Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 23 Hydref 2018.
Fel y gwyddoch chi, Janet Finch-Saunders—rydym wedi cael y sgwrs hon lawer gwaith—os yw'n rhan o'm cytundeb i, yna fe geir gofynion o ran sut maen nhw'n gwneud y cysylltiadau ac ati, ond os yw'n rhan o gyflwyniad preifat a chytundeb gyda'r tirfeddiannwr am fforddfraint, yna nid oes gennyf i unrhyw bŵer i ymyrryd. Felly, pe byddech yn dymuno ysgrifennu ataf i gyda'r manylion, gallaf ddarganfod ar eich rhan pa un a yw o fewn ein maes ymyrraeth ai peidio.