydd gennych chi o wneud yn siŵr y gall dyfeisiau fel Siri ac Alexa sgwrsio'n ddidrafferth â ni yn y ddwy iaith. Hon yn amlwg yw'r weledigaeth gywir. Y pwyslais ar gyfieithu peirianyddol gwell a botiaid iaith Gymraeg yw'r ffocws priodol yn gwbl sicr hefyd.
Rwy'n credu bod y gwrthbleidiau yn iawn i'n herio o ran diffyg nodau a therfynau amser. Rwyf hefyd o'r farn bod angen inni feddwl yn glir iawn am yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni a beth yw swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn hynny. Ai pennu cyflenwr dewisol, fel Microsoft, yr ystyrir ei fod ar flaen y gad o ran ansawdd cyfieithu Cymraeg, neu ddylanwadu, fel y trafodwyd, ar y farchnad ehangach? Yn amlwg, gan ddibynnu ar ba un o'r llwybrau hyn yr ydym yn ei ddymuno, bydd y llwybr a ddilynwn ni ychydig yn wahanol. Wrth inni edrych ar yr adran amcanion yn y cynllun gweithredu, mae nifer o'r amcanion yn sôn am ryddhau meddalwedd dan drwydded gymwys, sydd yn awgrymu ein bod yn rhoi mantais i Microsoft wrth ganiatáu i eraill wedyn ddefnyddio ei eiddo deallusol. Credaf y byddai'n well pe baem yn mynnu llwyfan agored, a meddalwedd agored, gan warchod budd y cyhoedd, yn hytrach na dim ond ffafrio un gwerthwr arbennig o'r cychwyn cyntaf gan greu cyfres o ddibyniaethau a chyfyngu ar arloesi yn y farchnad ehangach. Mae hwn yn aml iawn yn llwybr cul i'w droedio, yn enwedig mewn ardal fel Cymru lle nad oes ond ychydig o weithgarwch yn y farchnad a bod yn rhaid i hynny gael ei ysgogi gan y Llywodraeth. Ond rwy'n gwahodd y Gweinidog i roi rhywfaint o ystyriaeth i hynny gyda'i harbenigwyr, oherwydd credaf ei bod yn bwysig inni gael hyn yn iawn ar y dechrau fel y gallwn ddylanwadu ar yr ecosystem wrth inni fynd yn ein blaenau.
Yn yr un modd, mae'n bwysig bod hyn yn digwydd ochr yn ochr â gwaith ehangach Llywodraeth Cymru ar yr elfen ddigidol, yn enwedig yn y sector cyhoeddus. Mae'n rhaid imi ddweud mai tenau yw'r adran ar y sector cyhoeddus yn y cyflwyniad. Rwy'n credu bod cyfle i gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg drwy ddefnyddio technoleg ac rwy'n credu bod eisiau rhoi ychydig mwy o ystyriaeth i hynny.
Fy mhwynt olaf yw sylw a wnaeth y Gweinidog mewn ymateb i Suzy Davies yn ei sicrhau nad oedd hyn yn mynd i gymryd lle yr athrawon yn ein hystafelloedd dosbarth. Rwy'n annog pob un ohonom i gadw meddwl agored i'r posibiliadau yma. Mae Bill Gates wedi siarad yn y gorffennol am y ffaith ein bod yn goramcangyfrif maint y newid yr ydym yn debygol o'i weld yn y ddwy flynedd nesaf ac yn tanamcangyfrif maint y newid a welwn yn y 10 mlynedd nesaf. A phan feddyliwch chi, 10 mlynedd yn ôl prin fod ffonau clyfar yn bodoli, roedd Skype yn ei fabandod, a chymaint, er enghraifft, mae pethau wedi newid ers hynny, yn sicr nid oedd cyfieithu peirianyddol yn bodoli a nawr mae'n rhan o'n bywyd bob dydd ni. Pan ystyriwch y ffaith bod Google yn datblygu clustffonau lle gallwch gael cyfieithu ar y pryd mewn unrhyw iaith, mae'r posibilrwydd yn syfrdanol. Ac nid yw'n golygu bod hyn yn mynd i gymryd lle athrawon, ond gall wella ein defnydd ni o iaith a'r ffordd yr ydym yn ei dysgu ar gyfer helpu athrawon i gael mwy o bobl i ddeall a defnyddio iaith a chwalu'r rhwystrau cyfathrebu, mae hynny'n beth aruthrol. Peidiwch â gadael inni ddechrau ar y cychwyn gyda meddylfryd amddiffynnol o ran, 'Peidiwch â phoeni, ni fyddwn yn cael gwared ar swyddi yn y sector hwn', na bygwth buddiannau proffesiynol yn un arall. Mae angen inni fod yn agored o ran yr hyn y gall hyn ei gyflawni er ein mwyn ni fel cymdeithas, a sut y gall roi mwy o fywyd i'r iaith. Diolch.
Diolch. Mae'r drafodaeth am fynediad agored neu gael perthynas â gwneuthurwr meddalwedd arbennig yn rhywbeth sydd yn fyw iawn, ac yn rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono. Nid ydym wedi dod i benderfyniad ar hynny, ond rydym yn glir iawn bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ei ystyried yn ofalus iawn, iawn. Rwy'n credu, fel egwyddor, os mai'r Llywodraeth sydd yn rhoi nawdd iddo fod angen inni feddwl yn ofalus am fynediad agored. Felly, mewn byd delfrydol, dyna ble'r hoffwn fynd, ond mae angen deall hefyd os gallan nhw ddod â rhywbeth ychwanegol ger ein bron, os gallan nhw ein helpu'n fasnachol. Nid ydym wedi dod i gasgliad ar hynny. Felly gadewch i ni gario mlaen â'r sgwrs honno, oherwydd mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn, iawn ohono. Ond ni ddylem gyfyngu ar arloesi, mae hynny'n gwbl glir.
Rwy'n derbyn eich pwynt am beidio â chymryd lle athrawon yn yr ystafell ddosbarth. Rwy'n credu bod angen inni gadw meddwl agored ynglŷn â'r mater hwn, a gobeithio fy mod i hefyd, yn f'ateb i Suzy Davies, wedi egluro y gallai hwn, yn wir, fod yn gyfle i wella'r argaeledd. Felly, y rhaglen e-ysgol honno a drafodwyd gennym: os na allwn gael gafael ar athrawon i ddysgu rhai pynciau mewn rhannau arbennig o Gymru, yna mae hwn yn gyfle i ni archwilio sut y gallwn roi'r ddarpariaeth honno, sydd yn rhywbeth sy'n gweithio'n effeithiol iawn yn yr Alban. Gwn fod Banc y Byd wedi gwneud llawer iawn o waith ar hyn, gan eu bod yn cael llawer o anhawster recriwtio athrawon o'r ansawdd cywir mewn rhai rhannau anghysbell iawn o Affrica, a'r hyn y maen nhw wedi ei ddarganfod, mewn gwirionedd, yw y gall athrawon rhithwir wneud gwaith da iawn, iawn. Felly, cytunaf yn llwyr fod angen inni gadw meddwl agored, ond gadewch inni wneud yn siŵr nad ydym yn tanseilio gwaith athrawon sy'n gweithio mor galed yn ein hystafelloedd dosbarth ar hyn o bryd.
Felly, oes, mae angen gwneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ar gyflawni yn hyn o beth. Mae'n hanfodol, yn fy marn i, ein bod yn deall bod hon yn sefyllfa sy'n symud yn gyflym iawn. Felly, fy mhryder i o ran pennu amserlenni cadarn iawn, mewn gwirionedd, yw y bydd yr amserlen yn newid yn sylweddol. Mae'n rhaid dal ati i sicrhau bod y dechnoleg ddiweddaraf gyda ni, ac mae angen inni fod yn fwy hyblyg. Rwy'n gobeithio mai dyna a gawn ni o ganlyniad i'r cynllun technoleg hwn.