Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 23 Hydref 2018.
Mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, dinasyddion a chymunedau wedi gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod gennym gymdeithas sy'n ailgylchu llawer iawn. Mae gan bron pob aelwyd wasanaeth casglu ar gyfer ailgylchu ymyl y ffordd, gan gynnwys casglu gwastraff bwyd ar wahân. Ers datganoli, rydym wedi gwario bron £1 biliwn ar wastraff ac ailgylchu yng Nghymru.
Y llynedd, roedd nifer o awdurdodau lleol yn cael trafferth cynnal y cyfraddau ailgylchu am ddau brif reswm. Mae'r rhan fwyaf o'r gostyngiad yn ganlyniad i'r ffaith bod gwaith monitro a chofnodi llymach yn digwydd wrth ailgylchu gwastraff pren. Cafwyd problem hefyd gyda gweithrediad tanwydd o ffatri wastraff, a arweiniodd at rywfaint o dirlenwi gwastraff. Roedd hyn yn golygu bod yr awdurdodau wedi colli'r cyfle i ailgylchu lludw gwaelod llosgydd.
Rwyf yn cyfarfod â'r cynghorau hynny sydd wedi methu â chyrraedd y targed o 58 y cant ar gyfer y flwyddyn hon, a phawb sydd mewn perygl o fethu â chyrraedd y targed o 64 y cant y flwyddyn nesaf, i sôn am gynlluniau penodol i gynnig cymorth yn y meysydd hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cynlluniau cynhwysfawr ar gael i'w helpu nhw i gyflawni targedau ailgylchu yn y dyfodol. Rydym wedi cynnal y gefnogaeth i ailgylchu drwy grantiau penodol a thrwy ariannu amrywiaeth o fentrau i gefnogi ymdrechion awdurdodau lleol.
Rydym wedi dod ymlaen yn dda o ran gwastraff yng Nghymru mewn cyfnod cymharol fyr. Ond bydd gwella'r cyfraddau ailgylchu o hyn ymlaen yn gofyn am ymyriadau mwy cydunol, dwys a heriol. Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £0.5 miliwn eleni yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a WRAP ar ymgyrch newid ymddygiad oherwydd, fel y gwyddom, mae mwy na hanner y gwastraff a roddir mewn biniau du yn ailgylchadwy. Mae angen inni ddarbwyllo'r cyhoedd yng Nghymru i beidio â rhoi'r deunyddiau hyn yn eu biniau gwastraff ond yn hytrach eu hailgylchu.
Mae tair rhan i'r ymgyrch: darparu'r gwasanaethau iawn ar gyfer y cyhoedd, gwneud pobl yn ymwybodol o'r hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud, a gorfodi'r ymddygiad cywir os oes angen. Bydd ymgyrchoedd hefyd i berswadio'r cyhoedd i ailgylchu mwy, gan gynnwys un ar ôl y Nadolig. A heddiw gallaf gyhoeddi pecyn buddsoddi i gynorthwyo awdurdodau lleol i wella ailgylchu a sbarduno'r economi gylchol.
Yn gyntaf, rwyf yn falch o allu ymrwymo i fuddsoddiad pellach o £15.5 miliwn dros y tair blynedd nesaf i alluogi tri awdurdod arall i gyd-fynd â'n glasbrint casgliadau. Mae hyn yn rhan o'r rhaglen newid gydweithredol sy'n cael ei darparu gan WRAP, a bydd yn cefnogi Bro Morgannwg, Sir Ddinbych a Sir Benfro. Yn ogystal â hyn, mae'r toriad o £2.8 yn y grant ailgylchu i awdurdodau lleol wedi ei adfer yn y gyllideb ddrafft. Yn olaf, gallaf gyhoeddi £50 miliwn dros dair blynedd i gefnogi newidiadau i'r gwasanaeth a darparu seilwaith newydd yng Nghymru. Rwyf yn glir bod canolbwyntio ar fuddsoddi mewn seilwaith yn flaenoriaeth uchel wrth symud ymlaen. Bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael ag anghysondeb yn y deunydd sy'n cael ei ailgylchu a'r swm a delir gan yr awdurdodau lleol i'w ailgylchu, yn gwella ansawdd y deunydd a ailgylchir a rhoi hwb i'r economi gylchol yng Nghymru.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewn Llywodraeth Leol i ddatblygu rhaglen caffael seilwaith newydd, a allai gynnwys deunyddiau fel matresi, clytiau, pren a thecstilau. Rwy'n gweithio gyda phartneriaid ar ganllawiau statudol newydd posib i awdurdodau lleol a byddaf yn ymgynghori'r flwyddyn nesaf ar ein dull hirdymor o ymdrin â thargedau ailgylchu, gan gynnwys ystyried y dewisiadau ynghylch y cosbau am fethu â chyflawni targedau. Rhennir canllawiau arfer gorau newydd er mwyn helpu bob awdurdod lleol i gyflawni targedau ailgylchu.
Rydym yn disgwyl bydd y camau gweithredu hyn yn rhoi Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd targed ailgylchu o 70 y cant a rhagori ar hynny erbyn 2025. Ond nid hyn yw'r diwedd. Yn 2019 byddwn yn ymgynghori ynghylch y rheoliadau yn rhan 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy'n ei gwneud yn ofynnol i fusnesau wahanu eu gwastraff yn yr un ffordd ag y mae aelwydydd yn ei wneud eisoes. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn diwygio 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' ac yn cynhyrchu map llwybr ar gyfer economi gylchol i ymgynghori arno. Ein blaenoriaeth yw rhoi cefnogaeth i'r newid pwyslais tuag at economi fwy cylchol—a sicrhau bod Cymru yn wlad lle gall deunyddiau gael eu hail ddefnyddio dro ar ôl tro, gan greu gwerth ychwanegol a manteision lu. Gwyddom fod manteision economaidd yn ogystal â manteision amgylcheddol. Mae Sefydliad Ellen MacArthur, WRAP a'r Cynghrair Gwyrdd oll wedi nodi bod modd creu swyddi a chyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru wrth inni symud tuag at economi gylchol. Ac roedd ein cynllun gweithredu economaidd, a gyhoeddwyd gennym y llynedd, yn cydnabod y buddion i'n heconomi, swyddi a sgiliau.
Bydd y strategaeth ddiwygiedig a'r map llwybr hefyd yn adlewyrchu ein nod o gael economi gylchol o ran y deunyddiau a ddefnyddiwn, megis plastig, a sut yr ydym yn defnyddio, ailddefnyddio, gwaredu ac ailbrosesu'r rhain. Y flwyddyn nesaf, bydd ein cronfa fuddsoddi ar gyfer economi gylchol o £6.5 miliwn yn agored i fusnesau er mwyn eu helpu i weithio tuag at economi blastig fwy cylchol yng Nghymru. Dylai hyn ysgogi rhywfaint o arloesi yn y maes pwysig hwn.
Mae rhai ymyriadau strategol mawr wedi eu cynllunio ar sail Cymru a Lloegr, gan gynnwys rhoi mwy o gyfrifoldeb i'r cynhyrchwyr dros becynnu, a fyddai'n cyfrannu rhywfaint tuag at gostau'r awdurdodau lleol wrth reoli deunyddiau pecynnu. Byddai hefyd yn mynd i'r afael â gwastraff yn llygad y ffynnon, yn lleihau'r defnydd o ormod o ddeunydd pecynnu gan gynhyrchwyr, ac yn cynyddu'r defnydd o ddeunydd sydd wedi'i ailgylchu ac y gellir ei ailgylchu wrth becynnu.
Hefyd, mae gwaith yn parhau ar ddatblygu cynllun dychwelyd ernes. Mae WRAP eisoes wedi dadansoddi effaith bosibl cynllun dychwelyd ernes ar gyfraddau ailgylchu ac incwm awdurdodau lleol o ailgylchu yng Nghymru. Rydym wedi gofyn iddyn nhw gyflwyno modelu manylach erbyn diwedd y flwyddyn. Rwyf hefyd wedi comisiynu dadansoddiad o'r mathau o sbwriel a'r lefelau a geir yng Nghymru. Felly mae gennym linell sylfaen y gellir mesur unrhyw gynllun dychwelyd ernes yn ei herbyn. Cyhoeddir yr adroddiad terfynol hwn yng ngwanwyn 2019. Rydym wedi gofyn i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig roi hwb i'r sampl yng Nghymru ar gyfer arolwg a gynhelir ganddi ar agweddau'r cyhoedd tuag at gynllun dychwelyd ernes, ac i sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael eu cynnwys yn yr ymchwil. Byddwn yn ymgynghori, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, ynghylch ardrethi eiddo gwag a'r cynllun dychwelyd ernes, cyn y Nadolig, gan roi ein mewnbwn Cymreig unigryw ni a sicrhau y bydd y dulliau arfaethedig yn gweithio yng Nghymru.
Dros y 12 mis diwethaf, buom yn pwyso ar y DU i bennu'r agenda ynghylch bagiau plastig untro. Mae hwn yn faes y teimlwn mai gweithredu ar lefel y DU yw'r ffordd orau o weithredu. Mae fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, wedi trafod y mater hwn gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar dri achlysur. Mae wedi rhannu gyda Llywodraeth y DU ein barn gadarnhaol ni am rôl treth yn lleihau'r defnydd o blastig untro, yn ogystal â'n barn y dylai unrhyw dreth fod ar y ffurf ehangaf bosib—ac nid yn edrych ar eitemau unigol fel cwpanau coffi yn unig.
Hyrwyddwyd gennym alwad Trysorlys ei Mawrhydi am dystiolaeth yng Nghymru i helpu i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i safbwyntiau busnesau a sefydliadau yng Nghymru, a'n bod wedi asesu'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan randdeiliaid yng Nghymru i helpu i nodi'r buddion posib, y problemau ac effeithiau cyflwyno mesurau treth newydd yn y maes hwn. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i drafod cynnydd ar fesurau trethu posib ac i gyfrannu safbwyntiau o Gymru ynghylch datblygu dewisiadau sy'n adlewyrchu blaenoriaethau Cymru.
Yn y gyllideb yr wythnos nesaf, rydym yn disgwyl gweld y Canghellor yn cyflawni'r disgwyliadau a godwyd ganddo. Ac rydym yn disgwyl bod ynghlwm wrth unrhyw drefniadau gweithredu. Bydd yn rhaid i unrhyw dreth ar blastig gael ei chydgynllunio â Llywodraeth Cymru. Os na chodir unrhyw beth yng nghyllideb yr hydref ar 29 Hydref, bydd cyfle sylweddol wedi ei golli, a byddwn yn ystyried unwaith eto beth y gellir ei wneud ar sail Cymru'n unig gyda'r dulliau dylanwadu sydd ar gael inni, gan gynnwys y posibilrwydd o ardoll Gymru gyfan neu godi tâl ar gynwysyddion diod untro.
Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran ailgylchu yn y DU, ond nid ydym yn hunanfodlon. Rydym eisiau parhau i weithio gyda WRAP, awdurdodau lleol a phobl Cymru a symud o fod y wlad gyntaf yn y DU i fod y gyntaf yn y byd. Rwyf yn sicr y bydd yr Aelodau ar draws y Senedd yn ymuno â mi i fyfyrio ynghylch ein llwyddiant hyd yma ac anelu'n uwch hyd yn oed yn y dyfodol.